llais y sir

Gwaith wedi dechrau ar ganolfan ieuenctid newydd y Rhyl

Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i ailwampio hen gaffi Rhodfa’r Dwyrain i greu canolfan ieuenctid fodern yn y Rhyl.

Bydd y ganolfan ieuenctid yn lle cyfforddus i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a manteisio ar gymorth wedi’i deilwra, yn cynnwys gweithgareddau a hyfforddiant.

Bydd y contractwyr, Adever, sydd wedi gweithio ar brosiectau eraill y Cyngor, yn dechrau ailwampio’r adeilad (gwaith a fydd yn cymryd chwe wythnos). Rydym ni’n gobeithio agor y ganolfan fis Medi 2022.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu gofod ymlacio, ardal chwarae gemau, ystafell hyfforddiant, cegin bwrpasol ar gyfer hyfforddiant a sgiliau byw'n annibynnol a gofod therapiwtig.

Mae grŵp ymgynghori sy’n cynnwys trigolion ifanc y Rhyl wedi bod yn mynd i gyfarfodydd yn yr adeilad i rannu eu syniadau ac i ddewis y lliwiau a’r addurniadau.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ac adrannau i drefnu cymorth i bobl ifanc gyda’u hanghenion cymdeithasol, emosiynol ac addysgol, yn cynnwys darpariaeth Gymraeg.                                                                                                                                                                                 

Meddai’r Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Dw i’n falch iawn bod y gwaith o greu canolfan ieuenctid fodern yn y Rhyl yn mynd rhagddo.

“Bydd y ganolfan yn ganolbwynt cyfleoedd i helpu ein pobl ifanc i oresgyn amrywiaeth o rwystrau ac i gyflawni eu potensial.

“Dyma brosiect arall sy’n rhan o brosiect adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y Rhyl. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y cynnydd yn parhau.”

Am fwy o wybodaeth am raglen adfywio’r Rhyl ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adfywior-rhyl.aspx

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid