llais y sir

Newyddion

Ethol Arweinydd a Dirprwy Newydd yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi ethol Arweinydd a Dirprwy newydd ar gyfer yr awdurdod.

Y Cynghorydd Jason McLellan (Llafur – Gogledd Prestatyn) yw’r arweinydd newydd ac mae cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru wedi’i negodi i ffurfio partneriaeth sy’n rheoli.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Prestatyn, mae Jason McLellan wedi byw ym Mhrestatyn y rhan fwyaf o'i oes. Cymhwysodd yn y Gyfraith o Brifysgol Lerpwl cyn gweithio fel cyfreithiwr cymorth cyfreithiol ar draws Gogledd Cymru am nifer o flynyddoedd. Yna bu’n gweithio i Aelod Seneddol a dau Aelod o’r Senedd ac mae’n gyn-gynghorydd yn Sir Ddinbych, ar ôl gwasanaethu am dymor.

Dywedodd y Cynghorydd McLellan "Rwy'n credu bod gan Lafur a Phlaid Cymru fandad gan yr etholwyr i ffurfio cabinet a chyflawni ar gyfer pobl Sir Ddinbych. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Blaid ac mae gennym ni gymaint yn gyffredin o ran polisïau economaidd adfywio, mynd i’r afael â materion tai a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.”

Yn y cyfamser, mae'r Cynghorydd Gill German (Llafur-Gogledd Prestatyn) wedi'i hethol yn Ddirprwy Arweinydd.

Mae'r Cynghorydd German hefyd yn dod o Brestatyn ac yn gyn-ddisgybl yn y dref. Bu'n gweithio fel athrawes ysgol gynradd ers dros 25 mlynedd, gyda mwyafrif y blynyddoedd hynny yn Ysgol Penmorfa.

Un o'i dymuniadau mwyaf yw gweithio ar greu mwy o gydraddoldeb mewn addysg.

Cyhoeddi Cabinet newydd ar gyfer Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Cabinet newydd ar gyfer yr awdurdod.

Mae’r Cabinet newydd fel a ganlyn:

  • Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac ymdrin ag Addifadedd
  • Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
  • Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
  • Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb
  • Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
  • Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu a Chynllunio Lleol
  • Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
  • Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd ac ymdrin ag Amddifadedd: “Yn dilyn fy ethol yn arweinydd, mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy Nghabinet. Mae'r awdurdod yn wynebu nifer o heriau wrth fynd ymlaen. Mae fy mlaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu yn y tîm cryf rydw i wedi’i ddewis o’r grŵp Llafur ac wrth weithio gyda Phlaid Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, arweinydd grŵp Plaid Cymru ac Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Bydd hyn yn ffordd o weithredu polisïau Plaid Cymru ar faterion hanfodol bwysig i drigolion Sir Ddinbych.

“Cymaint yw’r tir cyffredin rhwng ein dau grŵp fel y gallwn nawr fwrw ymlaen â’r polisïau a fydd yn cyflawni ar faterion fel blaenoriaethau ariannol, tai a chefnogi ein holl gymunedau Cymreig boed yn wledig neu’n drefol.

Mae dolen i'r rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd ynghyd â llawer o wybodaeth arall i'w gweld ar ein gwefan.

Ethol Cadeirydd ac is-Gadeirydd newydd i Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/2023.

Mewn cyfarfod yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Arwel Roberts (Rhuddlan) yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.

Yn y cyfamser, etholwyd y Cyngor y Cynghorydd Peter Prendergast (De Orllewin Y Rhyl) yn Is-Gadeirydd y Cyngor.

Yn ystod y cyfarfod, diolchwyd i'r Cyngorydd Alan James am ei gyfnod o ddwy flynedd yn y swydd. O ganlyniad i Covid, penderfynwyd ymestyn cyfnod y swydd fel Cadeirydd am flwyddyn. Un o'i ddigwyddiadau elusennol oedd beicio o John O 'Groats i Lands End dros 12 diwrnod. Codwyd dros £4,000 ar gyfer Macmillan.

Gwaith wedi dechrau ar ganolfan ieuenctid newydd y Rhyl

Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i ailwampio hen gaffi Rhodfa’r Dwyrain i greu canolfan ieuenctid fodern yn y Rhyl.

Bydd y ganolfan ieuenctid yn lle cyfforddus i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a manteisio ar gymorth wedi’i deilwra, yn cynnwys gweithgareddau a hyfforddiant.

Bydd y contractwyr, Adever, sydd wedi gweithio ar brosiectau eraill y Cyngor, yn dechrau ailwampio’r adeilad (gwaith a fydd yn cymryd chwe wythnos). Rydym ni’n gobeithio agor y ganolfan fis Medi 2022.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu gofod ymlacio, ardal chwarae gemau, ystafell hyfforddiant, cegin bwrpasol ar gyfer hyfforddiant a sgiliau byw'n annibynnol a gofod therapiwtig.

Mae grŵp ymgynghori sy’n cynnwys trigolion ifanc y Rhyl wedi bod yn mynd i gyfarfodydd yn yr adeilad i rannu eu syniadau ac i ddewis y lliwiau a’r addurniadau.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ac adrannau i drefnu cymorth i bobl ifanc gyda’u hanghenion cymdeithasol, emosiynol ac addysgol, yn cynnwys darpariaeth Gymraeg.                                                                                                                                                                                 

Meddai’r Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Dw i’n falch iawn bod y gwaith o greu canolfan ieuenctid fodern yn y Rhyl yn mynd rhagddo.

“Bydd y ganolfan yn ganolbwynt cyfleoedd i helpu ein pobl ifanc i oresgyn amrywiaeth o rwystrau ac i gyflawni eu potensial.

“Dyma brosiect arall sy’n rhan o brosiect adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y Rhyl. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y cynnydd yn parhau.”

Am fwy o wybodaeth am raglen adfywio’r Rhyl ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adfywior-rhyl.aspx

Gwirfoddolwyr yn cefnogi nythfa Môr-wenoliaid Gronant

Mae gwirfoddolwyr yn helpu nythfa o adar i ffynnu ar arfordir Sir Ddinbych.

Y nythfa yma o Fôr-wenoliaid Bach ar draeth Gronant ger Prestatyn yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru.

Mae’r safle hwn yn adnabyddus ledled y byd gan ei fod yn cyfrannu at dros ddeg y cant o boblogaeth fagu’r DU gyfan, yn ogystal ag ategu nythfeydd eraill.

Mae’r nythfa leol wedi bod yn cael cefnogaeth gan grŵp o wirfoddolwyr: Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru. Maen nhw wedi bod yn helpu staff gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i osod pedwar cilomedr o ffensys ar y traeth i greu llociau er mwyn galluogi’r adar i nythu’n ddiogel.

Mae cynnydd yn niferoedd y Môr-wenoliaid Bach wedi’i weld ar y safle dros y gwanwyn gyda chyfrifiad diweddar yn cofnodi dros 200 o adar aeddfed, a chadarnhawyd bod yr adar bellach wedi nythu ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith i’n helpu i amddiffyn y nythfa bwysig hon o Fôr-wenoliaid Bach yng Ngronant a rhoi dyfodol llewyrchus iddyn nhw ar y safle.

“Os hoffech weld y nythfa, rydym yn annog pobl i ddod i’r llwyfan gwylio neu i’r ganolfan ymwelwyr gyda phâr o finocwlars er mwyn amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar yr adar sy’n nythu.”

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi’r nythfa o Fôr-wenoliaid Bach, anfonwch e-bost atlittleternengagement2022@outlook.com fam fwy o wybodaeth.

Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi.

 

Credyd llun: Michael Steciuk

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol

Ynghyd â Chronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a Chronfa Codi’r Gwastad, mae Llywodraeth y DU wedi lansio’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Mae’r gronfa i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ymgeisio am gyllid cyfatebol i gefnogi prynu a/neu gostau adnewyddu amwynderau ac asedau cymunedol. Bydd cynigion angen profi gwerth yr ased i bobl leol a dangos y gellir cynnal yr ased yn gynaliadwy. Yn anffodus, nid yw cynghorau tref, dinas a chymuned yn gymwys i ymgeisio.

Bydd hyd at £250,000 o gyfalaf arian cyfatebol ar gael ar gyfer pob math o ased cymwys. Mewn achosion eithriadol, bydd cynigwyr yn gallu dadlau dros hyd at £1 miliwn o arian cyfatebol ar gyfer asedau sy'n ymwneud â chyfleusterau chwaraeon.

Diweddarwyd prosbectws y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar 27 Mai 2022, gyda’r cyfnod ymgeisio cyntaf yn dechrau ar 10 Mehefin 2022 ac yn cau ar 19 Awst. Bydd dwy ffenestr bidio arall cyn mis Mawrth 2023. Cyhoeddir yr union ddyddiadau maes o law.

Mae mwy o fanylion am y gronfa yma: https://www.gov.uk/government/publications/community-ownership-fund-prospectus

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cael ei hanrhydeddu am ymgyrch arloesol

Mae'r Cyngor wedi llongyfarch pedwar disgybl Blwyddyn 11 o Ysgol Uwchradd Prestatyn am eu hymgyrch arobryn yn ymwneud â gwrth-wahaniaethu.

Cafodd y disgyblion eu cydnabod yn seremoni Gwobrau Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a gynhaliwyd neithiwr (nos Iau) a chawsant eu hanrhydeddu am eu hymgyrch ‘Gwahaniaethu’. Mae'n stopio gyda fi’.

Mae’r ysgol wedi dechrau cwricwlwm newydd o’r enw Cyfrifoldeb Cymdeithasol mewn ymateb i’r angen am fwy o addysg o gwmpas y maes hwn ac i fynd i’r afael â materion yn rhagweithiol, mae’r ysgol wedi diwygio ei gweithdrefnau ar gyfer delio â gwahaniaethu, monitro gwahaniaethu yn well ac wedi cynnal gŵyl ddiwylliant ac amrywiaeth eleni. Mae'r myfyrwyr wedi cyfarfod yn wythnosol gyda gweithiwr ieuenctid ac wedi siapio'r gwaith sy'n cael ei wneud.

Dywedodd Neil Foley, Pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn: “Fe wnaeth y bobl ifanc feddwl am ddeunyddiau hysbysebu’r ymgyrch, maen nhw wedi cyflwyno i ddisgyblion iau yr ysgol i ennyn eu diddordeb yn yr ymgyrch, maen nhw wedi ymweld ag ysgolion cynradd i addysgu plant llai ynghylch gwahaniaethu a hyrwyddo ymgyrch yr ysgol uwchradd. Trwy eu gwaith gyda disgyblion iau yr ysgol y tyfodd y syniad o'r ŵyl.

“Maen nhw wedi cynnal arolygon gyda disgyblion a gyda staff a hefyd wedi cyflwyno i lywodraethwyr yr ysgol ac o ganlyniad, mae’r llywodraethwyr yn cael adborth hanner tymor ar gynnydd yr ymgyrch.

“Mae'r disgyblion hyn yn wirioneddol anhygoel. Maent yn ymroddedig ac yn cael eu cymell i sicrhau newid. Mae gweithio gyda’r bobl ifanc anhygoel hyn yn fraint lwyr yn wyneb yr hyn sydd wedi bod y ddwy flynedd anoddaf mewn addysg i ddisgyblion a staff, mae’r disgyblion hyn yn ymdrechu i wneud ein cymuned yn lle gwell tra ar yr un pryd yn paratoi ar gyfer eu TGAU. Ni allwn bwysleisio digon pa mor wych yw'r bobl ifanc hyn. Maent yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith. Mae eu hysgol mor falch ohonyn nhw a dylai eu cymuned wybod pobl ifanc mor wirioneddol ysbrydoledig ydyn nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae hwn yn gyflawniad gwych. Mae'r fenter hon wedi gwneud argraff fawr arnaf o'r cychwyn cyntaf ac mae'r wobr hon yn hynod haeddiannol.

“Mae llawer o waith arloesol yn digwydd yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ar gyfrifoldeb cymunedol a chymdeithasol ac mae'n gyffrous iawn bod y gwaith hwn, a arweinir gan y bobl ifanc eu hunain, wedi'i gydnabod fel arfer gorau.

“Dyma enghraifft wych o’r agwedd frwdfrydig ac ymroddedig y mae ein plant a’n pobl ifanc yn ei defnyddio yn eu cais i bawb gael eu trin yn gyfartal ac yn deg. Mae’r gwaith hwn yn wirioneddol ysbrydoledig a rhaid i mi ddiolch a chanmol Ysgol Uwchradd Prestatyn am eu hymdrechion i roi’r ymgyrch bwysig hon ar waith, yn enwedig yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn gymaint o her i addysg yn gyffredinol.” 

Dyfarnu contract adeiladu cam 1 Prosiect Adeiladau’r Frenhines

Mae'r Cyngor bellach wedi dyfarnu’r contract ar gyfer cam 1 Prosiect Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl.

Mae dwy ddelwedd CGI newydd wedi’u creu i ddangos y cynlluniau ar gyfer yr adeiladau, sy’n brosiect allweddol yn rhaglen adfywio ehangach y Rhyl.

Bydd y cam cyntaf yn cynnwys codi neuadd farchnad dan do newydd, creu gofod digwyddiadau ac ardal wedi’i thirlunio y tu allan, ac ailwampio Siambrau’r Frenhines – yr adeilad brics coch ar Stryd Sussex.

Roedd y gwaith i fod wedi dechrau ond, oherwydd adar yn nythu ar y safle, bu’n rhaid aildrefnu i ddechrau’r gwaith yn yr haf. Mae timau proffesiynol yn monitro’r safle’n agos i geisio atal rhagor o adar rhag nythu ac i sicrhau bod yr adar sydd eisoes wedi nythu yn ddiogel.

Mae’r cyllid ar gyfer y datblygiad hwn wedi’i ddarparu gan y Cyngor, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop; a chwmni Wynne Construction sydd wedi’i benodi, drwy fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, i godi’r adeilad.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rydw i’n edrych ymlaen at weld y datblygiad allweddol hwn yn mynd rhagddo. Bydd Adeiladau’r Frenhines yn creu swyddi amrywiol ac yn darparu cynnig manwerthu unigryw i drigolion ac ymwelwyr y sir.

“Mae pobl yn defnyddio canol trefi mewn ffordd wahanol bellach. Bydd y prosiect hwn yn ein gwneud ni’n fodern ac yn darparu ased go iawn i’r Rhyl yn ogystal â gweddill y sir a’r economi lleol.”

Mae arwyddion wedi’u gosod o amgylch yr adeilad i ddangos y prosiectau eraill sy’n rhan o raglen Adfywio’r Rhyl, yn cynnwys Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Crist y Gair, Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, SC2, 1891, Gwyrddu’r Rhyl, Harbwr y Rhyl, gofod cydweithio Costigans a Stryd Edward Henry.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i: www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl

Y Cynnig Cymraeg: Dathlwch eich defnydd o’r Gymraeg

Cynllun newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg. Mae’n rhoi cydnabyddiaeth i gwmnïau ac elusennau sy’n gweithio’n ddwyieithog.

Trwy weithio gyda Thîm Hybu’r Comisiynydd i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg, gall eich busnes chi fod yn gymwys i geisio am gydnabyddiaeth am eich Cynnig Cymraeg. Pwrpas y Cynnig Cymraeg yw ei gwneud hi’n glir i’r cyhoedd pa wasanaethau gallwch chi gynnig yn Gymraeg. Mae’n gyfle i chi ddangos i gleientiaid eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i’w ddefnyddio. Mae’r Cynnig Cymraeg yn eich helpu i hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ac i gynyddu’r defnydd ohonynt.

Sut mae’n gweithio?

  1. Y cam cyntaf yw cysylltu gyda Thîm Hybu’r Gymraeg am sgwrs ac i gwblhau hunan asesiad am eich defnydd o’r Gymraeg ar hyn o bryd.
  2. Wedyn, byddwn yn gweithio gyda chi i roi Cynllun Datblygu’r Gymraeg at ei gilydd; gosod targedau os oes angen cynyddu eich darpariaeth, a sicrhau bod pawb yn y cwmni yn ymwybodol o’r hyn chi’n ei gynnig.
  3. Unwaith bydd eich Cynllun yn barod, byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod eich Cynnig Cymraeg: beth yw penawdau eich gwasanaethau Cymraeg?
  4. Cyflwyno i’r Comisiynydd am gymeradwyaeth swyddogol
  5. Dathlu a hyrwyddo’r ffaith eich bod wedi derbyn y Cynnig Cymraeg

Un sefydliad sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg yw Hill & Roberts o Rhuthun a ddywedodd: “Teimlwn fod derbyn y Cynnig Cymraeg yn cydnabod ein gwaith caled a’n hymroddiad i’r iaith Gymraeg ac yn rhoi hyder i gleientiaid newydd sy’n edrych am gyfrifydd sy’n medru gweithio yn y Gymraeg. Mae gan Comisiynydd y Gymraeg enw da am safonau uchel ac felly rydym yn teimlo’n freintiedig i fod wedi derbyn y Cynnig Cymraeg, ac yn annog unrhyw fusnesau eraill sydd yn gymwys i wneud cais.”

Cysylltwch â’r Tîm Hybu am sgwrs: hybu@cyg-wlc.cymru.

Diweddariad ar daliadau cymorth costau byw yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi gweinyddu dros £3.2 miliwn o daliadau cymorth costau byw sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae 21,535 o bobl y sir eisoes wedi derbyn y taliad  o £150. Mae Cynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru ar waith i helpu preswylwyr gyda chynnydd mewn costau byw a bydd taliadau’n cael eu cyflwyno i’r rheini sydd ag eiddo ym mandiau Treth y Cyngor A-D.

Bydd taliadau hefyd yn cael eu gwneud i breswylwyr a oedd yn derbyn Cymorth Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror, 2022, waeth beth fo’r Band, a’r rheini ag eiddo ym Mand E lle sydd wedi cael addasiadau, gan leihau’r gwerth trethadwy i Fand D.

Nawr mae'r Cyngor yn annog trigolion eraill i wneud cais am yr arian a bydd e-bost neu neges destun yn cael ei anfon at bobl lle mae gan y Cyngor eu manylion cyswllt a llythyr drwy’r post yn cael ei anfon at bob preswylydd cymwys arall, yn eu gwahodd i wneud cais.

Gellir gwneud ceisiadau ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/cymorth-costau-byw

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Mae’r Cyngor yn gweinyddu’r cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru ac rydym wedi bod yn gweithio mor gyflym â phosibl i gyflwyno’r taliadau hyn i’n cwsmeriaid.

“Mae llawer o bobl eisoes wedi derbyn taliadau, ond rydym am wneud yn siŵr bod pawb sy’n gymwys ar gyfer y taliadau yn cyflwyno eu ceisiadau cyn gynted â phosibl.

“Bydd taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig i’r mwyafrif o drigolion sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, a bydd angen i weddill y cwsmeriaid lenwi ffurflen fer ar wefan y Cyngor.

“Mae costau byw yn parhau i herio pob un ohonom. Mae’n hanfodol bwysig bod ein trigolion yn hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt a byddwn yn annog pobl i wneud cais am y taliad cymorth.”

Seremoni codi’r faner i gofnodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mae'r Cyngor wedi nodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Codwyd baneri Lluoedd Arfog Cymru a Lloegr yn ystod seremoni yn Neuadd y Sir.

Roedd Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 25 Mehefin, ac yn gyfle i gefnogi'r dynion a'r merched sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, o filwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn filwyr a chadetiaid.

Dathlwyd cyfraniad i'r Lluoedd Arfog ar Ddiwrnod y Milwyr wrth Gefn ar 22 Mehefin.

Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor, Arglwydd Raglaw Clwyd, Uchel Siryf Clwyd a nifer o gynrychiolwyr dinesig eraill yn bresennol yn y seremoni.

Dywed y Cynghorydd Roberts: “Mae’r Cyngor yn dangos ein cefnogaeth ar gyfer aelodau presennol a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog sydd wedi peryglu eu bywydau i’n cadw ni’n ddiogel ac yn parhau i wneud hynny.  Rydym yn talu teyrnged i gymuned y Lluoedd Arfog drwy godi’r baneri yn Neuadd y Sir”.

“Rydym hefyd yn anrhydeddu’r cyfraniad allweddol mae’r milwyr wrth gefn yn ei wneud i'n Lluoedd Arfog."

Ydych chi wedi meddwl am yrfa mewn gofal cymdeithasol?

Ydach chi'n chwilio am yrfa gwerthfawr gyda chyfle i ddatblygu yn y maes?
Ydach chi erioed wedi meddwl am yrfa mewn gofal cymdeithasol?
Cliciwch yma i glywed am stori Kendal.
Mae pobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. 
Cliciwch yma i glywed am stori Sheila.
Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid