Seremoni codi’r faner i gofnodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog
Mae'r Cyngor wedi nodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Codwyd baneri Lluoedd Arfog Cymru a Lloegr yn ystod seremoni yn Neuadd y Sir.
Roedd Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 25 Mehefin, ac yn gyfle i gefnogi'r dynion a'r merched sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, o filwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn filwyr a chadetiaid.
Dathlwyd cyfraniad i'r Lluoedd Arfog ar Ddiwrnod y Milwyr wrth Gefn ar 22 Mehefin.
Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor, Arglwydd Raglaw Clwyd, Uchel Siryf Clwyd a nifer o gynrychiolwyr dinesig eraill yn bresennol yn y seremoni.
Dywed y Cynghorydd Roberts: “Mae’r Cyngor yn dangos ein cefnogaeth ar gyfer aelodau presennol a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog sydd wedi peryglu eu bywydau i’n cadw ni’n ddiogel ac yn parhau i wneud hynny. Rydym yn talu teyrnged i gymuned y Lluoedd Arfog drwy godi’r baneri yn Neuadd y Sir”.
“Rydym hefyd yn anrhydeddu’r cyfraniad allweddol mae’r milwyr wrth gefn yn ei wneud i'n Lluoedd Arfog."