llais y sir

Newyddion

Ethol Arweinydd a Dirprwy Newydd yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi ethol Arweinydd a Dirprwy newydd ar gyfer yr awdurdod.

Y Cynghorydd Jason McLellan (Llafur – Gogledd Prestatyn) yw’r arweinydd newydd ac mae cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru wedi’i negodi i ffurfio partneriaeth sy’n rheoli.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Prestatyn, mae Jason McLellan wedi byw ym Mhrestatyn y rhan fwyaf o'i oes. Cymhwysodd yn y Gyfraith o Brifysgol Lerpwl cyn gweithio fel cyfreithiwr cymorth cyfreithiol ar draws Gogledd Cymru am nifer o flynyddoedd. Yna bu’n gweithio i Aelod Seneddol a dau Aelod o’r Senedd ac mae’n gyn-gynghorydd yn Sir Ddinbych, ar ôl gwasanaethu am dymor.

Dywedodd y Cynghorydd McLellan "Rwy'n credu bod gan Lafur a Phlaid Cymru fandad gan yr etholwyr i ffurfio cabinet a chyflawni ar gyfer pobl Sir Ddinbych. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Blaid ac mae gennym ni gymaint yn gyffredin o ran polisïau economaidd adfywio, mynd i’r afael â materion tai a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.”

Yn y cyfamser, mae'r Cynghorydd Gill German (Llafur-Gogledd Prestatyn) wedi'i hethol yn Ddirprwy Arweinydd.

Mae'r Cynghorydd German hefyd yn dod o Brestatyn ac yn gyn-ddisgybl yn y dref. Bu'n gweithio fel athrawes ysgol gynradd ers dros 25 mlynedd, gyda mwyafrif y blynyddoedd hynny yn Ysgol Penmorfa.

Un o'i dymuniadau mwyaf yw gweithio ar greu mwy o gydraddoldeb mewn addysg.

Cyhoeddi Cabinet newydd ar gyfer Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Cabinet newydd ar gyfer yr awdurdod.

Mae’r Cabinet newydd fel a ganlyn:

  • Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac ymdrin ag Addifadedd
  • Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd
  • Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol
  • Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb
  • Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
  • Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu a Chynllunio Lleol
  • Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau
  • Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd ac ymdrin ag Amddifadedd: “Yn dilyn fy ethol yn arweinydd, mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy Nghabinet. Mae'r awdurdod yn wynebu nifer o heriau wrth fynd ymlaen. Mae fy mlaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu yn y tîm cryf rydw i wedi’i ddewis o’r grŵp Llafur ac wrth weithio gyda Phlaid Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, arweinydd grŵp Plaid Cymru ac Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Bydd hyn yn ffordd o weithredu polisïau Plaid Cymru ar faterion hanfodol bwysig i drigolion Sir Ddinbych.

“Cymaint yw’r tir cyffredin rhwng ein dau grŵp fel y gallwn nawr fwrw ymlaen â’r polisïau a fydd yn cyflawni ar faterion fel blaenoriaethau ariannol, tai a chefnogi ein holl gymunedau Cymreig boed yn wledig neu’n drefol.

Mae dolen i'r rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd ynghyd â llawer o wybodaeth arall i'w gweld ar ein gwefan.

Ethol Cadeirydd ac is-Gadeirydd newydd i Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/2023.

Mewn cyfarfod yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Arwel Roberts (Rhuddlan) yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.

Yn y cyfamser, etholwyd y Cyngor y Cynghorydd Peter Prendergast (De Orllewin Y Rhyl) yn Is-Gadeirydd y Cyngor.

Yn ystod y cyfarfod, diolchwyd i'r Cyngorydd Alan James am ei gyfnod o ddwy flynedd yn y swydd. O ganlyniad i Covid, penderfynwyd ymestyn cyfnod y swydd fel Cadeirydd am flwyddyn. Un o'i ddigwyddiadau elusennol oedd beicio o John O 'Groats i Lands End dros 12 diwrnod. Codwyd dros £4,000 ar gyfer Macmillan.

Gwaith wedi dechrau ar ganolfan ieuenctid newydd y Rhyl

Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i ailwampio hen gaffi Rhodfa’r Dwyrain i greu canolfan ieuenctid fodern yn y Rhyl.

Bydd y ganolfan ieuenctid yn lle cyfforddus i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a manteisio ar gymorth wedi’i deilwra, yn cynnwys gweithgareddau a hyfforddiant.

Bydd y contractwyr, Adever, sydd wedi gweithio ar brosiectau eraill y Cyngor, yn dechrau ailwampio’r adeilad (gwaith a fydd yn cymryd chwe wythnos). Rydym ni’n gobeithio agor y ganolfan fis Medi 2022.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu gofod ymlacio, ardal chwarae gemau, ystafell hyfforddiant, cegin bwrpasol ar gyfer hyfforddiant a sgiliau byw'n annibynnol a gofod therapiwtig.

Mae grŵp ymgynghori sy’n cynnwys trigolion ifanc y Rhyl wedi bod yn mynd i gyfarfodydd yn yr adeilad i rannu eu syniadau ac i ddewis y lliwiau a’r addurniadau.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ac adrannau i drefnu cymorth i bobl ifanc gyda’u hanghenion cymdeithasol, emosiynol ac addysgol, yn cynnwys darpariaeth Gymraeg.                                                                                                                                                                                 

Meddai’r Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Dw i’n falch iawn bod y gwaith o greu canolfan ieuenctid fodern yn y Rhyl yn mynd rhagddo.

“Bydd y ganolfan yn ganolbwynt cyfleoedd i helpu ein pobl ifanc i oresgyn amrywiaeth o rwystrau ac i gyflawni eu potensial.

“Dyma brosiect arall sy’n rhan o brosiect adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y Rhyl. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y cynnydd yn parhau.”

Am fwy o wybodaeth am raglen adfywio’r Rhyl ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adfywior-rhyl.aspx

Gwirfoddolwyr yn cefnogi nythfa Môr-wenoliaid Gronant

Mae gwirfoddolwyr yn helpu nythfa o adar i ffynnu ar arfordir Sir Ddinbych.

Y nythfa yma o Fôr-wenoliaid Bach ar draeth Gronant ger Prestatyn yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru.

Mae’r safle hwn yn adnabyddus ledled y byd gan ei fod yn cyfrannu at dros ddeg y cant o boblogaeth fagu’r DU gyfan, yn ogystal ag ategu nythfeydd eraill.

Mae’r nythfa leol wedi bod yn cael cefnogaeth gan grŵp o wirfoddolwyr: Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru. Maen nhw wedi bod yn helpu staff gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i osod pedwar cilomedr o ffensys ar y traeth i greu llociau er mwyn galluogi’r adar i nythu’n ddiogel.

Mae cynnydd yn niferoedd y Môr-wenoliaid Bach wedi’i weld ar y safle dros y gwanwyn gyda chyfrifiad diweddar yn cofnodi dros 200 o adar aeddfed, a chadarnhawyd bod yr adar bellach wedi nythu ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith i’n helpu i amddiffyn y nythfa bwysig hon o Fôr-wenoliaid Bach yng Ngronant a rhoi dyfodol llewyrchus iddyn nhw ar y safle.

“Os hoffech weld y nythfa, rydym yn annog pobl i ddod i’r llwyfan gwylio neu i’r ganolfan ymwelwyr gyda phâr o finocwlars er mwyn amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar yr adar sy’n nythu.”

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi’r nythfa o Fôr-wenoliaid Bach, anfonwch e-bost atlittleternengagement2022@outlook.com fam fwy o wybodaeth.

Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi.

 

Credyd llun: Michael Steciuk

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol

Ynghyd â Chronfa Adnewyddu Cymunedol y DU a Chronfa Codi’r Gwastad, mae Llywodraeth y DU wedi lansio’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Mae’r gronfa i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ymgeisio am gyllid cyfatebol i gefnogi prynu a/neu gostau adnewyddu amwynderau ac asedau cymunedol. Bydd cynigion angen profi gwerth yr ased i bobl leol a dangos y gellir cynnal yr ased yn gynaliadwy. Yn anffodus, nid yw cynghorau tref, dinas a chymuned yn gymwys i ymgeisio.

Bydd hyd at £250,000 o gyfalaf arian cyfatebol ar gael ar gyfer pob math o ased cymwys. Mewn achosion eithriadol, bydd cynigwyr yn gallu dadlau dros hyd at £1 miliwn o arian cyfatebol ar gyfer asedau sy'n ymwneud â chyfleusterau chwaraeon.

Diweddarwyd prosbectws y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar 27 Mai 2022, gyda’r cyfnod ymgeisio cyntaf yn dechrau ar 10 Mehefin 2022 ac yn cau ar 19 Awst. Bydd dwy ffenestr bidio arall cyn mis Mawrth 2023. Cyhoeddir yr union ddyddiadau maes o law.

Mae mwy o fanylion am y gronfa yma: https://www.gov.uk/government/publications/community-ownership-fund-prospectus

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cael ei hanrhydeddu am ymgyrch arloesol

Mae'r Cyngor wedi llongyfarch pedwar disgybl Blwyddyn 11 o Ysgol Uwchradd Prestatyn am eu hymgyrch arobryn yn ymwneud â gwrth-wahaniaethu.

Cafodd y disgyblion eu cydnabod yn seremoni Gwobrau Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a gynhaliwyd neithiwr (nos Iau) a chawsant eu hanrhydeddu am eu hymgyrch ‘Gwahaniaethu’. Mae'n stopio gyda fi’.

Mae’r ysgol wedi dechrau cwricwlwm newydd o’r enw Cyfrifoldeb Cymdeithasol mewn ymateb i’r angen am fwy o addysg o gwmpas y maes hwn ac i fynd i’r afael â materion yn rhagweithiol, mae’r ysgol wedi diwygio ei gweithdrefnau ar gyfer delio â gwahaniaethu, monitro gwahaniaethu yn well ac wedi cynnal gŵyl ddiwylliant ac amrywiaeth eleni. Mae'r myfyrwyr wedi cyfarfod yn wythnosol gyda gweithiwr ieuenctid ac wedi siapio'r gwaith sy'n cael ei wneud.

Dywedodd Neil Foley, Pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn: “Fe wnaeth y bobl ifanc feddwl am ddeunyddiau hysbysebu’r ymgyrch, maen nhw wedi cyflwyno i ddisgyblion iau yr ysgol i ennyn eu diddordeb yn yr ymgyrch, maen nhw wedi ymweld ag ysgolion cynradd i addysgu plant llai ynghylch gwahaniaethu a hyrwyddo ymgyrch yr ysgol uwchradd. Trwy eu gwaith gyda disgyblion iau yr ysgol y tyfodd y syniad o'r ŵyl.

“Maen nhw wedi cynnal arolygon gyda disgyblion a gyda staff a hefyd wedi cyflwyno i lywodraethwyr yr ysgol ac o ganlyniad, mae’r llywodraethwyr yn cael adborth hanner tymor ar gynnydd yr ymgyrch.

“Mae'r disgyblion hyn yn wirioneddol anhygoel. Maent yn ymroddedig ac yn cael eu cymell i sicrhau newid. Mae gweithio gyda’r bobl ifanc anhygoel hyn yn fraint lwyr yn wyneb yr hyn sydd wedi bod y ddwy flynedd anoddaf mewn addysg i ddisgyblion a staff, mae’r disgyblion hyn yn ymdrechu i wneud ein cymuned yn lle gwell tra ar yr un pryd yn paratoi ar gyfer eu TGAU. Ni allwn bwysleisio digon pa mor wych yw'r bobl ifanc hyn. Maent yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith. Mae eu hysgol mor falch ohonyn nhw a dylai eu cymuned wybod pobl ifanc mor wirioneddol ysbrydoledig ydyn nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae hwn yn gyflawniad gwych. Mae'r fenter hon wedi gwneud argraff fawr arnaf o'r cychwyn cyntaf ac mae'r wobr hon yn hynod haeddiannol.

“Mae llawer o waith arloesol yn digwydd yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ar gyfrifoldeb cymunedol a chymdeithasol ac mae'n gyffrous iawn bod y gwaith hwn, a arweinir gan y bobl ifanc eu hunain, wedi'i gydnabod fel arfer gorau.

“Dyma enghraifft wych o’r agwedd frwdfrydig ac ymroddedig y mae ein plant a’n pobl ifanc yn ei defnyddio yn eu cais i bawb gael eu trin yn gyfartal ac yn deg. Mae’r gwaith hwn yn wirioneddol ysbrydoledig a rhaid i mi ddiolch a chanmol Ysgol Uwchradd Prestatyn am eu hymdrechion i roi’r ymgyrch bwysig hon ar waith, yn enwedig yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn gymaint o her i addysg yn gyffredinol.” 

Dyfarnu contract adeiladu cam 1 Prosiect Adeiladau’r Frenhines

Mae'r Cyngor bellach wedi dyfarnu’r contract ar gyfer cam 1 Prosiect Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl.

Mae dwy ddelwedd CGI newydd wedi’u creu i ddangos y cynlluniau ar gyfer yr adeiladau, sy’n brosiect allweddol yn rhaglen adfywio ehangach y Rhyl.

Bydd y cam cyntaf yn cynnwys codi neuadd farchnad dan do newydd, creu gofod digwyddiadau ac ardal wedi’i thirlunio y tu allan, ac ailwampio Siambrau’r Frenhines – yr adeilad brics coch ar Stryd Sussex.

Roedd y gwaith i fod wedi dechrau ond, oherwydd adar yn nythu ar y safle, bu’n rhaid aildrefnu i ddechrau’r gwaith yn yr haf. Mae timau proffesiynol yn monitro’r safle’n agos i geisio atal rhagor o adar rhag nythu ac i sicrhau bod yr adar sydd eisoes wedi nythu yn ddiogel.

Mae’r cyllid ar gyfer y datblygiad hwn wedi’i ddarparu gan y Cyngor, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop; a chwmni Wynne Construction sydd wedi’i benodi, drwy fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru, i godi’r adeilad.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rydw i’n edrych ymlaen at weld y datblygiad allweddol hwn yn mynd rhagddo. Bydd Adeiladau’r Frenhines yn creu swyddi amrywiol ac yn darparu cynnig manwerthu unigryw i drigolion ac ymwelwyr y sir.

“Mae pobl yn defnyddio canol trefi mewn ffordd wahanol bellach. Bydd y prosiect hwn yn ein gwneud ni’n fodern ac yn darparu ased go iawn i’r Rhyl yn ogystal â gweddill y sir a’r economi lleol.”

Mae arwyddion wedi’u gosod o amgylch yr adeilad i ddangos y prosiectau eraill sy’n rhan o raglen Adfywio’r Rhyl, yn cynnwys Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Crist y Gair, Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, SC2, 1891, Gwyrddu’r Rhyl, Harbwr y Rhyl, gofod cydweithio Costigans a Stryd Edward Henry.

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i: www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl

Y Cynnig Cymraeg: Dathlwch eich defnydd o’r Gymraeg

Cynllun newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg. Mae’n rhoi cydnabyddiaeth i gwmnïau ac elusennau sy’n gweithio’n ddwyieithog.

Trwy weithio gyda Thîm Hybu’r Comisiynydd i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg, gall eich busnes chi fod yn gymwys i geisio am gydnabyddiaeth am eich Cynnig Cymraeg. Pwrpas y Cynnig Cymraeg yw ei gwneud hi’n glir i’r cyhoedd pa wasanaethau gallwch chi gynnig yn Gymraeg. Mae’n gyfle i chi ddangos i gleientiaid eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i’w ddefnyddio. Mae’r Cynnig Cymraeg yn eich helpu i hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ac i gynyddu’r defnydd ohonynt.

Sut mae’n gweithio?

  1. Y cam cyntaf yw cysylltu gyda Thîm Hybu’r Gymraeg am sgwrs ac i gwblhau hunan asesiad am eich defnydd o’r Gymraeg ar hyn o bryd.
  2. Wedyn, byddwn yn gweithio gyda chi i roi Cynllun Datblygu’r Gymraeg at ei gilydd; gosod targedau os oes angen cynyddu eich darpariaeth, a sicrhau bod pawb yn y cwmni yn ymwybodol o’r hyn chi’n ei gynnig.
  3. Unwaith bydd eich Cynllun yn barod, byddwn yn gweithio gyda chi i adnabod eich Cynnig Cymraeg: beth yw penawdau eich gwasanaethau Cymraeg?
  4. Cyflwyno i’r Comisiynydd am gymeradwyaeth swyddogol
  5. Dathlu a hyrwyddo’r ffaith eich bod wedi derbyn y Cynnig Cymraeg

Un sefydliad sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg yw Hill & Roberts o Rhuthun a ddywedodd: “Teimlwn fod derbyn y Cynnig Cymraeg yn cydnabod ein gwaith caled a’n hymroddiad i’r iaith Gymraeg ac yn rhoi hyder i gleientiaid newydd sy’n edrych am gyfrifydd sy’n medru gweithio yn y Gymraeg. Mae gan Comisiynydd y Gymraeg enw da am safonau uchel ac felly rydym yn teimlo’n freintiedig i fod wedi derbyn y Cynnig Cymraeg, ac yn annog unrhyw fusnesau eraill sydd yn gymwys i wneud cais.”

Cysylltwch â’r Tîm Hybu am sgwrs: hybu@cyg-wlc.cymru.

Diweddariad ar daliadau cymorth costau byw yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi gweinyddu dros £3.2 miliwn o daliadau cymorth costau byw sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae 21,535 o bobl y sir eisoes wedi derbyn y taliad  o £150. Mae Cynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru ar waith i helpu preswylwyr gyda chynnydd mewn costau byw a bydd taliadau’n cael eu cyflwyno i’r rheini sydd ag eiddo ym mandiau Treth y Cyngor A-D.

Bydd taliadau hefyd yn cael eu gwneud i breswylwyr a oedd yn derbyn Cymorth Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror, 2022, waeth beth fo’r Band, a’r rheini ag eiddo ym Mand E lle sydd wedi cael addasiadau, gan leihau’r gwerth trethadwy i Fand D.

Nawr mae'r Cyngor yn annog trigolion eraill i wneud cais am yr arian a bydd e-bost neu neges destun yn cael ei anfon at bobl lle mae gan y Cyngor eu manylion cyswllt a llythyr drwy’r post yn cael ei anfon at bob preswylydd cymwys arall, yn eu gwahodd i wneud cais.

Gellir gwneud ceisiadau ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/cymorth-costau-byw

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Mae’r Cyngor yn gweinyddu’r cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru ac rydym wedi bod yn gweithio mor gyflym â phosibl i gyflwyno’r taliadau hyn i’n cwsmeriaid.

“Mae llawer o bobl eisoes wedi derbyn taliadau, ond rydym am wneud yn siŵr bod pawb sy’n gymwys ar gyfer y taliadau yn cyflwyno eu ceisiadau cyn gynted â phosibl.

“Bydd taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig i’r mwyafrif o drigolion sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, a bydd angen i weddill y cwsmeriaid lenwi ffurflen fer ar wefan y Cyngor.

“Mae costau byw yn parhau i herio pob un ohonom. Mae’n hanfodol bwysig bod ein trigolion yn hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt a byddwn yn annog pobl i wneud cais am y taliad cymorth.”

Seremoni codi’r faner i gofnodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mae'r Cyngor wedi nodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Codwyd baneri Lluoedd Arfog Cymru a Lloegr yn ystod seremoni yn Neuadd y Sir.

Roedd Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 25 Mehefin, ac yn gyfle i gefnogi'r dynion a'r merched sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, o filwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn filwyr a chadetiaid.

Dathlwyd cyfraniad i'r Lluoedd Arfog ar Ddiwrnod y Milwyr wrth Gefn ar 22 Mehefin.

Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor, Arglwydd Raglaw Clwyd, Uchel Siryf Clwyd a nifer o gynrychiolwyr dinesig eraill yn bresennol yn y seremoni.

Dywed y Cynghorydd Roberts: “Mae’r Cyngor yn dangos ein cefnogaeth ar gyfer aelodau presennol a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog sydd wedi peryglu eu bywydau i’n cadw ni’n ddiogel ac yn parhau i wneud hynny.  Rydym yn talu teyrnged i gymuned y Lluoedd Arfog drwy godi’r baneri yn Neuadd y Sir”.

“Rydym hefyd yn anrhydeddu’r cyfraniad allweddol mae’r milwyr wrth gefn yn ei wneud i'n Lluoedd Arfog."

Ydych chi wedi meddwl am yrfa mewn gofal cymdeithasol?

Ydach chi'n chwilio am yrfa gwerthfawr gyda chyfle i ddatblygu yn y maes?
Ydach chi erioed wedi meddwl am yrfa mewn gofal cymdeithasol?
Cliciwch yma i glywed am stori Kendal.
Mae pobl sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. 
Cliciwch yma i glywed am stori Sheila.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Ydych yn mwynhau gwneud jig-sos? Gallwch nawr bethyg nhw o'ch llyfrgell leol!

Wyddoch chi fod amrywiaeth o jig-sos ar gael yn eich llyfrgell leol y gellir eu benthyca gyda cherdyn llyfrgell, yn union fel llyfr?

Mae'r posau i gyd wedi'u cynllunio ar gyfer oedolion ac yn amrywio o 35 i 1000 o ddarnau.

Mae jig-sos yn annog sgwrs ac atgofion, ac yn ysgogi'r ymennydd, maent yn wych ar gyfer ymlacio ac ymdawelu. Mae gennym hefyd ddewis o bosau darn mawr sy'n haws i bobl â sgiliau cyfyngedig.

Twristiaeth

Adnoddau marchnata twristiaeth newydd wedi eu lansio

Mae cyfres o adnoddau marchnata proffesiynol yn ymwneud â thwristiaeth wedi eu lansio er mwyn i fusnesau a rhanddeiliaid eu defnyddio.

Mae’r adnoddau yn cynnwys:-

  • Adnoddau cyfathrebu gyda 5 neges allweddol a ffyrdd o gymryd rhan.
  • Graffeg cyfryngau cymdeithasol ar gyfer sianeli Facebook, Instagram a Twitter.
  • Banc Delweddau
  • Ffilmiau byr
  • Mapiau        
  • Llyfrynnau

Anfonwch e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk os hoffech ddefnyddio’r adnoddau hyn.

Meddwl fynd am ddiwrnod ar y traeth?

Canol Prestatyn yw’r unig draeth yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael ei ddyfarnu â gwobr fawreddog y Faner Las 2022. Mae’r Faner Las yn label-eco fyd-enwog, ac mae’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) yn ei berchen.

Ers dros dri degawd, mae’r Faner Las wedi cael effaith drawsnewidiol ar ansawdd dŵr, diogelwch a rheolaeth amgylcheddol. Mae wedi ysbrydoli ymwybyddiaeth amgylcheddol drwy weithgareddau addysg a hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol.

Mae traeth Canolog y Rhyl wedi cael Gwobr Glan y Môr am safon ansawdd dŵr a chyfleusterau.

 

I gael rhagor o wybodaeth ar wobrau Arfordir Cymru, ewch i https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/gwobrau-arfordir-cymru/

Galw ar bob busnes

Hoffech chi gynnig taflenni am ddim i’ch cwsmeriaid sy’n hysbysebu ein trefi, cefn gwlad a llwybrau beicio?

Llenwch y ffurflen ar-lein a gadewch y cyfan i ni.

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

Cofrestrwch ar gyfer ein newyddlenni rheolaidd - https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/y-wybodaeth-ddiweddaraf-am-dwristiaeth.aspx

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn ‘North East Wales’ ar Facebook, Twitter a Instagram

Ewch i http://www.gogleddddwyraincymru.cymru/

Maes Parcio i Gartrefi Modur

Mae Sir Ddinbych yn cynnig dewis helaeth o safleoedd sydd yn cynnig maes parcio dros nos i gartrefi modur a charafanau.

Mae tymor gwyliau gartref prysur arall ar y gweill, mae Adran Twristiaeth y Cyngor yn hyrwyddo busnesau’r sir i ddarparu arosiadau a meysydd parcio dros nos. Mae nifer o fusnesau wedi cofrestru i gael eu cynnwys ar wefan twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru.

Hefyd mae’r gwaith yn cefnogi ymgyrch #CaruBusnesauLleol y Cyngor sydd yn annog pobl i gefnogi busnesau lleol. Os hoffech gael eich cynnwys, anfonwch e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk.

Ailwampio Gwefan

Mae gwefan Gogledd Ddwyrain Cymru sydd yn cael ei reoli gan y Tîm Twristiaeth wedi cael ei ailwampio, gan ei wella a bydd yn haws i’w lywio.

Byddwch yn gallu dod o hyd i adnoddau yno i helpu eich busnes yn ogystal â digwyddiadau. Os hoffech gael eich cynnwys anfonwch e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk.

Llwybrau Tref

Mae’r Tîm Twristiaeth yn gweithio’n ddiflino i ddiweddaru eu cyfres eu hunain o Lwybrau Tref, ar ôl diweddaru rhai Rhuthun a Llangollen i amlygu newidiadau i’r trefi. Corwen fydd Llwybr Tref nesaf a fydd yn cael ei ailwampio, i helpu hyrwyddo platfform rheilffordd newydd yng Ngorsaf Corwen, ac ymdrechion gwych y gwirfoddolwyr yn Amgueddfa Corwen.

Tra ein bod yn sôn am Lwybrau Tref, mae datblygiad cyffrous yn cael ei beilota yn y Rhyl. Er mwyn ymestyn y llwybrau tref i gynulleidfa ehangach, mae taith gerdded glywedol ar y llwybr wedi cael ei gynhyrchu.  Y prif adroddwr yw Tony o’r Ganolfan Groeso, sydd yn llysgennad gwych i Rhyl, gyda lleisiau a sŵn gwahanol yn dod at ei gilydd i ddod â’r gwaith yn fyw. Gall bobl gerdded a gwrando, neu wrando yn unig o unrhyw le. Mae’r neges gyffredinol yn un o falchder yn y dref a chynaliadwyedd ac i hyrwyddo lles drwy annog pobl i gerdded. Mae ar gael drwy app izi.TRAVEL ac yn cael ei hyrwyddo drwy fyrddau llwybr y dref. Gobeithir y gellir atgynhyrchu hyn mewn trefi eraill yn Sir Ddinbych yn y dyfodol.

Gallwch wrando gan ddefnyddio’r cod QR hwn.

 

Ydych chi wedi gweld ein llyfryn twristiaeth newydd?

Mae’r Tîm Twristiaeth wedi cynhyrchu llyfryn newydd sbon o’r enw Darganfod Sir Ddinbych, sy’n rhoi blas mwy unigryw, cynaliadwy a heb eu darganfod i deithwyr o’r hyn sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig, i’r rheiny sydd eisiau profi’r diwylliant lleol, rhoi cynnig ar y bwyd a mynd oddi ar y llwybrau anghysbell drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch ei lawrlwytho yma ac mae’n cael ei ddosbarthu’n eang o amgylch yr ardal.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Lleoli Swyddog Cefnogi Gweinyddol

Cafodd 'Joe' ei leoli fel Swyddog Cefnogi Gweinyddol. Dyma hanes Joe:

Drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, cefais wybod am Sir Ddinbych yn Gweithio. Siaradais ar y ffôn â mentor o Sir Ddinbych yn Gweithio gyda’r nod o ddod o hyd i swydd yn y Sector TG. Cyn pen dim roeddent wedi gofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn ymgeisio am swydd Weinyddol drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio. Yn naturiol, dywedais fod gen i ddiddordeb yn y rôl gan ei fod yn gyfle da i gael profiad gwaith hanfodol mewn amgylchedd swyddfa.

Gan mai hon oedd fy swydd gyntaf mewn swyddfa, roeddwn yn bryderus am ddechrau swydd, ar ben hynny, dechreuais mewn cyfnod pan oedd mwy na deg mil o achosion o Coronafeirws y dydd yn y DU. Roeddwn yn poeni am y swydd ei hun ond hefyd am fod o gwmpas pobl eraill. Drwy gydol fy amser ar leoliad, rwyf wedi cael fy nghefnogi’n uniongyrchol gan fy nghydweithwyr yn ogystal â’m Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio.

Mae fy nghydweithwyr wedi fy helpu i ddeall y swydd yn ogystal â sut maent yn gweithredu’n effeithiol mewn tîm, maen nhw wedi gwneud i mi deimlo’n barod am waith. Mae fy Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio wedi fy helpu i olrhain fy nghynnydd yn y swydd yn ogystal â rhoi clust i wrando pe bai angen.

Y peth gwych am y swydd Dechrau Gweithio yw ei bod wedi fy helpu i gael profiad gwaith gwerthfawr fel fy mod yn barod am y cam nesaf yn fy ngyrfa, sef yn union beth oeddwn ei eisiau o’r swydd. Es i’r coleg i wneud TG ac rwyf wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ymgeisio am swyddi yn y sector TG. Roeddwn wedi tueddu’n flaenorol i fynd drwy’r cyfweliad cyntaf ac yna ar ôl yr ail gyfweliad, cael gwybod eu bod yn fy hoffi ond bod gan rywun arall fwy o brofiad. Mae’r swydd hon wedi fy rhoi mewn amgylchedd swyddfa a phrofi gweithio mewn tîm, ac wedi rhoi hyder i mi wybod y gallaf gyflawni beth bynnag rwyf yn rhoi fy mryd arno. Tuag at ddiwedd fy lleoliad cefais wahoddiad i gyfweliad ar gyfer swydd TG ac wedi’r ail gyfweliad cefais gynnig y swydd. Rwyf yn rhoi’r clod am hyn i’r Cynllun Dechrau Gweithio am ganiatáu i mi gael y profiad roeddwn yn chwilio amdano.

Byddwn wir yn argymell i bobl gymryd mantais o’r Cynllun Dechrau Gweithio gan ei fod yn caniatáu i chi eich datblygu eich hun mewn amgylchedd cefnogol a charedig. Rwyf wir yn credu fod y cyfle hwn wedi bod yn brofiad positif sydd wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus a gwneud i mi deimlo fy mod yn ôl ar y trywydd iawn tuag at yr hyn rwyf eisiau ei gyflawni.

Ffair Yrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio’n llwyddiant mawr

Ymunodd Sir Ddinbych yn Gweithio â 38 o sefydliadau a chyflogwyr o bob rhan o’r sir i gynnal digwyddiad rhwydweithio rhad ac am ddim i unigolion sy’n chwilio am waith.

Daeth dros gant o bobl 16 oed a throsodd i’r ffair yn y Rhyl, yn cynnwys teuluoedd o Wcráin sydd wedi dod i Sir Ddinbych fel rhan o Gynllun Adsefydlu’r DU.

Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu’n rhannol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Chanolfan Byd Gwaith.

Y weledigaeth ehangach yw lleihau tlodi drwy alluogi unigolion i gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau a fydd yn eu cefnogi ar eu taith i gyflogaeth, i gadw eu swyddi a datblygu unwaith y maent mewn gwaith.

Roedd nifer o swyddogion Sir Ddinbych yn Gweithio yn y digwyddiad i roi cyngor am gyflogaeth ac i gyfeirio pobl at fframwaith Sir Ddinbych yn Gweithio a fydd yn rhoi cefnogaeth iddynt tan iddyn nhw ddod o hyd i waith.

Roedd mentor ffoaduriaid arbenigol hefyd yn bresennol i gefnogi unigolion sy’n wynebu rhwystrau cyflogaeth ieithyddol a diwylliannol a bydd y mentor yn parhau i gefnogi’r unigolion hyn.

Roedd 90% o’r bobl a roddodd adborth am y digwyddiad yn dweud ei fod naill ai’n dda neu’n rhagorol.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rydw i wrth fy modd â llwyddiant y digwyddiad hwn a bod cymaint o bobl wedi manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Sir Ddinbych yn Gweithio.

“Dyma yw diben Sir Ddinbych yn Gweithio - helpu pobl. Mae’r Cyngor yn hynod o falch o’r gwasanaeth hwn sy’n anelu at drechu tlodi drwy gyflogaeth.

“Gyda’r cynnydd mewn costau byw, mae hi’n bwysicach nag erioed i ni fel awdurdod lleol roi’r gefnogaeth rad ac am ddim yma ble bynnag y gallwn.”

Mae cynlluniau ar gyfer y ffair yrfaoedd nesaf ar y gweill a disgwylir y bydd yn cael ei chynnal ym mis Medi 2022.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio ewch I https://www.denbighshire.gov.uk/en/jobs-and-employees/working-denbighshire/working-denbighshire.aspx neu i gael cymorth â chyflogaeth ewch i https://working.denbighshire.gov.uk/

Prosiect Barod: Digwyddidau ym mis Mai

Ym mis Mai, trefnwyd tri digwyddiad sef; mynd i’r Sinema, taith gerdded dditectif ac ymweld â Sw Mynydd Cymru.

  • Cafodd y Sinema ei ddewis gan ei fod yn gyfle i gyfranogwyr gwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd heb lawer o bwysau. Roedd amgylchedd y sinema yn caniatáu i gyfranogwyr siarad â phobl newydd, trafod diddordebau cyffredin a gwneud ffrindiau, heb y pwysau o orfod siarad am gyfnodau hir. Roedd cwrdd â phobl newydd yn y dull hwn yn lleihau teimladau o orbryder wrth gwrdd â phobl newydd ac yn annog y cyfranogwyr i fynychu mwy o ddigwyddiadau a sesiynau cwrs Argoed.

  • Dewiswyd y Daith Gerdded Dditectif gan ei fod yn weithgaredd hwyliog a oedd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr weithio ar sawl sgil bywyd megis; bod yn benderfynol, cadw amser, gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau. Bu’r gweithgaredd yn llwyddiant ac fe gyfathrebodd y cyfranogwyr yn dda gyda’i gilydd i ddatrys pob cliw ac fe lwyddont i ddatrys y cod! Magodd hyn hyder y cyfranogwyr a rhoddodd ymdeimlad o lwyddiant iddyn nhw. 

  • Dewiswyd y Sw gan fod nifer o gyfranogwyr wedi mynegi diddordeb mewn anifeiliaid, a rhai o bosibl yn ystyried gyrfaoedd yn ymwneud ag anifeiliaid hefyd. Nod yr ymweliad hwn yw meithrin hyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan y byddwn yn defnyddio gwasanaethau trên a thacsi. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i gyfathrebu a chefnogi ei gilydd, a bydd staff yn annog cyfranogwyr i siarad ag aelodau o staff y sw, i’w galluogi i ystyried gwahanol ddewisiadau gyrfaol.

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Gwefrwyr trydan nawr ymlalen mewn maes parcio ym Mhrestatyn

Mae dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod mewn maes parcio ym Mhrestatyn.

Mae'r Cyngor wedi troi ymlaen dau bwynt gwefru ym maes parcio arhosiad byr Rhodfa Brenin. Bydd pob dyfais wefru 50kw yn darparu cyfleusterau gwefru ‘cyflym’ dros bedwar bae parcio cwbl hygyrch.

Mae’r prosiect diweddaraf hwn yn rhan o gamau gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.

Sicrhawyd cyllid ar gyfer y dyfeisiau gwefru ‘cyflym’, sy’n gallu gwefru’r rhan fwyaf o fatris cerbydau i 80% mewn llai nag awr, gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru.

Mae’r ddwy ddyfais wefru newydd yn ychwanegol at waith sy’n cael ei wneud i ddarparu pwyntiau gwefru cyflym i’r cyhoedd eu defnyddio mewn wyth maes parcio cyhoeddus yn Sir Ddinbych.

Disgwylir i’r gwaith ar safle Rhodfa Brenin gael ei orffen erbyn diwedd mis Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n falch iawn o allu cyflwyno’r pwyntiau gwefru ychwanegol hyn ar gyfer cerbydau trydan ym Mhrestatyn, ochr yn ochr â’r cyfleuster lleol arall yn Fern Avenue. Fe fydd y pwyntiau gwefru hyn yn cefnogi ein gwaith pwysig o ran newid hinsawdd a byddant o fantais glir i aelwydydd gerllaw lle nad oes cyfleusterau gwefru oddi ar y ffordd.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y cyfleuster newydd hwn yn annog perchnogion cerbydau trydan i ddod i Brestatyn a gwefru eu cerbydau yn y maes parcio wrth siopa’n lleol, er mwyn cefnogi’r nifer o fusnesau sydd yn y dref.”

Planhigfa Goed yn agor ei drysau i ddisgyblion Prestatyn

Mae disgyblion wedi cael blas o fenter bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.

Yn ddiweddar, bu disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn ym mhlanhigfa coed lleol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy.

Nod y safle yw tyfu 5,000 o blanhigion blodau gwylltion brodorol bob blwyddyn ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol, ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Arweiniodd tîm bioamrywiaeth Sir Ddinbych y disgyblion ar daith o gwmpas y twnelau polythen ar y safle lle mae’r planhigion a’r coed yn tyfu o hadau sydd wedi tarddu o fewn y sir.

Cawsant y cyfle hefyd i brofi eu sgiliau garddio drwy ailblannu rhai o’r blodau gwylltion a dyfwyd ar y safle.

Cafodd y disgyblion gipolwg gan y tîm bioamrywiaeth ar fentrau eraill sy’n digwydd yn y blanhigfa goed, sy’n cynnwys gwrych cyfoethog ei rywogaethau, dôl fawr o flodau gwylltion brodorol, a gaeafwisg madfall ddŵr gribog, a gynlluniwyd oll i gynnal bywyd gwyllt lleol.

Dangoswyd iddynt hefyd yr ardd law a phwll dŵr bywyd gwyllt mawr, a osodwyd fel rhan o system ddraenio gynaliadwy i hybu bioamrywiaeth a lleihau llifogydd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd yn wych croesawu’r disgyblion i’n planhigfa goed, a rhoi’r cyfle iddynt weld drostynt eu hunain a chael profiad o’r gwaith mae ein tîm bioamrywiaeth yn ei wneud i gynnal a gwella ein hamgylchedd lleol.

“Roedd yn braf gweld a chlywed cymaint o ddiddordeb gan y disgyblion mewn bioamrywiaeth a sut y gallant ei gynnal, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi dysgu gwybodaeth ddefnyddiol iawn i gynorthwyo eu hardal leol eu hunain.”

Yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ledled y sir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â’r blanhigfa goed, neu ein cynorthwyo drwy wirfoddoli ar y safle, e-bostiwch: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk.

Dull rheoli glaswellt naturiol yn arwain at ganlyniad cadarnhaol

Mae cynllun peilot wedi arwain at fanteision o ran rheoli glaswellt ar ddolydd yn y dyfodol.

Y llynedd fe dreialodd tîm bioamrywiaeth y Cyngor dechneg naturiol i leihau a rheoli hyd y borfa ar safle dôl blodau gwyllt yn Ninbych a gwella’r tir er mwyn i flodau flodeuo.

Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn cynnwys dros 100 o safleoedd a gaiff eu rheoli ar gyfer dolydd blodau gwyllt (gan gynnwys yr 11 gwarchodfa natur ar ymylon ffyrdd).  Mae’r safleoedd hyn yn gyfystyr â gwerth bron i 35 o gaeau pêl-droed o laswelltir a reolir fel dolydd blodau gwyllt cynhenid.

A nawr mae safle yn Ninbych wedi dod yn sail i ddull naturiol newydd a hunan-gynhaliol o gadw hyd y glaswellt ar y dolydd yn fyrrach tra’u bod yn eu tymor.

Cafodd rhan o’r ddôl yn Ninbych Isaf ei thynnu a chafodd hadau’r Gribell Felen, a gynaeafwyd o ddôl arall yn y dref, eu hau.

Yn ystod mis Mehefin fe archwiliodd y tîm Bioamrywiaeth y safle a chanfuwyd fod hyd y glaswellt wedi lleihau ac roedd y nifer o flodau gwyllt wedi cynyddu, lle’r oedd y treial wedi ei gynnal.

Mae hyn wedi arwain at fwy o fwyd ar gyfer trychfilod sy’n peillio a’u hysglyfaethwyr, ac mae’n golygu fod cynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno blodau gwyllt newydd, sydd â’u tarddiad yn lleol ac a gaiff eu tyfu ym Mhlanhigfa Goed Sir Ddinbych, yn cael gwell siawns o lwyddiant gyda llai o gystadleuaeth gan laswellt y dolydd.

Mae’r Gribell Felen yn blanhigyn parasitig, sy’n treiddio at wreiddiau glaswellt a phlanhigion eraill gerllaw gan ddwyn eu maeth.  Mae hyn wedi lleihau goruchafiaeth glaswellt o fewn y ddôl gan alluogi i fwy o flodau cynhenid dyfu.

Mae bwriad i gynaeafu hadau’r Gribell Felen o’r safle yn Ninbych er mwyn galluogi i’r planhigyn gael ei gyflwyno i ardaloedd eraill o ddolydd blodau gwyllt yn y sir i leihau goruchafiaeth glaswellt a helpu i gynyddu’r nifer o flodau gwyllt o fewn y safleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r tîm Bioamrywiaeth am dreialu’r prosiect hwn. Mae’r dull naturiol a hunan-gynhaliol hwn wedi cael effaith gadarnhaol yn y safle yn Ninbych, gan helpu blodau gwyllt eraill i dyfu yn y dyfodol a hefyd rheoli hyd y glaswellt.

“Rydym yn edrych ymlaen at fynd ymlaen â’r cynllun naturiol hwn i wella bioamrywiaeth ac edrychiad safleoedd eraill er budd y cymunedau lleol, rhywogaethau planhigion a thrychfilod cynhenid.”

Mae’r holl safleoedd blodau gwyllt yn cael eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir Ymylon Ffyrdd Plantlife sy’n arwain at wahardd torri glaswellt yn y safleoedd hyn rhwng Mawrth ac Awst bob blwyddyn gan roi digon o amser i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.

Ar ôl mis Awst caiff y safle ei dorri gyda’r hyn a dorrir yn cael ei gasglu i leihau ffrwythlondeb y pridd a darparu’r amodau gorau posibl i flodau gwyllt.

Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Arsyllfa werdd symudol i ganolbwyntio ar awyr y nos

Mae fan werdd ar fin rhoi cyfle i seryddwyr lleol gael cip o awyr y nos.

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi croesawu elfen newydd i’r tîm i gynorthwyo i hyrwyddo’r fenter Awyr Dywyll. 

Yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd y llynedd, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gwneud cais am statws Cymuned Awyr Dywyll gyda Chymdeithas Ryngwladol Awyr Dywyll.

Mae statws Awyr Dywyll yn darparu cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr ac eraill ar ddyluniad golau da mewn AHNE gyda’r nod o sicrhau y gall seryddwyr, rhai sy’n hoff o’r sêr ac arsyllwyr achlysurol weld awyr y nos yn ei holl ogoniant.

Mae fan drydanol Awyr Dywyll wedi cyrraedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn awr, sydd wedi’i dylunio i ddarparu golygfan berffaith o awyr y nos.

Bydd y fan drydanol Renault Kangoo Z.E sydd ag ystod o 170 milltir, yn cynnwys offer seryddol, gan gynnwys telesgopau. 

Bydd staff AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn defnyddio’r fan i gynnal digwyddiadau cyhoeddus Awyr Dywyll ar draws yr ardal leol i roi cyfle i bobl fwynhau awyr naturiol y nos.  

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor:  “Mae gennym awyr y nos anhygoel yn yr ardal leol a bydd y fenter hon yn gymorth i gael pobl yn agosach at yr awyr drwy gyfleuster gwych y fan Awyr Dywyll.

“Rydym yn gallu cynnig cyfle i bobl edrych yn fanylach ar y cytserau a phlanedau gyda’r gobaith o gynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn a gan gadw golwg ar ddigwyddiadau seryddol o bwys fel cawod sêr gwib Perseid ym mis Awst a Geminids yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau seryddol i gynorthwyo pobl i ganfod y prif gytser yn yr awyr - maent hefyd yn adrodd hanes rhai o chwedlau Cymru sy’n gysylltiedig â’r cytserau a’u henwau Cymraeg.  

 https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/wp-content/uploads/2019/11/Dark-Skies-Pocket-Guide-Web-Final.pdf

Loggerheads yn cael gwobr am amddiffyn awyr y nos

Mae prosiect i droi man harddwch yn barth cyfeillgar i awyr dywyll wedi ennill gwobr.

Mae goleuadau allanol ym Mharc Gwledig Loggerheads yn Ardal o Harddwch Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael eu newid i wella ansawdd awyr y nos yn yr ardal.

Enillodd y gwaith y Wobr Goleuadau Da gan y Comisiwn Awyr Dywyll, sefydliad sy’n ceisio gwarchod ansawdd ein hawyr nos.

Mae'r goleuadau LED, sy'n gweithredu ar synhwyrydd mudiant, wedi'u cysgodi'n llawn felly nid oes unrhyw ollyngiad i fyny ac mae golau'n cael ei gyfeirio i'r man lle mae ei angen yn unig.

Wedi’u dylunio’n fewnol gan Beiriannydd Goleuadau Sir Ddinbych, Graham Mitchell, mae’r goleuadau LED yn fwy effeithlon na goleuadau traddodiadol ac mae tymheredd y lliw yn olau melynach meddalach.

Mae'r gwaith yn Loggerheads yn dangos nad yw amddiffyn ein awyr nos yn golygu diffodd ein goleuadau - mae'n golygu cael y swm cywir o olau wedi'i gyfeirio'n ofalus at y lleoedd y mae ei angen arnom, ar yr adegau y mae ei angen arnom. Dangoswyd bod goleuadau gwael, yn enwedig y golau glas/gwyn llym sy'n aml yn gysylltiedig â LEDs, yn cael effaith drychinebus ar fioamrywiaeth trwy amharu ar batrymau ymddygiad pryfed sy'n cael effaith gynyddol ar draws yr ecosystem, tra dangoswyd bod llygredd golau hefyd yn cael effaith negyddol ar ein hiechyd corfforol a meddyliol ein hunain. Mae golau gwael yn cael effaith mor negyddol ar ein bioamrywiaeth a’n hansawdd bywyd ein hunain ac eto mae’n gymharol hawdd ei wneud yn iawn.

Mae'r prosiect hefyd wedi dangos, er bod goleuadau diogelwch traddodiadol yn gallu creu llacharedd a chysgodion, gall llai o olau, wedi'i gyfeirio'n gywir fod yn llawer mwy effeithiol - ac yn well i'r amgylchedd.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn y broses o wneud cais am statws Cymuned Awyr Dywyll gyda’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.

Byddai statws Awyr Dywyll yn helpu i warchod awyr y nos, yn hyrwyddo dyluniad goleuo da yn yr AHNE ac yn darparu cyfleoedd i seryddwyr, selogion a sylwedyddion achlysurol weld awyr y nos yn ei holl ogoniant.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/dark-skies/

 

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Mae ymweld â chefn gwlad yn cynnig nifer o fuddion i’n hiechyd a’n lles

Ers sawl blwyddyn mae gwasanaeth cefn gwlad Sir Ddinbych wedi mynd i’r afael â safleoedd ar gyrion trefi, mae’r gwaith parhaus i ddod â chadwraeth at stepen drws y cyhoedd wedi arwain at gyfres o safleoedd o amgylch y trefi yng Ngogledd y sir sy’n cynnig cyfleoedd i bawb ymgysylltu â Natur.

Pan gyhoeddwyd y cyfnod clo cyntaf oherwydd Covid, daeth i’r amlwg bod angen ymarfer yn lleol, trwy gau’r meysydd parcio a chadw’r safleoedd a reolir gan y Gwasanaeth Cefn Gwlad ar agor, roedd modd i breswylwyr lleol fwynhau’r awyr agored a’r bywyd gwyllt wrth deithio ar droed mewn modd gwyrdd a chyfrifol. Drwy gydol y cyfnod clo, roedd sawl grŵp ar gyfryngau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar fywyd gwyllt yn adrodd eu bod wedi gweld pethau yn y safleoedd ar gyrion y trefi y byddai gwarchodfeydd natur sefydledig yn falch ohonynt.

O’r dolydd blodau gwyllt hardd sy’n bwydo’r gloÿnnod byw a’r gwenyn ym Mhwll Brickfield i’r Picellwr Praff yng ngwarchodfa natur leol Rhuddlan yn brwydro am y lleoliad gorau ar y dŵr, mae natur yn gallu denu sylw pobl o bob oedran.

Mae hygyrchedd y safleoedd hyn yn ased ond oherwydd rheoli cynaliadwy mae’r rhai sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt yn gallu canfod rhywogaethau prin iawn, mae gwylwyr adar wedi llunio rhestr o dros 60 o rywogaethau ym Mhwll Brickfield, gellir clywed teloriaid y gwair yng Nghoed y Morfa, Prestatyn ac mae Twyni Gronant yn gartref i rai o’r amffibiaid, ymlusgiaid ac adar y môr prinnaf yn y DU.

Gobeithir mai un o’r ychydig elfennau positif a geir o’r profiad cyfan o ymdopi â’r pandemig, yw y bydd pobl yn parhau i ymweld â gwarchodfeydd natur lleol gan ymddiddori mewn bywyd gwyllt ar eu stepen drws a defnyddio’r coridorau gwyrdd amryfal i werthfawrogi cynefinoedd a rhywogaethau gwahanol sy’n ffynnu o ganlyniad i ymdrechion cadwraeth trefol lleol.

Jim Kilpatrick - Uwch Geidwad Cefn Gwlad, Gogledd Sir Ddinbych

Priffyrdd

Rhaglen Briffyrdd 2022/23

Roedd Rhaglen Priffyrdd ar gyfer 2021/22 yn cynnwys gwaith sylweddol ar draws y sir, ac rydym wedi cwblhau gwaith mewn dros ugain o leoliadau. Mae tri chynllun wedi cael ei symud i 2022/23 oherwydd eu cyfuno a gwaith arall yn yr ardal er mwyn cael gwell gwerth am arian ac i leihau amhariad.

Mae’r cynnydd yn y dyraniad eleni i £4 miliwn wedi ein caniatau i adolygu ein dull i’r rhaglen ail-wynebu, gan roi cyfle i ni gynnwys llawer mwy o ffyrdd llai, nad ydynt wedi gallu gwneud yn flaenorol. Mae’r gyllideb sydd ar gael wedi paru gyda’r ffyrdd sydd angen y gwelliant fwyaf, mae lleoliadau eleni wedi eu rhestru ar dudalen gwe Rhaglen Ail-wynebu Ffyrdd 2022-23. Rydym dal yn y broses o gadarnhau dyddiadau gyda’n contractwyr a bydd y rhain yn cael eu cynnwys ar y dudalen gwe ar ôl eu cadarnhau.

Yn ogystal â’r gwaith sylweddol hyn, mae ein tîm mewnol yn cyflawni gwaith gwella. Mae’r rhain yn cynnwys cau ffyrdd fel y gall gwaith cyweirio, draenio a gwaith ategol eraill gael eu cyflawni, i arwain at welliannau hir dymor. Yn ogystal rydym yn dosbarthu ein peiriant Jetpatcher sydd wedi bod yn gweithio yn ardaloedd Tremeirchion a Chyffylliog yn ddiweddar.

Y Tîm Priffyrdd

Y Tîm Priffyrdd sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio 1,400 cilometrau o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Gall hyn amrywio o atgyweirio tyllau yn y ffordd i gynlluniau ail-wynebu sydd yn costio dros £300,000.

Pan fydd problem yn cael ei gyflwyno, byddwn yn sicrhau bod y broblem yn cael ei asesu a’i wneud yn ddiogel os bydd angen, cyn cyflawni unrhyw waith angenrheidiol. I roi gwybod am broblem, defnyddiwch y ddolen gwe hon https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/adroddiad-ar-fater/adroddiad-ar-fater.aspx

Ein Tirlun Darluniaidd

Croeso gwell i ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol, Llantysilio

Ar ôl chwe mis o baratoi mae’r ardal o amgylch y tŷ mesur yn Rhaeadr y Bedol wedi cael ei thrawsnewid i greu croeso gwell i ymwelwyr.

Mae cwt y fforddoliwr a’r sied estyll atal wedi cael eu hadfer yn llawn ac mae panel dehongli wedi cael ei osod, mae’r rheiliau a’r pibelli ar y tŷ mesur wedi cael eu rhwbio a’u hail-baentio ynghyd â gosod rheiliau eraill o amgylch yr ardal. Cafodd y gwaith ei gyflawni gan y prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sy’n gynllun partneriaeth tirwedd wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi’i leoli yn Nyffryn Dyfrdwy a’i gefnogi gan Glandŵr Cymru.

Mae’r gwaith wedi bod yn bosibl gan gronfa gyfalaf y Pethau Pwysig gan Lywodraeth Cymru, sy’n cefnogi awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol i ddarparu gwelliannau a fydd yn elwa cymunedau ac ymwelwyr, gyda phrosiectau cefnogi i helpu lliniaru pwysau mewn ardaloedd sy’n gweld cynnydd yn niferoedd yr ymwelwyr.

Meddai Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy: “Diolch i arian gan Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r ardal o amgylch y tŷ mesur wedi ei drawsnewid i greu croeso gwell i ymwelwyr.

Er mwyn dathlu hyn, fe wnaethom agor Cwt y Fforddoliwr i’r cyhoedd yn ffurfiol am y tro cyntaf.  Mae wedi cau ers nifer o flynyddoedd ac ar ôl ei adfer yn llawn, mae wedi cael ei addurno a’i ddodrefnu fel petai’r fforddoliwr a fyddai’n gyfrifol am gynnal a chadw’r rhan honno o’r gamlas, wedi mynd allan i’w waith ac y byddai’n ôl yn fuan!  Gellir dod o hyd i Gwt y Fforddoliwr gyferbyn a’r tŷ mesur ar lwybr tynnu’r gamlas.

Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i’w agor, ac wrth symud ymlaen, os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn helpu, cysylltwch â ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk  neu ffoniwch 01824 706163."

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ymwybodol iawn o’r rôl bwysig mae amwynderau twristiaeth lleol yn ei gael ar brofiad cyffredinol rhywun pan maent yn mynd allan am ddiwrnod neu fynd ar wyliau. Yn aml, nid yw pobl yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan maent yn ymweld â Chymru, ac maent hefyd yn elwa’r rhai sy’n byw yn yr ardal.”

Wedi’i ddodrefnu fel petai’r fforddoliwr ar ei ffordd yn ôl ar unrhyw foment!

CEFNDIR Y PROSIECT

Mae’r prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Mae ymwelwyr wedi’u hysbrydoli gan y dyffryn prydferth hwn ar ffurf celf a barddoniaeth ers y 18fed ganrif, ac mae’n parhau i ddenu twristiaid sy'n chwilio am yr aruchel.

Mae’r dirwedd hon o dan bwysau mawr, gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu denu at yr hyn sy’n aml yn cynnwys ein safleoedd mwyaf bregus. Mae’r cymunedau ar ei charreg drws, a ddaeth i fod o ganlyniad i’r ymdrechion diwydiannol a’i siapiodd, bellach â llai o gyswllt â'r buddion a gyflwynir gan y dirwedd. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a'i reolaeth, wrth ail-ddehongli'r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Mae prosiectau wedi cael eu datblygu o dan 3 thema – Gwarchod y Tirwedd Darluniadwy, Cael Mynediad at y Tirwedd Darluniadwy, Pobl a’r Tirwedd Darluniadwy.

Caiff y prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy' ei hariannu’n bennaf gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Prosiect partneriaeth yw hwn a ddatblygwyd ar y cyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Amwythig, Glandŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/our-picturesque-landscape-project/

Dilynwch ni ar Facebook @Clwydian Range and Dee Valley  

Dilynwch ni ar Twitter ac Instagram @Clwyd_Dee_AONB a ddefnyddiwch #EinTirlunDarluniadwy

Cysylltwch â ni ar  ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk  

 

YNGHYLCH CRONFA DREFTADAETH Y LOTERI

Gan ddefnyddio’r arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, arwain ac yn cyllido treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol ar gyfer pobl a chymunedau, rŵan ac yn y dyfodol. www.HeritageFund.org.uk  

Dilynwch ni ar Twitter, Facebook a Instagram a defnyddiwch hashnodau #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol

Mae Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy i wella mynediad at gyrchfannau allweddol Dyffryn Dyfrdwy wedi ailddechrau

Mae Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn rhedeg eto eleni i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn mynd ar daith gylchdro bob dydd Sadwrn o fis Mai hyd at fis Hydref 2022 ac mae’n cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos ag atyniadau poblogaidd lleol fel Dyfrbont Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wernffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Tŷ Hanesyddol Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Mae’r gwasanaeth hwn yn annog pobl i ymweld â'r atyniadau allweddol yma heb angen car a lleihau’r angen am fannau parcio, ei gwneud hi’n haws i’r rheiny heb gar deithio i’r llefydd yma a helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy.   Ystyriwch barcio mewn rhai o’r meysydd parcio mwyaf fel yn Wenffrwd a mynd ar y bws am ymweliad i rai o’r lleoliadau mwyaf prysur neu ar gyfer taith hirach. Dewis gwych fyddai parcio yn y prif faes parcio Stryd y Frenhines Dyfrbont Pontcysyllte, Cefn Mawr, ewch ar y bws i Raeadr y Bedol a cherdded yn ôl ar hyd y gamlas. Bydd y gwasanaeth hefyd yn rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr archwilio’r ardal ehangach. Mae’r bws yn cynnig cyfleuster camu ymlaen a chamu i ffwrdd gyda phris tocyn 1Bws yn caniatau teithio diderfyn drwy’r dydd yn ei gwneud yn ddelfrydol i gamu oddi ar y bws i ymweld â safle ac yna yn ôl ar y bws yn hwyrach.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte.

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ddydd Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn 7 Mai tan ddydd Sadwrn 29 Hydref 2022. I weld yr amserlen lawn a phrisiau’r tocynnau ar gyfer y Gwasanaeth Bws Darluniadwy, ewch i dudalen we Amserlenni Bysiau Sir Ddinbych, gwefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.

https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/y-bws-darluniadwy/?lang=cy

https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/amserlenni-bws/amserlenni-bws.aspx

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/1bws.aspx

Meddai Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth prosiect Ein Tirlun Darluniadwy:

“Mae’n bleser gennym ni groesawu Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy am ail flwyddyn. Rydym yn falch iawn y bydd y gwasanaeth hwn yn gallu rhedeg ar y capasiti 16 sedd llawn yn dilyn y pandemig.   Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych rydym ni wedi gallu sicrhau bod y gwasanaeth yn ategu’r ddarpariaeth cludiant cyhoeddus bresennol. Mae cysylltu ag amserlenni bysiau o Gorwen a Wrecsam yn gwneud y Gwasanaeth Bws Darluniadwy yn ddewis da ar gyfer mynd am dro yn yr ardal.   Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Gronfa Treftadaeth y Loteri am wneud y gwasanaeth yma’n bosibl, ac rydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddiant ysgubol ac yn etifeddiaeth go iawn gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy.”

Eisteddfod yr Urdd

Arddangos doniau creadigol yn yr Urdd

Bu 11 o ysgolion o Ddinbych a’r cyffiniau yn cymryd rhan mewn prosiect celf a grewyd i ddatblygu sgiliau Cymraeg y disgyblion trwy’r celfyddydau ac i ddatblygu eu gwybodaeth o’u diwylliant a’u hanes lleol.

Ariannwyd y prosiect gan GwE (y consortia addysg rhanbarthol) a’i arwain gan Ffion Hughes o Ysgol y Parc ar ran eu clwstwr ysgolion, mewn cydweithrediad â thîm Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf. Yna rhannwyd y patrymau iaith Gymraeg a ddatblygwyd yn ystod y sesiynau hyn rhwng yr ysgolion er mwyn gwella safonau Cymraeg y staff a’r disgyblion ar draws y clwstwr.

Yr ysgolion a gymerodd ran yn y prosiect oedd: Ysgol y Parc, Ysgol Frongoch, Ysgol Pendref (i gyd yn Ninbych i gyd), Ysgol Gynradd Llanelwy, Ysgol y Santes Ffraid (Dinbych), Ysgol Bodfari, Ysgol Cefn Meiriadog, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Esgob Morgan (Llanelwy), Ysgol y Faenol (Bodelwyddan) ac Ysgol Trefnant.

Roedd yr arddangosfa i’w gweld ym mhabell y Cyngor ar faes Eisteddfod yr Urdd.

Bu disgyblion yn gweithio gyda’r artistiaid proffesiynol Eleri Jones a Catrin Williams dros gyfnod o dri mis rhwng Ionawr a Mawrth 2022. Bu Catrin Williams yn archwilio adeiladau gwych tref hanesyddol Dinbych, gyda’r disgyblion wedyn yn creu trefluniau hynod o liwgar gyda Dinbych yn ysbrydoliaeth iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae hwn yn brosiect gwych sydd wedi rhoi’r cyfle i ddisgyblion o nifer o ysgolion lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt gymryd rhan weithredol yn yr Eisteddfod mewn modd greadigol a deniadol."

Dywedodd Sian Fitzgerald, Rheolwr Celfyddydau Cymunedol gyda thîm Cymunedau Actif Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Wrth weithio gydag Eleri Jones bu’r disgyblion yn edrych ar ddelweddau o ffigurau hanesyddol sydd wedi cyfrannu mewn llawer o wahanol ffyrdd at ddefnydd parhaus o’r Gymraeg. Buont yn edrych ar ffigyrau o’r Celtiaid i Dafydd a Llywelyn ap Gruffydd ac Owain Glyndwr, i ffigyrau hanesyddol Sir Ddinbych fel y dramodydd Twm o’r Nant, y nofelydd Kate Roberts a’r reslwr Orig Williams.

“Fe greodd y plant a’r bobl ifanc blatiau print colograff unigol o bortreadau o bobl Sir Ddinbych, yn ogystal â rhai portreadau ohonyn nhw eu hunain. Cafodd y rhain eu defnyddio ar ben delweddau o adeiladau Sir Ddinbych a grëwyd gan y disgyblion fu’n  gweithio gyda Catrin, i greu’r gweithiau celf gorffenedig a welwch yma heddiw”.

Yn Sir Ddinbych, mae prosiectau celfyddydau cymunedol yn cael eu rheoli gan Wasanaeth Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf. I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau yn Sir Ddinbych, cysylltwch â Jo McGregor ar 07799 582766 / jo.mcgregor@denbighshireleisure.co.uk neu Sian Fitzgerald ar 07717540857 / sian.fitzgerald@denbighshireleisure.co.uk.

Eisteddfod yr Urdd arbennig yn gadael gwaddol

Mae'r Cyngor wedi bod yn edrych yn ôl ar lwyddiant Eisteddfod yr Urdd a’r gobaith yw y bydd y digwyddiad mawr yma’n gadael gwaddol yn y sir ar gyfer pobl ifanc, y Gymraeg a’r economi leol am amser maith.

Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal ar safle Fferm Kilford ar gyrion Dinbych yn ystod hanner tymor Sulgwyn (30 Mai tan 4 Mehefin), ddwy flynedd yn ddiweddarach na’r dyddiad gwreiddiol oherwydd Covid.

Rŵan, mae’r Cyngor wedi bod yn edrych ar lwyddiant yr Eisteddfod a sut mae’r sir, yn cynnwys plant a phobl ifanc, wedi elwa ohoni.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan: “Roedd hwn yn gyfle rhagorol i ddangos Sir Ddinbych fel lle gwych i bobl ymweld ar wyliau ac ymweld am y diwrnod, yn ogystal â bod yn gyfle gwych i’n plant a’n pobl ifanc ni.

“Roedden ni’n falch iawn o weithio gyda’r Urdd a chymunedau lleol i wneud yr Eisteddfod yma’n un i’w chofio ac mae’r ffaith ei bod wedi torri record am y niferoedd yn dweud cyfrolau am faint o waith ac ymdrech oedd ynghlwm â chynnal digwyddiad mor fawr.

“Roedd Sir Ddinbych i’w gweld a’i chlywed ar deledu, radio a chyhoeddiadau cenedlaethol ac ar y cyfryngau ar-lein ac roedd wir yn rhoi cyfle i’r sir hyrwyddo ei hatyniadau, ei threfi a’i phentrefi hanesyddol a’r doreth o fusnesau sydd yma.

“Wrth gwrs, mae’r sector llety i dwristiaid wedi elwa’n fawr o gynnal yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych, ac roedd nifer o fusnesau’n dweud eu bod yn llawn yn ystod yr wythnos. Y gobaith yw y bydd busnesau eraill wedi cael wythnos lwyddiannus ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld canlyniad gwaith ymchwil a fydd yn dangos sut mae’r ardal wedi elwa’n economaidd o gynnal yr Eisteddfod.”

Roedd gan Sir Ddinbych fwy o gystadleuwyr nag unrhyw sir arall drwy Gymru gyfan. Cafodd cannoedd o blant a phobl ifanc gyfle i ddangos eu doniau mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau, yn cynnwys canu, llefaru, drama, dawns, cystadlaethau grŵp, celf a chrefft a llawer mwy.

Bu dros ddau gant o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn dwy sioe a noddwyd gan y Cyngor. Cafodd sioe ‘Fi ’di Fi’ ei hysgrifennu a’i chynhyrchu gan Angharad Beech ac Ynyr Llwyd, y ddau gynt o Brion ac yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd. Bu cast o ddisgyblion o Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Brynhyfryd yn serennu ar y llwyfan o flaen pafiliwn oedd dan ei sang.  

Roedd cyngerdd ysgolion cynradd ‘Ni yw y Byd’ yn cynnwys perfformiadau o glasuron Cymraeg a chaneuon roc a phop poblogaidd. Bu dros 150 o ddisgyblion o bob cwr o’r sir yn perfformio rhai o’r clasuron yma, gan ymuno gyda’i gilydd i berfformio ‘Hei Mistar Urdd’ i gloi’r cyngerdd.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg a Gwasanaethau Plant: “Roedd hwn yn brofiad mor wych i’n plant a’n pobl ifanc ni. Mi wnaeth yr ysgolion ac aelwydydd yr Urdd wneud ymdrech aruthrol yn y cystadlaethau ac roedd Sir Ddinbych yn un o’r siroedd oedd yn perfformio orau yn gyson drwy gydol yr wythnos.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn mae’r pobl ifanc yma wedi’i gyflawni ac o gefnogaeth eu rhieni, eu gwarcheidwaid a’r rhai sydd wedi treulio oriau lawer yn eu hyfforddi nhw i fod yn barod at y llwyfan cenedlaethol. Bydd gweld gynyrchiadau mor arbennig â’m llygaid fy hun a chael ymdeimlad o’r balchder roedd y cynulleidfaoedd yn ei deimlo’n aros gyda mi am amser maith.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Cabinet Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ffordd wych o ddangos y Gymraeg a diwylliant Cymru a’r cyfleoedd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

“Mae angen i ni sicrhau bod ymroddiad yr Urdd, Cyngor Sir Ddinbych a gwaith arbennig y pwyllgorau codi arian yn gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill ledled y sir i edrych ar y ffordd orau o fanteisio ar y don newydd yma o ddiddordeb yn yr iaith a pharhau i ddarparu cyfleoedd i gymunedau ei defnyddio.”

Dyma gipolwg byr ar yr hyn a ddigwyddodd i ni yn ystod yr wythnos

Beth sydd ymlaen

Sioe Awyr Y Rhyl 2022

Mae Sioe Awyr y Rhyl yn ôl yr haf hwn gyda rhaglen arbennig, gan gynnwys perfformwyr o safon fyd-eang yn ystod dau ddiwrnod Gŵyl y Banc mis Awst.

Am y tro cyntaf yn hanes Sioe Awyr y Rhyl, mae’r Saethau Cochion a’r Typhoon wedi cadarnhau arddangosiadau awyr ar gyfer 27 a 28 Awst.

Mae’r sioe awyr arobryn yn prysur ddod yn ddigwyddiad glan môr AM DDIM mwyaf Gogledd Cymru a bydd sioe 2022 yn cynnwys arddangosfeydd awyrol ysblennydd gyda atyniadau ac adloniant ar y tir hefyd

Bydd y Sioe Awyr yn cael ei chynnal dros benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst, gyda mwy o fanylion i ddilyn am y digwyddiad maes o law.

Mae Tîm Arddangos Lancaster, Grob Tutor a dau Spitfire hefyd wedi’u cadarnhau am y ddau ddiwrnod, gan sicrhau dwywaith y cyffro dros y penwythnos cyfan.

Am mwy o wybodaeth ewch i gwefan Hamdden Sir Ddinbych >>> https://denbighshireleisure.co.uk/cy/sioe-awyr-rhyl/

Nodweddion

Swyddfa Gofrestru Rhuthun wedi symud

Mae Swyddfa Gofrestru Rhuthun wedi symud o Neuadd y Dre Rhuthun, i Neuadd y Sir.

Bydd gwesteion sy’n mynychu’r seremoniau yn mynd i mewn i Ystafell Menlli trwy’r cwrt. 

 

Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Bwyty 1891 yn ailagor

Mae Bwyty a Bar 1891 wedi ailagor ei ddrysau ar gyfer bwyta cyn y theatr ac ar gyfer cinio dydd Sul.

Yn dilyn y llifogydd dinistriol ym Mhafiliwn y Rhyl y llynedd, mae llawer o waith adnewyddu wedi cyflwyno gwedd newydd sbon i fwyty a bar 1891 ac mae bellach yn barod i agor i’r cyhoedd.

Gyda’r golygfeydd machlud ar lan y môr yn ymestyn o Landudno'r holl ffordd i fyny arfordir Gogledd Cymru, ailwampio’r bwyty bendigedig, blasau newydd y fwydlen theatr a’u ciniawau dydd Sul enwog, bydd hi’n anodd dod o hyd i brofiad bwyty arall yn y wlad fel 1891 yn Y Rhyl.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Roeddem wedi ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd i’n bwyty blaenllaw hardd ym 1891, a dweud y lleiaf! Fodd bynnag, yng ngwir arddull Hamdden Sir Ddinbych Cyf, rydym wedi dod â 1891 yn ôl hyd yn oed yn well nag o'r blaen, gydag arddull newydd cain a soffistigedig, gan gynnwys bwyty mwy cartrefol. Bydd ein bwyty gyda’r golygfa-môr ar y llawr cyntaf sydd newydd ei addurno a’i adnewyddu’n hyfryd yn agor gyda bwydlen newydd syfrdanol, wedi’i dylunio’n arbennig gan ein Prif Gogydd. Ni allwn aros i groesawu cwsmeriaid yn ôl ar gyfer ein ciniawau dydd Sul enwog a’n ciniawa cyn theatr yr haf hwn!”

Gydag ardal eistedd gartrefol newydd, goleuadau newydd, dodrefn godidog ac ardal bar wedi’i dylunio’n wych, mae bwyty 1891 yn lleoliad perffaith i’r teulu cyfan, p’un a ydynt yn chwilio am ginio dydd Sul neu damaid blasus i’w fwyta cyn sioe ym Mhafiliwn y Rhyl.

Tu allan i 1891, mae’r Teras 1891 yn prysur ddod yn lle i fod ar arfordir y Rhyl, gyda golygfeydd godidog, tapas blasus a choctels yn rhoi naws hafaidd bendigedig, mae’n le perffaith i ymlacio a dadflino ar ôl wythnos brysur.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu bwrdd ewch i 1891rhyl.com.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid