Lleoli Swyddog Cefnogi Gweinyddol
Cafodd 'Joe' ei leoli fel Swyddog Cefnogi Gweinyddol. Dyma hanes Joe:
Drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, cefais wybod am Sir Ddinbych yn Gweithio. Siaradais ar y ffôn â mentor o Sir Ddinbych yn Gweithio gyda’r nod o ddod o hyd i swydd yn y Sector TG. Cyn pen dim roeddent wedi gofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn ymgeisio am swydd Weinyddol drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio. Yn naturiol, dywedais fod gen i ddiddordeb yn y rôl gan ei fod yn gyfle da i gael profiad gwaith hanfodol mewn amgylchedd swyddfa.
Gan mai hon oedd fy swydd gyntaf mewn swyddfa, roeddwn yn bryderus am ddechrau swydd, ar ben hynny, dechreuais mewn cyfnod pan oedd mwy na deg mil o achosion o Coronafeirws y dydd yn y DU. Roeddwn yn poeni am y swydd ei hun ond hefyd am fod o gwmpas pobl eraill. Drwy gydol fy amser ar leoliad, rwyf wedi cael fy nghefnogi’n uniongyrchol gan fy nghydweithwyr yn ogystal â’m Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio.
Mae fy nghydweithwyr wedi fy helpu i ddeall y swydd yn ogystal â sut maent yn gweithredu’n effeithiol mewn tîm, maen nhw wedi gwneud i mi deimlo’n barod am waith. Mae fy Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio wedi fy helpu i olrhain fy nghynnydd yn y swydd yn ogystal â rhoi clust i wrando pe bai angen.
Y peth gwych am y swydd Dechrau Gweithio yw ei bod wedi fy helpu i gael profiad gwaith gwerthfawr fel fy mod yn barod am y cam nesaf yn fy ngyrfa, sef yn union beth oeddwn ei eisiau o’r swydd. Es i’r coleg i wneud TG ac rwyf wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ymgeisio am swyddi yn y sector TG. Roeddwn wedi tueddu’n flaenorol i fynd drwy’r cyfweliad cyntaf ac yna ar ôl yr ail gyfweliad, cael gwybod eu bod yn fy hoffi ond bod gan rywun arall fwy o brofiad. Mae’r swydd hon wedi fy rhoi mewn amgylchedd swyddfa a phrofi gweithio mewn tîm, ac wedi rhoi hyder i mi wybod y gallaf gyflawni beth bynnag rwyf yn rhoi fy mryd arno. Tuag at ddiwedd fy lleoliad cefais wahoddiad i gyfweliad ar gyfer swydd TG ac wedi’r ail gyfweliad cefais gynnig y swydd. Rwyf yn rhoi’r clod am hyn i’r Cynllun Dechrau Gweithio am ganiatáu i mi gael y profiad roeddwn yn chwilio amdano.
Byddwn wir yn argymell i bobl gymryd mantais o’r Cynllun Dechrau Gweithio gan ei fod yn caniatáu i chi eich datblygu eich hun mewn amgylchedd cefnogol a charedig. Rwyf wir yn credu fod y cyfle hwn wedi bod yn brofiad positif sydd wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus a gwneud i mi deimlo fy mod yn ôl ar y trywydd iawn tuag at yr hyn rwyf eisiau ei gyflawni.
Ffair Yrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio’n llwyddiant mawr
Ymunodd Sir Ddinbych yn Gweithio â 38 o sefydliadau a chyflogwyr o bob rhan o’r sir i gynnal digwyddiad rhwydweithio rhad ac am ddim i unigolion sy’n chwilio am waith.
Daeth dros gant o bobl 16 oed a throsodd i’r ffair yn y Rhyl, yn cynnwys teuluoedd o Wcráin sydd wedi dod i Sir Ddinbych fel rhan o Gynllun Adsefydlu’r DU.
Nod gwasanaeth Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor yw cydlynu’r math o gymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith drwy chwalu rhwystrau. Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu’n rhannol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Chanolfan Byd Gwaith.
Y weledigaeth ehangach yw lleihau tlodi drwy alluogi unigolion i gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau a fydd yn eu cefnogi ar eu taith i gyflogaeth, i gadw eu swyddi a datblygu unwaith y maent mewn gwaith.
Roedd nifer o swyddogion Sir Ddinbych yn Gweithio yn y digwyddiad i roi cyngor am gyflogaeth ac i gyfeirio pobl at fframwaith Sir Ddinbych yn Gweithio a fydd yn rhoi cefnogaeth iddynt tan iddyn nhw ddod o hyd i waith.
Roedd mentor ffoaduriaid arbenigol hefyd yn bresennol i gefnogi unigolion sy’n wynebu rhwystrau cyflogaeth ieithyddol a diwylliannol a bydd y mentor yn parhau i gefnogi’r unigolion hyn.
Roedd 90% o’r bobl a roddodd adborth am y digwyddiad yn dweud ei fod naill ai’n dda neu’n rhagorol.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rydw i wrth fy modd â llwyddiant y digwyddiad hwn a bod cymaint o bobl wedi manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan Sir Ddinbych yn Gweithio.
“Dyma yw diben Sir Ddinbych yn Gweithio - helpu pobl. Mae’r Cyngor yn hynod o falch o’r gwasanaeth hwn sy’n anelu at drechu tlodi drwy gyflogaeth.
“Gyda’r cynnydd mewn costau byw, mae hi’n bwysicach nag erioed i ni fel awdurdod lleol roi’r gefnogaeth rad ac am ddim yma ble bynnag y gallwn.”
Mae cynlluniau ar gyfer y ffair yrfaoedd nesaf ar y gweill a disgwylir y bydd yn cael ei chynnal ym mis Medi 2022.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio ewch I https://www.denbighshire.gov.uk/en/jobs-and-employees/working-denbighshire/working-denbighshire.aspx neu i gael cymorth â chyflogaeth ewch i https://working.denbighshire.gov.uk/
Prosiect Barod: Digwyddidau ym mis Mai
Ym mis Mai, trefnwyd tri digwyddiad sef; mynd i’r Sinema, taith gerdded dditectif ac ymweld â Sw Mynydd Cymru.
- Cafodd y Sinema ei ddewis gan ei fod yn gyfle i gyfranogwyr gwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd heb lawer o bwysau. Roedd amgylchedd y sinema yn caniatáu i gyfranogwyr siarad â phobl newydd, trafod diddordebau cyffredin a gwneud ffrindiau, heb y pwysau o orfod siarad am gyfnodau hir. Roedd cwrdd â phobl newydd yn y dull hwn yn lleihau teimladau o orbryder wrth gwrdd â phobl newydd ac yn annog y cyfranogwyr i fynychu mwy o ddigwyddiadau a sesiynau cwrs Argoed.
- Dewiswyd y Daith Gerdded Dditectif gan ei fod yn weithgaredd hwyliog a oedd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr weithio ar sawl sgil bywyd megis; bod yn benderfynol, cadw amser, gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau. Bu’r gweithgaredd yn llwyddiant ac fe gyfathrebodd y cyfranogwyr yn dda gyda’i gilydd i ddatrys pob cliw ac fe lwyddont i ddatrys y cod! Magodd hyn hyder y cyfranogwyr a rhoddodd ymdeimlad o lwyddiant iddyn nhw.
- Dewiswyd y Sw gan fod nifer o gyfranogwyr wedi mynegi diddordeb mewn anifeiliaid, a rhai o bosibl yn ystyried gyrfaoedd yn ymwneud ag anifeiliaid hefyd. Nod yr ymweliad hwn yw meithrin hyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gan y byddwn yn defnyddio gwasanaethau trên a thacsi. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i gyfathrebu a chefnogi ei gilydd, a bydd staff yn annog cyfranogwyr i siarad ag aelodau o staff y sw, i’w galluogi i ystyried gwahanol ddewisiadau gyrfaol.