Newyddion
O Dnipro i Sir Ddinbych
Ym mis Chwefror 2022, cychwynnwyd yr ymosodiad llawn ar Wcráin gan Rwsia yn swyddogol, gan adael Wcrainiaid oedd yn agos at yr ymladd dan fygythiad cyson. Roedd tua 8 miliwn o Wcrainiaid wedi’u dadleoli o fewn eu gwlad erbyn mis Mehefin, ac roedd mwy nag 8.2 miliwn wedi ffoi o'r wlad erbyn Mai 2023. Mae'r ymladd wedi achosi'r argyfwng ffoaduriaid a dyngarol mwyaf yn Ewrop ers y 1990au, gyda llawer o wledydd yn cynnig hafan ddiogel i Wcrainiaid, gan gynnwys Cymru.
Mae Oksana, sy’n 26 oed, yn un o’r bobl sydd wedi dod o hyd i ddiogelwch yng Nghymru, ac sydd bellach yn byw gyda noddwr yn Sir Ddinbych. Daw Oksana o bentref sy'n agos at Dnipro, sydd ger rhanbarth Donbas ac mae'n un o ddinasoedd mwyaf Wcráin.
Astudiodd Oksana systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol yn y coleg yn Dnipro a gweithiodd fel dadansoddwr systemau yn y ddinas am 4 blynedd. Mae hi bellach yn gweithio yng Nghyngor Sir Ddinbych ac mae ar leoliad 12 wythnos fel Swyddog Cefnogi Newid yn yr Hinsawdd, yn helpu i brosesu data newid yn yr hinsawdd pwysig.
Nid oedd gan Oksana unrhyw fwriad i roi'r gorau i'w chartref yn Wcráin. Fodd bynnag, pan darodd roced stryd gyfagos, gan achosi cryndod pwerus a achosodd i bopeth syrthio ar ei chwpwrdd wrth y gwely, sylweddolodd yn sydyn fod y rhyfel wedi cyrraedd ei stepen drws. O ganlyniad, gwnaeth y penderfyniad i beidio â chymryd y risg o geisio symud i leoliad mwy diogel yn Wcráin. Yn ystod mis Ebrill 2022, dihangodd o'r Wcráin, tra dewisodd ei mam a'i chwaer aros yno.
Dywedodd: “Dydych chi ddim yn poeni am y rhyfel nes ei fod yn curo ar eich ffenestr. Ym mis Mawrth 2022, cefais fy neffro gan olau llachar y tu allan i'm ffenestr. Roced oedd o. Pan darodd, symudodd fy ngwely a syrthiodd popeth oddi ar fy nghwpwrdd wrth y gwely. Pan wyliom ni’r newyddion yn hwyrach y noson honno, dywedwyd bod y roced wedi taro tŷ fy nghymdogion, sydd ddim ond dwy funud i ffwrdd ar droed. Dwi dal methu credu ei fod yn digwydd. Heddiw rydw i'n deffro ac yn gwisgo ac mae fy Mam a'm chwaer yn dal i fod yno, ac mae'r rhyfel yn dal i fynd ymlaen”.
Trwy hap a damwain, daeth ar draws gwybodaeth ar-lein yn dweud bod Prydain yn croesawu ffoaduriaid o’r Wcráin trwy’r fenter ‘Cartrefi i’r Wcráin’. Darganfu hefyd ddynes o Wcráin ar Facebook a oedd wedi bod yn byw ym Mhrydain am gyfnod sylweddol. Llwyddodd i sicrhau noddwr iddi yng Nghymru.
Cysylltodd Oksana â’i noddwr, yr oedd wedi bod yn cyfathrebu â nhw drwy Facebook gan ddibynnu ar Google Translate am gymorth cyfieithu. Gyda'i gilydd, aethant ati i gasglu'r dogfennau angenrheidiol ac wrth i Oksana aros am ei fisa, sy'n cymryd tair wythnos i'w brosesu, gweithiodd i ennill rhywfaint o arian. Ynghanol sŵn y seirenau rhybudd, eisteddodd yn niogelwch neuadd a gweithio, gan aros yn bryderus am gymeradwyaeth ei fisa.
Gwelodd Oksana yn bersonol daflegrau yn cael eu tanio ym maes awyr Dnipro o falconi ei fflat. Wrth ddisgrifio’r profiad, dywedodd:
"Roedd yn teimlo fel golygfa hunllefus. Lansiwyd nifer o rocedi, a gallwn weld y cyfan o'm balconi. Roeddent fel tân gwyllt, fel rhywbeth allan o ffilm. Roeddwn yn poeni y gallai’r sefyllfa waethygu felly anfonais fideo at fy noddwr, yn dweud y gallai fy ymadawiad fod yn y fantol. Aeth fy noddwr gam ymhellach, gan helpu gyda phrosesu dogfennau a hyd yn oed gysylltu â’r radio lleol am gymorth”.
Oherwydd dinistr y maes awyr, bu'n rhaid i Oksana deithio i ochr arall Wcráin ar y trên i gyrraedd Gwlad Pwyl. Cymerodd y daith trên 24 awr ac aeth â hi i Lviv. Ar hyd y ffordd, daeth ar draws trên arall oedd wedi cael ei fomio, gan amlygu difrifoldeb y sefyllfa ymhellach.
Unwaith yn Lviv, aeth Oksana ar fws dros ffin Gwlad Pwyl i Warsaw. Yno, dywedodd ei bod mor hapus i weld gwirfoddolwyr, a oedd yn dosbarthu bwyd i'r Wcrainiaid oedd newydd gyrraedd:
“Roedden nhw'n dosbarthu cawl a ffrwythau. Roeddwn i mor hapus oherwydd prin fy mod wedi bwyta ers dau ddiwrnod, fedra i ddim esbonio pa mor hapus oeddwn i”.
Arhosodd Oksana yng Ngwlad Pwyl tra roedd hi'n aros i'w dogfennau fisa terfynol ddod drwodd. Daeth y dogfennau trwy lwc ychydig oriau cyn i'w hawyren adael am Lerpwl.

Dywedodd: "Y foment y glaniais, fe wnes i oedi i edmygu'r awyr rhuddgoch a'r machlud yn taflu ei llewyrch dros Lerpwl. Wedi fy swyno gan ei harddwch, fedrwn i ddim peidio â chipio’r olygfa mewn ffotograff. Yn fuan wedyn, fe wnaeth fy noddwr fy nghyfarch yn y maes awyr, yn dal arwydd mawr gyda fy enw arno, fy nghofleidio'n gynnes, a holi a oeddwn yn iawn”.

Ar ôl ymgartrefu yng Nghymru, cafodd Oksana waith mewn tafarn leol a chymerodd ran frwd mewn dosbarthiadau Saesneg.
Roedd ymweld â Llundain wedi bod yn freuddwyd hir ers ei phlentyndod, ac i wneud ei phen-blwydd yn arbennig iawn, fe wnaeth ei noddwyr ei synnu wrth drefnu ymweliad â'r brifddinas. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Gan adlewyrchu ar y sefyllfa, dywedodd Oksana:
"Roeddwn wedi bod yn dyheu am y freuddwyd hon ers fy mlynyddoedd cynnar, ond mae'n chwerwfelys sylweddoli ei bod wedi dod yn wir o dan y fath amgylchiadau".
Yn ogystal ag archwilio Llundain, mae hi wedi bod yn mynd ati i ddarganfod gwahanol rannau o'r DU, gan gynnwys taith ddiweddar i Ynys Wyth, gyda'i noddwr.
Wrth ddod i Gymru, dywedodd: “Fy hoff beth am fyw yng Nghymru yw’r ffaith fy mod yn ddiogel. Mae campfa fach yn y garej yr wyf yn hoffi ei defnyddio ac rwyf hefyd yn hoffi mynd am dro hamddenol, gan gipio eiliadau prydferth trwy ffotograffiaeth. Mae gardd yn nhŷ fy noddwr sydd mor brydferth, gyda blodau a hen goeden fawr. Fe wnes i hyd yn oed aildrefnu fy ystafell wely i gael golygfa ohoni. Mae gen i werthfawrogiad dwfn o fyd natur, ac mae Cymru’n cynnig cefndir ysblennydd i fy angerdd. Ar ben hynny, mae'r bobl yma yn wirioneddol garedig."
Bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynorthwyo Oksana i ddod o hyd i waith ac fe gyfeiriodd ei hun am gefnogaeth i gael gwaith a hyfforddiant. Neilltuwyd Tom fel mentor iddi a chyfarfu ag Oksana a'i helpu i ddod o hyd i leoliad gyda'r Cyngor lle mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Newid Hinsawdd a dywedodd: "Roeddwn i'n chwilio am swydd fel hon am gyfnod ac roedd y cyfweliad ar gyfer y lleoliad yn union flwyddyn o'r adeg y des i i Gymru gyntaf. Mae'n swydd debyg i'r hyn a wnes i yn yr Wcrain, rwy'n gweithio gyda data, ond mae'n ddata ychydig yn wahanol. Dwi'n hoffi'r swydd ac mae fy nhîm yn neis".
Bydd Sir Ddinbych sy'n Gweithio yn parhau i helpu Oksana i ddod o hyd i leoliadau eraill yn y dyfodol.
I ffeindio allan sut y gallwch helpu a chefnogi pobl Wcráin, ewch i'n gwefan.
Gwneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli
Mae tîm Ar Ymyl Gofal y Cyngor yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl eraill yn ne’r sir. Nod y prosiect yw helpu i leihau unigedd a gwella iechyd meddwl a lles pobl.
Mae’r tîm yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un dros 18 oed sy’n teimlo eu bod yn gallu treulio amser gydag eraill. Bydd y tîm yn paru gwirfoddolwyr a dinasyddion yn seiliedig ar y diddordebau sydd ganddyn nhw'n gyffredin.
Does dim rhaid i wirfoddolwyr fod yn weithwyr proffesiynol, dim ond bod yn unigolyn gofalgar sydd eisiau cefnogi eraill, boed gennych chi brofiad neu beidio. Bydd pecyn o hyfforddiant yn cael ei ddarparu a bydd y Cydlynydd Gwirfoddoli wrth law i gefnogi gwirfoddolwyr drwy gydol y broses.
Gall gwirfoddolwyr gefnogi dinasyddion drwy fynd i grwpiau cymdeithasol, mynd am dro, sgwrsio dros baned neu hyd yn oed drwy alwad ffôn. Mae llawer o’r dinasyddion wedi profi unigedd sylweddol ac felly mae’r tîm yn croesawu syniadau arloesol ar sut i wella cymdeithasoli a lles.
Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae hwn yn brosiect trawsnewid i ni ymfalchïo ynddo yn Sir Ddinbych, ac mae’r gwirfoddolwyr yn hanfodol i sicrhau ei lwyddiant.
"Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu cefnogi lles pobl eraill yn y gymuned, yna cysylltwch â’r cynllun – mae’n brofiad gwerth chweil i bawb sy’n rhan ohono.
"Mae effaith paned a sgwrs, neu alwad ffôn syml, ar les rhywun yn anhygoel.”
Meddai dinesydd sydd wedi derbyn cymorth drwy’r cynllun: “Rwyf wrth fy modd efo fo. Mae bod yn rhan o’r grŵp yma wedi bod yn gam cadarnhaol mawr yn fy mywyd.”
Am fwy o wybodaeth ac i fynegi eich diddordeb ewch i'n gwefan.
Problemau gyda’r rhyngrwyd? Mae Swyddog Digidol y Cyngor yma i helpu!
Gall breswylwyr a busnesau yn Sir Ddinbych elwa o gyngor a chymorth am ddim gan Swyddog Digidol y Cyngor. Mae’r Swyddog yn gallu helpu drwy ddod o hyd i’r datrysiad gorau i broblemau mae pobl yn ei brofi gyda’r rhyngrwyd o ganlyniad i gysylltiad araf.
Gyda nifer cynyddol o breswylwyr yn defnyddio technoleg i weithio o gartref, a gyda llawer o wasanaethau, megis bancio a gwasanaethau trydan a nwy bellach arlein, mae’n hanfodol fod gan bobl wasanaeth dibynadwy i ddiwallu eu hanghenion dyddiol.
Dywedodd Philip Burrows, Swyddog Digidol Sir Ddinbych, “Mae gan rai preswylwyr gysylltiadau rhyngrwyd araf neu annibynadwy, a dyma ble gallaf i helpu. Gallaf wneud diagnosis o’r broblem yna gweithio gyda phreswylwyr i’w ddatrys, gyda’r nod o wella ansawdd y cysylltiad â’r rhyngrwyd.
“Rydym yn ymwybodol bod pobl yn profi ystod o broblemau, er enghraifft, gall rhai pethau fod yn weddol hawdd i’w datrys gydag ychydig newidiadau i’w rhwydwaith yn y cartref. Fodd bynnag, hwyrach bod eraill gyda phroblemau mwy cymhleth fydd angen cael eu datrys gyda chwmni allanol.”
Mae rhai cymunedau’n profi problemau sy’n gofyn am ymyriad gan Openreach, sef y cwmni sy’n cynnal a darparu’r brif system teleffoni a rhwydwaith rhyngrwyd o amgylch y DU. Fodd bynnag, ni all unigolion gysylltu ag Openreach yn uniongyrchol, ond fe all y Swyddog Digidol wneud hyn ar eu rhan.
Mae Philip yn mynd ymlaen i ddweud, “Gallaf i gysylltu gydag Openreach er mwyn ceisio lleihau’r straen wrth ddatrys y mathau yma o broblemau. Gallaf hefyd gynghori ar sut i sicrhau arian i sefydlu partneriaethau cymunedol ffibr os oes cymunedau penodol yn profi problemau tebyg. Rwy’n hapus i gynghori unrhyw breswyliwr neu fusnes yn Sir Ddinbych ar eu cyswllt rhyngrwyd.”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Mae sicrhau gwell rhwydweithiau digidol yn angenrheidiol ac mae cefnogi ein cymunedau i wneud hyn yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor. Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i helpu preswylwyr i ddeall y dewisiadau a’r datrysiadau ar gyfer gwell cysylltiad â’r rhyngrwyd – rhywbeth sy’n hanfodol yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Rwy’n annog unrhyw un sy’n profi anawsterau gyda’u rhyngrwyd i gysylltu â Philip fydd yn gallu cynghori ar y camau gorau i’w cymryd.”
Os ydych chi’n profi cyflymder rhyngrwyd araf neu os ydych yn cael trafferth yn cysylltu gyda’r rhyngrwyd yn eich cartref, cysylltwch â Swyddog Digidol y Cyngor ar datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk
Pwyntiau Siarad Sir Ddinbych - yma i helpu
Mae Pwyntiau Siarad yn ffordd i bobl Sir Ddinbych ddarganfod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael yn eu hardal leol i’w helpu nhw i wella eu hiechyd a’u lles.

Mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael mewn ardal, fel gwasanaethau cymunedol, gweithgareddau neu grwpiau cefnogi. Cynigir y gwasanaeth mewn gwahanol lyfrgelloedd o amgylch y sir, gyda’r tîm yn mynychu llyfrgell wahanol bob dydd o’r wythnos.
Mae’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad yn cynnig cyfle i bobl gael sgwrs wyneb yn wyneb gyda Cyfeiriwr Cymunedol am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, yn ogystal â chyfle i rannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i wella lles pobl eraill yn y gymuned.
Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad i fynd i Bwynt Siarad, gallwch fynd i unrhyw un sy’n cael ei gynnal. Fodd bynnag mae modd trefnu apwyntiad os dymunir a bydd gwneud hyn yn helpu’r tîm i sicrhau bod y bobl gywir ar gael i roi’r cymorth a’r wybodaeth fwyaf addas ar eich cyfer chi.
Mae nifer o wasanaethau allweddol yn y sir yn rhan o’r cynllun, yn cynnwys Sir Ddinbych yn Gweithio, CAB, gwasanaethau gwirfoddoli a llawer mwy.
Mae’r Pwyntiau Siarad ar gael yn y lleoliadau isod:
- Bob dydd Llun (heblaw gwyliau banc) - Llyfrgell Llanelwy, 9.30 - 12.30
- Bob dydd Mawrth - Llyfrgell y Rhyl, 9.30 – 3.30
- Bob dydd Mercher - Llyfrgell Dinbych a Llyfrgell Llangollen, 9.30 - 1.00
- Bod dydd Iau - Llyfrgell Rhuddlan, 2.00 – 4.30
- Bob dydd Gwener (heblaw gwyliau banc) - Llyfrgell Prestatyn a Llyfrgell Rhuthun, 9.30 - 1.00

Dywedodd y Cyfeiriwr Cymunedol, Jeff Jones: “Mae Pwyntiau Siarad yma i unrhyw breswylydd sy’n teimlo bod arnynt angen help. Rydym yn gweithio gyda nifer o wasanaethau allweddol a gallwn gyfeirio pobl at yr un a fydd yn gallu eu helpu nhw orau. Rydym yn gweithredu o nifer o wahanol lyfrgelloedd ledled y sir, bob dydd o’r wythnos”.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r gwasanaeth hwn yn hanfodol ac yn helpu pobl Sir Ddinbych i gael yr help sydd ei angen arnynt. Mae’n hawdd cael gwasanaeth Pwyntiau Siarad yn llyfrgelloedd lleol Sir Ddinbych, ac mae’r staff yn gyfeillgar iawn ac ar gael am sgwrs. Mae bywydau pobl wedi cael eu gweddnewid trwy ddefnyddio’r Pwyntiau Siarad hyn, felly buaswn yn annog unrhyw un sy’n teimlo eu bod angen help neu gyngor i fynd draw i un o’r sesiynau, neu drefnu apwyntiad i fynd yno”.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Cynllun peilot casgliadau NHA ar gyfer ardaloedd cod post LL16 ac LL17
Bydd casgliadau newydd Nwyddau Hylendid Amsugnol (NHA) yn cael eu lansio mewn cynllun peilot o fis Medi 2023.
I gychwyn, bydd y cynllun ar gael i breswylwyr yn ardaloedd cod post LL16 ac LL17 ond bydd yn cael ei ymestyn i weddill y sir ymhellach ymlaen.
Mae’r gwasanaeth wythnosol yma yn rhad ac am ddim ac mae wedi cael ei lansio i leihau faint o wastraff sydd mewn biniau du preswylwyr, gan fod 20% o hwn yn wastraff NHA. Mae’n rhan o waith ehangach gan y Cyngor i wella cyfraddau ailgylchu yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Arweinydd Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Rydym yn cychwyn drwy gasglu’r gwastraff yma ar wahân yn awr fel ein bod yn barod i’w ailgylchu ar unwaith pan fydd cytundeb mewn lle gyda chyfleuster ailgylchu. Yn y dyfodol, gallai’r gwastraff yma gael ei ailgylchu i greu ystod o gynnyrch newydd, megis byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianneg a ddefnyddir ar arwynebau ffyrdd.”
Aeth ymlaen i ddweud, “Tra bod ystyried mwy o bethau i’w hailgylchu yn wych, rydym hefyd yn annog preswylwyr i ystyried ffyrdd eraill o leihau eu gwastraff. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio clytiau amldro sy’n rhatach na rhai a deflir. Mae’r Cyngor yn cynnig cynllun talebau clytiau amldro i helpu preswylwyr drwy gynnig gwerth £25 o dalebau i’w gwario ar glytiau amldro.”
Bydd y gwasanaeth casglu NHA ar gael i breswylwyr gyda babanod a phlant mewn clytiau ac i oedolion sy’n defnyddio nwyddau anymataliaeth. Bydd cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn agor ar ddydd Llun, 3 Gorffennaf gyda chasgliadau yn cychwyn o ddydd Llun, 11 Medi.
Mae gwybodaeth bellach am y gwasanaeth newydd, beth gaiff ei gasglu a sut i gofrestru ar gael ar wefan y Cyngor.

Cyhoeddi gweithredwr Marchnad y Frenhines yn y Rhyl
Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo dyfarnu’r contract i weithredu Marchnad y Frenhines yn y Rhyl i Mikhail Hotel & Leisure Group. Bydd Marchnad y Frenhines yn gatalydd ar gyfer adfywio canol tref y Rhyl a bydd yn darparu neuadd farchnad gymysg a fydd yn cynnwys casgliad o lefydd bwyta artisan, gofodau manwerthu a gofod digwyddiadau.
Mae’r datblygiad yn cynnwys 16 uned bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr, gofod digwyddiadau hyblyg mawr, a gofod awyr agored ar gyfer cynnal digwyddiadau, marchnadoedd neu rywle i eistedd.
Yn dilyn proses dendro fanwl a chystadleuol, mae’r Cabinet wedi penderfynu y dylid dyfarnu’r contract i Mikhail Hotel & Leisure Group fod yn weithredwr ar gyfer yr eiddo. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Mikhail Hotel & Leisure Group ar gytuno a llofnodi’r contract er mwyn bod yn weithredwr Marchnad y Frenhines.
Dechreuodd gwaith adeiladu ar y safle ym mis Awst y llynedd, ar ôl i gwmni Wynne Construction o Fodelwyddan gael eu penodi gan y Cyngor i wneud gwaith dylunio ac adeiladu.
Mae’r gwaith bron wedi’i gwblhau, a bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo gan Wynne Construction ar 17 Gorffennaf.
Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Mikhail Hotel & Leisure Group i gyflawni eu gweledigaeth ar gyfer y tu mewn i’r Farchnad. Gan gydweithio, bydd y bar, y ciosgau bwyd poeth a chiosgau’r farchnad yn cael eu gosod. Bydd strategaeth a dyddiad targed ar gyfer agor y cyfleuster yn cael eu trafod a’u cytuno gyda’r gweithredwr hefyd. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda’r Mikhail Group i adnabod a sicrhau tenantiaid ar gyfer yr unedau hefyd.
Mae prosiectau mawr diweddar yn yr ardal wedi denu buddsoddiad sector cyhoeddus a phreifat gwerth sawl miliwn yn cynnwys:
- Adnewyddu Theatr y Pafiliwn a chreu Bwyty ‘1891’
- Dau westy cenedlaethol
- Gofod addas i fentrau newydd gydweithio
- Parc Dŵr a Ninja Tag yn SC2
- Pont y Ddraig newydd a gwelliannau i’r Harbwr
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad hirdymor y Rhyl, ac mae’r farchnad newydd yn rhan annatod o’r weledigaeth gyffredinol hon. Bydd hyn yn cynnig sawl cyfle newydd am swyddi a bydd yn cynnig busnesau manwerthu unigryw i breswylwyr Sir Ddinbych yn ogystal ag ymwelwyr sy’n dod i’r Rhyl o bell.
"Mae Marchnad y Frenhines wedi bod yn rhan allweddol o dref y Rhyl ers 1902 ac mae wedi’i defnyddio mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Mae statws sentimental i’r adeilad, a gaiff ei wella trwy ailddatblygu’r safle hanesyddol hwn.
"Bu buddsoddiad £65 miliwn er mwyn adfywio’r Rhyl i breswylwyr a busnesau fel ei gilydd, sy’n canolbwyntio ar hamdden, masnach a phrosiectau cymunedol. Mae Marchnad y Frenhines yn gam arall i’r datblygiadau hyn, a fydd yn cynnig lle newydd a chyffrous i bobl y Rhyl, a Sir Ddinbych gyfan.”
Dywedodd Andrew Mikhail, Cadeirydd Mikhail Hotel & Leisure Group: “Rwyf wrth fy modd bod Mikhail Hotel & Leisure Group wedi’i enwi fel gweithredwr Marchnad y Frenhines yn y Rhyl. Rydym ni’n benderfynol o ddarparu rhagoriaeth ym mhob agwedd ar Farchnad y Frenhines.
"Rydym wedi dangos ein gallu i greu cyrchfannau sy’n ffynnu, ac rydym yn dechrau ar bennod newydd o drawsnewid y lleoliad yn ganolbwynt bywiog o hamdden, lletygarwch a chymuned.
"Gydag angerdd, arloesedd ac ymrwymiad i brofiadau arbennig, byddwn yn ceisio rhagori ar ddisgwyliadau a dod â marchnad sy’n dangos hanfod ysbryd unigryw’r Rhyl yn fyw. Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau llwyddiant arbennig a gadael etifeddiaeth barhaus am genedlaethau i ddod.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
Twristiaeth
Mapiau ymwelwyr newydd Sir Ddinbych yn cael eu lansio
Mae cyfres o fapiau ymwelwyr newydd gyda darluniau wedi eu llunio. Mae’r pum map yn canolbwyntio ar wahanol ardaloedd ac yn cynnwys map trosolwg, lleoedd i ymweld â nhw, lleoedd i gerdded a beicio a map yn tynnu sylw at Sir Ddinbych mewn perthynas â’r rhanbarth ehangach a’r prif ganolfannau cludiant.
Cafodd y mapiau eu cynhyrchu gan y darlunydd, David Goodman, a lluniwyd nhw i gyd â llaw. Mae pob un yn cynnwys tirweddau Sir Ddinbych, llwybrau cludiant cyhoeddus trenau a bysiau, trefi a phentrefi yn ogystal ag amwynderau ymwelwyr fel llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, cyrsiau golff, theatrau, sinemâu, amgueddfeydd a chanolfannau croeso.
Dywedodd David: “Mae wedi cymryd bron i flwyddyn i ni drosi’r wybodaeth i gyd i gyfres o fapiau a fydd, gobeithio, yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd am ymweld â Sir Ddinbych neu grwydro’r sir ymhellach. Mae’n ardal yr wyf i wedi dod i’w hadnabod yn dda iawn dros y blynyddoedd, ac rwy’n gobeithio y bydd y mapiau’n ennyn cymaint o ddiddordeb a llawenydd ag y gwnaethon nhw i mi wrth eu creu nhw.”
Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio y Cabinet: “Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Sir Ddinbych ac mae’r effaith economaidd dros £432 miliwn, a bu dros 4 miliwn o ymweliadau â’r sir. Mae’r buddsoddi parhaus yn ardaloedd gwledig ac arfordirol Sir Ddinbych i wella’r cynnig i ymwelwyr yn galonogol iawn i sicrhau twf parhaus yn y dyfodol.”
Mae agor Gorsaf Corwen yn ychwanegiad cyffrous i’r cynnig twristiaeth ar ôl cwblhau canopi’r platfform rheilffordd yn llwyddiannus fel rhan o Gronfa Ffyniant Bro De Clwyd Cysylltedd Corwen - Porth Gorllewinol Newydd a Gwell i Ddyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd. Mae'r orsaf newydd yn ffrwyth llafur nifer o flynyddoedd o waith caled gan staff a thîm ymroddedig o wirfoddolwyr Rheilffordd Llangollen a Chorwen.
Mae gwaith arfordirol i wella profiad ymwelwyr hefyd wedi dechrau yn y Rhyl; nid yn unig i amddiffyn y dref rhag llifogydd ond hefyd i uwchraddio ac ehangu'r promenâd ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd rhai rhannau penodol o’r promenâd ar gau, fodd bynnag bydd mannau mynediad eraill i’r traeth ar gael a bydd arwyddion yn dangos hyn yn glir. Bydd pob busnes ac atyniad i ymwelwyr ar agor fel arfer hefyd. Bydd beicwyr yn gallu dilyn llwybr ag arwyddion clir. Mae'r gwaith diweddaraf yn rhan o fuddsoddiad o £65 miliwn yn y dref yn cynnwys harbwr newydd, Parc Dŵr SC2, Theatr y Pafiliwn sydd newydd ei hadnewyddu a Bwyty 1891 yn ogystal â chwmnïau cadwyn cenedlaethol yn adeiladu gwestai newydd.
Os ydych chi’n chwilio am syniadau ac ysbrydoliaeth o ran lleoedd i ymweld â nhw’r haf hwn, edrychwch ar lyfryn newydd Darganfod Sir Ddinbych, taflenni llwybrau tref wedi’u diweddaru neu galwch heibio i Ganolfannau Croeso y Rhyl neu Langollen. Gellir cael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i’r mapiau newydd i ymwelwyr ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru.
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
4 - 9 Gorffennaf 2023
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵyl gelfyddydol wythnos o hyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, ac am 76 o flynyddoedd mae wedi dod â pherfformwyr ynghyd o bob rhan o’r byd i rannu eu hoffter o ganu, dawnsio a’r gair llefaru.
Bydd Llangollen 2023 yn agor mewn steil ddydd Mawrth 4 Gorffennaf: Bydd Alfie Boe a’r grŵp sioe gerdd arbennig, Welsh of the West End, yn perfformio mewn cyngerdd gyda’r nos sydd wedi ei greu yn arbennig ar gyfer Llangollen. Bydd Band Mawr Guy Barker yn perfformio Ddydd Gwener 7 Gorffennaf ac fe fyddant yn sicr o godi’r to gyda chwaraewyr jazz grymus a rhagorol. Bydd yr unawdwyr gwadd yn cynnwys: Tommy Blaize, Vanessa Haynes, Clare Teal a Giacomo Smith.
Ganol yr wythnos fe fydd ymrwymiad yr Eisteddfod i heddwch yn cael ei amlygu drwy ‘Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, cyngerdd cerddoriaeth glasurol ar raddfa fawr, ddydd Mercher 5 Gorffennaf. Bydd corau sydd wedi eu cyfuno a NEW Sinfonia yn ymuno â pherfformwyr o Gymru, Bosnia a’r Wcráin mewn cyngerdd i gofio sy’n diweddu gyda neges o heddwch a gobaith. Dydd Iau 6 Gorffennaf bydd yr aml-offerynwyr Propellor Ensemble, sy’n feiddgar ac yn cymysgu ffurfiau, yn cyflwyno profiad theatrig y byddwch yn ymgolli ynddo a fydd yn cyfuno cerddoriaeth gyfoes, gwerin, dawns ac elfennau gweledol byw a deinamig; ac sydd wedi ei ysbrydoli gan ryfeddod y byd naturiol.
Bydd dwy rownd derfynol fyw anhygoel yn ffurfio’r penwythnos olaf, Côr y Byd a Sêr Yfory. Bydd y corau, ensembles dawns a sêr operatig gorau yn ymddangos Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf tra bydd y genhedlaeth nesaf o berfformwyr talentog yn cystadlu dydd Sul 9 Gorffennaf.
Mae safle awyr agored yr ŵyl wedi ei weddnewid ar gyfer 2023 gyda dogn bywiog yn ddyddiol o gerddoriaeth byd, gwerin a phoblogaidd, arddangosfeydd dawns, comedi, sgyrsiau sy’n ysgogi’r meddwl, gweithdai, bwyd stryd a chyfle i siopa ac adloniant ar gyfer y teulu, i gyd gyda blas rhyngwladol.
Mae safle’r ŵyl, sy’n ymgorffori’r Pafiliwn Brenhinol eiconig sydd â 4000 o seddi, yn 5 munud ar droed o ganol y dref, ac mae digon o le parcio ar y safle.
Mae yna ystod eang o brisiau/opsiynau o ran tocynnau; mae mynediad i’r maes yn dechrau ar £5 ac mae tocynnau’r Cyngherddau Nos yn costio £10-£48.
Gellir archebu tocynnau ar-lein: https://international-eisteddfod.co.uk/cy/ neu drwy ffonio: 01978 862 001 (Dydd Mawrth - Dydd Iau 9am-5pm).
Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth
Tŷ treftadaeth Rhuthun yn cynnal taith gerdded natur nosol
Yn ddiweddar, bu criw sy’n hoff o natur nosol yn cwrdd â phreswylwyr safle treftadaeth yn Rhuthun.
Bu Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn helpu i ddatgloi trefn nosol ystlumod sy’n byw yn Nantclwyd y Dre yn ystod digwyddiad cyhoeddus yno.

Fel rhan o Wythnos Blodau Gwyllt ddiweddar y Cyngor, cynhaliwyd noson Ystlumod yn y safle treftadaeth i ganiatáu i’r cyhoedd weld rhai o’r mamaliaid yn dod yn fyw wrth iddi dywyllu.
Mae’r tŷ rhestredig Gradd I yn gartref i’r Ystlum Pedol Lleiaf, Ystlum Hirglust a’r Ystlum Lleiaf ac mae camera unigryw yno er mwyn i bobl eu gwylio pan fo’r tŷ ar agor.
Defnyddiwyd offer canfod ystlumod ac offer gweld yn y nos i helpu’r grŵp i weld a dilyn yr anifeiliaid yn y tywyllwch yn ystod y digwyddiad.

Bu Joel Walley, Swyddog Ecoleg, yn helpu i arwain y grŵp trwy’r noson i archwilio prysurdeb nosweithiau’r ystlumod.
Dywedodd: “Roedd yn wych mynd â’r grŵp o amgylch y safle treftadaeth gwych hwn yn Rhuthun, sy’n gartref i boblogaeth gref iawn o ystlumod. Roedd hi’n wych gweld yr ymgysylltu a’r diddordeb yn arferion yr anifail ac rwy’n gobeithio bod y profiad wedi’u helpu i ddeall ymddygiad pob rhywogaeth o ystlumod yn y DU ar ôl iddi nosi.
Dywedodd Kate Thomson, Rheolwr Nantclwyd y Dre: “Gall ymwelwyr â’r tŷ a’r ardd weld ein clwyd arbennig o ystlumod yn fyw trwy’r camerâu ystlumod yng ngofod yr atig. Maen nhw’n rhyfeddol o actif hyd yn oed yn ystod y dydd oherwydd byddan nhw’n cael eu rhai bach a’u magu nhw yma yn Nantclwyd. Mae'r gerddi helaeth yn llawn blodau gan ddarparu gwyfynod a phryfaid sydd eu hangen ar yr ystlumod i fwydo arnynt! Mae’r tŷ a’r ardd ar agor bob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 11am a 5pm.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae Nantclwyd y Dre yn lle gwych i ddysgu am hanes yn Sir Ddinbych ac mae’n lle pwysig iawn ar gyfer diogelu bioamrywiaeth leol. Rwy’n falch iawn bod aelodau’r cyhoedd wedi gweld sut mae’r tîm yn y tŷ yn mynd gam ymhellach i ddiogelu’r nifer o ystlumod sy’n byw yno.”
Blodyn gwyllt prin yn ymddangos yn ystod wythnos o ddathliadau
Mae blodyn gwyllt wedi ymgartrefu am y tro cyntaf erioed ar ddôl arfordirol.
Gwnaeth Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor ddarganfyddiad newydd wrth gynnal digwyddiad cyhoeddus i hyrwyddo Wythnos Blodau Gwyllt ar Ddôl Ddwyreiniol Ffordd y Traeth ym Mhrestatyn.
Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn 2019 ac yn ystod y cyfnod hwn mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi ar draws yr holl safleoedd dan sylw hyd yn hyn. Yn 2023, gan gynnwys y gwarchodfeydd natur ymyl y ffordd drwy’r sir, mae cyfanswm y safleoedd blodau gwyllt wedi cyrraedd hyd at 140, a bydd ychydig dros 70 erw o ddolydd yn helpu ac yn gwarchod natur leol.
Nod yr Wythnos Blodau Gwyllt cyntaf erioed oedd datgloi bywyd prysur dolydd y sir trwy nifer o ddigwyddiadau i’r cyhoedd eu mwynhau. Ac yn ystod y digwyddiad ym Mhrestatyn, ble roedd Buglife Cymru wrth law i siarad am drigolion pryfed y ddôl, darganfuwyd tegeirian bera gan y tîm.

Mae gan y blodyn gwyllt yma bigau blodau pinc sy'n ffurfio siâp pyramid ac fel arfer mae wedi'i leoli ar laswelltir sialc, cynefinoedd arfordirol, prysgwydd, ymylon ffyrdd, hen chwareli ac argloddiau rheilffordd. Mae tegeirianau bera yn blodeuo ym Mehefin a Gorffennaf a byddant yn denu amrywiaeth o ieir bach yr haf a gwyfynod.
Dywedodd Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth: “Roedd yn wych dod o hyd i’r planhigyn hwn ar ein safle ni yma ym Mhrestatyn. Mae’n blanhigyn prin iawn ar draws y DU. Pwrpas ein dolydd yw dod â bioamrywiaeth, sydd yn anffodus wedi’i cholli dros y blynyddoedd, yn ôl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac mae hyn wir yn arddangos beth yw bwriad yr holl brosiect yma.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r safleoedd hyn yn hynod o bwysig wrth fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd yn y sir, maent yn rhoi cyfle cryfach i’n natur oroesi a ffynnu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau yn Sir Ddinbych.”
Mae’r tîm Bioamrywiaeth wedi cofnodi’r tegeirian bera. Y tîm yma sy’n rheoli ac yn monitro’r holl rywogaethau ar ddolydd y sir er mwyn helpu eu gwarchod a sicrhau eu tyfiant yn y dyfodol.
Mae’r prosiect hwn hefyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) yn cefnogi prosiectau sy'n gwella lleoedd ble mae pobl yn byw.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk
Rheoli dolydd traddodiadol yn dod i’r blanhigfa goed
Cynhaliwyd diwrnod sgiliau rheoli dolydd traddodiadol ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor.
I ddathlu diwrnod olaf Wythnos Blodau Gwyllt y Cyngor yn ddiweddar, estynnwyd gwahoddiad i’r staff Cefn Gwlad, cydweithrediad Pladuro Gogledd Cymru a phreswylwyr lleol i Blanhigfa Goed Llanelwy, wedi’i lleoli yn y parc busnes, i ddysgu sut i bladuro neu wella hyfedredd yn y sgil traddodiadol hwn, gyda help arbenigwr pladuro lleol.
Arweiniodd Phil Lewis o Fferm Smithy yr arddangosiad ar dir y blanhigfa goed, gan ddangos crefft hynafol helpu dolydd gwyllt i ffynnu.
Mae’n debyg bod pladuro yn dyddio nôl i oes y Rhufeiniaid. Mae’n cynnwys llafn hir crwm sydd wedi’i leoli ar ongl i’r handlen, er mwyn caniatáu torri gwair â llaw.
Y dechneg draddodiadol hon oedd sut byddai gwair yn cael ei gynaeafu o ddolydd a phorfa Sir Ddinbych cyn defnydd eang tractorau.
Mae’r dechneg yn gyfeillgar i’r bywyd gwyllt sy’n byw ar ddolydd, ac mae’n rhoi amser iddynt symud ymlaen, ac mae’r sawl sy’n pladuro’n gwybod i edrych am anifeiliaid neu bryfed.
Mae’n ffordd fwy gwyrdd o reoli glaswelltiroedd oherwydd gweithrediad heb danwydd, ac mae’n well ar gyfer y corff, oherwydd llai o ddirgryniad llaw.
Roedd y sawl oedd yn bresennol ar y diwrnod wedi cael cyfle i ddysgu sut i roi pigfain a miniogi eu pladur hefyd, a rhoi cynnig ar ddefnyddio dyrnwr.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: Roedd hi’n wych gallu helpu pobl i ailymweld â’r gorffennol, a sut oedd dolydd yn cael eu trin, yn ogystal â dysgu am fanteision pladuro yn erbyn dulliau confensiynol heddiw.”


Cynllun gwyrdd yn yr ysgol i fynd i’r afael â newid hinsawdd
Mae disgyblion ym Mhrestatyn wedi dod o hyd i ffordd werdd o yfed eu diod arferol yn yr ysgol.
Mae Ysgol Bodnant yn gwneud eu rhan i hybu’r amgylchedd yng nghymuned yr ysgol.
Mae’r staff wedi gweithio i leihau sbwriel o fyrbrydau yn yr ysgol drwy gyflwyno defnyddiau gwyrddach.
Cyflwynodd yr ysgol fwy o gwpanau a photeli ailddefnyddadwy er mwyn cwtogi ar wastraff yn sgil rhoi llefrith i’r disgyblion.

Arferai’r staff archebu llefrith mewn 240 o gartonau neu boteli plastig bob dydd. Erbyn hyn mae hynny wedi gostwng i ddim ond 60 o gartonau bach ar gyfer y disgyblion meithrin yn unig, i’w helpu i’w hyfed ar ben eu hunain heb wneud llanast.
Mae gan y 180 o ddisgyblion eraill bellach gwpan i’w chadw ac mae pob dosbarth yn Ysgol Bodnant â deg o boteli gwydr mawr y mae’r staff yn eu defnyddio i dywallt llefrith i’r cwpanau.

Cesglir y cwpanau i’w golchi yn y peiriant yn y gegin ac fe’u defnyddir eto amser cinio.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Pwrpas yr Wythnos Fawr Werdd yn y bôn ydi rhoi cynnig ar fynd i’r afael â newid hinsawdd ac mae’n fendigedig gweld y plant yn Ysgol Bodnant yn chwarae eu rhan drwy helpu i gwtogi ar wastraff, sy’n lleihau niwed i’r amgylchedd.
“Da iawn i’r disgyblion a’r staff am ymdrech ardderchog a fydd yn gwneud gwahaniaeth pwysig wrth leihau effaith newid yn yr hinsawdd.”
Llyfrgell yn gofalu am fioamrywiaeth leol
Mae cartrefi natur newydd ar gyfer preswylwyr bywyd gwyllt bychain wedi cael eu creu yn Llyfrgell y Rhyl yn ddiweddar.
Fel rhan o hwb yr Wythnos Fawr Werdd i’r gymuned weithredu ac i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gwarchod natur, mae staff y llyfrgell wedi dod mewn partneriaeth â Sir Ddinbych yn Gweithio i greu gwesty bryfaid newydd sbon.
Mae Llyfrgell y Rhyl wedi ymrwymo i fod yn le ‘Cyfeillgar i Wenyn’ gan ddarparu ardal o hoff flodau peillwyr a llefydd i bryfaid fyw a ffynnu.

Mae staff y Llyfrgell a Sir Ddinbych yn Gweithio yn ogystal â dau gyfranogwr o’r gwasanaeth wedi adeiladu gwesty bryfaid allan o hen baledau a bocsys a thiwbiau cardfwrdd.

Mae’r ychwanegiad newydd i gefnogi bywyd gwyllt lleol wedi cymryd ei le yng ngardd Llyfrgell y Rhyl.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r gwaith gwych yma yn y llyfrgell yn hynod o bwysig er mwyn helpu i hybu a gwella bioamrywiaeth leol o amgylch y Rhyl.
"Mae’r gwirfoddolwyr a’r staff wedi gwneud gwaith arbennig yn creu’r cartrefi hanfodol yma i’n bywyd gwyllt lleiaf fydd o fudd i fioamrywiaeth yn y dyfodol.”
Cludiant gwyrddach i gefnogi gwaith cynnal a chadw dros yr haf
Mae gweithredwyr Gwasanaethau Stryd y Cyngor sy’n cyflawni dyletswyddau cynnal a chadw rheng flaen, wedi derbyn dau gerbyd trydan newydd i gefnogi gwasanaethau’r rheng flaen.

Bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a mwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.
Mae rhan o’r gwaith hwn yn golygu lleihau’r ddibyniaeth ar gerbydau sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil a’u hamnewid lle bo’n briodol ar gyfer y gwasanaeth gyda chludiant na chânt eu pweru gan danwydd ffosil.
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor dros 50 o Gerbydau Trydan yn y fflyd gan gynnwys tacsis, bws mini trydan a ddefnyddir yn ardal Rhuthun, fan arsyllfa symudol, lorïau biniau ac ATV trydan a ddefnyddir gan staff cefn gwlad, faniau trydan a ddefnyddir i gludo nwyddau gan wahanol wasanaethau a cheir trydan sy’n cefnogi staff y gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Gwasanaethau Stryd wedi derbyn dau fan trydan Citroën ë-Berlingo a fydd yn rhoi ystod o hyd at 174 milltir ar un wefr i’r timoedd sy’n eu defnyddio.
Byddent yn cael eu defnyddio yn ystod yr haf i gefnogi’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer gwaith glanhau strydoedd yn ystod y tymor twristiaeth, yn ogystal â dyletswyddau cynnal a chadw parhaus cyffredinol.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gweithio’n galed iawn i leihau ôl troed carbon ein fflyd drwy gael cerbydau gwyrddach yn lle ein cerbydau tanwydd ffosil pan fo hynny’n briodol i’r gwasanaeth.”
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Taith Dywys yng Nghoed Bell, Gronant, gyda Chyfeillion yr AHNE
Yn ystod mis Mai, dan arweiniad y ceidwaid Steve ac Imogen, cynhaliwyd taith dywys o amgylch Coed Bell, Gronant i Gyfeillion yr AHNE. Roedd hwn yn gyfle i’r Cyfeillion weld gwaith penigamp y ceidwaid a’r gwirfoddolwyr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn rheoli’r safle i wella’r arddangosfa clychau’r gog ac i ddysgu sut caiff y safle ei reoli er budd bioamrywiaeth.
Bu iddyn nhw hefyd fynd am dro at yr Heneb Gofrestredig yn ne’r safle. Mae’r ardal hon yn rhan o Gynllun Rheoli Cynaliadwy (Prosiect Pori) ac unwaith eto cafodd y Cyfeillion gyfle i weld gwaith y ceidwaid i leihau’r rhedyn a’r eithin er mwyn i anifeiliaid allu pori’r tir yn y dyfodol agos.
Roedd pawb wedi mwynhau'r ymweliad, ac ambell un wedi dweud mai hon oedd yr arddangosfa orau y maen nhw erioed wedi’i gweld o glychau’r gog!


Cronfa Cymunedau Gwyrdd
Mae’r gronfa Cymunedau Gwyrdd, prosiect partneriaeth a gaiff ei ddarparu gan yr asiantaeth datblygu gwledig, Cadwyn Clwyd, ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth gan Gynghorau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam wedi cefnogi gwelliannau i weithgareddau cymunedol awyr agored ac isadeiledd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae pedwar deg tri o gymunedau wedi’u cefnogi trwy’r grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles, pedair ar hugain yn Sir Ddinbych, wyth yng Nghonwy, pedair yn Sir y Fflint a saith yn Wrecsam, maent i gyd wedi cael cefnogaeth i drawsnewid eu mannau cymunedol awyr agored er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu ac er mwyn creu mannau dymunol i fyw, gweithio a chwarae.
Mae un ar ddeg o’r prosiectau hyn ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sy'n cwmpasu Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae cyfanswm o bedwar llwybr Milltiroedd Cymunedol newydd wedi cael cyllid o’r prosiect yn Nannerch, Nantglyn, Froncysyllte a Garth.
Milltiroedd Cymunedol Nantglyn
Mae Cyngor Cymuned Llangollen Wledig wedi creu dau o’r llwybrau hyn, gan wella hygyrchedd llwybrau troed yn Froncysyllte a Garth, i annog pobl i gerdded yn yr awyr agored yn y pentrefi.
Nod y Cyngor oedd gwella un llwybr ym mhob pentref a darparwyd cyswllt i’r llwybr Milltiroedd Cymunedol presennol yn Nhrefor, er mwyn i breswylwyr allu gwneud defnydd gwell o’r llwybrau cerdded yn eu cymunedau, yn ogystal â hyrwyddo’r ardal i dwristiaid sy’n ymweld â Safle Treftadaeth y Byd.
Roedd Gardd Gymunedol Corwen, safle Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, wedi profi sawl cyfnod o brinder dŵr oherwydd cyfuniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol a mwy o gyfnodau o dywydd sych. Adeiladwyd adeilad newydd, diogel o Larwydden leol, â’r gallu i gasglu mwy o ddŵr glaw ynghyd â chynnydd o 50% o ran capasiti storio. Gwnaeth y prosiect hefyd gynyddu gallu’r safle i gompostio, a chreu gwrych llwyni ffrwythau newydd â’r nod o gynyddu cynhyrchiant y safle i’r gymuned leol ei fwynhau. Gwnaeth Gwllangollen, Cwmni Buddiannau Cymunedol sy’n hunan-ariannu ac sy’n seiliedig yn Llangollen, ddarparu gwlân lleol o Ddyffryn Dyfrdwy er mwyn atal chwyn i helpu’r gwrychoedd oedd newydd eu plannu.
Gwelliannau yng Ngardd Gymunedol Corwen
Gwlân lleol i atal chwyn
Gwnaeth dwy gymuned, Llandegla a Llanbedr DC, osod araeau paneli solar ar eu neuaddau pentref ynghyd â storio batris, gan leihau eu hallyriadau carbon a’u biliau tanwydd. Mae neuadd bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd eisoes yn garbon niwtral gydag aráe panel solar, ac maen nhw’n gobeithio y bydd y gosodiad newydd yn dod â nhw’n nes at fod yn un o’r adeiladau cyhoeddus sero net cyntaf yng Nghymru. Mae’r adeilad yn yr AHNE a chawsant gyllid ychwanegol o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a gyfrannodd at osod goleuadau LED ynni isel a sicrhau bod pob gosodiad allanol yn cydymffurfio â nodau Awyr Dywyll gan gynnig buddion ychwanegol nid yn unig o ran gwelededd yn ystod y nos a llygredd golau, ond hefyd amodau ar gyfer bywyd gwyllt nosol.
Gosodiad solar Neuadd Bentref Llandegla
Defnyddiodd Outside Lives, menter gymdeithasol yng Ngwernymynydd ger Loggerheads, eu grant i uwchraddio cyfleusterau’n sylweddol sy’n darparu gweithgareddau a digwyddiadau i gefnogi lles a thwf. Crëwyd pwll bywyd gwyllt gyda phlatfform gwylio sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ynghyd â llwybrau mynediad gwell trwy’r coetir a thoiledau compost, a hyn i gyd gan achosi dim ond ychydig iawn o effaith ar yr amgylchedd.
Prosiect Outside Lives ar Newyddion ITV Wales.
Prosiect Awyr Dywyll Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain prosiect Awyr Dywyll drwy Gymru gyfan. Yn arwain ar ran wyth Tirwedd Ddynodedig Cymru, sef Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, ac AHNE Ynys Môn, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy, bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rheoli’r prosiect Awyr Dywyll cenedlaethol.
Mae gan bob Tirwedd Ddynodedig uchelgeisiau Awyr Dywyll, a phob un wrthi ar wahanol gamau yn gwneud eu gwaith eu hunain yn lleol i wella eu hawyr dywyll. Un elfen gyffredin a ganfuwyd ar draws yr holl Dirweddau Dynodedig yw gwaith cyfalaf y gellir ei wneud i wella awyr y nos. Drwy gydweithio, gobaith y prosiect yw cael effaith gadarnhaol ar y tirweddau gwarchodedig. Mae’r Prosiect Nos eisoes wedi bod yn cydweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth ledled gogledd Cymru ers 3 blynedd. Y nod yw ehangu hyn ar draws Cymru er mwyn i nodau’r prosiect fod yn fuddiol i Gymru gyfan.
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael cyllid grant drwy raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, i ariannu cynlluniau goleuo a phrosiectau ôl-osod ar draws yr 8 Tirwedd Ddynodedig rhwng 2022 a 2025. Nod y prosiect fydd gostwng llygredd golau yn yr ardaloedd hyn a lleihau’r effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth, yr hinsawdd ac iechyd y cyhoedd, yn ogystal ag amddiffyn yr Awyr Dywyll.

Mae llygredd golau yn broblem gynyddol yn fyd-eang, gyda chynnydd o hyd at 400% yn y 25 mlynedd ddiwethaf. Dim ond yn y blynyddoedd diweddar y mae’r wir effaith ar fioamrywiaeth wedi dechrau cael ei chydnabod. Drwy leihau llygredd golau mewn ardaloedd dynodedig, bydd y prosiect yn gwella cysylltedd drwy adfer tirwedd naturiol y nos. Mae llygredd golau yn un o brif ysgogwyr y dirywiad mewn pryfed, yn arbennig pryfed adeiniog a lindys. Mae’n amharu ar gylch bywyd llu o rywogaethau, yn rhai daearol a morol. Bydd adfer tywyllwch naturiol yn cryfhau cadernid yr ecosystem ac yn hybu adferiad bioamrywiaeth. Drwy edrych ar hyn ar raddfa’r dirwedd, gall y prosiect wella coridorau’r nos yn sylweddol.
Mae goleuadau Awyr Dywyll yn isel o ran ynni a charbon. Byddant yn arwain at lai o allyriadau carbon ym mhob ardal ddynodedig. Bydd rhaglenni ôl-osod goleuadau hefyd yn lleihau swm cyffredinol yr ynni a ddefnyddir yn yr ardaloedd.
Fel rhan o’r prosiect, mae Ridge and Partners LLP, sef cwmni dylunio goleuadau arbenigol, wedi eu caffael i weithio gyda’r prosiect Awyr Dywyll i ddarparu prosiectau ôl-osod goleuadau ym mhob un o'r wyth ardal. Bydd Ridge yn cychwyn drwy ymweld â’r wyth ardal i gynnal arolwg llygredd golau sylfaenol ac i ganfod cyfleoedd i wella a’r pocedi mwyaf o lygredd golau ac ardaloedd lle bydd ôl-osod goleuadau yn cael effaith sylweddol. Byddant yn nodi ac yn cynghori’r prosiect ynglŷn â pha ardaloedd ac adeiladau i’w targedu i sicrhau’r newid cadarnhaol mwyaf o ran llygredd golau.