Anogir pobl i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal, sydd ar gyfartaledd yn werth £3,900 y flwyddyn. Bydd llythyrau’n cael eu hanfon i bensiynwyr cymwys yn Sir Ddinbych er mwyn amlygu’r gefnogaeth sydd ar gael ac annog ceisiadau. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn awgrymu fod rhai pobl hŷn yn credu nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Credyd Pensiwn yn sgil eu cynilion neu berchnogaeth o eiddo.

Mae Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel, gan godi eu hincwm i leiafswm o £218.15 yr wythnos ar gyfer pobl sengl neu £332.95 ar gyfer cyplau.

I’r bobl hynny sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, efallai bod ganddynt hael i arian ychwanegol os ydynt wedi gwneud darpariaethau tuag at eu hymddeoliad, megis cynilion neu bensiwn preifat. Gelwir hyn yn Gredyd Cynilion a gall fod hyd at £17.01 ar gyfer pobl sengl neu £19.04 ar gyfer cyplau.

Yn ogystal â hynny, gall bobl gael cymorth gyda chostau tai, treth y cyngor, biliau gwres, gofal iechyd, ac os ydych yn 75 oed neu hŷn, trwydded teledu am ddim.

Dywedodd Liz Thomas, Pennaeth Cyllid ac Archwilio y Cyngor:

“Mae Credyd Pensiwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth i dros 3000 o bobl yn Sir Ddinbych. Gallai llawer o bobl fod yn methu allan oherwydd nad ydynt yn credu ei fod ar eu cyfer nhw, sy’n anghywir. Anogwn ffrindiau a pherthnasau i gynnig cymorth trwy wneud ychydig o ymchwil gydag unigolyn hŷn er mwyn darganfod pa gymorth ariannol sydd ar gael.

Mae hawlio Credyd Pensiwn yn bwysig oherwydd gall ddarparu mynediad at ystod o hawliadau eraill. Efallai mai ychydig o bunnoedd yn unig y gall rhai pobl ei hawlio mewn Credyd Pensiwn, felly gall deimlo nad oes werth ei hawlio, ond dylent ystyried y darlun ehangach gan ei fod yn agor y drws i lawer mwy o gymorth.

Gall sicrhau bod preswylwyr yn gwneud y mwyaf o’u hincymau aelwyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn ogystal â’u cysylltu â gwasanaethau a sefydliadau gwerthfawr ar draws Sir Ddinbych.”

Gallwch ddechrau eich cais hyd at bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hawlio unrhyw bryd ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond gall eich hawliad ond gael ei ôl-ddyddio hyd at dri mis. Gallwch ddarganfod os ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r swm y gallwch hawlio gan ddefnyddio’r cyfrifiannell pensiwn (gwefan allanol).

Dywedodd Graham Kendall, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Yn ddiweddar fe wnaethom helpu cleient 75 oed sy’n byw ar ei phen ei hun yn ei chartref ei hun. Galwodd i mewn i un o’r sesiynau galw heibio Cyngor ar Bopeth gan ei bod eisiau gweld os oedd hi’n gymwys i dderbyn unrhyw hawliadau ychwanegol yn dilyn marwolaeth ddiweddar ei gŵr. Roedd ein cleient yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, roedd ganddi bensiwn preifat a chynilion o dan £10,000. Pan wnaethom wirio, roedd ganddi’r hawl i Gredyd Pensiwn o £6 yr wythnos a Gostyngiad Treth y Cyngor o £30 yr wythnos. Rhoddom wybod iddi hefyd, pe byddai’n derbyn Credyd Pensiwn, gallai wneud cais am Daliad Angladd i helpu gyda chostau angladd ei gŵr. Llwyddodd ein cleient i wneud cais am y ddau fudd-dal, ac yn dilyn dyfarniad y Credyd Pensiwn, derbyniodd gymorth gyda chostau’r angladd.

Rydym yn delio â nifer o breswylwyr sy’n ei chael yn anodd mantoli’r cyfrifon yn sgil costau byw, ond gallent fod yn rhy falch i ystyried edrych i mewn i’r cymorth ariannol a all fod ar gael iddynt. Rydym yn ceisio tynnu rhwystrau ac annog preswylwyr i fod yn agored a thrafod eu hamgylchiadau personol. Rydym yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau llawn, llenwi ffurflenni, cefnogi cwsmeriaid i reoli tlodi tanwydd a darparu cyngor tai.”

Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 01745 346 775 neu trwy'r ffurflen ar-lein (gwefan allanol)

Fel arall, gellir gwneud hawliadau ar-lein (gwefan allanol) neu drwy ffonio llinell hawlio Rhadffôn Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.