Cyfarfod Awdur
Croesawyd yr awdur poblogaidd Rebecca Roberts i Lyfrgell Dinbych yn ystod Gŵyl Ganol Haf Dinbych, gyda’r digwyddiad wedi ei noddi gan Glwb Rotari Dinbych.
Mae’n awdur hynod lwyddiannus sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer oedolion a phobl ifanc gan ennill gwobrau Tir na n-og a Llyfr y Flwyddyn. Rhoddodd gyflwyniad am ei gyrfa a’i gwaith fel awdur Diolch arbennig i ddysgwyr Popeth Gymraeg a Menter Iaith Sir Ddinbych am gefnogi’r digwyddiad. Bu sgwrsio brwd dros baned gyda nifer yn ymarfer eu sgiliau iaith gyda’r awdur a staff y Llyfrgell.