llais y sir

Newyddion

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae'r Eisteddfod yn dychwelyd i Llangollen o 2 - 7 Gorffennaf .

Yn cynnwys cyngherddau gyda Tom Jones ar 2 Gorffennaf, ac yna yn ystod yr wythnos gyda'r sêr gwerin Cymreig Calan, Telynores Frenhinol Alis Huws, John Boys Chorus o’r rownd gynderfynol Britain's Got Talent, sêr y West End Kerry Ellis a John-Owen Jones, ac mae Gregory Porter yn dychwelyd ar ol ennill gwobrau Grammy a Chyngerdd Gala gyda'r mezzo-soprano Katherine Jenkins.

Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am yr hyn sy'n digwydd yn ystod yr wythnos, gwybodaeth am docynnau ac ati, ewch i'w gwefan.

 

Etholiad Cyffredinol: 4 Gorffennaf

Mi fydd trigolion yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol 2024 ar ddydd Iau, Gorffennaf 4.

Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am ar y diwrnod pleidleisio, a bydd trigolion yn gallu bwrw eu pleidlais hyd at 10pm.

Ar gyfer Sir Ddinbych, cynhelir yr Etholiad Cyffredinol hwn ar 4 ffin etholaethol newydd. Y rhain yw Bangor Aberconwy, Dwyrain Clwyd, Gogledd Clwyd a Dwyfor Meirionydd. Mae'r rhain yn disodli etholaethau blaenorol De Clwyd, Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd.

Gall trigolion Sir Ddinbych ddod o hyd i'w gorsaf bleidleisio yma, dyma lle byddant yn gallu mynd i fwrw eu pleidlais.

Dyma'r Etholiad Cyffredinol cyntaf lle mae'n ofynnol i drigolion ddod â'u ID pleidleisiwr gyda nhw. Mae yna nifer o rhain a fydd yn cael eu derbyn gan gynwys trwydded yrru neu pasbort, mae'r wybodaeth lawn am ID pleidleisiwr i'w gweld yma.

Unwaith y bydd pleidleisiau wedi'u bwrw, mae'r blychau pleidleisio ym mhob etholaeth yn cael eu cludo i ganolfan gyfrif, sy'n ofod mawr lle gall y cyfrif ddechrau. Mae'r broses hon yn mynd ymlaen trwy'r nos, gyda'r canlyniadau terfynol fel arfer yn dod i mewn erbyn diwedd y bore y diwrnod canlynol. Bydd cyfrif Gogledd Clwyd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Dinbych.

Dywedodd Steve Price, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd:

“Hoffem atgoffa holl drigolion Sir Ddinbych y bydd angen iddynt ddod â’u ID ffotograffig addas gyda nhw i allu bwrw eu pleidlais mewn gorsaf pleidleisio, mae yna nifer o ffurfiau ID a fydd yn cael eu cynnwys, megis pasbort neu drwydded yrru.”

Penodi’r Cynghorydd Alan James i rôl Aelod Cabinet dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio

Yn dilyn marwolaeth drist y Cynghorydd Win Mullen-James ym mis Mai, mae’r Cynghorydd Alan James wedi’i benodi’n Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio i Gyngor Sir Ddinbych.

Ar ôl gyrfa 30 mlynedd fel Gweithiwr Cymdeithasol yn arbenigo mewn Iechyd Meddwl a Gofal Plant, etholwyd y Cynghorydd Alan James i Gyngor Tref y Rhyl yn 2012.

Ym mis Hydref 2016, fe’i etholwyd i'r Cyngor Sir mewn isetholiad. Gwasanaethodd y Cynghorydd James hefyd fel Maer y Rhyl am dymor 2017/18.

Gwasanaethodd y Cynghorydd James fel cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych am dymor rhwng  2020 a 2021.

Ar hyn o bryd mae'r Cynghorydd James yn Is-Gadeirydd Cynllunio, ac mae wedi bod ar y Pwyllgor Cynllunio ers nifer o flynyddoedd. Mae hefyd yn eistedd ar y Grŵp Cynllunio Strategol, ynghyd â nifer o Bwyllgorau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin ag Amddifadedd:

“Mae’r Cynghorydd Alan James yn brofiadol ac uchel ei barch ac mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am faterion cynllunio.

Mae’n gweithio’n galed ac rydw i, a gweddill y Cabinet, yn edrych ymlaen at weithio

Gwastraff ac Ailgylchu

Canllawiau Ailgylchu A - Y

Beth ddylwn i ei wneud gyda ..?

Rydym yn taflu bob mathau o bethau o'n cartrefi bob dydd.

Mae llawer o bethau y gellir eu hailgylchu a gaiff eu taflu yn y bin, megis dillad ac eitemau trydanol. Felly, cyn i chi eu taflu, beth am gael golwg ar ein canllawiau ailgylchu A i Y i'ch helpu i ailgylchu gymaint o eitemau â phosibl a gwaredu eich gwastraff yn ddiogel.

Ailgylchu

Ansicr sut i ailgylchu?

Ansicr ble i roi popeth yn eich Trolibocs? Gwyliwch Gruff a Lois o Ysgol Pen Barras sy’n rhoi cyngor i ni ar beth i wneud.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Sialens Ddarllen yr Haf 2024

Mae Gorffennaf yn fis cyffrous a phrysur yn ein Llyfrgelloedd gyda lansiad y Sialens yn Genedlaethol yng Nghymru a Lloegr ar Orffennaf y 6ed mewn partneriaeth gyda’r Reading Agency.  Eleni'r thema yw Crefftwyr Campus sy’n annog plant i gymryd rhan a chael hwyl. Mae cyfle i blant fod yn nhw eu hunain, defnyddio eu dychymyg a bod yn greadigol gan ddarganfod llyfrau gwych, dyfeisgar a lliwgar. Byddant yn darllen llyfrau a chasglu cymhellion dros wyliau’r haf a chymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft am ddim.

Nod Sialens Ddarllen yr Haf yw atal y diffyg darllen sy’n gallu digwydd dros y gwyliau pan nad ydy’r plant yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth llyfrgelloedd, mae'n darparu ffordd hwyliog am ddim i gadw meddyliau ifanc yn actif. Yn 2023, cymrodd dros 685,000 o blant ran, ledled y DU.

Rydym yn hynod falch o gael digwyddiad cenedlaethol i lansio’r Sialens yn Llyfrgell Dinbych ar Orffennaf 10fed gyda phlant o Ysgol Twm o’r Nant yn ymuno gyda’r awdur Leisa Mererid. Bydd yr awdur yn cyflwyno ei llyfr Y Wariar Bach a’r plant yn ymuno mewn ymarferion ioga ac anadlu i ddilyn. Trefnir y sesiwn ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru.

Darllenwch 6 llyfr llyfrgell mewn 4 ymweliad dros wyliau’r haf a chasglu gwobrau – mae’r cyfan am ddim! Dewch i ymuno â ni! Ewch i gwefan Sialens Ddarllen yr Haf am fwy o wybodaeth.

Lansiad Llyfr Hanes Lleol

Cafwyd digwyddiad llwyddiannus yn Llyfrgell Llanelwy yn ddiweddar i lansio llyfr yr awdur lleol Rhona Phoenix.

Daeth cynulleidfa niferus i’r lansiad yn ymwneud â hanes hynod ddiddorol wyrcws Llanelwy. Cafwyd sgwrs gan y siaradwr gwadd John Michael Corfe am hanes H.M. Stanley yn ystod y noson.

Cyfarfod Awdur

Croesawyd yr awdur poblogaidd Rebecca Roberts i Lyfrgell Dinbych yn ystod Gŵyl Ganol Haf Dinbych, gyda’r digwyddiad wedi ei noddi gan Glwb Rotari Dinbych.

Mae’n awdur hynod lwyddiannus sydd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer oedolion a phobl ifanc gan ennill gwobrau Tir na n-og a Llyfr y Flwyddyn.  Rhoddodd gyflwyniad am ei gyrfa a’i gwaith fel awdur Diolch arbennig i ddysgwyr Popeth Gymraeg a Menter Iaith Sir Ddinbych am gefnogi’r digwyddiad. Bu sgwrsio brwd dros baned gyda nifer yn ymarfer eu sgiliau iaith gyda’r awdur a staff y Llyfrgell.

Twristiaeth

Beth sydd ymlaen yn Sir Ddinbych

Mae'r Adran Dwristiaeth wedi lansio eu hymgyrch hyrwyddo Gŵyl a Digwyddiadau ar gyfer eleni.

Gyda chymaint o ddigwyddiadau cyffrous wedi'u cynllunio, roeddem am dynnu sylw at y rhain i sicrhau bod ymwelwyr a thrigolion yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn Sir Ddinbych.

Cefnogaeth i drigolion

Ydych chi’n colli allan ar Gredyd Pensiwn?

Mae'r Cyngor yn annog pensiynwyr i ddarganfod os ydynt yn colli allan ar Gredyd Pensiwn. Amcangyfrifir bod oddeutu 80,000 o bensiynwyr ar draws Cymru â hawl i Gredyd Pensiwn, ond nid ydynt yn ei hawlio. Yn ôl elusen Sefydliad Bevan, amcangyfrifir bod 15% o bensiynwyr yn byw mewn tlodi yng Nghymru.

Anogir pobl i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal, sydd ar gyfartaledd yn werth £3,900 y flwyddyn. Bydd llythyrau’n cael eu hanfon i bensiynwyr cymwys yn Sir Ddinbych er mwyn amlygu’r gefnogaeth sydd ar gael ac annog ceisiadau. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn awgrymu fod rhai pobl hŷn yn credu nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Credyd Pensiwn yn sgil eu cynilion neu berchnogaeth o eiddo.

Mae Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel, gan godi eu hincwm i leiafswm o £218.15 yr wythnos ar gyfer pobl sengl neu £332.95 ar gyfer cyplau.

I’r bobl hynny sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, efallai bod ganddynt hael i arian ychwanegol os ydynt wedi gwneud darpariaethau tuag at eu hymddeoliad, megis cynilion neu bensiwn preifat. Gelwir hyn yn Gredyd Cynilion a gall fod hyd at £17.01 ar gyfer pobl sengl neu £19.04 ar gyfer cyplau.

Yn ogystal â hynny, gall bobl gael cymorth gyda chostau tai, treth y cyngor, biliau gwres, gofal iechyd, ac os ydych yn 75 oed neu hŷn, trwydded teledu am ddim.

Dywedodd Liz Thomas, Pennaeth Cyllid ac Archwilio y Cyngor:

“Mae Credyd Pensiwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth i dros 3000 o bobl yn Sir Ddinbych. Gallai llawer o bobl fod yn methu allan oherwydd nad ydynt yn credu ei fod ar eu cyfer nhw, sy’n anghywir. Anogwn ffrindiau a pherthnasau i gynnig cymorth trwy wneud ychydig o ymchwil gydag unigolyn hŷn er mwyn darganfod pa gymorth ariannol sydd ar gael.

Mae hawlio Credyd Pensiwn yn bwysig oherwydd gall ddarparu mynediad at ystod o hawliadau eraill. Efallai mai ychydig o bunnoedd yn unig y gall rhai pobl ei hawlio mewn Credyd Pensiwn, felly gall deimlo nad oes werth ei hawlio, ond dylent ystyried y darlun ehangach gan ei fod yn agor y drws i lawer mwy o gymorth.

Gall sicrhau bod preswylwyr yn gwneud y mwyaf o’u hincymau aelwyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn ogystal â’u cysylltu â gwasanaethau a sefydliadau gwerthfawr ar draws Sir Ddinbych.”

Gallwch ddechrau eich cais hyd at bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hawlio unrhyw bryd ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond gall eich hawliad ond gael ei ôl-ddyddio hyd at dri mis. Gallwch ddarganfod os ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r swm y gallwch hawlio gan ddefnyddio’r cyfrifiannell pensiwn (gwefan allanol).

Dywedodd Graham Kendall, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Yn ddiweddar fe wnaethom helpu cleient 75 oed sy’n byw ar ei phen ei hun yn ei chartref ei hun. Galwodd i mewn i un o’r sesiynau galw heibio Cyngor ar Bopeth gan ei bod eisiau gweld os oedd hi’n gymwys i dderbyn unrhyw hawliadau ychwanegol yn dilyn marwolaeth ddiweddar ei gŵr. Roedd ein cleient yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, roedd ganddi bensiwn preifat a chynilion o dan £10,000. Pan wnaethom wirio, roedd ganddi’r hawl i Gredyd Pensiwn o £6 yr wythnos a Gostyngiad Treth y Cyngor o £30 yr wythnos. Rhoddom wybod iddi hefyd, pe byddai’n derbyn Credyd Pensiwn, gallai wneud cais am Daliad Angladd i helpu gyda chostau angladd ei gŵr. Llwyddodd ein cleient i wneud cais am y ddau fudd-dal, ac yn dilyn dyfarniad y Credyd Pensiwn, derbyniodd gymorth gyda chostau’r angladd.

Rydym yn delio â nifer o breswylwyr sy’n ei chael yn anodd mantoli’r cyfrifon yn sgil costau byw, ond gallent fod yn rhy falch i ystyried edrych i mewn i’r cymorth ariannol a all fod ar gael iddynt. Rydym yn ceisio tynnu rhwystrau ac annog preswylwyr i fod yn agored a thrafod eu hamgylchiadau personol. Rydym yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau llawn, llenwi ffurflenni, cefnogi cwsmeriaid i reoli tlodi tanwydd a darparu cyngor tai.”

Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 01745 346 775 neu trwy'r ffurflen ar-lein (gwefan allanol)

Fel arall, gellir gwneud hawliadau ar-lein (gwefan allanol) neu drwy ffonio llinell hawlio Rhadffôn Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.

Cyngor gan ein Swyddog Digidol

Ydych chi'n dioddef o gynadleddau fideo sy’n araf a rhyngrwyd araf tra yn gweithio gartref? Mae ein Swyddog Digidol ar gael i gynnig cyngor diduedd am ddim ar eich cysylltiad rhyngrwyd cartref, datrysiadau uwchraddio posibl a phroblemau Wi-Fi cartref.

Cysylltwch â Philip Burrows - philip.burrows@sirddinbych.gov.uk.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sioe Deithiol Barod

Cynhaliwyd ein Sioe Deithiol Barod trwy gydol mis Mai fel rhan o fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl.

Bu i ni deithio o gwmpas Sir Ddinbych yn y gobaith o ymgysylltu â thrigolion ac i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn ei wneud. 


Dechreuom ar ein Sioe Deithiol ym Meddygfa Plas Meddyg yn Rhuthun a gweithio ein ffordd fesul wythnos gan ymweld â chanolfannau iechyd, canolfannau siopa a llyfrgelloedd.  Mae rhai o’r rhain yn cynnwys Canolfan Iechyd Llangollen, Llyfrgell Prestatyn, Canolfan y Rhosyn Gwyn yn y Rhyl a Morrisons yn Ninbych.

Ein nod oedd cyrraedd cymaint o drigolion Sir Ddinbych â phosibl sydd efallai heb fynediad at gludiant cyhoeddus neu sydd heb glywed am ein gwasanaethau o’r blaen.  Roeddem eisiau ymweld â nhw (gobeithio) mewn ardal sy’n agosach iddyn nhw. 

Bu i nifer o’r trigolion gofrestru ar gyfer ein gwasanaethau i weld sut allwn ni eu helpu ar eu taith i gyflogaeth.

Tîm Barod: Digwyddiadau mis Gorffennaf

8 Gorffennaf: Sesiwn Be Nesaf / Diwrnod Gyrfaoedd Chweched Dosbarth  Ysgol Brynhyfryd

10 Gorffennaf: Ffair Yrfaoedd a/neu Gyfweliadau Ffug Chweched Dosbarth - Ysgol Uwchradd Prestatyn

15 Gorffennaf:  Canolfan Waith - Y Rhyl

17 Gorffennaf: Dosbarth Meistr Astudiaeth Achos - Coed Pella

 

Parhau â grwpiau cefnogi cyfoedion i Ddynion a Merched, ‘Minds Matter’ i Ddynion ac ‘Mae hi’n Cysylltu’

 

Parhau â’n sesiynau galw heibio wythnosol yn Ninbych a’r Rhyl ar gyfer pobl ifanc 16 - 24 oed a 25+

 

Parhau â Theithiau Cerdded a Siarad Wythnosol

Dydd Llun 1af y mis - Y Rhyl
2il ddydd Llun y mis - Dinbych
3ydd dydd Llun y mis - Prestatyn
4ydd dydd Llun y mis - Rhuthun a Llangollen bob yn ail

Byddwn hefyd yn cynnal y digwyddiadau isod. 

Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â https://www.denjobs.org/calendar-2/

  • Gweithdy Datblygu Cadernid i bobl ifanc rhwng 16 a 24 yn y Rhyl.
  • Cyflwyniad i weithdy Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)
  • Rhaglen haf i ddisgyblion sydd wedi gadael yr ysgol i fynd i’r coleg -
    • Dwy sesiwn yr wythnos, un yn y Rhyl a’r llall yn Rhuthun dros wyliau’r haf.
    • Cefnogaeth i bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol ac yn mynd i’r coleg ym mis Medi - cefnogaeth â datblygu hyder, meithrin sgiliau, cefnogaeth ariannol ar gyfer adnoddau a hyfforddiant cludiant.

Gweithdai Recriwtio a Sgiliau

Gan fod y llyfrgelloedd wedi newid eu hamserlenni, mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi newid rhai o’r amseroedd ar gyfer eu ‘Gweithdai Recriwtio a Sgiliau’ i gyd-fynd â hynny.

Mae ein gweithdy ar brynhawn dydd Mawrth yn y Rhyl wedi bod mor brysur nes ein bod wedi penderfynu ychwanegu amser a diwrnod newydd i geisio cefnogi mwy o bobl.  Cynhelir y gweithdy hwn ar fore dydd Iau rhwng 10am a 12pm.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi casglu rhywfaint o bynciau y gallwn ni eu cefnogi yn y gweithdai ond maent hefyd wedi nodi beth allai fod yn well mewn cyfarfodydd 1 i 1 gydag un o’r gweithwyr achos.  Y rheswm dros hyn yw fel bod pawb yn cael y gefnogaeth orau bosibl ac os oes angen cymorth mwy manwl, byddai cymorth 1 i 1 yn fwy buddiol i’r cyfranogwr. 

Os oes angen cyfarfod, gall ein gweithwyr achos gwrdd â chyfranogwyr ar sail 1 i 1 ledled y sir, cysylltwch â nhw drwy anfon neges e-bost atynt ar wdcaseworkers@denbighshire.gov.uk

 

Cymorth y Clwb Swyddi

Cefnogaeth 1 i 1

Chwilio am swydd

Chwiliadau am swydd

Ceisiadau am swyddi (ad hoc)

C.V’s (llawn)

Cefnogaeth TG (e.e. e-byst, ffurflenni)

Cymorth gyda chyrsiau ar-lein

Cymorth gyda chyrsiau ar-lein

Ceisiadau amrywiol (Tystysgrif geni, SIA ac ati)

Casglu gwybodaeth ar gyfer eich C.V a’i ddiwygio

Ceisiadau am swyddi sydd wedi’u cynllunio

Cofrestriadau

Siopa

Mynd â Phrawf Adnabod

Sgiliau Cyfweliad

 

*gellir teithio ledled y sir ar gyfer rhoi cefnogaeth 1 i 1.

 

Gofalwr ifant yn sicrhau cyflogaeth llawn amser ar ôl ymgymryd â lleoliad gwaith llwyddiannus

Mae Mali, gofalwr ifanc ymroddedig, wedi trosglwyddo i gyflogaeth llawn amser ar ôl ymgymryd â lleoliad Dechrau Gweithio gwerthfawr Sir Ddinbych yn Gweithio. Dechreuodd siwrnai Mali gyda mynychu cwrs hyfforddi ac ymgymryd â phrofiad gwaith “Blas ar Ofal” a wnaeth ei harwain at sicrhau lleoliad 12 wythnos yng Nghartref Gofal Dolwen.

Wedi’i chefnogi gan ei Mentor Dechrau Gweithio, bu i Mali gwblhau’r broses ymgeisio am gontract 24 awr parhaol yn Nolwen, a derbyniodd y swydd ar ei phen-blwydd yn 18 oed.   Llwyddodd perfformiad eithriadol Mali yn ystod ei lleoliad i sicrhau swydd barhaol iddi, gan wneud cam sylweddol tuag at yrfa ffyniannus.

Mae ymdrechion cydweithredol Sir Ddinbych yn Gweithio a’r GIG wedi galluogi Mali i gael profiad amhrisiadwy yn ei sector dymunol, gyda’r cynllun Dechrau Gweithio yn parhau i ymrwymo i ddarparu lleoliadau gwaith o ansawdd uchel sy’n darparu canlyniadau cadarnhaol i’r holl gyfranogwyr.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Mali: 

“Wrth gwblhau’r Cynllun Dechrau Gweithio, rwyf wedi cael profiad o weithio yn y sector gofal a fydd yn fuddiol i mi er mwyn datblygu yn fy ngyrfa a pharhau i ddysgu.  Heb y Cynllun Dechrau Gweithio, ni fyddwn i wedi cael y cyfleoedd yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i’w cael, fel yr hyfforddiant yr wyf wedi’i gwblhau.  Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio wedi bod yn gymorth mawr i mi wrth ddechrau ar fy nhaith yn y sector gofal, ac oherwydd hyn, rwy’n argymell yn fawr bod pobl ifanc yn defnyddio’r rhaglenni hyn”.

Dywedodd Alison Hay, Swyddog Comisiynu:

“Mae stori Mali yn enghraifft wych o’r pethau cadarnhaol am fod yn ofalwr sy’n oedolyn ifanc. Mae ein Cynllun Dechrau Gweithio wedi rhoi Mali ar ei llwybr gyrfa dewisol ac wedi rhoi cymorth iddi i ffynnu a llwyddo.  Mae Gofalwyr Ifanc fel Mali yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy o’u rôl gofalu a gallent wneud gweithwyr arbennig!”  

Dywedodd Racheal Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Rydym yn falch iawn o fod yn dyst i lwyddiant Mali, sy’n tynnu sylw at effeithiolrwydd ein Cynllun Dechrau Gweithio.  Drwy gynnig cymorth wedi’i deilwra a pharu cyfranogwyr â chyfleoedd addas, rydym yn gallu hwyluso profiadau gwerthfawr sy’n paratoi’r ffordd at gyflogaeth hirdymor.  Mae siwrnai Mali o ymgymryd â lleoliad gwaith i sicrhau cyflogaeth llawn amser yn enghraifft o botensial ein dull cydlynol at ddatblygu'r gweithlu.” 

Brecinio gyda Barod

Roedd Sir Ddinbych yn Gweithio yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad ‘Brecinio gyda Barod’ cyntaf, a gynhaliwyd ar 5 Mehefin yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl.

Yn y digwyddiad, bu i dîm Barod arddangos sut y mae nhw'n gallu cefnogi trigolion trwy gynnal gweithgareddau byr hwyliog. Hefyd, bu trafodaeth dros frecinio am sut i gydweithio i gefnogi mwy o drigolion yn Sir Ddinbych.

Mae’r Prosiect Barod yn gweithio gydag unigolion  i feithrin hyder a goresgyn y rhwystrau i ganfod gwaith a chael mynediad at hyfforddiant. Roedd cyfle gwych i fusnesau rwydweithio â’i gilydd trwy gydol y digwyddiad.

Roedd ein rhestr gwesteion yn cynnwys darparwyr gwasanaeth fel Llywodraeth Cymru, KimInspire, Cooptions a Chanolfan Merched Gogledd Cymru Cyf, yn ogystal â llawer mwy.

Datgloi potensial talent niwroamrywiol: Digwyddiad Brecwast ar gyfer Cyflogwyr

Cynhaliwyd digwyddiad rhad ac am ddim gan Sir Ddinbych yn Gweithio ym mis Mehefin ar y cyd â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy, er mwyn rhoi cyfle i fusnesau Sir Ddinbych ddysgu mwy am y manteision sydd gan weithwyr niwrowahanol i’w cynnig.

Mewn byd lle mae 1 ym mhob 7 o bobl yn cael eu nodi yn niwrowahanol, mae’n hanfodol bod busnesau yn mabwysiadu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol ar gyfer pob unigolyn.  Gall deall a rheoli gweithwyr niwroamrywiol brofi’n heriol i gyflogwyr, ond maent hefyd yn cynnig nifer helaeth o gyfleoedd. 

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, cynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio, ar y cyd â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy, ddigwyddiad brecwast yn benodol ar gyfer herio rhagdybiaethau a thynnu sylw at fanteision niwroamrywiaeth i fusnesau.

Roedd y digwyddiad yn dathlu sgiliau a chryfderau unigryw unigolion niwrowahanol ac yn rhoi cipolwg gwerthfawr i gyflogwyr ar sut i gefnogi a gwneud y mwyaf o botensial eu gweithlu niwroamrywiol. 

Bu’r cyflogwyr yn dysgu am yr holl fathau gwahanol o niwroamrywiaeth, er mwyn eu haddysgu sut i gynnig cefnogaeth berthnasol i’w gweithwyr eu hunain, fel bod modd iddynt berfformio’n dda yn eu swydd.

Rhannwyd gwybodaeth hefyd gan Sir Ddinbych yn Gweithio, ochr yn ochr â siaradwyr gwadd o’r GIG, ynghylch dewisiadau addasiadau rhesymol sy’n cael effaith, a bu cyflogwyr yn rhannu eu profiad hwythau am hyn.

Meddai Rachel Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Bu i’r busnesau a’r sefydliadau a fynychodd y digwyddiad hwn ddysgu llawer am niwroamrywiaeth a’r manteision a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â mathau amrywiol o niwroamrywiaeth, yn ogystal â derbyn cyngor ymarferol ynghylch gwneud addasiadau rhesymol er mwyn helpu cydweithwyr i ffynnu, nawr ac yn y dyfodol”.

 

Cyfleoedd Hyfforddi ar gael

Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych ac awydd newid gyrfa NEU ddatblygu yn eich swydd bresennol, manteisiwch ar ein cynlluniau hyfforddiant am ddim! P’un ai eich bod eisiau gweithio yn y maes adeiladu, gofal, gwallt a harddwch, hyfforddi i fod yn Farista neu unrhyw beth arall, gallwn ni eich cefnogi chi o’r dechrau.

Cofrestrwch yn awr er mwyn i ni eich helpu i ddod o hyd i gwrs addas a thalu’r costau drwy fynd i – https://forms.office.com/e/VK2Ub5Vnmu

Neu ewch ar ein tudalen Eventbrite i archebu lle ar y cyrsiau cyfredol - https://www.eventbrite.co.uk/o/working-denbighshire-79434827543

 

Hylendid Bwyd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf

Amser: 9:30 – 4:30

Lleoliad: Canolfan Ieuenctid Y Rhyl

I archebu lle ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/hylendid-bwyd-a-diogelwch-arlwyo-lefel-2-level-2-food-safety-and-hygiene-tickets-927809612527?aff=ebdsoporgprofile&keep_tld=1

NEU

Dyddiad: Dydd Gwener, 12 Gorffennaf

Amser: 9.30 – 4.30

Lleoliad: Canolfan Ieuentid Y Rhyl

I archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/hylendid-bwyd-a-diogelwch-arlwyo-lefel-2-level-2-food-safety-and-hygiene-tickets-927810635587?aff=ebdsoporgprofile&keep_tld=1

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle (EFAW)

Dyddiad: Dydd Iau, 25 Gorffennaf

Amser: 9:30 – 4.30

Lleoliad: Canolfan Ieuentid Y Rhyl

I archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/cymorth-cyntaf-brys-yn-y-gweithle-emergency-first-aid-at-work-tickets-927811929457?aff=ebdsoporgprofile&keep_tld=1

NEU

Dyddiad: Dydd Gwener, 26 Gorffennaf 

Amser: 9:30 – 4:30

Lleoliad: Canolfan Ieuentid Y Rhyl

I archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/cymorth-cyntaf-brys-yn-y-gweithle-emergency-first-aid-at-work-tickets-927823664557?aff=ebdsoporgprofile&keep_tld=1

 

Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladau (CSCS)

Dyddiad: 9 Awst

Amser: 8:30 – 4.30

Lleoliad: WOW yn y Rhyl

I archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/cwrs-cscs-cscs-course-tickets-927842430687?aff=ebdsoporgprofile&keep_tld=1

NEU

Dyddiad: 19 Gorffennaf

Amser: 8:00 – 4.30

Lleoliad: Shorecliffe Training, Dinbych

I archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/cwrs-cscs-cscs-course-tickets-927829592287?aff=ebdsoporgprofile&keep_tld=1

 

Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dyddiad:  29/ 30/ 31 Gorffenaf

Amser: 9:00 – 4:00

Lleoliad: Canolfan Ieuentid Y Rhyl

I archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/fframwaith-sefydlu-cymru-gyfan-wales-induction-framework-tickets-925759871697?aff=ebdsoporgprofile&keep_tld=1

 

Hyfforddiant Cynllun Pasbort Codi a Chario Cymru Gyfan

Dyddiad: 24 a 25 Gorffennaf

Amser: 9:30 – 4:30

Lleoliad: Ethical Workforce Solutions, 40 Station Road, Colwyn Bay LL29 8BU

I archebu lle, ewch i: https://www.eventbrite.com/e/all-wales-passport-moving-handling-tickets-927843834887?aff=oddtdtcreator

 

Cwrs Sgiliau Digidol Hanfodol

Lleoliad: Llyfrgell Rhyl

Sesiwn 1:  Dydd Mercher, 31 Gorffennaf 10.30-12.30pm

Sesiwn 2:  Dydd Mercher 7 Awst 10.30-12.30pm

Sesiwn 3:  Dydd Mercher 14 Awst 10.30-12.30pm

Sesiwn 4:  Dydd Mercher 21 Awst 10.30-12.30pm

I archebu lle, ewch i:

https://www.eventbrite.co.uk/e/hyfforddiant-sgiliau-digidol-hanfodol-essential-digital-skills-tickets-927803584497?aff=oddtdtcreator&_gl=1%2Amche31%2A_up%2AMQ..%2A_ga%2ANTM5MTk3NjYzLjE3MTg5NjUwMzM.%2A_ga_TQVES5V6SH%2AMTcxODk2NTAzMi4xLjEuMTcxODk2NTA5OC4wLjAuMA

Sesiwn 1 - Cyflwyniad a Sgiliau Sylfaenol

Croeso i’r cwrs a chyflwyniad i Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol. Yn y sesiwn hon byddwn yn dechrau gyda’r sgiliau sylfaenol:

  • Dod i adnabod eich dyfais
  • Cysylltu â’r rhyngrwyd
  • Defnyddio apiau

Sesiwn 2 - Cyfathrebu a Thrin Gwybodaeth a Chynnwys

Byddwn yn eich helpu gyda sgiliau i chi allu cyfathrebu gan ddefnyddio gwahanol apiau a llwyfannau megis WhatsApp, Zoom, Messenger a Skype. Byddwn yn dangos i chi sut i greu cyfrif e-bost gan ddefnyddio Google, hefyd byddwch yn edrych ar apiau Google ychwanegol y gellir cael mynediad atynt megis Google Drive a Google Docs. Byddwn yn edrych ar wahanol opsiynau i bori’r we a chael mynediad at wybodaeth ar-lein yn defnyddio gwahanol wefannau ac apiau ar gyfer adloniant a gwybodaeth.

Sesiwn 3 - Trafodion a Datrys Problemau

Bydd y sesiwn hon yn egluro sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel wrth siopau neu reoli eich arian ar-lein. Byddwch yn edrych ar sut i lawrlwytho apiau a defnyddio gwefannau i’ch helpu i arbed arian ar-lein. Hefyd, byddwn yn dangos i chi sut i ddatrys problemau yn defnyddio’r Rhyngrwyd drwy archwilio canllawiau gwahanol, gwefannau a fideos ar-lein sydd ar gael i ddatrys problemau gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Sesiwn 4 - Aros yn Ddiogel ac yn Gyfreithlon Ar-Lein

Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am sgiliau sy’n ofynnol i aros yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn hyderus ar-lein. Byddwch yn dysgu sut i ddiogelu gwybodaeth bersonol, creu cyfrinair cryf, sut i wirio bod gwefan yn ddiogel a rheoli cyfrinair. Hefyd, byddwch yn edrych ar sut i adnabod gwefannau ffug, e-byst a negeseuon twyll/ amheus. Bydd y sesiwn yn cynnwys sut i osod gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol a chyfrifon eraill.

 

Gofal Maeth

Sesiynau Gwybodaeth Ar-Lein

Dewch i gwrdd ag aelod o’n tîm ac un o’n gofalwyr maeth hyfryd yn ein sesiynau gwybodaeth ar-lein gyda’r nos.

Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar ddydd Llun 1af pob mis, i archebu y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw e-bostio ni ar fosterwales@sirddinbych.gov.uk.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Sgwter Tramper

Oeddech chi’n gwybod, ym Mharc Gwledig Loggerheads mae gennym sgwter symudedd a elwir yn Tramper?
Mae’r Tramper wedi’i ddylunio’n arbennig i fynd oddi ar y ffordd ac mae’n galluogi mynediad gwell i gefn gwlad i bawb, yn enwedig i’r rhai llai symudol. Gall y Tramper fynd ar hyd llwybrau isaf yma ym Mharc Gwledig Loggerheads, felly dewch i roi cynnig arno!
Mae’r Tramper yn rhad ac am ddim i’w logi!

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Gwasanaethau Cefn Gwlad: Newyddlen Gwirfoddolwyr y Gogledd

Môr-wenoliaid bach Gronant

Yn 2024 rydym yn dathlu ugain mlynedd ers i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ddechrau rheoli nythfa môr-wenoliaid bach Gronant. Hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru ac mae’n safle o arwyddocâd rhyngwladol gan ei fod yn cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU. Mae sefydlu’r nythfa yn llawer o ymdrech gan fod gennym ni bolisi dim olion sy’n golygu bod y ffensys a’r adeiladwaith a godir ym mis Ebrill yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor. Yn ystod y tymor mae yna gyfleoedd i bobl wirfoddoli, felly cofiwch gysylltu gyda Jim Kilpatrick, Uwch Geidwad ar jim.kilpatrick@sirddinbych.gov.uk os hoffech chi gymryd rhan.

Uwchgylchu ar gyfer Bioamrywiaeth Bodelwyddan

Ym mis Mawrth bu gwirfoddolwyr yn tyllu pyllau bach ym Modelwyddan. Drwy roi pwrpas newydd i hen deiars tractors bu iddyn nhw greu strwythurau cadarn i ddal dŵr, gan ddarparu adnodd pwysig i wella bioamrywiaeth.  

Bydd y pyllau cyn hir yn gartref i infertebratau, amffibiaid a phlanhigion a oedd gynt yn brin ar y safle. Sylwch, dydi safle Bodelwyddan ddim ar agor ar hyn o bryd ac nid oes mynediad iddo i’r cyhoedd.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect newid hinsawdd

Wrth i’r tymor plannu coed ddirwyn i ben, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli a’n helpu ni gyda’r prosiect hwn. Ni fyddai’r miloedd o goed wedi’u plannu heb gymorth ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, sefydliadau lleol a phlant ysgol brwdfrydig.  Diolch i chi unwaith eto. 

Byddwn yn treulio’r ychydig wythnosau nesaf yn gorffen plannu’r coed sydd dros ben ac yn gwneud ychydig o dasgau bach eraill ar y safleoedd newydd. Cadwch eich llygaid ar agor am y sesiynau gyda Matt, os hoffech chi gymryd rhan hefyd. 

Pyllau madfallod dŵr cribog Bruton

Mae pwll newydd wedi’i greu yng Nghoetir Cymunedol Parc Bruton.  Cafodd y pwll ei ariannu gan brosiect Natur Er Budd Iechyd ac roedd y gwaith yn cynnwys cloddio, gosod leinin clai bentonit a chodi ffensys i atal cŵn.

Bu gwirfoddolwyr wedyn yn plannu cyrs, brwyn a blodau brodorol a fydd yn helpu’r madfallod i ddodwy wyau. Mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn bwysig iawn i infertebratau ac amrywiaeth o amffibiaid.

Yr Arfordir

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn trawsblannu moresg yn Harbwr y Rhyl. Roedd y gwaith yn cynnwys cymryd ychydig o foresg o leiniau sefydledig a’u trosglwyddo i leiniau moel, gyda’r gobaith o wella’r gorchudd a sefydlogi'r twyni. Bu i’r gwirfoddolwyr hefyd atgyweirio ffens bolion yn Harbwr y Rhyl, ar safle a ddefnyddir gan gwtiaid cochion i nythu.  Mae’r môr-wenoliaid bach hefyd wedi bod yn edrych ar yr ardal yma fel lle posib i nythu! 

Ymhellach i hynny, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn glanhau traeth Splash Point ac wedi helpu i glirio prysg yn Nhwyni Barkby. 

Addysg

Grant nawr ar agor i helpu gyda chostau ysgol

Mae'r Cyngor yn annog rhieni a gwarcheidwaid cymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael hyd at £200 drwy’r Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru. Mae’r grant nawr ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer blwyddyn ysgol 2024-2025.

Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda chostau gwisg ysgol, gan gynnwys esgidiau, dillad ac offer chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol, gweithgareddau ysgol megis dysgu offeryn cerdd neu hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys pinnau ysgrifennu, pensiliau a bagiau yn ogystal â gliniaduron a chyfrifiaduron. Gall y grant hefyd fynd tuag at gost gweithgareddau ehangach megis y sgowtiaid a’r geidiau ac offer ar gyfer Gwobr Dug Caeredin.

Mae plant o deuluoedd sydd ar incymau is sy’n cael budd-dal penodol, yn gallu hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol.  Mae hyn yn cynnwys yr holl ddysgwyr yn y derbyn neu flwyddyn 1 i 11 (heblaw blwyddyn 7). Oherwydd y costau ychwanegol y gall teuluoedd eu hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau mewn ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion cymwys a fydd yn dechrau ym mlwyddyn 7.

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, “Mae’r Grant Hanfodion Ysgol, yn helpu i ostwng y baich ariannol ar deuluoedd wrth brynu gwisg ysgol ac offer, gan alluogi’r plant i fynd i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â’u cyfoedion.

Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn cael Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol, mae dal angen i chi wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol.  Mae hefyd yn golygu y bydd eich ysgol yn cael arian ychwanegol.

Rydym yn gwybod fod teuluoedd yn teimlo’r pwysau oherwydd costau byw a gall y grant hwn wneud gwir wahaniaeth.”

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer cyllid eleni yn agor ar 1 Gorffennaf ac yn cau ar 31 Mai 2025.Gall pobl sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, yn ogystal â’r Grant Hanfodion Ysgol, ddefnyddio’r un ffurflen gais ar-lein i ymgeisio am y ddau. Unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen iddynt ymgeisio eto.

Os yw eich plentyn yn mynd i ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am grant trwy fynd i'n gwefan

Treftadaeth

Gerddi hanesyddol Rhuthun yn rhan o Gynllun Gerddi Cenedlaethol

 Nantclwyd y Dre

Mae tirnod poblogaidd yn Rhuthun yn ei flodau yn barod ar gyfer tymor newydd o ddarganfod gerddi gwych.

Mae Nantclwyd y Dre newydd gymryd rhan yng Nghynllun Gerddi Cenedlaethol sy’n hyrwyddo gerddi sydd ar agor i’r cyhoedd yn dangos borderi blodau taclus a’r ardd gegin.

Yn cymryd y lle blaenaf oedd tŷ haf yng Ngardd yr Arglwydd, a oedd unwaith yn ôl pob sôn yn ardd gegin i Gastell Rhuthun, ac mae llun ohono ar glawr llyfryn Cynllun Gerddi Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru.

Yn cuddio’r tu ôl i’r tŷ, mae’r gerddi helaeth yn cael eu disgrifio “fel pin mewn papur, gyda gwelyau o flodau hardd a lleiniau ble mae ffrwythau a llysiau’n tyfu, sy’n lle tawel i ymlacio ynghanol tref Rhuthun.”

Mae’r gerddi heddychol yn cael eu cynnal a’u cadw gan y Garddwr Treftadaeth a thîm o wirfoddolwyr ymroddedig. Os oes gennych chi ddiddordeb dod i’r sesiynau gwirfoddoli ar ddydd Llun, e-bostiwch treftadaeth@sirddinbych.gov.uk am fwy o wybodaeth.

Mae’r tŷ hanesyddol yn cynnig cyfle unigryw i archwilio dros 500 mlynedd o hanes, o’r cyfnod canoloesol i’r 20fed ganrif ac mae ar agor ar gyfer y Cynllun Gerddi Cenedlaethol. Mae Nantclwyd y Dre hefyd yn gyfle i ymwelwyr wylio’r ystlumod pedol lleiaf ar y glwyd fagu yn nho’r tŷ, diolch i’r ‘BatCam’!

Mae’r tŷ a’r gerddi ar agor ddydd Iau, ddydd Gwener a dydd Sadwrn o 10.30am, gyda’r mynediad olaf am 4pm. Am fwy o wybodaeth am Nantclwyd y Dre ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/nantclwyd-y-dre.aspx

Beth sydd ymlaen yn Nantclwyd y Dre

Cychwyn cadarn i 2024 yng Ngharchar Rhuthun gyda gweithgaredd newydd

Mae Carchar Rhuthun yn dathlu cychwyn prysur iawn i’r tymor gyda gweithgaredd Dianc o’r Carchar newydd sbon i’r teulu cyfan.

Ers 1654 mae carcharorion y carchar hanesyddol yma wedi bod yn defnyddio eu dyfeisgarwch a’u beiddgarwch i geisio dianc rhag waliau mawreddog y carchar (gyda lefelau llwyddiant amrywiol iawn!).

Rŵan rydym ni’n gwahodd ymwelwyr i ddilyn ôl traed carcharorion fel Wrexham Bill ac Ellen Warters i geisio dianc.

Mae’n rhaid i chi ddod o hyd i gliwiau sydd wedi’u cuddio yn islawr y celloedd Pentonville eiconig, gan gadw’ch pwyll i osgoi Mr Parry y Warden; ac wrth ganfod eich ffordd allan byddwch hefyd yn clywed hanesion hen breswylwyr y carchar.

Meddai Philippa Jones, Rheolwr Safle Carchar Rhuthun:

“Roedd arnom ni eisiau creu rhywbeth newydd a chyffrous sy’n dod â hanes yn fyw o flaen ein llygaid mewn ffordd ddifyr sy’n cynnwys y teulu cyfan.

Mae’r gweithgaredd Dianc o’r Carchar yn boblogaidd iawn ac mae’n braf gwylio’r teuluoedd yn ymgolli yn hanes y carchar.”

Yn ogystal â Dianc o’r Carchar, mae Carchar Rhuthun yn cynnig teithiau tywys sain yn y pris mynediad sy’n rhoi cipolwg diddorol iawn o hanes y safle ers yr ail ganrif ar bymtheg. Gall ymwelwyr archwilio’r celloedd gwreiddiol a gweld arddangosfeydd ar drosedd a chosb dros yr oesoedd.

Mae’r carchar ar agor drwy gydol y gwyliau hanner tymor ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod yr amgueddfa garchar rhwng 10:30am a 5pm (mynediad olaf am 4pm) bob dydd ac eithrio dydd Mawrth pan fydd y carchar ar gau. Yn unol â’r ymrwymiad i gynhwysiant, mae’r carchar yn estyn croeso cynnes i bawb, yn cynnwys cyfeillion pedair coes.

Ychwanegodd Philippa:

“Yma yng Ngharchar Rhuthun rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu profiadau diddorol a chofiadwy i ymwelwyr o bob oed.

Rydym ni’n edrych ymlaen at gynnig cyfleoedd unigryw i deuluoedd lleol ac ymwelwyr gael creu atgofion melys a darganfod straeon diddorol y safle hanesyddol hwn”.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid