Brecinio gyda Barod
Roedd Sir Ddinbych yn Gweithio yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad ‘Brecinio gyda Barod’ cyntaf, a gynhaliwyd ar 5 Mehefin yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl.
Yn y digwyddiad, bu i dîm Barod arddangos sut y mae nhw'n gallu cefnogi trigolion trwy gynnal gweithgareddau byr hwyliog. Hefyd, bu trafodaeth dros frecinio am sut i gydweithio i gefnogi mwy o drigolion yn Sir Ddinbych.
Mae’r Prosiect Barod yn gweithio gydag unigolion i feithrin hyder a goresgyn y rhwystrau i ganfod gwaith a chael mynediad at hyfforddiant. Roedd cyfle gwych i fusnesau rwydweithio â’i gilydd trwy gydol y digwyddiad.
Roedd ein rhestr gwesteion yn cynnwys darparwyr gwasanaeth fel Llywodraeth Cymru, KimInspire, Cooptions a Chanolfan Merched Gogledd Cymru Cyf, yn ogystal â llawer mwy.