Rŵan rydym ni’n gwahodd ymwelwyr i ddilyn ôl traed carcharorion fel Wrexham Bill ac Ellen Warters i geisio dianc.

Mae’n rhaid i chi ddod o hyd i gliwiau sydd wedi’u cuddio yn islawr y celloedd Pentonville eiconig, gan gadw’ch pwyll i osgoi Mr Parry y Warden; ac wrth ganfod eich ffordd allan byddwch hefyd yn clywed hanesion hen breswylwyr y carchar.

Meddai Philippa Jones, Rheolwr Safle Carchar Rhuthun:

“Roedd arnom ni eisiau creu rhywbeth newydd a chyffrous sy’n dod â hanes yn fyw o flaen ein llygaid mewn ffordd ddifyr sy’n cynnwys y teulu cyfan.

Mae’r gweithgaredd Dianc o’r Carchar yn boblogaidd iawn ac mae’n braf gwylio’r teuluoedd yn ymgolli yn hanes y carchar.”

Yn ogystal â Dianc o’r Carchar, mae Carchar Rhuthun yn cynnig teithiau tywys sain yn y pris mynediad sy’n rhoi cipolwg diddorol iawn o hanes y safle ers yr ail ganrif ar bymtheg. Gall ymwelwyr archwilio’r celloedd gwreiddiol a gweld arddangosfeydd ar drosedd a chosb dros yr oesoedd.

Mae’r carchar ar agor drwy gydol y gwyliau hanner tymor ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod yr amgueddfa garchar rhwng 10:30am a 5pm (mynediad olaf am 4pm) bob dydd ac eithrio dydd Mawrth pan fydd y carchar ar gau. Yn unol â’r ymrwymiad i gynhwysiant, mae’r carchar yn estyn croeso cynnes i bawb, yn cynnwys cyfeillion pedair coes.

Ychwanegodd Philippa:

“Yma yng Ngharchar Rhuthun rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu profiadau diddorol a chofiadwy i ymwelwyr o bob oed.

Rydym ni’n edrych ymlaen at gynnig cyfleoedd unigryw i deuluoedd lleol ac ymwelwyr gael creu atgofion melys a darganfod straeon diddorol y safle hanesyddol hwn”.