Mae tirnod poblogaidd yn Rhuthun yn ei flodau yn barod ar gyfer tymor newydd o ddarganfod gerddi gwych.

Mae Nantclwyd y Dre newydd gymryd rhan yng Nghynllun Gerddi Cenedlaethol sy’n hyrwyddo gerddi sydd ar agor i’r cyhoedd yn dangos borderi blodau taclus a’r ardd gegin.

Yn cymryd y lle blaenaf oedd tŷ haf yng Ngardd yr Arglwydd, a oedd unwaith yn ôl pob sôn yn ardd gegin i Gastell Rhuthun, ac mae llun ohono ar glawr llyfryn Cynllun Gerddi Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru.

Yn cuddio’r tu ôl i’r tŷ, mae’r gerddi helaeth yn cael eu disgrifio “fel pin mewn papur, gyda gwelyau o flodau hardd a lleiniau ble mae ffrwythau a llysiau’n tyfu, sy’n lle tawel i ymlacio ynghanol tref Rhuthun.”

Mae’r gerddi heddychol yn cael eu cynnal a’u cadw gan y Garddwr Treftadaeth a thîm o wirfoddolwyr ymroddedig. Os oes gennych chi ddiddordeb dod i’r sesiynau gwirfoddoli ar ddydd Llun, e-bostiwch treftadaeth@sirddinbych.gov.uk am fwy o wybodaeth.

Mae’r tŷ hanesyddol yn cynnig cyfle unigryw i archwilio dros 500 mlynedd o hanes, o’r cyfnod canoloesol i’r 20fed ganrif ac mae ar agor ar gyfer y Cynllun Gerddi Cenedlaethol. Mae Nantclwyd y Dre hefyd yn gyfle i ymwelwyr wylio’r ystlumod pedol lleiaf ar y glwyd fagu yn nho’r tŷ, diolch i’r ‘BatCam’!

Mae’r tŷ a’r gerddi ar agor ddydd Iau, ddydd Gwener a dydd Sadwrn o 10.30am, gyda’r mynediad olaf am 4pm. Am fwy o wybodaeth am Nantclwyd y Dre ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/nantclwyd-y-dre.aspx