llais y sir

Treftadaeth

Gerddi hanesyddol Rhuthun yn rhan o Gynllun Gerddi Cenedlaethol

 Nantclwyd y Dre

Mae tirnod poblogaidd yn Rhuthun yn ei flodau yn barod ar gyfer tymor newydd o ddarganfod gerddi gwych.

Mae Nantclwyd y Dre newydd gymryd rhan yng Nghynllun Gerddi Cenedlaethol sy’n hyrwyddo gerddi sydd ar agor i’r cyhoedd yn dangos borderi blodau taclus a’r ardd gegin.

Yn cymryd y lle blaenaf oedd tŷ haf yng Ngardd yr Arglwydd, a oedd unwaith yn ôl pob sôn yn ardd gegin i Gastell Rhuthun, ac mae llun ohono ar glawr llyfryn Cynllun Gerddi Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru.

Yn cuddio’r tu ôl i’r tŷ, mae’r gerddi helaeth yn cael eu disgrifio “fel pin mewn papur, gyda gwelyau o flodau hardd a lleiniau ble mae ffrwythau a llysiau’n tyfu, sy’n lle tawel i ymlacio ynghanol tref Rhuthun.”

Mae’r gerddi heddychol yn cael eu cynnal a’u cadw gan y Garddwr Treftadaeth a thîm o wirfoddolwyr ymroddedig. Os oes gennych chi ddiddordeb dod i’r sesiynau gwirfoddoli ar ddydd Llun, e-bostiwch treftadaeth@sirddinbych.gov.uk am fwy o wybodaeth.

Mae’r tŷ hanesyddol yn cynnig cyfle unigryw i archwilio dros 500 mlynedd o hanes, o’r cyfnod canoloesol i’r 20fed ganrif ac mae ar agor ar gyfer y Cynllun Gerddi Cenedlaethol. Mae Nantclwyd y Dre hefyd yn gyfle i ymwelwyr wylio’r ystlumod pedol lleiaf ar y glwyd fagu yn nho’r tŷ, diolch i’r ‘BatCam’!

Mae’r tŷ a’r gerddi ar agor ddydd Iau, ddydd Gwener a dydd Sadwrn o 10.30am, gyda’r mynediad olaf am 4pm. Am fwy o wybodaeth am Nantclwyd y Dre ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/nantclwyd-y-dre.aspx

Beth sydd ymlaen yn Nantclwyd y Dre

Cychwyn cadarn i 2024 yng Ngharchar Rhuthun gyda gweithgaredd newydd

Mae Carchar Rhuthun yn dathlu cychwyn prysur iawn i’r tymor gyda gweithgaredd Dianc o’r Carchar newydd sbon i’r teulu cyfan.

Ers 1654 mae carcharorion y carchar hanesyddol yma wedi bod yn defnyddio eu dyfeisgarwch a’u beiddgarwch i geisio dianc rhag waliau mawreddog y carchar (gyda lefelau llwyddiant amrywiol iawn!).

Rŵan rydym ni’n gwahodd ymwelwyr i ddilyn ôl traed carcharorion fel Wrexham Bill ac Ellen Warters i geisio dianc.

Mae’n rhaid i chi ddod o hyd i gliwiau sydd wedi’u cuddio yn islawr y celloedd Pentonville eiconig, gan gadw’ch pwyll i osgoi Mr Parry y Warden; ac wrth ganfod eich ffordd allan byddwch hefyd yn clywed hanesion hen breswylwyr y carchar.

Meddai Philippa Jones, Rheolwr Safle Carchar Rhuthun:

“Roedd arnom ni eisiau creu rhywbeth newydd a chyffrous sy’n dod â hanes yn fyw o flaen ein llygaid mewn ffordd ddifyr sy’n cynnwys y teulu cyfan.

Mae’r gweithgaredd Dianc o’r Carchar yn boblogaidd iawn ac mae’n braf gwylio’r teuluoedd yn ymgolli yn hanes y carchar.”

Yn ogystal â Dianc o’r Carchar, mae Carchar Rhuthun yn cynnig teithiau tywys sain yn y pris mynediad sy’n rhoi cipolwg diddorol iawn o hanes y safle ers yr ail ganrif ar bymtheg. Gall ymwelwyr archwilio’r celloedd gwreiddiol a gweld arddangosfeydd ar drosedd a chosb dros yr oesoedd.

Mae’r carchar ar agor drwy gydol y gwyliau hanner tymor ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod yr amgueddfa garchar rhwng 10:30am a 5pm (mynediad olaf am 4pm) bob dydd ac eithrio dydd Mawrth pan fydd y carchar ar gau. Yn unol â’r ymrwymiad i gynhwysiant, mae’r carchar yn estyn croeso cynnes i bawb, yn cynnwys cyfeillion pedair coes.

Ychwanegodd Philippa:

“Yma yng Ngharchar Rhuthun rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu profiadau diddorol a chofiadwy i ymwelwyr o bob oed.

Rydym ni’n edrych ymlaen at gynnig cyfleoedd unigryw i deuluoedd lleol ac ymwelwyr gael creu atgofion melys a darganfod straeon diddorol y safle hanesyddol hwn”.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid