llais y sir

Archifdy

Bywyd yn y 1920au i’w weld mewn digwyddiad diweddar yn Archifau

Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Rhuthun, gwahoddwyd trigolion lleol i droi’r cloc yn ôl a darganfod sut oedd bywyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ystod y 1920au.

Yn y digwyddiad rhad ac am ddim roedd rhai o gasgliadau gorau’r Archif ar ddangos, yn cynnwys lluniau, cofnodion yn gysylltiedig â Deiseb Heddwch Merched, papurau newydd a chofnodion eraill oedd yn canolbwyntio ar fywyd yn y 1920au.

Roedd yna hefyd gyfle i’r rhai oedd yn bresennol i greu crefftau gydag artist lleol, Rachel Evans, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r archifau i greu prosiect celf i blant yn seiliedig ar gasgliadau archifau lleol.

Dangosodd ffotograffydd gwadd eu gwasanaethau hefyd, gan adael i’r mynychwyr adael gyda delweddau unigryw a ddatblygwyd mewn 5 munud gan ddefnyddoi’r unig gamera blwch stryd yng Nghymru.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r tîm siarad am y prosiect Archifau Creadigol. Bydd y prosiect, a ariennir drwy arian grant datblygu Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn galluogi'r gwasanaeth i ddatblygu ymhellach gynlluniau ar gyfer symud i ganolfan archifau newydd yn yr Wyddgrug a chyflwyno rhaglen weithgareddau.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Roedd y digwyddiad yma’n gyfle i breswylwyr gamu’n ôl mewn amser a chael eu trochi yn hanes eu hardal leol.

Cafodd y preswylwyr weld rhai o’r pethau gorau o gasgliad ein harchif, ac roedd rhai ohonot yn dyddio’n ôl ganrif a mwy.”

Dywedodd Sarah Roberts, Archifydd yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru:

“Cawsom dros 170 o bobl drwy ein drysau i ddathlu’r digwyddiad drysau agored blynyddol yn Rhuthun, braf oedd gweld cymaint o bobl yn darganfod y straeon o’n casgliadau.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid