llais y sir

Cefnogaeth i drigolion

Cymorth Costau Byw

Oeddech chi'n gwybod bod gennym adran ar ein gwefan sy'n rhoi gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bobl i'w helpu gyda'u costau byw?

Mae'n cynnwys cymorth ar gyfer:

  • Lluoedd Arfog / Cyn-filwyr
  • Gofalwyr
  • Pobl Anabl
  • Teuluoedd
  • Pensiynwyr
  • Pobl nad ydynt yn gweithio
  • Pobl sydd wedi colli anwylyd
  • Myfyrwyr

Mae dolenni hefyd i Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, gwybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a llawer mwy. Cliciwch ar y ddolen yma am fwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Cyngor gan ein Swyddog Digidol

Ydych chi'n dioddef o gynadleddau fideo sy’n araf a rhyngrwyd araf tra yn gweithio gartref?

Mae ein Swyddog Digidol ar gael i gynnig cyngor diduedd am ddim ar eich cysylltiad rhyngrwyd cartref, datrysiadau uwchraddio posibl a phroblemau Wi-Fi cartref.

Cysylltwch gyda Philip Burrows - philip.burrows@sirddinbych.gov.uk.

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid