Mae nythfa enwog yn Sir Ddinbych yn dathlu 20 mlynedd gyda thymor llwyddiannus arall o warchod ymwelwyr prin yr haf.

Eleni rydym ni’n dathlu ugain mlynedd ers i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ddechrau rheoli nythfa môr-wenoliaid bach Twyni Gronant.

Hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru. Mae’n adnabyddus ledled y byd ac yn cyfrannu at dros 10% o gyfanswm y niferoedd bridio yn y DU, ac yn atgyfnerthu nythfeydd eraill.

Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwr. Maen nhw’n dechrau hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst.

Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 wy. Mae môr-wenoliaid yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, drwy bysgota amdanynt ar y môr.

Codwyd un ar ddeg o gorlannau ffensys trydan a ffens strap ar hyd ochr y nythfa tua’r tir i warchod y môr-wenoliaid bach sy’n bridio.

Codwyd ffens hefyd i atal y cyhoedd rhag mynd at y nythfa ond mae croeso iddyn nhw fynd i’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan i ddarganfod mwy am yr adar bach yma ac i wylio’r adar o bell.

Helpodd wardeiniaid y safle i gadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr – cudyllod coch a hebogau tramor yn bennaf, yn ogystal â siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i dwyni Gronant bob blwyddyn.

Yn ystod y tymor hwn cofnodwyd 166 o barau bridio a chyfanswm o 158 o gywion bach, sy’n gynnydd bach o gymharu â thymor 2023.

Gweithiodd y wardeniaid hefyd gydag Ymddiriedolaeth Adareg Prydain i fodrwyo nifer o’r adar er mwyn eu holrhain yn y dyfodol.

Croesawodd y ganolfan ymwelwyr 1140 o ymwelwyr i’r mannau gwylio dynodedig ac ymgysylltodd 115 o bobl â’r prosiect drwy deithiau ac ymweliadau â’r safle. Mae gwirfoddolwyr Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Grŵp Modrwyo Glannau Mersi wedi cofnodi 867 awr o wirfoddoli y tymor hwn.

Mae’r staff Cefn Gwlad yn gweithredu polisi ‘gadael dim ar ôl’ ar safle’r nythfa ac felly mae’r holl gyfarpar yn cael ei symud a’i gadw’n ddiogel tan y gwanwyn.

Meddai Garry Davies, Swyddog Cefn Gwlad a Rhandiroedd Sirol: “Mae’r prosiect yma’n fwy na gwarchod aderyn môr prin iawn. Mae cyfranogiad gwirfoddolwyr ar y nythfa yn uwch nag ar gyfer unrhyw weithgaredd arall a gynigir gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad, ac mae ymweld â’r nythfa wedi dod yn fwy cynhwysol gydag ymdrech ymwybodol i gynnwys ysgolion a phreswylwyr o ardaloedd mwy difreintiedig Sir Ddinbych. Mae hefyd yn cyfrannu at gynnig twristiaeth y sir, gyda gwylwyr adar yn heidio yma o bob cwr o’r DU.

“Mae’r tymor yma wedi bod yn un arbennig iawn o ran bod cambigau wedi bridio yng Ngronant yn llwyddiannus am y tro cyntaf. Rhywogaeth allweddol i stori’r gwarchod, mae’r cambig yn cynrychioli adferiad anhygoel aderyn a oedd unwaith yn aderyn diflanedig yn y DU. Yn fwy nag unrhyw rywogaeth arall, mae’n symboleiddio’r mudiad gwarchod adar ar draws y DU.

“Dan lygaid barcud staff Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr, cafwyd dau gyw bach ar arfordir Sir Ddinbych am y tro cyntaf erioed ac fe ddylai pawb a oedd yn rhan o hyn fod yn falch iawn o’u hymdrechion.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Newyddion gwych ydi clywed bod nifer y cywion yn y nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych wedi cynyddu. Mae’n rhaid canmol gwaith caled ein timau cefn gwlad a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n gwneud cymaint i warchod a chefnogi’r nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych.”

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am nythfa môr-wenoliaid bach Gronant, neu wirfoddoli, cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk.