llais y sir

Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref

Mae Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref Sir Ddinbych yn ôl ar ôl seibiant byr gyda thîm newydd.

Os na allwch gyrraedd y llyfrgell, gadewch i’r llyfrgell ddod atoch chi gyda’n gwasanaeth am ddim i’ch drws. Byddwn yn ymweld â'ch cartref bob pedair wythnos i ddosbarthu a chasglu eich eitemau. Gwasanaeth yw hwn i drigolion Sir Ddinbych nad ydynt yn gallu cyrraedd y llyfrgell eu hunain. Gall hyn fod oherwydd anabledd, anallu i gario llyfrau trwm, yn gaeth i’r tŷ heb deulu neu ffrindiau all gasglu eich llyfrau neu rôl ofalu.

Rydym yn cynnig nofelau, llyfrau gwybodaeth, print bras a llyfrau llafar. Gallwch hefyd ddefnyddio ein catalog ar-lein i ofyn am eitemau 24/7. Bydd ein tîm rhagorol yn trafod eich dewisiadau darllen a'ch dewis iaith a fformatau gyda chi. Mae dewisiadau defnyddwyr yn cael eu cofnodi a bydd y tîm yn dewis ac yn paratoi'r eitemau, ac yna byddant cael eu cludo at eich drws.

Gallwn ddod ag eitemau i'ch cartref, cartref gofal neu nyrsio neu ganolfan ddydd.

Mae gwerth y gwasanaeth i'w weld yn y ganmoliaeth cyson a gaiff y tîm:

“Gwasanaeth selog, yn gwerthfawrogi’r dewis arbennig. Mewn bag taclus a hwylus yn cael ei gludo at y drws”

“Diolch am eich gwasanaeth arbennig, mor falch o gael y llyfrau – Diolch!”

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech chi neu rywun rydych yn ei adnabod gael eich ystyried ar gyfer y gwasanaeth ffoniwch Lyfrgell Rhuthun 01824 705274 neu e-bostiwch blair.gardiner@sirddinbych.gov.uk.

Wenna Edwards, Cymhorthydd Llyfrgell i’r Cartref yn paratoi’r bagiau ar gyfer eu danfon

Home Library Assistant, Blair Gardiner ready to deliver the books to homes in Denbighshire

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid