llais y sir

Cymorth oddi uchod i waith datgarboneiddio yng Nghanolfan Hamdden Dinbych

Gwelwyd boeleri hen a newydd yn yr awyr uwchben Dinbych yn ddiweddar wrth gwblhau prosiect enfawr i arbed ynni.

Wrth i waith sylweddol gael ei gwblhau i leihau’r defnydd o ynni  a thorri’n ôl ar allyriadau carbon, roedd angen edrych i fyny uwchben Canolfan Hamdden Dinbych i weld y datblygiadau.

Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi rheoli eu prosiect mwyaf hyd yma i fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a chostau is ar y safle sy’n cael ei redeg gan Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig ac sy’n eiddo i’r Cyngor, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan yr Ysgol Uwchradd ar gyfer eu cwricwlwm.

Mae'r tîm wedi rheoli nifer o brosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor, gan gynnwys canolfannau hamdden i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, a hefyd lleihau allyriadau a chostau defnydd dros y tymor hwy.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Mae’r Tîm Egni wedi bwrw ati i fynd i’r afael â cham cyntaf y gwaith yng Nghanolfan Hamdden Dinbych, gan osod paneli solar ffotofoltäig ar do'r adeilad.

Y rhesi ffotofoltäig hyn yw'r cyntaf o ddau bosibl i'w gosod ac mae'n 18.7Kw. Fe’i hariennir gan gyllideb Newid Hinsawdd y Cyngor, gan gynhyrchu cyfanswm o 15,545kWh y flwyddyn ac arbed ychydig dros bedair tunnell o ynni adnewyddadwy carbon.

Bydd pob cilowat a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan yr adeilad yn arbed tua 30 ceiniog. Nid yn unig y mae’r capasiti hwn yn lleihau carbon yn sylweddol, mae hefyd yn lleihau straen ar isadeiledd y grid lleol.

Yn ystod camau pellach y gwaith yng Nghanolfan Hamdden Dinbych, disodlwyd system wresogi hen ffasiwn ac aneffeithlon y pwll i gynnwys rheolaethau adfer gwres a gwell rheolaethau atmosfferig, ail set o resi ffotofoltäig a goleuadau LED.

Er mwyn mynd i'r afael â maint y prosiect hwn, codwyd yr hen foeleri allan o do'r ganolfan hamdden gan graen a’u gosod ar gerbydau oedd o flaen yr adeilad. Defnyddiwyd y craen hwn hefyd i godi’r uned adfer gwres rheoli amgylcheddol newydd i mewn i’r adeilad.

Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Mae hwn yn brosiect mawr yn y ganolfan hamdden, gyda gwaith yn mynd rhagddo i ddod â gwahanol dechnolegau ynni at ei gilydd i helpu i leihau defnydd a chostau ynni ar y safle. Bydd yr allbwn newydd, is, boeleri a’r system adfer gwres, ynghyd â chostau is o'r system solar ffotofoltäig a goleuadau LED yn lleihau’r biliau ynni yn sylweddol. Rydym yn ddiolchgar i ddefnyddwyr lleol y safle ac i Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig am ein cefnogi wrth i ni wneud y gwaith hwn.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Bydd y prosiect hwn yn helpu’r ganolfan hamdden nid yn unig i ddarparu amgylchedd gwell ar gyfer gweithgareddau corfforol i ddefnyddwyr a lleihau carbon, ond hefyd yn cefnogi’r safle i leihau costau ynni yn barhaus.

“Rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau. Diolch i’r Tîm Ynni am eu gwaith rhagweithiol a’r ymgysylltiad a’r gefnogaeth ragorol gan Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a staff Canolfan Hamdden Sir Ddinbych.”

Gallwch wylio fideo dros amser o dynnu'r boeler isod.

  

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid