llais y sir

Newyddion

Cynghorydd Arwel Roberts yn cael ei ethol yn Is-Gadeirydd

Mae'r Cyngor wedi ethol Is-Gadeirydd newydd ar gyfer gweddill 2023/2024.

Mewn cyfarfod yn Rhuthun, etholwyd y Cynghorydd Arwel Roberts (Rhuddlan) yn Is-Gadeirydd i’r awdurdod. Mae’n ymgymryd â’r rôl yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Diane King sydd bellach wedi ei phenodi i’r Cabinet.

Yn y llun: Y Cynghorydd Arwel Roberts (chwith) a'r Cynghorydd Peter Scott (dde)

Mae’r Cynghorydd Roberts wedi bod yn Gynghorydd Sir ers 2012 ac mae ganddo hefyd gryn brofiad fel Cynghorydd Tref. Mae wedi bod yn aelod o’r pwyllgorau cynllunio, trwyddedu a sawl pwyllgor craffu gan gynnwys partneriaeth a pherfformiad. Ar hyn o bryd mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Mae wedi bod yn faer Rhuddlan am gyfnod o dair blynedd, ac yn ystod 2021-2022 ef oedd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych.

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd y Cynghorydd Roberts, “Mae’n bleser pur cael fy mhenodi’n Is-Gadeirydd. Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod fel Cadeirydd y Cyngor yn aruthrol ac yn awr rwy’n edrych ymlaen i fynd i’r afael â’r rôl newydd hwn ac i gefnogi’r Cynghorydd Peter Scott.”

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Peter Scott, “Hoffwn longyfarch Arwel ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag o dros weddill y flwyddyn hon. Rwyf hefyd yn dymuno diolch yn ddiffuant i’r Cynghorydd Diane King am ei holl waith caled dros y misoedd diwethaf.”

Cyflwyno dau gae pêl-droed newydd

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith i osod dau gae pêl-droed i blant iau yng Nghae Hywel, Dinbych Uchaf.

Dyrannwyd cyfanswm o £5,977.44 i ariannu’r prosiect gan y Cyllid Grant Symiau Gohiriedig, cyllid arbennig ar gyfer gwella mannau agored a meysydd chwarae. 

Mae’r gymuned wedi bod yn defnyddio’r man agored hwn yn Ninbych fel cae hamdden am sawl blwyddyn, sydd eisoes yn cynnwys ardal chwarae i blant gyda gwifren sip, rhwyd pêl fasged ac ardal laswellt agored. 

Ymgynghorodd staff y Cyngor a Chynghorwyr lleol â phreswylwyr i weld beth fyddai’r opsiwn gorau ar gyfer y cae hamdden i’r dyfodol. Nodwyd bod angen man agored mawr a chyfleuster lle gall plant chwarae pêl-droed ac ymgymryd â gweithgareddau ymarfer corff.

O ganlyniad, mae tîm Gwasanaethau Stryd y Cyngor, Cynghorwyr Lleol a’r cwmni peirianneg sifil lleol, Jones Bros, sy’n gweithio ar draws y DU, wedi gweithio gyda’i gilydd ar brosiect i ddarparu dau gau pêl-droed safonol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â physt gôl yng Nghae Hywel.

Mae’r cwmni peirianneg sifil hefyd wedi rhoi a gosod bwrdd picnic sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ar y safle.  Bydd y nodwedd hon, ynghyd â’r caeau pêl-droed, yn trawsnewid yr ardal hon a arferai fod yn ardal laswellt agored i fod yn gyfleuster aml-ddefnydd i’w fwynhau gan y gymuned leol.

Dywedodd Patrick Williams, cydlynydd prosiect Jones Bros: “Rydym ni fel cwmni o Sir Ddinbych yn falch iawn o gyfrannu at y gymuned leol ac yn teimlo y bydd hyn yn darparu gofod diogel i bobl gymdeithasu a bod yn egnïol”.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma enghraifft wych o’r pethau y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chynghorwyr lleol a siarad yn agored â’r gymuned.

"Hoffwn ddiolch i Jones Bros am eu rhodd garedig i sicrhau fod bob aelod o’r gymuned yn gallu defnyddio’r ardal hon.

“Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau fod gan gymunedau fynediad at fan diogel i chwarae ac ymgymryd â gweithgareddau ymarfer corff”. 

O’r chwith i’r dde: Mr Patrick Williams - Jones Bros, Y Cyng Pauline Edwards, Y Cyng Delyth A Jones, Neil Jones - Cydlynydd Ardal y Cyngor

Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi ymgynghoriad ar Barc Cenedlaethol newydd.

Bydd cyfnod ymgynghori cyhoeddus 10 wythnos ar gynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru yn rhedeg rhwng 7 Hydref ac 16 Rhagfyr 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC i asesu'r dystiolaeth a'r achos dros Barc Cenedlaethol newydd a gwneud argymhelliad.

Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan, ynghyd â manylion am ddigwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn Loggerheads, Prestatyn, Corwen a Llangollen. Mae yna hefyd ddigwyddiadau cyhoeddus ar-lein y gallwch chi eu mynychu trwy Microsoft Teams

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Eich Llais . Eich Penderfyniad: Atwrneiaeth Arhosol

Mae atwrneiaeth arhosol yn rhoi llais i chi ac yn diogelu eich penderfyniadau. Maen nhw’n ddefnyddiol i bawb dros 18 oed.

Mae'r ddogfen gyfreithiol hon yn ei gwneud hi’n haws i’r bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw eich cefnogi pan fydd ei angen fwyaf arnoch chi.

Mae’n golygu eich bod yn cadw rheolaeth ar rai penderfyniadau drwy ddewis pwy rydych chi am eu gwneud os byddwch chi’n colli’r pŵer i wneud rhai penderfyniadau. Gallai fod i helpu gyda phenderfyniadau am gyllid yn ystod arhosiad byr yn yr ysbyty, neu gymorth i reoli penderfyniadau am eich iechyd a’ch gofal yn y tymor hwy.

Sut mae’n gweithio

Mae yna ddau fath gwahanol o atwrneiaeth arhosol, neu LPA. Mae un yn ymwneud â materion ariannol ac eiddo, fel talu biliau neu reoli cyfrifon banc. Mae’r llall yn ymwneud ag iechyd a lles, fel triniaeth feddygol neu amodau byw.

Pan fyddwch chi’n gwneud atwrneiaeth arhosol rydych chi, sef y “rhoddwr”, yn enwi pobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, sef “atwrneiod”. Mae atwrneiod yn gwneud
penderfyniadau ar eich rhan os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n gyfrifol am gofrestru atwrneiaeth arhosol. Ar ôl ei rhoi ar waith, gall y bobl rydych chi’n ymddiried ynddynt gamu i mewn yn gyflym ac yn ddidrafferth.

Gwybodaeth bwysig

  • ni fyddai teulu na ffrindiau agos yn gallu gwneud penderfyniadau ar eich rhan os byddwch yn colli’r pŵer i wneud rhai penderfyniadau heb AA
  • mae’n debyg bod cofrestru atwrneiaeth arhosol yn haws ac yn rhatach nag y byddech chi’n ei feddwl. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai na fydd tâl hyd yn
    oed
  • mae gwneud atwrneiaeth arhosol yn helpu i gynllunio ar gyfer eich dyfodol ar eich
    telerau eich hun

Mwy o wybodaeth am atwrneiaeth arhosol: https://powerofattorney.campaign.gov.uk. Pwy fydd yn siarad ar eich rhan os na allwch siarad drosoch eich hun? Ymunwch â’r sgwrs ar-lein #EichLlaisEichPenderfyniad

Y Cyngor yn rhybuddio trigolion i beidio â chael eu twyllo gan sgâm dirwyon parcio

Mae'r Cyngor yn rhybuddio preswylwyr am sgam sy’n rhedeg yn y Sir lle bydd pobl yn cael negeseuon testun neu e-bost yn gofyn iddynt dalu dirwyon parcio.

Yn ddiweddar, mae’r Cyngor wedi cael gwybod am sgam sydd wedi bod yn targedu preswylwyr gan honni eu bod wedi cael dirwy am barcio’n anghyfreithlon. Bydd pobl sy’n cael y negeseuon hyn yn cael gwybod bod Cyngor lleol wedi rhoi Rhybudd Talu Cosb iddynt ac fe’u gwahoddir i dalu’r ddirwy trwy glicio ar ddolen sy’n mynd â nhw i wefan ffug y Llywodraeth.

Hoffai Cyngor Sir Ddinbych atgoffa preswylwyr mai dim ond trwy eu rhoi ar gerbydau fydd Swyddogion Gorfodi Sifil yr Awdurdod yn rhoi Rhybuddion Talu Cosb. Anogir unrhyw un sydd wedi cael neges destun neu e-bost i roi gwybod i Action Fraud trwy eu ffonio ar 0300 123 2040 neu trwy fynd i’w gwefan.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi cael gwybod bod preswylwyr wedi cael negeseuon testun ac e-bost twyllodrus sy’n honni bod y Cyngor wedi rhoi Rhybudd Talu Cosb iddynt am barcio’n anghyfreithlon.

"Rydym yn annog preswylwyr sy’n cael y negeseuon hyn i roi gwybod i Action Fraud ac i beidio â thalu’r ddirwy trwy ddefnyddio’r ddolen a ddarperir.

"Dim ond trwy eu rhoi ar gerbydau fydd ein Swyddogion Gorfodi Sifil yn rhoi Rhybuddion Talu Cosb”.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid