Arhoswch yn ddiogel ar noson Calan Gaeaf
Gyda Chalan Gaeaf yn agosáu rydyn ni am i bawb fwynhau, ond mae'n bwysig aros yn ddiogel!
Dyma ychydig o awgrymiadau i chi aros yn ddiogel y Calan Gaeaf yma:
- Dylai plant ifanc bob amser fynd allan gydag oedolyn priodol
- Edrych yn ofalus cyn croesi'r ffordd
- Cynlluniwch eich llwybr a gadewch i bobl wybod ble rydych chi
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n aros mewn ardaloedd sydd wedi'u goleuo'n dda a chymryd fflach lamp gyda chi
- Peidiwch byth â mynd i mewn i dŷ dieithryn na siarad â dieithriaid ar y stryd
- Parchwch breswylwyr sy'n dewis peidio â chymryd rhan
- Byddwch yn ofalus i beidio â dychryn pobl agored i niwed, yn enwedig pobl hŷn
- Sicrhau eich bod bob amser yn weladwy; gallai fod yn syniad da gwisgo tâp llachar ar eich dillad/gwisg fel gall modurwyr eich gweld