llais y sir

Tai cyngor ‘hyfryd’ Y Rhyl yn gosod sylfaeni ar gyfer cymuned gref

Mae tenantiaid cyngor yn datblygu cymuned gref mewn datblygiad tai sydd newydd ei orffen yn Y Rhyl.

Yn ddiweddar fe gynhaliodd Tai Sir Ddinbych ddigwyddiad ar gyfer tenantiaid Llys Elizabeth i’w helpu i gyfarfod eu cymdogion newydd a hefyd sgwrsio gyda staff am eu cartrefi newydd yn yr hen swyddfa dreth.

Fe ddaeth tenantiaid ynghyd ar dir eu cartrefi newydd i roi cynnig ar wehyddu helyg, cymryd rhan mewn gemau boccia yn erbyn ei gilydd a hefyd siarad gyda Llywiwr Cymunedol i ddysgu am gefnogaeth gymunedol addas pe byddai angen.

Mae Llys Elizabeth wedi ei gynllunio ar gyfer pobl 55 oed a hŷn. Fel rhan o’r datblygiad ar y safle mae 12 o gartrefi newydd yn cynnwys 8 fflat dwy ystafell wely a 4 fflat un ystafell wely, sydd wedi eu lleoli yn yr adeilad. Mae pob cartref wedi’i ddylunio i gynnig lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni i gefnogi’r tenantiaid newydd gyda chostau byw a helpu'r Cyngor a Chymru i gyflawni’r targedau o ran lleihau allyriadau carbon.

Mae’r cartrefi newydd hyn yn Y Rhyl yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i fynd i’r afael â’r amseroedd aros am lety drwy fynd i’r afael â’r angen am ragor o ddarpariaeth o ran tai cymdeithasol yn y sir.

‘Hollol hyfryd’ oedd sut y disgrifiodd Sandra Williams ei fflat newydd hi a’i gŵr Alan yn Llys Elizabeth wrth fwynhau cyfarfod ei chymdogion newydd yn y digwyddiad a drefnwyd gan Dai Sir Ddinbych.

“Mae’n wirioneddol hyfryd, alla i ddim canfod unrhyw feiau o gwbl. Mae hyn wedi bod fel ennill y loteri i ddweud y gwir, mae gennym ni le mor hyfryd. Mae’n wirioneddol hyfryd, maen nhw (Tai Sir Ddinbych) wedi bod yn rhoi llawer o sylw ac alla i ddim dweud unrhyw beth gwael”, meddai.

Roedd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau y Cyngor, yn bresennol yn y digwyddiad i gwrdd â’r tenantiaid newydd a hefyd fe aeth o amgylch un o’r fflatiau.

“Mae’r adeiladau hynny wedi creu argraff fawr arna i, dwi’n edmygu faint o le oedd yn yr un a welsom, roedd dwy ystafell wely a hefyd cegin fawr a lle bwyta wedi eu cyfuno, felly roedd yn hyfryd iawn, iawn,” meddai.

“Dwi hefyd wedi siarad gyda rhai o’r preswylwyr yma hefyd. Maent wedi bod yma ers tua tair wythnos ac maent yn hapus iawn, iawn. Dywedodd un eu bod eisiau symud i mewn yr eiliad y gwelsant eu fflat.

“Mae yna rai ardaloedd agored hyfryd yn dibynnu ar ddiddordebau pobl. Er eu bod mewn fflatiau, os ydynt eisiau garddio ychydig a gwneud pethau eraill yna yn amlwg fe allant wneud hynny. Mae i gyd ar dir gwastad, gall pobl gerdded oddi yma i’r promenâd, fe allant gerdded i’r dref ac mae ar lwybr y bysiau, felly mae pawb ar eu hennill.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid