Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn awr ar agor
Bydd yr archifau yn Rhuthun ar agor ar ddydd Gwener.
Bydd yr un gofynion archebu ymlaen llaw a oedd mewn lle cyn y Nadolig dal mewn lle hyd y gellir rhagweld.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Archebu ymlaen llaw, gydag o leiaf 72 awr o rybudd. Mae lleoedd yn yr ystafell ymchwil yn gyfyngedig
- Archebu ymlaen llaw, os yn bosib gan ddefnyddio ein gwefan www.agddc.cymru
- Ein hamseroedd agor yw 10 am-12.45pm ar gyfer sesiwn y bore ac 1.45pm-4.30pm ar gyfer sesiwn y prynhawn
- Gellir gweld hyd at 10 dogfen fesul sesiwn, rhaid archebu pob dogfen ymlaen llaw
Mae cyfarwyddion canlynol mewn lle, i ddiogelu cwsmeriaid a'n staff:
- Mae byrddau wedi'u gosod allan yn unol â chanllawiau pellhau cymdeithasol;
- Dim mynediad i'r catalogau papur na'r llyfrgell astudiaethau lleol;
- Bydd cownter yr ystafell ymchwil yn cael ei amddiffyn gyda sgrin Perspex;
- Bydd toiledau ar agor ar sail un i mewn ac un allan. Defnyddiwch y cynhyrchion glanhau a ddarperir;
- Mae masgiau wyneb yn orfodol, oni bai eich bod wedi'ch eithrio.
Am fwy o wybodaeth gweler tudalen cynllunio eich ymweliad www.agddc.cymru/ymwelwch-a-ni/cynllunio-eich-ymweliad-2/