llais y sir

Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy i wella mynediad at gyrchfannau allweddol Dyffryn Dyfrdwy

Mae Gwasanaeth bws newydd wedi’i lansio yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn daith gylchdro sydd ar gael bob dydd Sadwrn tan ddiwedd mis Hydref 2021. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos gydag atyniadau poblogaidd fel Dyfrbont Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Y gobaith ydi annog pobl i ymweld â'r atyniadau allweddol yma heb gar, lleihau'r angen am leoedd parcio, a gwneud hi’n haws i’r rheini heb gar deithio i’r llefydd yma; a helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy. Bydd y gwasanaeth hefyd yn gyfle i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd archwilio’r ardal ehangach.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte.

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ddydd Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn 15 Mai tan ddydd Sadwrn 30 Hydref 2021. I weld yr amserlen lawn a phrisiau’r tocynnau, ewch i dudalen we Amserlenni Bysiau Sir Ddinbych neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.

Meddai Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy:

“Mae’n bleser gennym ni lansio Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy. Roedd y prosiect i fod i gael ei lansio yn 2020 ond bu’n rhaid i ni ohirio pethau oherwydd y pandemig; ac felly rydym ni’n falch iawn o weld y bydd y gwasanaeth ar gael yn 2021 a, gobeithio, i’r dyfodol. Drwy weithio mewn partneriaeth ag Cyngor Sir Ddinbych rydym ni wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn ategu’r ddarpariaeth gludiant cyhoeddus bresennol.  Mae cysylltu ag amserlenni bysiau o Gorwen a Wrecsam yn gwneud y Gwasanaeth Bws Darluniadwy yn ddewis da i’r rheiny sydd eisiau mynd am dro yn yr ardal. Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Gronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru am wneud y gwasanaeth yma’n bosibl, ac rydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddiant ysgubol ac yn etifeddiaeth go iawn gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy.”

Meddai’r Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd y Cyngor:

“Rydym ni'n falch iawn o weithio mewn partneriaeth i ddarparu'r gwasanaeth bws hwn, a fydd yn gyfle i ymwelwyr archwilio’r ardal heb fod angen car. Bydd y gwasanaeth hwn yn lleihau tagfeydd ac yn helpu i warchod yr amgylchedd, sy’n flaenoriaeth i’r Cyngor.”

Ewch i'n gwefan i weld amserlenni y bws.

CEFNDIR Y PROSIECT

Mae’r prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Mae ymwelwyr wedi’u hysbrydoli gan y dyffryn prydferth hwn ar ffurf celf a barddoniaeth ers y 18fed ganrif, ac mae’n parhau i ddenu twristiaid sy'n chwilio am yr aruchel.

Mae’r dirwedd hon o dan bwysau mawr, gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu denu at yr hyn sy’n aml yn cynnwys ein safleoedd mwyaf bregus. Mae’r cymunedau ar ei charreg drws, a ddaeth i fod o ganlyniad i’r ymdrechion diwydiannol a’i siapiodd, bellach â llai o gyswllt â'r buddion a gyflwynir gan y dirwedd. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a'i reolaeth, wrth ail-ddehongli'r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Mae prosiectau wedi cael eu datblygu o dan 3 thema – Gwarchod y Tirwedd Darluniadwy, Cael Mynediad at y Tirwedd Darluniadwy, Pobl a’r Tirwedd Darluniadwy.

Caiff y prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy' ei hariannu’n bennaf gan Y Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Prosiect partneriaeth yw hwn a ddatblygwyd ar y cyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Amwythig, Glandwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/our-picturesque-landscape-project/

Dilynwch ni ar Facebook @Clwydian Range and Dee Valley

Dilynwch ni ar Twitter ac Instagram @Clwyd_Dee_AONB a ddefnyddiwch #EinTirlunDarluniadwy

Cysylltwch â ni ar ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid