Diweddariad ar Wasanaethau Llyfrgell
Roeddem yn falch iawn i fedru ail-agor ein llyfrgelloedd a gallwn rwan gynnig nifer o wasanaethau trwy apwyntiad er mwyn sicrhau eich diogelwch. Mae ein gwasanaeth Archebu a Chasglu wedi bod yn boblogaidd iawn ac fe fydd yn parhau, ond os fydde’n well gennych chi ddod i ddewis eich llyfrau eich hun gallwch rwan ffonio eich llyfrgell leol a threfnu apwyntiad 20 munud i ddod i bori trwy’r silffoedd.
Mae gennym lawer o lyfrau newydd i’w dewis.
Gallwch hefyd wneud apwyntiad i ddefnyddio ein cyfrifiaduron a chyfleusterau argraffu a llungopïo, ac i gael cymorth gyda gwasanaethau’r Cyngor ac i wneud taliadau.
Cylchgronau diderfyn o'ch llyfrgell leol
Mae dros 1200 o gylchgronau poblogaidd bellach ar gael i'w lawrlwytho a'u darllen ar unrhyw ddyfais 24/7 trwy Libby, yr ap darllen gan Overdrive. Lawrlwythwch ap Libby a mewngofnodwch gyda'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN.
Nid oes gan y cylchgronau restrau aros ac maent ar gael i'w lawrlwytho ar unwaith. Ymhlith y teitlau mae Good Housekeeping, New Scientist, Autocar, Comic Mellten, Cara a Lingo Newydd.
Darllen yn Well mewn Llyfrgelloedd
Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 10 - 16 Mai ac mae ein casgliad o lyfrau Darllen yn Well yn cynnig gwybodaeth defnyddiol a chymorth i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu i ddelio gyda theimladau a phrofiadau anodd.
Mae rhai llyfrau yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda neu’n gofalu am rywun gyda, anghenion iechyd meddwl.
Mae’r llyfrau ar gael i’w benthyg o’rch llyfrgell leol.