Cydnabod Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor am berfformiad o’r radd
Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi fod ei Wasanaeth Arlwyo Ysgolion Mewnol wedi ei gydnabod fel un o’r 6 Gwasanaeth oedd yn perfformio orau yn DU ar gyfer 2019/2020 gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.
Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi ei seilio ar gymariaethau gyda Gwasanaethau Prydau Ysgol eraill o bob cwr o'r DU ac mae'n ystyried elfennau fel mentrau prynu, y nifer sy’n derbyn prydau ysgol, costau rheoli, hyfforddi staff/lefelau absenoldeb, cyfathrebu â chwsmeriaid ayb.
Dywedodd Tony Ward, Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rydym yn hynod o falch fod ymrwymiad ac ymroddiad ein tîm Gwasanaeth Arlwyo Addysg wedi ei gydnabod gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.
“Mae tîm y Gwasanaeth Arlwyo Addysg wedi gweithio’n galed i gynnal ansawdd y gwasanaeth a gaiff ei ddarparu ledled y sir, ac yn arbennig dros yr 13 mis diwethaf yn ystod y pandemig. Mae hyn wir wedi bod yn ymdrech tîm ac rydym mor falch drostynt i gyd fod eu gwaith wedi derbyn sylw ar lefel y Deyrnas Unedig.
Fe fydd y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cynnwys astudiaeth achos yn ymwneud â gwasanaeth y Cyngor yn eu cyhoeddiad o astudiaethau arfer orau a fydd yn cael ei gynhyrchu yr haf hwn.
Fe fydd gwobrau’r rhwydweithiau perfformiad yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Mehefin.