Lletygarwch awyr agored yn croesawu cwsmeriaid yn ôl
Mae lletygarwch awyr agored wedi ailagor, a bydd cwsmeriaid yn gallu mwynhau gerddi cwrw, caffis a thai coffi yn yr awyr agored.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod yn gallu ailagor yn ddiogel er mwyn helpu cwsmeriaid i fwynhau eu hunain a diogelu cymunedau Sir Ddinbych yr un pryd.
Gall cwsmeriaid hefyd chwarae eu rhan drwy ddilyn canllawiau:
- Efallai y bydd yn rhaid ciwio mewn rhai mannau felly bydd disgwyl i chi gadw pellter cymdeithasol oddi wrth unrhyw un nad ydyn nhw yn eich aelwyd.
- Rhaid i bob eiddo gymryd eich manylion cyswllt ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu rhag ofn y bydd angen iddyn nhw gysylltu â chi.
- Ni fyddwch yn gallu sefyll mewn ardal eistedd i yfed eich diod.
- Dangoswch barch tuag at bob aelod o staff. Maen nhw wedi eich colli ac maen nhw eisiau i chi fwynhau eich hunain ond ni chaniateir ymddygiad difrïol tuag at staff.
- Os byddwch yn defnyddio cludiant cyhoeddus neu os bydd angen tacsi arnoch, bydd yn rhaid i chi wisgo masg wyneb. Mae gan yrwyr, gan gynnwys gyrwyr tacsi, hawl i wrthod mynd â chi os na fyddwch yn gwisgo masg.
- Rhaid i berchnogion a landlordiaid gadw at y rheolau hefyd felly os oes gennych bryderon am unrhyw eiddo, cysylltwch â covidppadmin@denbighshire.gov.uk
Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Mae ailagor lletygarwch awyr agored yn gam mawr tuag at lacio’r cyfyngiadau ac mae busnesau wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr eu bod yn paratoi mannau diogel i gwsmeriaid fwynhau eu hunain.
“Nid yw Covid-19 wedi diflannu ac mae’n rhaid i ni gymryd yr holl ragofalon i wneud yn siŵr na ddaw yn ei ôl. Rydym yn gofyn i gwsmeriaid chwarae eu rhan os gwelwch yn dda fel y gallwn barhau i gadw lefelau'n isel a helpu i ddiogelu ein cymunedau."