llais y sir

Newyddion

Pum mlynedd ers datblygu adeilad newydd Ysgol Uwchradd Y Rhyl

Mae Ysgol Uwchradd y Rhyl yn dathlu pum mlynedd ers agor yr adeilad newydd.

Agorwyd yr ysgol gyntaf ar y safle ym 1901 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Wedi dymchwel yr hen adeilad agorwyd un newydd ag amrywiaeth o gyfleusterau modern gan gynnwys salonau trin gwallt ac ystafelloedd adeiladu, yn ogystal â’r byrddau rhyngweithiol diweddaraf, stiwdio recordio a gliniaduron i’r plant sydd wedi bod yn hollbwysig, yn enwedig felly yn ystod y pandemig. 

Meddai Claire Armistead, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Fe ddigwyddodd rhywbeth arbennig iawn wrth agor adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Roedd yn dangos i’r plant ac i’r gymuned yn y dref eu bod yn haeddu rhywbeth fel hyn, rhywle sy’n llawn o gyfleoedd a photensial. Mae’r ffordd rydym yn addysgu’r plant wedi newid yn llwyr a gallwn gynnig llawer o wahanol bynciau, sy’n paratoi ein plant ar gyfer y dyfodol.

“Yn yr hen adeilad roedd gennym ystafelloedd dosbarth a choridorau – rhywle y byddai rhywun yn eich addysgu, ond nid rhywle y gallai’r plant ddysgu a thyfu ynddo. Mae’r adeilad newydd yn galluogi ein plant i fod y dysgwyr gorau y gallant fod. Mae rhywun yn medru teimlo eu hegni a’u huchelgais yn llifo ar hyd y coridorau.

“Anghofia i fyth mor bwysig yw’r adeilad newydd hwn i’r Rhyl, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod yr ysgol fel sefydliad dysgu yn aros mor rhyfeddol ag y mae heddiw. Rwy’n eithriadol o ddiolchgar am yr adnodd bendigedig hwn i blant y Rhyl.”

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Addysg y Cyngor: “Ers pum mlynedd mae adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi cynnig cyfleusterau a chyfleoedd dysgu ardderchog i’r disgyblion.

“Mae hyn wedi helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial, ac wedi rhoi’r profiad addysgol gorau posib iddynt. Hoffwn ddiolch i’r staff am eu holl waith caled dros y pum mlynedd diwethaf, a dymuno’r gorau i’r holl ddisgyblion yn y dyfodol.”

Diwrnod agored rhithiol cynllun gofal ychwanegol gwerth £12m yn Ninbych

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi cael darganfod mwy am gynllun gofal ychwanegol newydd lle gall y preswylwyr fyw’n annibynnol mewn fflatiau cyfforddus, trwy ddiwrnod agored rhithiol.

Datblygwyd Awel y Dyffryn, Dinbych, gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, y cynllun mwyaf uchelgeisiol o’i fath yn hanes y grŵp.

Mae’r cynllun bron yn barod a bydd y preswylwyr cyntaf yn symud yno yn nhymor yr hydref.

Cynhaliwyd y diwrnod agored rhithiol dros Zoom a roedd cyfle i gael ‘taith’ o gwmpas un o’r fflatiau, cyfle i weld fideo o’r math o adnoddau a gynigir a chyfle i holi staff Grŵp Cynefin am y cynllun.

Bydd pobl 60 oed a throsodd sy’n byw yn Sir Ddinbych yn cael blaenoriaeth wrth osod y fflatiau a bydd Awel y Dyffryn yn cynnig cymuned fywiog, glos, yn ogystal â gofal a chefnogaeth 24 awr y dydd.

Yn y cynllun £12m mae 66 o fflatiau o fewn gerddi hardd. Caiff y tenantiaid bob cyfle i fwynhau bywyd cymdeithasol difyr. Gallant gwrdd â’i gilydd mewn ardaloedd cymunedol fel stafelloedd cynnal gweithgareddau ac, ar yr un pryd, fwynhau preifatrwydd eu fflat eu hunain.

Mae adnodd ychwanegol i ffrindiau a theulu aros hefyd mewn llety pwrpasol i westeion o fewn y safle.

Meddai pennaeth gwasanaethau tai Grŵp Cynefin, Noela Jones: “Mae pawb yn Grŵp Cynefin yn gyffrous dros ben ynghylch y datblygiad newydd hwn. Edrychwn ymlaen at groesawu preswylwyr drwy ddrws Awel y Dyffryn. Rydym yn hyderus y bydd y fflatiau modern a’r cyfleusterau rhagorol, fel y gerddi, yn gwneud iddynt deimlo’n gartrefol iawn.

“Mae rhai pobl eisoes wedi mynegi dymuniad i fyw yn Awel y Dyffryn. Mae’r mathau hyn o gynlluniau yn hanfodol yn ein cymuned am eu bod yn rhoi cyfle i bobl hŷn barhau i gadw eu hannibyniaeth gyda sicrwydd ar yr un pryd y bydd gofal a chefnogaeth bob amser wrth law os byddant ei angen.

“Yn ogystal â’r fflatiau, ar y safle bydd siop drin gwallt, bwyty, lle golchi dillad a stafelloedd cynnal gweithgareddau, y rhain oll yn helpu i hybu iechyd a lles.

“Mae’r cyfyngiadau COVID yn anffodus yn golygu na allwn gynnal diwrnod agored o’r math arferol yn Awel y Dyffryn, ond fe wnawn yn siŵr y bydd pawb sy’n dod i’r digwyddiad rhithiol yn gweld holl rinweddau’r cynllun.”

Mae 42 o fflatiau dwy lofft a 24 o fflatiau un llofft yn Awel y Dyffryn, pob un yn cynnwys ystafell ymolchi, cegin a lolfa. Dyma’r pumed datblygiad gofal ychwanegol gan Grŵp Cynefin, sydd â datblygiadau tebyg hefyd yn Y Bala, Porthmadog, Caergybi a Rhuthun.

Codwyd Awel y Dyffryn gan gwmni RL Davies o Ogledd Cymru. Golygodd fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol. Roedd 80% o’r is-gontractwyr a’r prif gyflenwyr nwyddau wedi eu lleoli o fewn 30 milltir i’r cynllun hwn a manteisiodd prentisiaid lleol o Goleg Llandrillo ac eraill dan hyfforddiant o’r profiad o weithio arno.

Dywedodd Phil Gilroy, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Cynefin ar y prosiect pwysig hwn. 

“Bydd Awel y Dyffryn yn helpu preswylwyr hŷn Sir Ddinbych i gynnal a gwella eu hannibyniaeth tra hefyd yn cefnogi ein cymunedau i fod yn fwy gwydn.

“Rydym yn annog yr holl breswylwyr sydd â diddordeb i fynychu'r diwrnod agored rhithiol i ddysgu am y gefnogaeth anhygoel y bydd y cyfleuster newydd, gwych hwn yn ei gynnig iddynt.”

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau gwybod rhagor am Awel y Dyffryn, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org

Lletygarwch awyr agored yn croesawu cwsmeriaid yn ôl

Mae lletygarwch awyr agored wedi ailagor, a bydd cwsmeriaid yn gallu mwynhau gerddi cwrw, caffis a thai coffi yn yr awyr agored.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod yn gallu ailagor yn ddiogel er mwyn helpu cwsmeriaid i fwynhau eu hunain a diogelu cymunedau Sir Ddinbych yr un pryd.

Gall cwsmeriaid hefyd chwarae eu rhan drwy ddilyn canllawiau:

  • Efallai y bydd yn rhaid ciwio mewn rhai mannau felly bydd disgwyl i chi gadw pellter cymdeithasol oddi wrth unrhyw un nad ydyn nhw yn eich aelwyd.
  • Rhaid i bob eiddo gymryd eich manylion cyswllt ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu rhag ofn y bydd angen iddyn nhw gysylltu â chi.
  • Ni fyddwch yn gallu sefyll mewn ardal eistedd i yfed eich diod.
  • Dangoswch barch tuag at bob aelod o staff. Maen nhw wedi eich colli ac maen nhw eisiau i chi fwynhau eich hunain ond ni chaniateir ymddygiad difrïol tuag at staff.
  • Os byddwch yn defnyddio cludiant cyhoeddus neu os bydd angen tacsi arnoch, bydd yn rhaid i chi wisgo masg wyneb. Mae gan yrwyr, gan gynnwys gyrwyr tacsi, hawl i wrthod mynd â chi os na fyddwch yn gwisgo masg.
  • Rhaid i berchnogion a landlordiaid gadw at y rheolau hefyd felly os oes gennych bryderon am unrhyw eiddo, cysylltwch â covidppadmin@denbighshire.gov.uk

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Mae ailagor lletygarwch awyr agored yn gam mawr tuag at lacio’r cyfyngiadau ac mae busnesau wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr eu bod yn paratoi mannau diogel i gwsmeriaid fwynhau eu hunain.

“Nid yw Covid-19 wedi diflannu ac mae’n rhaid i ni gymryd yr holl ragofalon i wneud yn siŵr na ddaw yn ei ôl. Rydym yn gofyn i gwsmeriaid chwarae eu rhan os gwelwch yn dda fel y gallwn barhau i gadw lefelau'n isel a helpu i ddiogelu ein cymunedau."

Cydnabod Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor am berfformiad o’r radd

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi fod ei Wasanaeth Arlwyo Ysgolion Mewnol wedi ei gydnabod fel un o’r 6 Gwasanaeth oedd yn perfformio orau yn DU ar gyfer 2019/2020 gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.

Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi ei seilio ar gymariaethau gyda Gwasanaethau Prydau Ysgol eraill o bob cwr o'r DU ac mae'n ystyried elfennau fel mentrau prynu, y nifer sy’n derbyn prydau ysgol, costau rheoli, hyfforddi staff/lefelau absenoldeb, cyfathrebu â chwsmeriaid ayb.

Dywedodd Tony Ward, Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rydym yn hynod o falch fod ymrwymiad ac ymroddiad ein tîm Gwasanaeth Arlwyo Addysg wedi ei gydnabod gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.

“Mae tîm y Gwasanaeth Arlwyo Addysg wedi gweithio’n galed i gynnal ansawdd y gwasanaeth a gaiff ei ddarparu ledled y sir, ac yn arbennig dros yr 13 mis diwethaf yn ystod y pandemig. Mae hyn wir wedi bod yn ymdrech tîm ac rydym mor falch drostynt i gyd fod eu gwaith wedi derbyn sylw ar lefel y Deyrnas Unedig.

Fe fydd y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cynnwys astudiaeth achos yn ymwneud â gwasanaeth y Cyngor yn eu cyhoeddiad o astudiaethau arfer orau a fydd yn cael ei gynhyrchu yr haf hwn.

Fe fydd gwobrau’r rhwydweithiau perfformiad yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Mehefin.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid