llais y sir

Newyddion

Pum mlynedd ers datblygu adeilad newydd Ysgol Uwchradd Y Rhyl

Mae Ysgol Uwchradd y Rhyl yn dathlu pum mlynedd ers agor yr adeilad newydd.

Agorwyd yr ysgol gyntaf ar y safle ym 1901 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Wedi dymchwel yr hen adeilad agorwyd un newydd ag amrywiaeth o gyfleusterau modern gan gynnwys salonau trin gwallt ac ystafelloedd adeiladu, yn ogystal â’r byrddau rhyngweithiol diweddaraf, stiwdio recordio a gliniaduron i’r plant sydd wedi bod yn hollbwysig, yn enwedig felly yn ystod y pandemig. 

Meddai Claire Armistead, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Fe ddigwyddodd rhywbeth arbennig iawn wrth agor adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Roedd yn dangos i’r plant ac i’r gymuned yn y dref eu bod yn haeddu rhywbeth fel hyn, rhywle sy’n llawn o gyfleoedd a photensial. Mae’r ffordd rydym yn addysgu’r plant wedi newid yn llwyr a gallwn gynnig llawer o wahanol bynciau, sy’n paratoi ein plant ar gyfer y dyfodol.

“Yn yr hen adeilad roedd gennym ystafelloedd dosbarth a choridorau – rhywle y byddai rhywun yn eich addysgu, ond nid rhywle y gallai’r plant ddysgu a thyfu ynddo. Mae’r adeilad newydd yn galluogi ein plant i fod y dysgwyr gorau y gallant fod. Mae rhywun yn medru teimlo eu hegni a’u huchelgais yn llifo ar hyd y coridorau.

“Anghofia i fyth mor bwysig yw’r adeilad newydd hwn i’r Rhyl, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod yr ysgol fel sefydliad dysgu yn aros mor rhyfeddol ag y mae heddiw. Rwy’n eithriadol o ddiolchgar am yr adnodd bendigedig hwn i blant y Rhyl.”

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Addysg y Cyngor: “Ers pum mlynedd mae adeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi cynnig cyfleusterau a chyfleoedd dysgu ardderchog i’r disgyblion.

“Mae hyn wedi helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial, ac wedi rhoi’r profiad addysgol gorau posib iddynt. Hoffwn ddiolch i’r staff am eu holl waith caled dros y pum mlynedd diwethaf, a dymuno’r gorau i’r holl ddisgyblion yn y dyfodol.”

Diwrnod agored rhithiol cynllun gofal ychwanegol gwerth £12m yn Ninbych

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi cael darganfod mwy am gynllun gofal ychwanegol newydd lle gall y preswylwyr fyw’n annibynnol mewn fflatiau cyfforddus, trwy ddiwrnod agored rhithiol.

Datblygwyd Awel y Dyffryn, Dinbych, gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, y cynllun mwyaf uchelgeisiol o’i fath yn hanes y grŵp.

Mae’r cynllun bron yn barod a bydd y preswylwyr cyntaf yn symud yno yn nhymor yr hydref.

Cynhaliwyd y diwrnod agored rhithiol dros Zoom a roedd cyfle i gael ‘taith’ o gwmpas un o’r fflatiau, cyfle i weld fideo o’r math o adnoddau a gynigir a chyfle i holi staff Grŵp Cynefin am y cynllun.

Bydd pobl 60 oed a throsodd sy’n byw yn Sir Ddinbych yn cael blaenoriaeth wrth osod y fflatiau a bydd Awel y Dyffryn yn cynnig cymuned fywiog, glos, yn ogystal â gofal a chefnogaeth 24 awr y dydd.

Yn y cynllun £12m mae 66 o fflatiau o fewn gerddi hardd. Caiff y tenantiaid bob cyfle i fwynhau bywyd cymdeithasol difyr. Gallant gwrdd â’i gilydd mewn ardaloedd cymunedol fel stafelloedd cynnal gweithgareddau ac, ar yr un pryd, fwynhau preifatrwydd eu fflat eu hunain.

Mae adnodd ychwanegol i ffrindiau a theulu aros hefyd mewn llety pwrpasol i westeion o fewn y safle.

Meddai pennaeth gwasanaethau tai Grŵp Cynefin, Noela Jones: “Mae pawb yn Grŵp Cynefin yn gyffrous dros ben ynghylch y datblygiad newydd hwn. Edrychwn ymlaen at groesawu preswylwyr drwy ddrws Awel y Dyffryn. Rydym yn hyderus y bydd y fflatiau modern a’r cyfleusterau rhagorol, fel y gerddi, yn gwneud iddynt deimlo’n gartrefol iawn.

“Mae rhai pobl eisoes wedi mynegi dymuniad i fyw yn Awel y Dyffryn. Mae’r mathau hyn o gynlluniau yn hanfodol yn ein cymuned am eu bod yn rhoi cyfle i bobl hŷn barhau i gadw eu hannibyniaeth gyda sicrwydd ar yr un pryd y bydd gofal a chefnogaeth bob amser wrth law os byddant ei angen.

“Yn ogystal â’r fflatiau, ar y safle bydd siop drin gwallt, bwyty, lle golchi dillad a stafelloedd cynnal gweithgareddau, y rhain oll yn helpu i hybu iechyd a lles.

“Mae’r cyfyngiadau COVID yn anffodus yn golygu na allwn gynnal diwrnod agored o’r math arferol yn Awel y Dyffryn, ond fe wnawn yn siŵr y bydd pawb sy’n dod i’r digwyddiad rhithiol yn gweld holl rinweddau’r cynllun.”

Mae 42 o fflatiau dwy lofft a 24 o fflatiau un llofft yn Awel y Dyffryn, pob un yn cynnwys ystafell ymolchi, cegin a lolfa. Dyma’r pumed datblygiad gofal ychwanegol gan Grŵp Cynefin, sydd â datblygiadau tebyg hefyd yn Y Bala, Porthmadog, Caergybi a Rhuthun.

Codwyd Awel y Dyffryn gan gwmni RL Davies o Ogledd Cymru. Golygodd fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol. Roedd 80% o’r is-gontractwyr a’r prif gyflenwyr nwyddau wedi eu lleoli o fewn 30 milltir i’r cynllun hwn a manteisiodd prentisiaid lleol o Goleg Llandrillo ac eraill dan hyfforddiant o’r profiad o weithio arno.

Dywedodd Phil Gilroy, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Cynefin ar y prosiect pwysig hwn. 

“Bydd Awel y Dyffryn yn helpu preswylwyr hŷn Sir Ddinbych i gynnal a gwella eu hannibyniaeth tra hefyd yn cefnogi ein cymunedau i fod yn fwy gwydn.

“Rydym yn annog yr holl breswylwyr sydd â diddordeb i fynychu'r diwrnod agored rhithiol i ddysgu am y gefnogaeth anhygoel y bydd y cyfleuster newydd, gwych hwn yn ei gynnig iddynt.”

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau gwybod rhagor am Awel y Dyffryn, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org

Lletygarwch awyr agored yn croesawu cwsmeriaid yn ôl

Mae lletygarwch awyr agored wedi ailagor, a bydd cwsmeriaid yn gallu mwynhau gerddi cwrw, caffis a thai coffi yn yr awyr agored.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod yn gallu ailagor yn ddiogel er mwyn helpu cwsmeriaid i fwynhau eu hunain a diogelu cymunedau Sir Ddinbych yr un pryd.

Gall cwsmeriaid hefyd chwarae eu rhan drwy ddilyn canllawiau:

  • Efallai y bydd yn rhaid ciwio mewn rhai mannau felly bydd disgwyl i chi gadw pellter cymdeithasol oddi wrth unrhyw un nad ydyn nhw yn eich aelwyd.
  • Rhaid i bob eiddo gymryd eich manylion cyswllt ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu rhag ofn y bydd angen iddyn nhw gysylltu â chi.
  • Ni fyddwch yn gallu sefyll mewn ardal eistedd i yfed eich diod.
  • Dangoswch barch tuag at bob aelod o staff. Maen nhw wedi eich colli ac maen nhw eisiau i chi fwynhau eich hunain ond ni chaniateir ymddygiad difrïol tuag at staff.
  • Os byddwch yn defnyddio cludiant cyhoeddus neu os bydd angen tacsi arnoch, bydd yn rhaid i chi wisgo masg wyneb. Mae gan yrwyr, gan gynnwys gyrwyr tacsi, hawl i wrthod mynd â chi os na fyddwch yn gwisgo masg.
  • Rhaid i berchnogion a landlordiaid gadw at y rheolau hefyd felly os oes gennych bryderon am unrhyw eiddo, cysylltwch â covidppadmin@denbighshire.gov.uk

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Mae ailagor lletygarwch awyr agored yn gam mawr tuag at lacio’r cyfyngiadau ac mae busnesau wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr eu bod yn paratoi mannau diogel i gwsmeriaid fwynhau eu hunain.

“Nid yw Covid-19 wedi diflannu ac mae’n rhaid i ni gymryd yr holl ragofalon i wneud yn siŵr na ddaw yn ei ôl. Rydym yn gofyn i gwsmeriaid chwarae eu rhan os gwelwch yn dda fel y gallwn barhau i gadw lefelau'n isel a helpu i ddiogelu ein cymunedau."

Cydnabod Gwasanaeth Arlwyo Addysg Cyngor am berfformiad o’r radd

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi fod ei Wasanaeth Arlwyo Ysgolion Mewnol wedi ei gydnabod fel un o’r 6 Gwasanaeth oedd yn perfformio orau yn DU ar gyfer 2019/2020 gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.

Mae’r gydnabyddiaeth hon wedi ei seilio ar gymariaethau gyda Gwasanaethau Prydau Ysgol eraill o bob cwr o'r DU ac mae'n ystyried elfennau fel mentrau prynu, y nifer sy’n derbyn prydau ysgol, costau rheoli, hyfforddi staff/lefelau absenoldeb, cyfathrebu â chwsmeriaid ayb.

Dywedodd Tony Ward, Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rydym yn hynod o falch fod ymrwymiad ac ymroddiad ein tîm Gwasanaeth Arlwyo Addysg wedi ei gydnabod gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.

“Mae tîm y Gwasanaeth Arlwyo Addysg wedi gweithio’n galed i gynnal ansawdd y gwasanaeth a gaiff ei ddarparu ledled y sir, ac yn arbennig dros yr 13 mis diwethaf yn ystod y pandemig. Mae hyn wir wedi bod yn ymdrech tîm ac rydym mor falch drostynt i gyd fod eu gwaith wedi derbyn sylw ar lefel y Deyrnas Unedig.

Fe fydd y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cynnwys astudiaeth achos yn ymwneud â gwasanaeth y Cyngor yn eu cyhoeddiad o astudiaethau arfer orau a fydd yn cael ei gynhyrchu yr haf hwn.

Fe fydd gwobrau’r rhwydweithiau perfformiad yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Mehefin.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Diweddariad ar Wasanaethau Llyfrgell

Roeddem yn falch iawn i fedru ail-agor ein llyfrgelloedd a gallwn rwan gynnig nifer o wasanaethau trwy apwyntiad er mwyn sicrhau eich diogelwch. Mae ein gwasanaeth Archebu a Chasglu wedi bod yn boblogaidd iawn ac fe fydd yn parhau, ond os fydde’n well gennych chi ddod i ddewis eich llyfrau eich hun gallwch rwan ffonio eich llyfrgell leol a threfnu apwyntiad 20 munud i ddod i bori trwy’r silffoedd.

Mae gennym lawer o lyfrau newydd i’w dewis.

Gallwch hefyd wneud apwyntiad i ddefnyddio ein cyfrifiaduron a chyfleusterau argraffu a llungopïo, ac i gael cymorth gyda gwasanaethau’r Cyngor ac i wneud taliadau.

Cylchgronau diderfyn o'ch llyfrgell leol

Mae dros 1200 o gylchgronau poblogaidd bellach ar gael i'w lawrlwytho a'u darllen ar unrhyw ddyfais 24/7 trwy Libby, yr ap darllen gan Overdrive. Lawrlwythwch ap Libby a mewngofnodwch gyda'ch cerdyn llyfrgell a'ch PIN.

Nid oes gan y cylchgronau restrau aros ac maent ar gael i'w lawrlwytho ar unwaith. Ymhlith y teitlau mae Good Housekeeping, New Scientist, Autocar, Comic Mellten, Cara a Lingo Newydd.

Darllen yn Well mewn Llyfrgelloedd

Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 10 - 16 Mai ac mae ein casgliad o lyfrau Darllen yn Well yn cynnig gwybodaeth defnyddiol a chymorth i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu i ddelio gyda theimladau a phrofiadau anodd.

Mae rhai llyfrau yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda neu’n gofalu am rywun gyda, anghenion iechyd meddwl.

Mae’r llyfrau ar gael i’w benthyg o’rch llyfrgell leol.

Twristiaeth

Cynllun Rheoli Cyrchfan

Gyda newidiadau pellach i gyfyngiadau Covid-19 wedi dod i rym yng Nghymru, mae'r Cyngor wedi datblygu Cynllun Rheoli Cyrchfan i sicrhau bod safleoedd a chyfleusterau allweddol yn barod i groesawu ymwelwyr a bod trigolion lleol yn teimlo’n ddiogel ac yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â busnesau twristiaeth y sir ac mae’n ceisio cydlynu gweithgareddau dros yr ychydig fisoedd nesaf i sicrhau bod ymwelwyr, trigolion a busnesau yn cael profiadau cadarnhaol.

Meddai Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor ar gyfer yr Economi a'r Parth Cyhoeddus: “Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae twristiaeth yn cyfrannu £552 miliwn at economi Sir Ddinbych, felly mae’n hollbwysig bod y sir yn y lle gorau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd twristiaeth sy’n agor o ganlyniad i lacio cyfyngiadau Covid-19. Mae arnom ni eisiau i bobl ddod i Sir Ddinbych yr haf yma a dychwelyd bob blwyddyn, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud y sir yn lle diogel a chroesawgar i ymwelwyr yn ogystal â rhoi hyder i drigolion eu bod hwythau hefyd yn ddiogel.”

Bydd gweithgarwch ar draws yr awdurdod yn cael ei gydgysylltu o fewn ei Grŵp Adfer Busnes sydd â chynrychiolaeth o holl wasanaethau perthnasol y Cyngor yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru a'r sector preifat.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Drwy gydol y pandemig mae’r Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda gwasanaethau ac fel rhan o’r Adferiad Busnes daeth yn amlwg mai cydlynu ein cyrchfan ydi’r ffordd orau ymlaen yn y sefyllfa bresennol.”

Camau gweithredu yn y Cynllun Rheoli Cyrchfan:

  • Ymgysylltu â busnesau, cymunedau (drwy gynghorau tref a chymuned) a chyda trigolion ac ymwelwyr
  • Sicrhau bod cyfleusterau, safleoedd ac atyniadau Sir Ddinbych yn barod ar gyfer trigolion ac ymwelwyr wrth i’r diwydiant twristiaeth ailagor yn raddol
  • Hyrwyddo negeseuon am ymweld yn gyfrifol a datblygu twristiaeth gynaliadwy

Bydd Grŵp y Strategaeth Dwristiaeth yn monitro’r ddarpariaeth ac yn barod i nodi unrhyw fater sydd angen ei ddatrys i sicrhau bod tymor twristiaeth Sir Ddinbych mor llwyddiannus â phosibl.

Taflenni Twristiaeth

Galw ar bob busnes. I archebu taflenni am ddim ar gyfer eich cwsmeriaid llenwch y ffurflen ar-lein a gadewch y cyfan i ni.

Dewch i Sir Ddinbych am eich gwyliau

Mae rhan o ffin Sir Ddinbych yn meddu ar rai o’r traethau gorau yng Nghymru.
Beth am hel atgofion yn Rhyl neu Brestatyn ar eich gwyliau gartref gyda bwced a rhaw ar lan y mor, yn hytrach na’r traethau prysurach yng Ngorllewin Cymru. Ewch i ddarllen blog Gogledd Ddwyrain Cymru am fwy o wybodaeth.
 

Sir Ddinbych yn Gweithio

Sut gall Sir Ddinbych yn Gweithio eich cefnogi chi?

Opsiynau ar ôl canlyniadau arholiad

Archifdy

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn awr ar agor

Bydd yr archifau yn Rhuthun ar agor ar ddydd Gwener.

Bydd yr un gofynion archebu ymlaen llaw a oedd mewn lle cyn y Nadolig dal mewn lle hyd y gellir rhagweld.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Archebu ymlaen llaw, gydag o leiaf 72 awr o rybudd. Mae lleoedd yn yr ystafell ymchwil yn gyfyngedig
  • Archebu ymlaen llaw, os yn bosib gan ddefnyddio ein gwefan www.agddc.cymru
  • Ein hamseroedd agor yw 10 am-12.45pm ar gyfer sesiwn y bore ac 1.45pm-4.30pm ar gyfer sesiwn y prynhawn
  • Gellir gweld hyd at 10 dogfen fesul sesiwn, rhaid archebu pob dogfen ymlaen llaw

Mae cyfarwyddion canlynol mewn lle, i ddiogelu cwsmeriaid a'n staff:

  • Mae byrddau wedi'u gosod allan yn unol â chanllawiau pellhau cymdeithasol;
  • Dim mynediad i'r catalogau papur na'r llyfrgell astudiaethau lleol;
  • Bydd cownter yr ystafell ymchwil yn cael ei amddiffyn gyda sgrin Perspex;
  • Bydd toiledau ar agor ar sail un i mewn ac un allan. Defnyddiwch y cynhyrchion glanhau a ddarperir;
  • Mae masgiau wyneb yn orfodol, oni bai eich bod wedi'ch eithrio.

Am fwy o wybodaeth gweler tudalen cynllunio eich ymweliad www.agddc.cymru/ymwelwch-a-ni/cynllunio-eich-ymweliad-2/

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Mae Prosiect Dôl Blodau Gwyllt Sir Ddinbych yn ehangu

Mae Prosiect Dôl Blodau Gwyllt y Cyngor yn ehangu ar ôl prosiect peilot llwyddiannus i gefnogi bioamrywiaeth barhaus y llynedd, yn dilyn datganiad argyfwng hinsawdd ac ecolegol y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019.

Bydd 30 o ddolydd blodau gwyllt ychwanegol yn cael eu creu eleni, gan ddod â chyfanswm y safleoedd a reolir ar gyfer blodau gwyllt lleol i 55 – gan gyfrannu at uchelgeisiau’r Cyngor i wella’r cyfoeth o rywogaethau a geir yma. Mae’r safleoedd hyn, ynghyd ag 11 Gwarchodfa Natur Ymyl Ffordd y Cyngor, yn cyfrannu at bron i 60 erw o gynefinoedd blodau gwyllt brodorol i’r sir.

Plas Lorna, Rhuddlan

Mae'r Gwaith yn fenter tair blynedd sy’n anelu at adeiladu rhwydwaith adfer natur ar draws Cymru, gan ymgysylltu pobl, cymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn gweithredu ymarferol a chynllunio strategol er budd Cymru iach, gydnerth â chyfoeth o natur.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor: “Mae’r safleoedd yn cael eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir ar Ymylon Ffyrdd Plantlife sy’n atal torri gwair rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, gan ganiatáu digon o amser i flodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu. Ychwanegodd, “Mae trefniadau torri a chasglu ar waith i leihau ffrwythlondeb pridd ac i ddarparu’r blodau gwyllt gyda’r amgylchiadau gorau posib. Bydd y safleoedd hyn yn cael eu monitro a’r borderi yn cael eu torri i sicrhau nad ydyn nhw’n effeithio ar y rhwydwaith priffyrdd a diogelwch ar y ffyrdd.”

Mae’r prosiect bellach yn cynnwys safleoedd ym Mhrestatyn, y Rhyl, Gallt Melyd, Dyserth, Rhewl, Dinbych, Henllan, Nantglyn, Llanferres, Llanrhaeadr, Pwllglas, Rhuthun, Corwen, Cynwyd a Llangollen a fydd yn cael eu ‘torri’n llawn’ ddechrau mis Medi.

Parc Alafowlia, Dinbych

Ers y 1930au mae’r Deyrnas Unedig wedi colli bron i 97% o’i chynefinoedd blodau gwyllt, bron i 7.5 miliwn erw, gydag ond 1% o’n cefn gwlad erbyn hyn yn darparu cartrefi hanfodol i bryfaid peillio fel gloÿnnod byw a gwenyn. Yn ei dro mae hyn wedi effeithio ar fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y dolydd yma ar gyfer bwyd a lloches, fel draenogod, moch daear ac ysgyfarnogod, yn ogystal ag adar fel y gornchwiglen, corhedydd y waun a’r ehedydd. Mae’r prosiect yma’n gam pwysig i helpu i gildroi'r dirywiad yma ac i gynyddu'r cyfoeth o rywogaethau a geir yn ein sir.

Gyda ‘No Mow May' yn agosáu ac arolwg ‘Every Flower Counts’ Plantlife yn cael ei gynnal o 22 tan 31 Mai, rŵan ydi'r amser perffaith i chi gymryd rhan hefyd! Fe allwch chi helpu drwy adael rhan o’ch gardd i dyfu’n wyllt. Gyda 15 miliwn o erddi ym Mhrydain mae gan ein lawntiau’r potensial i ddod yn ffynonellau neithdar mawr.

Mae rhagor o wybodaeth, yn ogystal â manylion ynglŷn â chymryd rhan yn yr arolwg, ar gael yn: https://www.plantlife.org.uk/everyflowercounts/

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gwarchodfa natur newydd Llangollen yn agor i ymwelwyr

Mae cyn safle tirlenwi ar gyrion Llangollen wedi cael adfywiad.

Mae'r Cyngor a thîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cydweithio gydag arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Datblygiad Gwledig Ewropeaidd, i greu gwarchodfa natur newydd ar hen safle tirlenwi yn Wenffrwd – ar gyrion Llangollen.

Bellach gall ymwelwyr ddefnyddio maes parcio bychan yn y warchodfa natur a mynd i grwydro o amgylch y safle newydd trwy ddilyn y llwybr 0.5 milltir sy’n troelli trwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn cynnig golygfeydd o’r Afon Dyfrdwy ac ar draws y dyffryn.

Dywedodd Huw Rees, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth: “Mae’n anodd dychmygu erbyn hyn bod y darn hwn o dir yn ganlyniad degawdau o dderbyn sbwriel cartrefi o ardal Llangollen. Cafodd hyd at 75,000 tunnell ei gludo yma bob blwyddyn nes iddo orffen derbyn sbwriel yn y 1980au, er bod yr orsaf drosglwyddo ar gael i’r boblogaeth leol hyd 2008.

“Mae natur wedi gwneud gwaith gwych wrth ail-hawlio’r safle hwn. Mae’r dolydd blodau gwyllt yn darparu bwyd i beillwyr a morgrug dolydd melyn sy’n creu’r twmpathau morgrug y byddwch yn eu gweld. Mae’r mieri trwchus yn cynnig mannau diogel i adar a mamaliaid.

"Mae hi dal yn ddyddiau cynnar ac yn y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau i weithio ar greu cysylltiadau o’r safle hwn i’r Gamlas ac yn ôl i’r Ganolfan Iechyd yn Llangollen ar hyd yr hen reilffordd. Byddwn hefyd yn ychwanegu amrywiaeth i’r safle trwy blannu coed a chreu ardaloedd blodau gwyllt newydd."

Cyhoeddi Enillydd Gwobr Tirwedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Penderfynodd Partneriaeth yr AHNE roi Gwobr Tirwedd yr AHNE 2021 i Ysgol y Foel, Cilcain, i gydnabod cyflawniad aruthrol yr ysgol gyda’i phrosiect datgarboneiddio. Mae’r ysgol wedi’i hailfodelu’n llwyr ac mae’r adeilad erbyn hyn yn un carbon niwtral.

Mae yna 84 o baneli solar wedi’u gosod ac mae’r rhain yn dal golau U-V ac yn ei drawsnewid yn drydan defnyddiol drwy wrthdroydd mawr. Mae’r ysgol bellach yn gwneud ei thrydan ei hun i bweru goleuadau, i wefru cyfrifiaduron ac i redeg system wresogi ffynhonnell aer. Mae system fatri newydd yn storio ynni a gynhyrchir yn ystod y gwyliau a phan fo’r ysgol ar gau, ac yn storio’r ynni ar gyfer y tymor ysgol. Mae’r ysgol rŵan yn cynhyrchu mwy o ynni nag y mae arni ei angen ac felly mae’n allforio’r ynni dros ben i’r Grid Cenedlaethol.

 

Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn rhan o bob cam o’r dysgu am newid hinsawdd a phwysigrwydd symud tuag at ffordd fwy cynaliadwy o fyw a gweithio. Llwyddodd yr ysgol i gwrdd â’r rhan fwyaf o’r costau atgyweirio yn defnyddio grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi cefnogi’r prosiect, ar ffurf benthyciad sy’n cael ei dalu’n ôl yn defnyddio’r arbedion sydd wedi’u gwneud yn sgil y biliau ynni.

Yn ogystal â’r prosiect datgarboneiddio mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy hefyd wedi cyfrannu at greu dosbarth awyr agored. Bydd y dosbarth yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion lleol eraill pan fyddan nhw’n dod i ymweld â’r ysgol i ddysgu am y llwybr datgarboneiddio tuag at fod yn ysgol garbon sero-net ac i astudio’r amrywiaeth o blanhigion a blodau a geir ar safle’r ysgol (pan fydd y cyfyngiadau yn caniatáu) – gan weld sut y gallan nhw, fel Ysgol y Foel, ddod yn ysgol garbon sero-net a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dyma wobr flynyddol a roddir gan yr AHNE i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i dirwedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac eleni mae’r AHNE yn falch o weld bod y wobr yn cydnabod gwaith Ysgol y Foel – ysgol yng nghanol yr AHNE sy’n arwain y ffordd o gyda’r mater pwysig yma.

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol y Foel a phawb sy’n rhan o’r prosiect.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yma: https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/the-sustainable-development-fund/?lang=cy

Gwaith y Tîm Ceidwaid yn ystod y Cyfnod Clo

Mae’r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod anodd ac anghyffredin i nifer fawr o bobl, fodd bynnag, mae gwaith wedi parhau i fynd rhagddo yn yr AHNE er mwyn cynnig ardal ddiogel a dymunol y gall y cyhoedd a bywyd gwyllt ei mwynhau.

Mae’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r parciau wedi rhoi cyfle i’r tîm ceidwaid ymgymryd â gwaith gwella hanfodol i lwybr y Lît ym Mharc Gwledig Loggerheads. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys darparu arwyneb llyfn a hygyrch yr holl ffordd at y ffordd, sy’n cynnig mynediad llawer gwell at Geudwll y Diafol. Mae llawer o waith hefyd wedi’i gwblhau yn gosod arwyneb newydd ac ymestyn y meysydd parcio ym Moel Famau, yn ogystal â chyflwyno peiriannau tocynnau parcio newydd sy’n derbyn taliadau cerdyn. Gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn cynnig profiad mwy dymunol i ymwelwyr pan fyddant yn dychwelyd i’r parc. Cwblhawyd gwaith ffensio o amgylch y parc gwledig i ddiogelu’r llwybr bregus rhag erydiad yn sgil y nifer uchel o bobl sy’n ymweld â’r parc. Yn ogystal â hyn, gwnaethpwyd gwelliannau i’r ffens derfyn er mwyn helpu i atal cŵn rhag crwydro i diroedd fferm cyfagos ac aflonyddu da byw. Cofiwch y dylid cadw cŵn dan reolaeth bob amser.

Mae’r tîm ceidwaid wedi gweithio’n galed i wella’r AHNE er lles y bywyd gwyllt. Aethpwyd ati i wneud hyn drwy glirio gordyfiant a defnyddio dulliau pori er lles cadwraeth i reoli’r lleoliadau hyn, ein cynllun yw datblygu’r safleoedd hyn yn ddolau blodau gwyllt cynhyrchiol â chyfoeth o rywogaethau amrywiol ac felly rydym yn edrych ymlaen at ddechrau monitro rhywogaethau a gwylio’r cynnydd dros y blynyddoedd nesaf. Ym Mharc Gwledig Loggerheads, mae gwaith wedi’i gwblhau i ymestyn adrannau o’r calchbalmant er mwyn caniatáu rhagor o oleuni a chreu cynefin addas y gall amrywiaeth enfawr o blanhigion, ymlusgiaid a mamaliaid elwa ohono. Yn ogystal â hynny, cwblhawyd rhaglen o waith gwella a gosod bocsys nythu adar newydd ar draws y parc gwledig, roedd hyn yn cynnwys arolwg o rywogaethau a oedd wedi bod yn eu defnyddio a gwerthusiad o welliannau posibl. Yn olaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol a’r Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid i adfywio pyllau presennol a chreu pyllau newydd ar gyfer ystod o rywogaethau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y Fadfall Ddŵr Gribog.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Prosiect Cysylltiadau Da

Wrth i ail flwyddyn prosiect Cysylltiadau Da ddod i ben, rydym yn adlewyrchu ar yr hyn a gyflawnwyd o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Er gwaethaf yr heriau mae nifer o bethau i’w dathlu ac mae’r prosiect wedi parhau ymhob ffordd bosibl trwy waith y tîm diwyd, ceidwaid y Cyngor a swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae gwlyptir Prestatyn bellach yn edrych yn fwy fel gwlyptir, gyda phyllau dŵr datgladdedig, porfa, platfform gwylio hygyrch, mae’r adar hirgoes eisoes yn cael eu denu! Mae gwlyptir Prestatyn yn ganolog i’r prosiect hwn, gan ei fod yn safle gwyrdd trefol allweddol, ynghyd â’r coridor gwyrdd/glas, ac felly mae’r gwaith graddfa mawr yn achos i ddathlu. Rŵan bod y gwaith wedi ei gwblhau gall y safle ddechrau tyfu ac aeddfedu i mewn i wlyptir y gwanwyn a'r haf hwn, gyda mwy o waith i’w wneud ar bori ac arwyddion dehongli i ymwelwyr i wella’r safle ymhellach. Byddwn yn gweld newidiadau sylweddol yn y misoedd nesaf felly dewch i weld.

Yn Ffos y Rhyl, safle prosiect allweddol arall, mae platfform pysgota hygyrch newydd wedi cael ei osod gan Elwy Working Woods, cyflenwr coed cynaliadwy lleol. Ynghyd â’r platfform pysgota, mae gweddill y ffos hefyd wedi derbyn gwaith atgyweirio ac mae’r clwb pysgota Help for Heroes lleol wedi cael coed ac offer i’w galluogi i gynnal gwaith atgyweirio pellach. Y clwb fydd ceidwaid y platfformau pysgota a byddent yn weithgar ar hyd y rhan hon o’r ffos unwaith i’r cyfyngiadau clo lacio. Yn ogystal â hyn, rydym yn gweithio gyda physgotwyr lleol i sefydlu clwb pysgota newydd i ymgysylltu â phlant yn yr ystadau lleol, eu cysylltu â’u tirlun ar coridor gwyrdd/glas, a’u darparu gyda sgiliau ac allanfa ar gyfer egni.

Mae ysgolion yn chwarae rhan fawr yn y prosiect Cysylltiadau Da, ac er gwaethaf y cyfyngiadau a rwystrodd ein gwaith ymgysylltu, rydym wedi treulio’r gaeaf yn gwella tiroedd ysgol trwy ein hymgyrch plannu coed, yn ogystal â phrosiectau SUDS ar draws holl ardal y prosiect. Derbyniodd 8 ysgol y prosiect plannu coed y gaeaf hwn, o Fae Cinmel i Gronant, mewn ffurf gwrychoedd (cyfanswm o 600m), ardaloedd coetir bychain, perllannau bychain (gyda mathau o ffrwythau lleol) a chylchoedd coed helyg. Ynghyd â’r prosiect PLANNU yng Nglan Morfa, sef safle arall ar hyd y coridor gwyrdd/glas, plannwyd 6,300 o goed y gaeaf hwn. Hefyd, mae gennym brosiect SUDS (Systemau Draenio Cynaliadwy) ar gyfer pob blwyddyn o’r prosiect Cysylltiadau Da (3), ac eleni fe gyflawnwyd hyn yng Nghrist y Gair y Rhyl, a dechreuodd y gwaith yn Ysgol y Gronant a fydd yn derbyn y prosiect SUDS yn y drydedd flwyddyn. Derbyniodd Crist y Gair strwythur dosbarth coed awyr agored gyda tho gwyrdd, a wnaed gan Elwy Working Woods, gwlâu blodau, system casglu dŵr, a phlannu coed mewn ffurf gwrychoedd, ardal coetir a choed ffrwythau lleol.

Wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio yn ystod y gwanwyn, rydym yn gobeithio cynyddu’r ymgysylltiad gyda’r gymuned, lle gallwch ddangos ein mannau gwyrdd newydd a chael y gymuned yn rhan o ofalu am eu tirlun lleol.

Cam-drin Domestig

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth.Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol

Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

  • Ffoniwch: 0808 80 10 800
  • Neges destun: 07860077333
  • E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
  • Gwasanaeth sgwrsio byw

Mae bob un o’r rhain ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Ein Tirlun Darluniadwy

Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy i wella mynediad at gyrchfannau allweddol Dyffryn Dyfrdwy

Mae Gwasanaeth bws newydd wedi’i lansio yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.

Mae gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy yn daith gylchdro sydd ar gael bob dydd Sadwrn tan ddiwedd mis Hydref 2021. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu Llangollen a’r pentrefi cyfagos gydag atyniadau poblogaidd fel Dyfrbont Pontcysyllte, Gwarchodfa Natur Wenffrwd, Rhaeadr y Bedol, Abaty Glyn y Groes, Plas Newydd a Bwlch yr Oernant.

Y gobaith ydi annog pobl i ymweld â'r atyniadau allweddol yma heb gar, lleihau'r angen am leoedd parcio, a gwneud hi’n haws i’r rheini heb gar deithio i’r llefydd yma; a helpu i leihau tagfeydd yn rhai o ardaloedd prysuraf Dyffryn Dyfrdwy. Bydd y gwasanaeth hefyd yn gyfle i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd archwilio’r ardal ehangach.

Mae’r gwasanaeth wedi’i greu diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, ac mae’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sy’n ceisio gwarchod a gwella mynediad at dirweddau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte.

Bydd Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy 199 ar gael ddydd Sadwrn yn unig, o ddydd Sadwrn 15 Mai tan ddydd Sadwrn 30 Hydref 2021. I weld yr amserlen lawn a phrisiau’r tocynnau, ewch i dudalen we Amserlenni Bysiau Sir Ddinbych neu ewch i Ganolfan Groeso Llangollen i nôl taflen wybodaeth.

Meddai Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy:

“Mae’n bleser gennym ni lansio Gwasanaeth Bws Darluniadwy Dyffryn Dyfrdwy. Roedd y prosiect i fod i gael ei lansio yn 2020 ond bu’n rhaid i ni ohirio pethau oherwydd y pandemig; ac felly rydym ni’n falch iawn o weld y bydd y gwasanaeth ar gael yn 2021 a, gobeithio, i’r dyfodol. Drwy weithio mewn partneriaeth ag Cyngor Sir Ddinbych rydym ni wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn ategu’r ddarpariaeth gludiant cyhoeddus bresennol.  Mae cysylltu ag amserlenni bysiau o Gorwen a Wrecsam yn gwneud y Gwasanaeth Bws Darluniadwy yn ddewis da i’r rheiny sydd eisiau mynd am dro yn yr ardal. Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Gronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru am wneud y gwasanaeth yma’n bosibl, ac rydym ni’n gobeithio y bydd yn llwyddiant ysgubol ac yn etifeddiaeth go iawn gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy.”

Meddai’r Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a’r Amgylchedd y Cyngor:

“Rydym ni'n falch iawn o weithio mewn partneriaeth i ddarparu'r gwasanaeth bws hwn, a fydd yn gyfle i ymwelwyr archwilio’r ardal heb fod angen car. Bydd y gwasanaeth hwn yn lleihau tagfeydd ac yn helpu i warchod yr amgylchedd, sy’n flaenoriaeth i’r Cyngor.”

Ewch i'n gwefan i weld amserlenni y bws.

CEFNDIR Y PROSIECT

Mae’r prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Mae ymwelwyr wedi’u hysbrydoli gan y dyffryn prydferth hwn ar ffurf celf a barddoniaeth ers y 18fed ganrif, ac mae’n parhau i ddenu twristiaid sy'n chwilio am yr aruchel.

Mae’r dirwedd hon o dan bwysau mawr, gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu denu at yr hyn sy’n aml yn cynnwys ein safleoedd mwyaf bregus. Mae’r cymunedau ar ei charreg drws, a ddaeth i fod o ganlyniad i’r ymdrechion diwydiannol a’i siapiodd, bellach â llai o gyswllt â'r buddion a gyflwynir gan y dirwedd. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a'i reolaeth, wrth ail-ddehongli'r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Mae prosiectau wedi cael eu datblygu o dan 3 thema – Gwarchod y Tirwedd Darluniadwy, Cael Mynediad at y Tirwedd Darluniadwy, Pobl a’r Tirwedd Darluniadwy.

Caiff y prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy' ei hariannu’n bennaf gan Y Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Prosiect partneriaeth yw hwn a ddatblygwyd ar y cyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Amwythig, Glandwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/our-picturesque-landscape-project/

Dilynwch ni ar Facebook @Clwydian Range and Dee Valley

Dilynwch ni ar Twitter ac Instagram @Clwyd_Dee_AONB a ddefnyddiwch #EinTirlunDarluniadwy

Cysylltwch â ni ar ein.tirlun.darluniadwy@sirddinbych.gov.uk.

Addysg

Cludiant i'r Ysgol

Yn ogystal â chludiant ysgol uwchradd, gallwch bellach wneud cais am gludiant i'ch plant fynd i ysgolion cynradd a chweched dosbarth ar gyfer mis Medi 2021. Dim ond os yw lle wedi'i gadarnhau mewn ysgol a'ch bod yn byw yn Sir Ddinbych y gallwch wneud cais am gludiant am ddim i'r ysgol.

I wneud cais ar-lein, ewch i'n gwefan.

    Nodweddion

    Rhoi gwaed yn Sir Ddinbych

    Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi bod mewn cysylltiad unwaith eto i ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus gyda'u hymgyrchoedd rhoi gwaed yn Sir Ddinbych. Mae eich cefnogaeth wir yn cael effaith enfawr.

    Mae sawl sesiwn yn dod i Sir Ddinbych yn ystod mis Mai, felly cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i un lle rydych chi'n byw >>> https://wbs.wales/DenbighshireCouncil

    Swyddi gwag

    Oeddech chi'n gwybod bod swyddi gwag newydd yn mynd ar ein gwefan bob dydd. Efallai y bydd swydd yno sy'n apelio atoch.

    Rydym hefyd yn postio rhai o’n swyddi ar ein cyfryngau cymdeithasol hefyd.

    I gael gwybod pa fath o swyddi sy'n cael eu hysbysebu, ac i wneud cais am unrhyw un ohonynt, ewch i'n gwefan www.sirddinbych.gov.uk/swyddi.

    Prawf COVID-19

    Os oes gennych symptomau COVID-19 gallwch gael mynediad at nifer o unedau profi symudol yn ogystal â safleoedd profi mawr.

    I gael rhagor o fanylion, archebu prawf neu i gael gwybod eich canolfan brofi agosaf, ewch i wefan BIPBC >>> https://bipbc.gig.cymru/covid-19/trefnwch-brawf-covid-19/

    Tueddiadau mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant

    Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych Cyf

    Mae ein canolfannau Hamdden yn ail agor

    I gael gwybod ar beth sy'n digwydd ym myd Hamdden Sir Ddinbych Cyf, beth am ymweld â'u tudalen Facebook. Maent yn postio’r holl wybodaeth ddiweddaraf yn y fan honno.

    Gallwch hefyd ymweld â'u gwefan i gael yr holl newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf.

     

    Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid