llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Dosbarth Coetir yn cynnig cartref i famaliaid

Bydd y safle coetir newydd yn cynnig thema addysgol nosol. 

Mae gwaith wedi cael ei gwblhau ar hen gae ysgol gynradd ar Stryd Llanrhydd, Rhuthun i sefydlu coetir newydd. 

Fel rhan o Brosiect Creu Coetir Sir Ddinbych, mae 800 o goed eisoes wedi cael eu plannu ar y safle eleni sy’n cyfrannu at yr ymdrech parhaus i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth. 

Hefyd mae 5,000 o goed wedi cael eu plannu eleni er mwyn creu coetiroedd newydd ym Maes Gwilym, Cae Ddol a Maes Esgob.

Mae’r coed newydd hyn yn ychwanegol i’r 18,000 o goed a gaiff eu plannu ar draws y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2017-22 ar gynnal amgylchedd naturiol a chynnal a gwella bioamrywiaeth o fewn y sir.

Mae nifer o blant ysgol wedi helpu i blannu’r coed ar eu hen gae ysgol yn Rhuthun.

Mae dosbarth awyr agored bellach wedi cael ei chreu ar y safle i helpu plant i ddysgu am fioamrywiaeth a rhoi help llaw i breswylwyr nosol lleol. 

Adeiladwyd y dosbarth â phren gan y crefftwr lleol, Huw Noble, sydd wedi ymgorffori nodwedd unigryw. 

Mae’r strwythur yn cynnwys ‘To Ystlumod’ sydd wedi cael ei ddylunio’n arbennig i ddarparu’r nodweddion sydd eu hangen ar ystlumod i nythu yn ystod y dydd.  Dros amser, wrth i’r cynefinoedd ddatblygu ar y safle, gobeithir y bydd y strwythur yn cefnogi poblogaethau lleol y creaduriaid prin hyn.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr, plant ysgol ac aelodau lleol sydd wedi gweithio ar safle Llanrhydd yn ogystal â phob safle i helpu i barhau i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth ar draws Sir Ddinbych.

“Rydym yn gweithio’n galed i roi bioamrywiaeth wrth wraidd ein cynlluniau ac mae hyn wedi ein caniatáu i addasu’r cynllun er lles pobl yn ogystal â bywyd gwyllt.

“Bydd yr ychwanegiad gwych hwn at safle Llanrhydd wirioneddol yn helpu plant i ddeall bioamrywiaeth eu cymuned leol a’r hyn y gallant barhau i’w wneud i helpu’r amgylchedd. 

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r saer am osod y To Ystlumod anhygoel, a gobeithiwn y bydd y boblogaeth leol yn elwa’n fawr ohono ac y bydd y dosbarth yn cynnig rhywle unigryw i hyrwyddo bioamrywiaeth ymhlith yr ifanc.”

Gwybodaeth Ychwanegol:

  • Ym mis Gorffennaf 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol. Cymeradwywyd Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021, a oedd yn ymrwymo i fod yn Ddi-Garbon Net ac yn Gyngor Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.
  • Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon y Cyngor o sawl ffynhonnell.
  • Nid yw hi’n bosibl cyrraedd di-garbon net drwy leihau allyriadau’n unig. Bydd yn rhaid gosod hyn yn erbyn unrhyw allyriadau carbon na allwn eu dileu.  Bydd y Prosiect Creu Coetir hwn yn helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at y swm o garbon a gaiff ei ddal a’i storio (neu’i amsugno).

Cyfleoedd i wirfoddoli yn y Blanhigfa Goed

Mae menter newydd yn Sir Ddinbych yn agor ei drysau i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn bioamrywiaeth.

Mae planhigfa goed leol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy, yn anelu i gynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol bob blwyddyn, ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect ENRaW Partneriaethau Natur Lleol Cymru a’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae’r tîm ar y safle eisoes yn gweld ffrwyth eu llafur wrth i’r hadau blodau gwyllt brodorol cyntaf egino yn y blanhigfa.

Yn dilyn datganiad y Cyngor o Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.

Yn awr mae’r tîm yn croesawu unrhyw wirfoddolwyr i’r safle sydd â diddordeb yn yr amgylchedd lleol, unigolion sy’n frwd dros dyfu planhigion, neu’r unigolion hynny sydd eisiau dysgu mwy am y prosiectau plannu coed a blodau gwyllt y mae’r Cyngor yn eu cynnal.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn falch o’r gwaith bioamrywiaeth ar y safle yma ac yn awyddus i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i’r unigolion hynny sydd â diddordeb yn yr hyn rydym yn ei wneud yma ar gyfer yr amgylchedd lleol.  Mae’n gyfle gwych i ddysgu mwy am fioamrywiaeth Sir Ddinbych gan ein tîm profiadol yn y blanhigfa.

“Rydym yn awyddus iawn i groesawu gwirfoddolwyr i’n cynorthwyo â chasglu hadau, ail-botio a thasgau cyffredinol eraill yn y blanhigfa yn ymwneud â’n nod i ddarparu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt a 5,000 o goed bob blwyddyn. 

“Bydd y blanhigfa hefyd yn cynorthwyo i ddarparu coed a blodau gwyllt i grwpiau cymunedol lleol i roi hwb i fioamrywiaeth.”

Os hoffech chi wirfoddoli, cysylltwch â bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

 

Coetir newydd yn bwrw gwreiddiau

Mae bron i 5,000 o goed newydd wedi cael eu plannu ar draws Sir Ddinbych er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.

Mae Prosiect Creu Coetir y Cyngor yn bwrw gwreiddiau ar draws y sir yn sgil gwaith cefnogi gan staff, gwirfoddolwyr ac aelodau etholedig.

Ym mis Gorffennaf 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol.  Cafodd Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021, gan ymrwymo’r Cyngor i fod yn Ddi-garbon ac yn Gyngor Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon y Cyngor o sawl ffynhonnell. 

Nid yw hi’n bosibl cyrraedd di-garbon net drwy leihau allyriadau’n unig.   Bydd yn rhaid gosod hyn yn erbyn unrhyw allyriadau carbon na allwn eu dileu.  Bydd y prosiect creu coetir hwn yn helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at y swm o garbon a gaiff ei ddal a’i storio (neu’i amsugno).

Mae gwirfoddolwyr a staff y Cyngor wedi plannu 800 o goed yn Llanrhydd, 2,500 ym Maes Gwilym, 1,500 yng Nghae Ddol a 150 o goed ym Maes Esgob.  Roedd hyn yn cynnwys nifer o blant ysgol a blannodd y coed ar eu hen gae ysgol yn Rhuthun, yn ogystal â gwella coetir Maes Gwilym yn y Rhyl.

Mae’r prosiect hefyd wedi’i ddylunio i gefnogi’r Cyngor i gynyddu cyfoeth y rhywogaethau ar ei dir.

Mae'r Cyngor wedi plannu bron i 5000 o goed ar draws y sir ac rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar y safleoedd a’r aelodau etholedig sydd wedi cynorthwyo.

Mae’r holl goed wedi cael eu dewis i wella bioamrywiaeth gyda chymysgedd amrywiol o wrychoedd yn ogystal â rhywogaeth coed maint safonol a ddewiswyd i gyd-fynd â’r ardal.

Mae gan bob safle goeden ‘dathlu’, a ddewiswyd gan breswylwyr yn ystod ein hymgynghoriad ar-lein fis Tachwedd diwethaf, a blannwyd mewn ardal gyda digonedd o le i alluogi iddo dyfu mewn i goeden hyfryd i’r gymuned ei fwynhau a bod yn falch ohono.

I gael rhagor o wybodaeth am waith newid hinsawdd a newid ecolegol y Cyngor ewch i'n gwefan

Prosiect bioamrywiaeth yn tyfu ar gyfer y tymor newydd

Bydd prosiect bioamrywiaeth yn blodeuo ar raddfa fwy eleni ar hyd a lled Sir Ddinbych.

Bydd prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn ehangu yn nhymor 2022 yn dilyn cyhoeddiad y bydd safleoedd ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer y fenter amgylcheddol.

Ddiwedd y llynedd, roedd yna bron i 60 o safleoedd prosiect Dolydd Blodau Gwyllt, yn cynnwys lleiniau ymyl priffyrdd, ymylon llwybrau troed, llwybrau beiciau a glaswelltiroedd amwynder, a’r bwriad yw cynnwys mwy o safleoedd y gwanwyn hwn.

Yn dilyn adborth a gasglwyd gyda chymorth aelodau lleol, mae prosiect eleni wedi tyfu i gynnwys dros 100 o safleoedd a reolir fel dolydd blodau gwyllt (gan gynnwys yr 11 gwarchodfa natur ymyl ffordd). Mae hyn yn gyfystyr â bron i 35 o gaeau pêl-droed o laswelltir a reolir fel dolydd blodau gwyllt brodorol.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor: “Y nod yw cynyddu bioamrywiaeth yn unol â’r Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y bu i ni ei gyhoeddi a blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ar gyfer yr Amgylchedd. 

“Er mwyn rheoli dolydd blodau gwyllt, rhaid peidio â thorri’r glaswellt rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, er mwyn rhoi digon o amser i’r blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu. Ar gyfer y safleoedd hyn, bydd y tîm bioamrywiaeth yn monitro’r gwelliannau o ran twf a bioamrywiaeth bob mis, a dim ond y borderi o amgylch y safleoedd hyn y bydd y Gwasanaethau Stryd yn eu torri yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y safleoedd yn cael eu torri’n llawn ddechrau mis Medi.”

Bydd tîm bioamrywiaeth y Cyngor yn cysylltu â thrigolion sy’n byw ger y safleoedd newydd i roi gwybod iddyn nhw sut y mae’r prosiect yn gweithio i wella a chynnig manteision i fioamrywiaeth y sir.

Yn ogystal â diogelu blodau gwyllt, mae’r dolydd hefyd yn cefnogi lles pryfed sy’n frodorol i ardal Sir Ddinbych.

I gael rhagor o wybodaeth am y safleoedd blodau gwyllt, ewch i'n gwefan.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid