llais y sir

Newyddion

Diddordeb mewn gyrfa gofal cymdeithasol?

Mae ymgyrch recriwtio wedi cael ei lansio i annog mwy o bobl i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gofal cymdeithasol gwag, yn enwedig yn ystod Covid pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.

Nawr mae ymgyrch o'r enw Gwnewch i Bobl Wenu wedi'i lansio i godi proffil gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol ac i hysbysebu'r swyddi gweigion presennol sy'n bodoli yn y sir.

Bydd yr ymgyrch hon yn cynnwys cymysgedd o hysbysebion ar drafnidiaeth gyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cymunedol, hysbysebion yn y cyfryngau lleol, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Bydd y Cyngor hefyd allan mewn lleoliadau yn cynnal sioeau teithiol recriwtio a gweithdai.

Mae'r Cyngor hefyd wedi ailwampio ei wybodaeth ar y wefan ac wedi cynnwys astudiaethau achos fel fideos, mewn ymgais i annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn. Mae adran cwestiynau cyffredin hefyd wedi'i darparu i roi atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf rheolaidd a dderbyniwyd.

Dywedodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau: “Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud yn fawr iawn â gwerthu manteision gweithio i'r Cyngor a dechrau gyrfa mewn gofal cymdeithasol.

“Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd yn fraint wirioneddol ac mae ein timau yn gwneud i bobl wenu bob dydd. Mae hyn yn eu gwaed. Mae’r awydd i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl, ond cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt mewn amrywiaeth o leoliadau.

“Nid oes angen cymwysterau bob amser ac mae digon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau cymwysterau drwy’r gweithle. Mae'r Cyngor wedi rhoi rhaglen gymorth ar waith ar gyfer yr holl weithwyr ac mae manteision sylweddol i weithio i'r Cyngor. Maent yn cynnwys polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac agwedd hyblyg at batrymau sifft.

“Yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim yw’r gallu i wneud i bobl wenu, i gael empathi ac i fod â natur ofalgar. Bydd y gweddill yn disgyn i'w lle”.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal.

Mae yna hefyd fideos gan bobl sy'n gweithio yn ein sector gofal ar ein gwefan.

Dyma stori Catherine >>>

Mae yna fwy o storiau ar ein gwefan - mae'n werth i chi edrych arnyn nhw os ydych yn meddwl dod i weithio efo ni..

Cyfrif i lawr i'r etholiad

Mae paratoadau terfynol yn cael eu gwneud cyn etholiadau'r cyngor sir a chynghorau tref, dinas a chymuned ddydd Iau, 5 Mai.

Dylai preswylwyr cymwys fod wedi derbyn eu cardiau pleidleisio gyda manylion lleoliad eu gorsafoedd pleidleisio. Gall pobl bleidleisio rhwng 7am a 10pm.

Unwaith y bydd gorsafoedd pleidleisio ar gau, bydd y blychau etholiad yn cael eu trosglwyddo i'r ganolfan gyfrif lle bydd y papurau pleidleisio'n cael eu gwirio dros nos.

Bydd y cyfrif ar gyfer yr etholiadau yn dechrau ddydd Gwener, 6 Mai am 9 o’r gloch gydag etholiadau'r cyngor sir; dilynir hyn gan y pleidleisiau ar gyfer etholiadau'r cynghorau tref, dinas a chymuned.

Bydd holl ganlyniadau'r etholiad yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan >>> http://www.denbighshire.gov.uk/etholiadau.

 

Gwrthdaro yn yr Wcráin: Sut y gallwch helpu

Mae'r gwrthdaro presennol yn yr Wcráin yn dorcalonnus, gyda miloedd o bobl yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi yn ofni diogelwch eu teuluoedd ac mae'r argyfwng dyngarol yn tyfu gyda nifer fawr o bobl angen cymorth brys.

Mae'r Cyngor wedi dechrau gweithio gyda sefydliadau partneriaeth i gefnogi y rhai y mae'r gwrthdaro wedi effeithio arnynt ac mae teuluoedd bellach wedi dechrau cyrraedd i fyw gydag aelwydydd Lletyol. Mae Tîm Ailsefydlu Sir Ddinbych y DU yn gweithio gyda phawb sy'n gysylltiedig i gefnogi ailsefydlu dros y misoedd nesaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelwyd Lletyol, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma >> https://www.gov.uk/register-interest-homes-ukraine.

Gall unrhyw grwpiau gwirfoddol neu unigolion lleol sy'n dymuno cynnig mathau eraill o gymorth gysylltu â ni drwy e-bostio ukresettlement@sirddinbych.gov.uk

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i fusnesau am gymorth.

Isod, ceir dolen ar gyfer unrhyw fusnes neu sefydliad a all gynnig help gyda'r canlynol:

  • Llety ar raddfa fawr i ffoaduriaid a'u teuluoedd, fel gwestai a pharciau gwyliau
  • Cludiant, fel coetsis a bysiau mini (efallai na fydd angen i chi ddarparu gyrwyr), i fynd â phobl i'w cartrefi newydd
  • Cyflenwadau fel dillad, pethau ymolchi ac eitemau ar gyfer y mislif
  • Gwersi iaith
  • Cyflogaeth a hyfforddiant
  • Cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd

https://llyw.cymru/cofrestrwch-fusnes-neu-sefydliad-i-helpu-ffoaduriaid-o-wcrain-syn-dod-i-gymru.

Fel Cyngor, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd ei angen yn ystod yr argyfwng parhaus hwn.

Paratoi i groesawu Cymru i Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor yn paratoi i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir Ddinbych.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar greu'r Maes ar gyrion Dinbych ac mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda threfnwyr yr Urdd i sicrhau bod yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol.

Roedd yr Eisteddfod i fod i gael ei chynnal yn Sir Ddinbych yn 2020, ond cafodd ei gohirio ddwywaith oherwydd cyfyngiadau Covid.

Nawr mae cynlluniau ar y gweill i baratoi'r Maes, yn barod ar gyfer y digwyddiad - 30 May i 4 Mehefin

Bydd gan y Cyngor babell ar y Maes a bydd ganddo weithgareddau i'r teulu cyfan. Gall plant ddod i mewn a chymryd rhan mewn creu gweithiau celf gan ddefnyddio deunyddiau lleol gyda'r artist Mari Gwent. Bydd gwaith celf a grëwyd gan blant ysgol lleol fel rhan o brosiect sy'n arwain at yr Eisteddfod hefyd yn cael ei arddangos.

Bydd blas o'r arfordir yn dod i'r wlad gan ein bod wedi bwriadu cael pwll tywod i'n hymwelwyr iau. Bydd dolydd blodau gwyllt hefyd yn cael ei greu i hyrwyddo'r gwaith rydym yn ei wneud o amgylch newid yn yr hinsawdd a bod yn fwy ecogyfeillgar.

Bydd ein stiwdio yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion lleol fel llwyfan ymarfer, felly mae'n gyfle gwych i glywed ein plant a'n pobl ifanc dalentog. Bydd gweithgareddau eraill hefyd yn cael eu cynnal yn y stiwdio yn ystod yr wythnos, gan gynnwys eitemau cerddorol, sesiynau adrodd straeon a disgos tawel. Cadwch lygad ar ein cyfrifon Facebook a Twitter am fwy o wybodaeth.

Bydd y Cyngor hefyd yn hyrwyddo'r sir fel lle gwych i ymweld ag ef, gyda'r ffocws ar hyrwyddo pethau i'w gwneud yn y sir, gan dynnu sylw at yr atyniadau sydd ar gael a bydd gennym drac BMX i blant fel rhan o'n hymdrechion i hyrwyddo gweithgareddau hamdden yn y sir.

Dewch i'n gweld yn ystod yr wythnos. Gallwch ddod o hyd i ni wrth ymyl y brif fynedfa.

Mae'r Cyngor yn falch iawn o fod yn noddi dau gyngerdd yn ystod yr wythnos.

Yr Urdd: Fi di Fi

I archebu tocyn maes am ddim, ewch i urdd.cymru/tocynnau.

Yr Urdd: Ni yw y Byd

I archebu tocyn maes am ddim, ewch i urdd.cymru/tocynnau.

Dyddiadau ar gyfer gwirio pwysau carafanau/faniau gwersylla

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn cynnig sesiynau pwyso carafanau a chyngor am ddim.

Gall preswylwyr sy’n mynd ar eu gwyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu cerbyd neu garafán a rhoi eu hunain mewn perygl. 

Mae’r sesiynau pwyso carafanau a rhoi cyngor am ddim ar gael i breswylwyr Sir Ddinbych  a Chonwy ac i rai o ardaloedd awdurdodau lleol eraill os ydynt yn gallu teithio i’r lleoliad.  

Sesiwn i roi cyngor ydyn nhw ac ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau os byddwn yn darganfod gorlwytho neu broblemau eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau’r llwyth.

Bydd y gwiriadau pwysau rhad am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amserau canlynol:

  • Dydd Gwener 6 Mai (9.30am - 2pm)
  • Dydd Sadwrn 21 Mai (8am - 1pm)
  • Dydd Gwener 17 Mehefin (9.30am - 2pm)
  • Dydd Gwener 15 Gorffennaf (9.30am - 2pm)
  • Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf (8am – 1pm)
  • Dydd Gwener 12 Awst (9.30am - 2pm)
  • Dydd Gwener 26 Awst (9.30am - 2pm)
  • Dydd Sadwrn 10 Medi (8am – 1pm)
  • Dydd Gwener 23 Medi (9.30am - 2pm)

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn annod perchnogion carafanau a faniau gwersylla i gymryd mantais o’r sesiynau pwyso a rhoi cyngor am ddim a gynhelir gan dîm Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y cyd â chydweithwyr o Gonwy. 

“Mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych yn gorlwytho eich cerbyd neu garafán, ac felly yn eich amddiffyn eich hun ac eraill.”

Nid oes rhaid i chi wneud apwyntiad, dim ond dod i’r bont bwyso ar un o’r dyddiadau uchod i weld a yw pwysau’ch cerbyd o fewn y terfynau cyfreithiol. Mae’r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, mewn cilfan, a bydd arwyddion i ddweud fod y bont ar agor.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae croeso ichi gysylltu â Safonau Masnach Sir Ddinbych ar safonaumasnach@sirddinbych.gov.uk neu ewch ar eu tudalen Facebook; neu Safonau Masnach Conwy ar Safonau.masnach@sirconwy.gov.uk.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am symiau gohiriedig mannau agored cyhoeddus

Mae Swm Cymudol yn daliad gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad oes modd creu man awyr agored mewn datblygiad. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella mannau agored a mannau chwarae, fel rheol yn yr un dref neu gymuned â’r datblygiad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gellir defnyddio'r arian mewn trefi neu gymunedau cyfagos (cyn belled â'u bod yn y sir).

Yn ystod rownd ddiwethaf y Symiau Gohiriedig, a hysbysebwyd rhwng mis Tachwedd 2021 a diwedd mis Ionawr 2022, roedd £223,421 ar gael ar gyfer 14 o drefi a phentrefi yn Sir Ddinbych. Gwnaed 15 cais i’r gronfa o'r lleoliadau cymwys, am gyfanswm o £238,167, ac o’r rhain dyrannwyd arian i 13 o’r prosiectau a gyflwynwyd, am swm o £204,929

Rhoddir manylion isod am y prosiectau a dderbyniodd gyllid yn rownd ddiwethaf Cyllid Symiau Gohiriedig Mannau Agored Cyhoeddus.

Ymgeisydd y Prosiect

Disgrifiad o’r Prosiect

Swm a Ddyfarnwyd

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Gwella arwynebau diogelwch ym Maes Chwarae Clos Deganwy, Bodelwyddan

£3,779

Cyngor Cymuned Bodfari

Uwchraddio Parc Hannah Jane Smith

£1,237

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Uwchraddio cyfarpar chwarae’r Weirglodd

£18,348

Grŵp Cymunedol Parciau Llangollen

Gwelliannau ym Mharc Pengwern

£1,339

Cyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen

Uwchraddio Parc Dyffryn Teg yn Rhuallt

£1,237

Cymdeithas Rhandiroedd Rhuddlan

Darparu llwybrau gwair mwy hygyrch yn y rhandiroedd

£5,210

Cyngor Tref Rhuddlan

Darpariaethau ar gyfer gosod cynhwysydd storio allanol, offer campfa awyr agored ychwanegol i blant, toiledau allanol, ail-wynebu’r maes parcio, ffordd mynediad a darparu mannau parcio anabl

£66,066

Clwb Rygbi’r Rhyl

Cwblhau’r ffens diogelwch gwylwyr o amgylch y cae chwarae

£7,580

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Gwaith uwchraddio a gwella diogelwch yng Ngerddi Botanegol y Rhyl

£12,370

Cae Chwarae Parc y Star

Ailwampio’r ardal chwarae

£61,765

Clwb Rygbi Rhuthun

Cyfraniad at uwchraddio’r ystafelloedd newid

£10,000

Cyngor Dinas Llanelwy

Gwelliannau Amgylcheddol ar draws y sir

£7,999

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Gwella offer chwarae Cae Winifred

£7,999

Bydd rownd nesaf Symiau Gohiriedig Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref 2022. Pe baech yn dymuno gwybod mwy am y math o brosiectau y gallai’r gronfa eu cefnogi neu os hoffech dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Symiau Gohiriedig Mannau Agored Cyhoeddus yn Sir Ddinbych, cysylltwch â datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Cofrestrwch ar gyfer eich rhestr bostio a'n newyddlen er mwyn derbyn yr holl newyddion datblygu cymunedol a’r newyddlenni diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio'r tîm neu drwy fynd i'r dudalen priodol ar ein gwefan.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid