llais y sir

Newyddion

Diddordeb mewn gyrfa gofal cymdeithasol?

Mae ymgyrch recriwtio wedi cael ei lansio i annog mwy o bobl i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gofal cymdeithasol gwag, yn enwedig yn ystod Covid pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.

Nawr mae ymgyrch o'r enw Gwnewch i Bobl Wenu wedi'i lansio i godi proffil gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol ac i hysbysebu'r swyddi gweigion presennol sy'n bodoli yn y sir.

Bydd yr ymgyrch hon yn cynnwys cymysgedd o hysbysebion ar drafnidiaeth gyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cymunedol, hysbysebion yn y cyfryngau lleol, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Bydd y Cyngor hefyd allan mewn lleoliadau yn cynnal sioeau teithiol recriwtio a gweithdai.

Mae'r Cyngor hefyd wedi ailwampio ei wybodaeth ar y wefan ac wedi cynnwys astudiaethau achos fel fideos, mewn ymgais i annog mwy o bobl i ymuno â'r proffesiwn. Mae adran cwestiynau cyffredin hefyd wedi'i darparu i roi atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf rheolaidd a dderbyniwyd.

Dywedodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau: “Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud yn fawr iawn â gwerthu manteision gweithio i'r Cyngor a dechrau gyrfa mewn gofal cymdeithasol.

“Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd yn fraint wirioneddol ac mae ein timau yn gwneud i bobl wenu bob dydd. Mae hyn yn eu gwaed. Mae’r awydd i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl, ond cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt mewn amrywiaeth o leoliadau.

“Nid oes angen cymwysterau bob amser ac mae digon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau cymwysterau drwy’r gweithle. Mae'r Cyngor wedi rhoi rhaglen gymorth ar waith ar gyfer yr holl weithwyr ac mae manteision sylweddol i weithio i'r Cyngor. Maent yn cynnwys polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac agwedd hyblyg at batrymau sifft.

“Yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim yw’r gallu i wneud i bobl wenu, i gael empathi ac i fod â natur ofalgar. Bydd y gweddill yn disgyn i'w lle”.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal.

Mae yna hefyd fideos gan bobl sy'n gweithio yn ein sector gofal ar ein gwefan.

Dyma stori Catherine >>>

Mae yna fwy o storiau ar ein gwefan - mae'n werth i chi edrych arnyn nhw os ydych yn meddwl dod i weithio efo ni..

Cyfrif i lawr i'r etholiad

Mae paratoadau terfynol yn cael eu gwneud cyn etholiadau'r cyngor sir a chynghorau tref, dinas a chymuned ddydd Iau, 5 Mai.

Dylai preswylwyr cymwys fod wedi derbyn eu cardiau pleidleisio gyda manylion lleoliad eu gorsafoedd pleidleisio. Gall pobl bleidleisio rhwng 7am a 10pm.

Unwaith y bydd gorsafoedd pleidleisio ar gau, bydd y blychau etholiad yn cael eu trosglwyddo i'r ganolfan gyfrif lle bydd y papurau pleidleisio'n cael eu gwirio dros nos.

Bydd y cyfrif ar gyfer yr etholiadau yn dechrau ddydd Gwener, 6 Mai am 9 o’r gloch gydag etholiadau'r cyngor sir; dilynir hyn gan y pleidleisiau ar gyfer etholiadau'r cynghorau tref, dinas a chymuned.

Bydd holl ganlyniadau'r etholiad yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan >>> http://www.denbighshire.gov.uk/etholiadau.

 

Gwrthdaro yn yr Wcráin: Sut y gallwch helpu

Mae'r gwrthdaro presennol yn yr Wcráin yn dorcalonnus, gyda miloedd o bobl yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi yn ofni diogelwch eu teuluoedd ac mae'r argyfwng dyngarol yn tyfu gyda nifer fawr o bobl angen cymorth brys.

Mae'r Cyngor wedi dechrau gweithio gyda sefydliadau partneriaeth i gefnogi y rhai y mae'r gwrthdaro wedi effeithio arnynt ac mae teuluoedd bellach wedi dechrau cyrraedd i fyw gydag aelwydydd Lletyol. Mae Tîm Ailsefydlu Sir Ddinbych y DU yn gweithio gyda phawb sy'n gysylltiedig i gefnogi ailsefydlu dros y misoedd nesaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelwyd Lletyol, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma >> https://www.gov.uk/register-interest-homes-ukraine.

Gall unrhyw grwpiau gwirfoddol neu unigolion lleol sy'n dymuno cynnig mathau eraill o gymorth gysylltu â ni drwy e-bostio ukresettlement@sirddinbych.gov.uk

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i fusnesau am gymorth.

Isod, ceir dolen ar gyfer unrhyw fusnes neu sefydliad a all gynnig help gyda'r canlynol:

  • Llety ar raddfa fawr i ffoaduriaid a'u teuluoedd, fel gwestai a pharciau gwyliau
  • Cludiant, fel coetsis a bysiau mini (efallai na fydd angen i chi ddarparu gyrwyr), i fynd â phobl i'w cartrefi newydd
  • Cyflenwadau fel dillad, pethau ymolchi ac eitemau ar gyfer y mislif
  • Gwersi iaith
  • Cyflogaeth a hyfforddiant
  • Cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd

https://llyw.cymru/cofrestrwch-fusnes-neu-sefydliad-i-helpu-ffoaduriaid-o-wcrain-syn-dod-i-gymru.

Fel Cyngor, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd ei angen yn ystod yr argyfwng parhaus hwn.

Paratoi i groesawu Cymru i Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor yn paratoi i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir Ddinbych.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar greu'r Maes ar gyrion Dinbych ac mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda threfnwyr yr Urdd i sicrhau bod yr Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol.

Roedd yr Eisteddfod i fod i gael ei chynnal yn Sir Ddinbych yn 2020, ond cafodd ei gohirio ddwywaith oherwydd cyfyngiadau Covid.

Nawr mae cynlluniau ar y gweill i baratoi'r Maes, yn barod ar gyfer y digwyddiad - 30 May i 4 Mehefin

Bydd gan y Cyngor babell ar y Maes a bydd ganddo weithgareddau i'r teulu cyfan. Gall plant ddod i mewn a chymryd rhan mewn creu gweithiau celf gan ddefnyddio deunyddiau lleol gyda'r artist Mari Gwent. Bydd gwaith celf a grëwyd gan blant ysgol lleol fel rhan o brosiect sy'n arwain at yr Eisteddfod hefyd yn cael ei arddangos.

Bydd blas o'r arfordir yn dod i'r wlad gan ein bod wedi bwriadu cael pwll tywod i'n hymwelwyr iau. Bydd dolydd blodau gwyllt hefyd yn cael ei greu i hyrwyddo'r gwaith rydym yn ei wneud o amgylch newid yn yr hinsawdd a bod yn fwy ecogyfeillgar.

Bydd ein stiwdio yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion lleol fel llwyfan ymarfer, felly mae'n gyfle gwych i glywed ein plant a'n pobl ifanc dalentog. Bydd gweithgareddau eraill hefyd yn cael eu cynnal yn y stiwdio yn ystod yr wythnos, gan gynnwys eitemau cerddorol, sesiynau adrodd straeon a disgos tawel. Cadwch lygad ar ein cyfrifon Facebook a Twitter am fwy o wybodaeth.

Bydd y Cyngor hefyd yn hyrwyddo'r sir fel lle gwych i ymweld ag ef, gyda'r ffocws ar hyrwyddo pethau i'w gwneud yn y sir, gan dynnu sylw at yr atyniadau sydd ar gael a bydd gennym drac BMX i blant fel rhan o'n hymdrechion i hyrwyddo gweithgareddau hamdden yn y sir.

Dewch i'n gweld yn ystod yr wythnos. Gallwch ddod o hyd i ni wrth ymyl y brif fynedfa.

Mae'r Cyngor yn falch iawn o fod yn noddi dau gyngerdd yn ystod yr wythnos.

Yr Urdd: Fi di Fi

I archebu tocyn maes am ddim, ewch i urdd.cymru/tocynnau.

Yr Urdd: Ni yw y Byd

I archebu tocyn maes am ddim, ewch i urdd.cymru/tocynnau.

Dyddiadau ar gyfer gwirio pwysau carafanau/faniau gwersylla

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych yn cynnig sesiynau pwyso carafanau a chyngor am ddim.

Gall preswylwyr sy’n mynd ar eu gwyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu cerbyd neu garafán a rhoi eu hunain mewn perygl. 

Mae’r sesiynau pwyso carafanau a rhoi cyngor am ddim ar gael i breswylwyr Sir Ddinbych  a Chonwy ac i rai o ardaloedd awdurdodau lleol eraill os ydynt yn gallu teithio i’r lleoliad.  

Sesiwn i roi cyngor ydyn nhw ac ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau os byddwn yn darganfod gorlwytho neu broblemau eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau’r llwyth.

Bydd y gwiriadau pwysau rhad am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amserau canlynol:

  • Dydd Gwener 6 Mai (9.30am - 2pm)
  • Dydd Sadwrn 21 Mai (8am - 1pm)
  • Dydd Gwener 17 Mehefin (9.30am - 2pm)
  • Dydd Gwener 15 Gorffennaf (9.30am - 2pm)
  • Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf (8am – 1pm)
  • Dydd Gwener 12 Awst (9.30am - 2pm)
  • Dydd Gwener 26 Awst (9.30am - 2pm)
  • Dydd Sadwrn 10 Medi (8am – 1pm)
  • Dydd Gwener 23 Medi (9.30am - 2pm)

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn annod perchnogion carafanau a faniau gwersylla i gymryd mantais o’r sesiynau pwyso a rhoi cyngor am ddim a gynhelir gan dîm Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y cyd â chydweithwyr o Gonwy. 

“Mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych yn gorlwytho eich cerbyd neu garafán, ac felly yn eich amddiffyn eich hun ac eraill.”

Nid oes rhaid i chi wneud apwyntiad, dim ond dod i’r bont bwyso ar un o’r dyddiadau uchod i weld a yw pwysau’ch cerbyd o fewn y terfynau cyfreithiol. Mae’r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, mewn cilfan, a bydd arwyddion i ddweud fod y bont ar agor.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae croeso ichi gysylltu â Safonau Masnach Sir Ddinbych ar safonaumasnach@sirddinbych.gov.uk neu ewch ar eu tudalen Facebook; neu Safonau Masnach Conwy ar Safonau.masnach@sirconwy.gov.uk.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am symiau gohiriedig mannau agored cyhoeddus

Mae Swm Cymudol yn daliad gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad oes modd creu man awyr agored mewn datblygiad. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella mannau agored a mannau chwarae, fel rheol yn yr un dref neu gymuned â’r datblygiad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gellir defnyddio'r arian mewn trefi neu gymunedau cyfagos (cyn belled â'u bod yn y sir).

Yn ystod rownd ddiwethaf y Symiau Gohiriedig, a hysbysebwyd rhwng mis Tachwedd 2021 a diwedd mis Ionawr 2022, roedd £223,421 ar gael ar gyfer 14 o drefi a phentrefi yn Sir Ddinbych. Gwnaed 15 cais i’r gronfa o'r lleoliadau cymwys, am gyfanswm o £238,167, ac o’r rhain dyrannwyd arian i 13 o’r prosiectau a gyflwynwyd, am swm o £204,929

Rhoddir manylion isod am y prosiectau a dderbyniodd gyllid yn rownd ddiwethaf Cyllid Symiau Gohiriedig Mannau Agored Cyhoeddus.

Ymgeisydd y Prosiect

Disgrifiad o’r Prosiect

Swm a Ddyfarnwyd

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Gwella arwynebau diogelwch ym Maes Chwarae Clos Deganwy, Bodelwyddan

£3,779

Cyngor Cymuned Bodfari

Uwchraddio Parc Hannah Jane Smith

£1,237

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Uwchraddio cyfarpar chwarae’r Weirglodd

£18,348

Grŵp Cymunedol Parciau Llangollen

Gwelliannau ym Mharc Pengwern

£1,339

Cyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen

Uwchraddio Parc Dyffryn Teg yn Rhuallt

£1,237

Cymdeithas Rhandiroedd Rhuddlan

Darparu llwybrau gwair mwy hygyrch yn y rhandiroedd

£5,210

Cyngor Tref Rhuddlan

Darpariaethau ar gyfer gosod cynhwysydd storio allanol, offer campfa awyr agored ychwanegol i blant, toiledau allanol, ail-wynebu’r maes parcio, ffordd mynediad a darparu mannau parcio anabl

£66,066

Clwb Rygbi’r Rhyl

Cwblhau’r ffens diogelwch gwylwyr o amgylch y cae chwarae

£7,580

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Gwaith uwchraddio a gwella diogelwch yng Ngerddi Botanegol y Rhyl

£12,370

Cae Chwarae Parc y Star

Ailwampio’r ardal chwarae

£61,765

Clwb Rygbi Rhuthun

Cyfraniad at uwchraddio’r ystafelloedd newid

£10,000

Cyngor Dinas Llanelwy

Gwelliannau Amgylcheddol ar draws y sir

£7,999

Cyngor Sir Ddinbych - Y Gwasanaethau Stryd

Gwella offer chwarae Cae Winifred

£7,999

Bydd rownd nesaf Symiau Gohiriedig Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref 2022. Pe baech yn dymuno gwybod mwy am y math o brosiectau y gallai’r gronfa eu cefnogi neu os hoffech dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Symiau Gohiriedig Mannau Agored Cyhoeddus yn Sir Ddinbych, cysylltwch â datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Cofrestrwch ar gyfer eich rhestr bostio a'n newyddlen er mwyn derbyn yr holl newyddion datblygu cymunedol a’r newyddlenni diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio'r tîm neu drwy fynd i'r dudalen priodol ar ein gwefan.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Ffair Swyddi

Ydych chi’n chwilio am swydd neu yn meddwl newid eich gyrfa?

Hoffai Sir Ddinbych yn Gweithio croesawu chi i’n Ffair Swyddi!

Yn y Ffair Swyddi, cewch cyfle i siarad gyda cyflogwyr o ystod eang o sectorau gwahanol a chael dealltwriaeth o sut brofiad fyddai gweithio iddynt.

 Bydd staff Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd wrth law i gynnig cyngor, arweiniad a chymorth i chi.

 Dyddiad: Dydd Mercher 25ain o Fai 2022

Amser: 9:30yb – 3yp

Lleoliad: Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Rhyl, LL18 1BA

Cynllun Dechrau Gweithio

Mae Cynllun Dechrau Gweithio y Cyngor wedi cynnig dros 60 o leoliadau i breswylwyr Sir Ddinbych, gan roi cipolwg gwerthfawr iddynt ar fyd gwaith. Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio yn ddull drwy Sir Ddinbych yn Gweithio i ddatblygu a chreu cymunedau cryf yn Sir Ddinbych gyda mwy o bwyslais ar fynd i’r afael â diweithdra drwy leoliadau gwaith am dâl neu’n ddi-dâl yn ein Cyngor.

Oherwydd Covid 19, rydym wedi ehangu cwmpas ein Cynllun Dechrau Gweithio i fusnesau micro a bach ar hyd a lled Sir Ddinbych. Yn ystod y tonnau diweddaraf o leoliadau, mae’r cynllun wedi gallu cynnig cyfleoedd lleoliadau am dâl a di-dâl gyda dros 15 o fusnesau yn Sir Ddinbych. Mae llawer o gyflogwyr lleol wedi croesawu’r datblygiad hwn, gan eu galluogi i sgrinio gweithwyr newydd posibl a sicrhau bod ganddynt afael sylfaenol o ddynamig y gweithle cyn iddynt ddechrau gweithio.

Mae’r cynllun yn parhau i helpu pobl leol ddatblygu’r sgiliau, profiad a diddordebau mae cyflogwyr y chwilio amdanynt mewn marchnad swyddi sy’n gynyddol gystadleuol drwy ddarparu cyllid i greu lleoliadau gwaith am dâl a di-dâl mewn amrywiaeth o swyddi iau yn adrannau Cyngor Sir Ddinbych a busnesau lleol. Yn ystod eu cyfnod yn y Cynllun Dechrau Gweithio, mae pob unigolyn yn cael ei gefnogi gan Swyddog Lleoliad i gael mynediad at rwydwaith o wasanaethau sy’n eu cefnogi ar eu taith i waith neu tuag ato, ac i gynnal eu swydd neu i ddatblygu pan fyddant mewn gwaith.

Fyddech chi’n elwa o gymryd rhan yn y Cynllun Dechrau Gweithio?

Dyma sut y gallwn eich helpu fel rhan o’r Cynllun Dechrau Gweithio. Byddwn yn:

  • Trafod y lleoliadau sydd gennym i’w cynnig
  • Archwilio diddordeb mewn swyddi yng Nghyngor Sir Ddinbych a busnesau lleol
  • Cadarnhau cymhwyster a helpu ymgeiswyr i fodloni meini prawf cymhwyso
  • Cael gafael ar gyllid i helpu’r lleoliadau
  • Cynnig cefnogaeth ar leoliadau i’r rhai sy’n cymryd rhan
  • Cefnogaeth gyda chynlluniau gwarantu cyfweliad
  • Cymorth gydag ymrwymiadau geirda ar gyfer ceisiadau swyddi yn y dyfodol
  • Galluogi cyfleoedd hyfforddi a helpu i gael mynediad at e-ddysgu
  • Darparu cyfleoedd rhwydweithio – darparu system cefnogaeth cyfaill i’r rhai sy’n cymryd rhan
  • Datblygu sgiliau cyflogadwyedd
  • Dod o hyd i ymgeiswyr sy’n barod am waith
  • Cyfeirio at wasanaethau sy’n cefnogi mynediad at gyflogaeth bellach

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y Cynllun Dechrau Gweithio, e-bostiwch ni yn WorkStart@sirddinbych.gov.uk

Yr hyn sydd gan gyfranogwyr i’w ddweud am y Cynllun Dechrau Gweithio:

Fe wnes i ymgeisio am leoliad gwaith gyda Chyngor Sir Ddinbych i ehangu fy hyder yn y gweithle ac mewn cyfweliadau drwy ddefnyddio sgiliau perthnasol yn ymarferol, cael profiad gweinyddol gyda sefydliad mawr a chasglu cronfa fwy o eirdaon i wella fy siawns o ddod o hyd i swydd llawn amser neu yrfa.

Roedd fy mhrofiadau yn ystod y lleoliad gwaith yn hynod o bositif, yn cynnwys meithrin sgiliau gwaith tîm cynhwysfawr mewn amgylchedd o bwysau mawr a dysgu am y prosesau o amgylch y Tîm Atal Digartrefedd a’u rhoi ar waith. Fe wnes i hefyd fwynhau gweithio gyda llawer o fathau gwahanol o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n galed, nid yn unig yn y Tîm Atal Digartrefedd ond yn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol cyfan ar draws Cyngor Sir Ddinbych.

Cafodd y Cynllun Dechrau Gweithio effaith enfawr ar fy mywyd, gan fy ngalluogi i ddod dros fy iselder, rhoi ystyr a phwrpas i fy mywyd a llwybr i mi nid yn unig tuag at swydd tymor byr ond gyrfa hirdymor fel rhan ganolog o’r Tîm Atal Digartrefedd.  

Fy neges i unrhyw un sy’n meddwl am leoliad:

Os ydych yn teimlo nad yw eich bywyd gweithio yn tyfu nac yn mynd i unman, ni allaf ganmol digon ar y Cynllun Dechrau Gweithio. Cefais gefnogaeth wych ganddynt sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu a dangos fy sgiliau mewn amgylchedd bywyd gwaith go iawn, meithrin hyder a chael profiad pendant sydd wedi galluogi i mi ddechrau gyrfa rwyf yn angerddol iawn amdani.

Lleoliad Gweinyddwr yng Nghyngor Sir Ddinbych

 

Drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, cefais wybod am Sir Ddinbych yn Gweithio. Siaradais ar y ffôn â mentor o Sir Ddinbych yn Gweithio gyda’r nod o ddod o hyd i swydd yn y Sector TG. Cyn pen dim roeddent wedi gofyn a oedd gen i ddiddordeb mewn ymgeisio am swydd Weinyddol drwy’r Cynllun Dechrau Gweithio. Yn naturiol, dywedais fod gen i ddiddordeb yn y rôl gan ei fod yn gyfle da i gael profiad gwaith hanfodol mewn amgylchedd swyddfa.

Gan mai hon oedd fy swydd gyntaf mewn swyddfa, roeddwn yn bryderus am ddechrau swydd, ar ben hynny, dechreuais mewn cyfnod pan oedd mwy na deg mil o achosion o Coronafeirws y dydd yn y DU. Roeddwn yn poeni am y swydd ei hun ond hefyd am fod o gwmpas pobl eraill. Drwy gydol fy amser ar leoliad, rwyf wedi cael fy nghefnogi’n uniongyrchol gan fy nghydweithwyr yn ogystal â’m Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio.

Mae fy nghydweithwyr wedi fy helpu i ddeall y swydd yn ogystal â sut maent yn gweithredu’n effeithiol mewn tîm, maen nhw wedi gwneud i mi deimlo’n barod am waith. Mae fy Swyddog Lleoliad Dechrau Gweithio wedi fy helpu i olrhain fy nghynnydd yn y swydd yn ogystal â rhoi clust i wrando pe bai angen.

Y peth gwych am y swydd Dechrau Gweithio yw ei bod wedi fy helpu i gael profiad gwaith gwerthfawr fel fy mod yn barod am y cam nesaf yn fy ngyrfa, sef yn union beth oeddwn ei eisiau o’r swydd. Es i’r coleg i wneud TG ac rwyf wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ymgeisio am swyddi yn y sector TG. Roeddwn wedi tueddu’n flaenorol i fynd drwy’r cyfweliad cyntaf ac yna ar ôl yr ail gyfweliad, cael gwybod eu bod yn fy hoffi ond bod gan rywun arall fwy o brofiad. Mae’r swydd hon wedi fy rhoi mewn amgylchedd swyddfa a phrofi gweithio mewn tîm, ac wedi rhoi hyder i mi wybod y gallaf gyflawni beth bynnag rwyf yn rhoi fy mryd arno. Tuag at ddiwedd fy lleoliad cefais wahoddiad i gyfweliad ar gyfer swydd TG ac wedi’r ail gyfweliad cefais gynnig y swydd. Rwyf yn rhoi’r clod am hyn i’r Cynllun Dechrau Gweithio am ganiatáu i mi gael y profiad roeddwn yn chwilio amdano.

Byddwn wir yn argymell i bobl gymryd mantais o’r Cynllun Dechrau Gweithio gan ei fod yn caniatáu i chi eich datblygu eich hun mewn amgylchedd cefnogol a charedig. Rwyf wir yn credu fod y cyfle hwn wedi bod yn brofiad positif sydd wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus a gwneud i mi deimlo fy mod yn ôl ar y trywydd iawn tuag at yr hyn rwyf eisiau ei gyflawni.

Lleoliad Swyddog Cefnogi Gweinyddol yng Nghyngor Sir Ddinbych

 

Diolch yn fawr iawn am eich holl gymorth ac anogaeth, mae wedi fy helpu fwy na wyddoch chi.

Lleoliad Derbynnydd yng Nghyngor Sir Ddinbych  

Barod?

Goresgyn bwlio a gorbryder i sicrhau swydd

Cyfeiriwyd H at ein cymorth drwy Gyrfa Cymru. Roedd yn dioddef o orbryder drwg ac wedi cael trafferth mewn lleoliadau addysg oherwydd bwlio. Ar ôl cael ei gyfeirio at Cymunedau am Waith drwy Gyrfa Cymru, mae H wedi dod ymlaen yn wych ac wedi sicrhau swydd yn Papa Johns, y mae’n edrych ymlaen yn arw at gychwyn arni.

Roedd H wedi cwblhau Lefel 1 mewn Datblygu Meddalwedd, ond oherwydd problemau gyda’r coleg, ni chafodd barhau ar y cwrs Lefel 2. Cafodd H ei fwlio yn yr ysgol ac o ganlyniad, nid oes ganddo fawr o hunan-barch na hyder yn ei allu. Pan gyfeiriwyd H at ein gwasanaeth, trefnwyd cyfarfodydd yn y ganolfan Gyrfa Cymru leol, lle’r oedd yn teimlo’n gyfforddus. Nid oedd H wedi bod yn gwneud ceisiadau am swyddi gan nad oedd ganddo syniad lle i ddechrau arni.

Ennyn diddordeb …

Er mwyn ennyn diddordeb H yn y prosiect, fe ddechreuom ni gyfarfod yn y ganolfan Gyrfa Cymru leol drwy un o’u gweithwyr i gynnig cymorth. Galluogodd hyn i H fy nghyfarfod i mewn man lle’r oedd yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddigynnwrf tra’r oedd yn dod i fy adnabod i. Roedd H yn mwynhau unrhyw beth i’w wneud â chyfrifiaduron, ond hefyd yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored yn ei ardd. Nid oedd H yn gwybod beth roedd o eisiau ei wneud ac nid oedd ganddo unrhyw hyder, felly roedd y syniad o weithio yn ei lethu braidd, ond roedd yn gwybod bod angen iddo ddechrau ennill arian i helpu ei Fam. I ddechrau, fe wnaethom ni ei gofrestru ar gyfer CC gan y byddai hyn yn rhoi rhywfaint o arian iddo yn ogystal â chymorth ychwanegol i chwilio am waith. Fe wnes i ei helpu gyda’r cais a mynd i’w gyfarfodydd cyntaf gydag ef fel nad oedd rhaid iddo fynd ar ei ben ei hun.

Ar ôl trefnu iddo gael CC, fe ddechreuom ni siarad am beth yr hoffai H ei wneud. Fe soniodd bod ei frawd yn dilyn cwrs gan holi a fyddai modd iddo yntau ei ddilyn hefyd. Fodd bynnag, bu i ni ganfod bod H yn rhy hen i’r cwrs penodol hwnnw ac nid oedd unrhyw beth tebyg ar gael heb fynd i’r coleg, oedd yn ormod i H oherwydd y bwlio blaenorol. Arweiniodd hyn at i ni geisio dod o hyd i gyrsiau eraill, ond yn anffodus, doedd yna ddim ar gael oedd yn addas i H. Felly fe ddechreuom ni ganolbwyntio ar waith. Aethom ati i lunio ei CV gyda’n gilydd, gan sicrhau bod ei holl sgiliau’n gyfredol a’i fod yn rhoi argraff dda ohono pan oedd yn gwneud cais am swyddi. Yna, fe ddechreuom ni wneud ceisiadau am swyddi; doedd dim ots gan H pa fath o swyddi oedden nhw, cyn belled â’u bod yn lleol iddo ac yn rhywbeth oedd o ddiddordeb iddo.

Ochr yn ochr â cheisio am swyddi, fe ddechreuom ni edrych ar ddewisiadau eraill, gan gynnwys y Cynllun Dechrau Gwaith. Cododd cyfle gyda’r adran TG drwy’r Cynllun Dechrau Gwaith. Gyda chymhwyster coleg blaenorol H, roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y swydd hon, felly fe ddechreuom ni ar y broses o wneud cais. Buom yn cydweithio i baratoi H ar gyfer y cam sgrinio cyn cyflogi a’r cyfweliad. Aeth H am y cyfweliad, ac er na chafodd o swydd gyflogedig, fe lwyddodd i gael lleoliad di-dâl o fewn yr adran TG. Aethpwyd ati i drefnu hyn, ond oherwydd problemau staffio yn yr adran TG, bu’n rhaid gohirio’r cyfle. Roedd hyn yn ergyd i H, ond roedd yn deall bod y cyfle yn dal i fod ar gael iddo. Arweiniodd hyn at i ni edrych ar ddewisiadau eraill i weld pa gyfleoedd eraill oedd yn codi. Gan ei bod bellach yn fis Ionawr, roedd llawer o’r parciau carfanau lleol yn dechrau ar eu hymgyrchoedd recriwtio ar gyfer tymor y gwyliau. Roedd gan H ddiddordeb mawr mewn rhai o’r cyfleoedd hyn, ac fe gawsom ni drafodaeth am y gwahanol swyddi allai fod ar gael. Fe eglurais i hefyd sut y mae’r parciau gwyliau’n cynnal eu proses recriwtio a’u bod yn tueddu i gael diwrnod recriwtio i bawb, gyda chyfle i siarad â nifer o’r adrannau sydd â swyddi ar gael.

Roedd H yn ansicr o’r broses hon, ond ni wnaeth ei fwrw oddi ar ei echel, ac fe benderfynodd fynd i'r diwrnod recriwtio. Fe gawsom ni drafodaeth am y swyddi ac roedd gan H ddiddordeb yn y swyddi glanhau, derbynfa ac arlwyo a fyddai ar gael. Aeth H draw ar ei ben ei hun gyda’i CV ac yn gwisgo ei ddillad cyfweliad; roedd hwn yn gam enfawr i H fynd i wneud rhywbeth newydd ar ei ben ei hun. Ar ôl y diwrnod recriwtio, fe siaradais i â H ac fe eglurodd bod y diwrnod wedi mynd yn dda a’i fod yn falch ohono’i hun am fynd. Bu’n siarad â rhywun am y swyddi yn y dderbynfa, y swyddi gyda Papa Johns a’r swyddi y tu ôl i’r bar.

Ar ôl aros wythnos neu ddwy, fe gysylltodd Papa Johns â H i ofyn iddo ddod i mewn am gyfarfod arall; fe aeth, ac fe gynigion nhw swydd iddo. Roedd H wedi gwirioni’n lân ac yn edrych ymlaen yn arw am gael cychwyn gweithio. Roedd H mor falch ei fod wedi llwyddo i fagu hyder i fynd i’r diwrnod recriwtio ar ei ben ei hun, a gyda chymorth gen i i baratoi ar gyfer y cyfweliad a chael dillad cyfweliad yr oedd H yn teimlo’n gyfforddus ynddyn nhw, fe lwyddodd i gael y swydd.

Canlyniadau

Pan ddechreuais i weithio gyda H, roeddwn yn credu y byddai ein taith gyda’n gilydd wedi cymryd mwy o amser oherwydd yr holl rwystrau yr oedd yn eu hwynebu. Fodd bynnag, gyda dyfalbarhad ac ysgogiad, mae H wedi rhagori ar ei ddisgwyliadau ei hun hyd yn oed, ac wedi llwyddo i gael swydd. Mae H wedi goresgyn ei orbryder o amgylch pobl a lleoedd newydd ac wedi gweithio’n arbennig o galed ar bob tasg a roddwyd iddo. Byddai’n ymarfer ei dechnegau cyfweliad drosodd a throsodd i wneud yn siŵr ei fod yn teimlo mor hyderus ag y gallai wrth fynd am gyfweliad. Mae’r astudiaeth achos hon wedi dangos bod dyfalbarhad ac ysgogiad yn chwarae rhan allweddol mewn goresgyn rhwystrau. Drwy beidio â gadael i’r rhwystrau ei drechu, roed H yn dal ati i godi ar ei draed a symud ymlaen nes iddo gyrraedd ei nod o gael gwaith.

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Dosbarth Coetir yn cynnig cartref i famaliaid

Bydd y safle coetir newydd yn cynnig thema addysgol nosol. 

Mae gwaith wedi cael ei gwblhau ar hen gae ysgol gynradd ar Stryd Llanrhydd, Rhuthun i sefydlu coetir newydd. 

Fel rhan o Brosiect Creu Coetir Sir Ddinbych, mae 800 o goed eisoes wedi cael eu plannu ar y safle eleni sy’n cyfrannu at yr ymdrech parhaus i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth. 

Hefyd mae 5,000 o goed wedi cael eu plannu eleni er mwyn creu coetiroedd newydd ym Maes Gwilym, Cae Ddol a Maes Esgob.

Mae’r coed newydd hyn yn ychwanegol i’r 18,000 o goed a gaiff eu plannu ar draws y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2017-22 ar gynnal amgylchedd naturiol a chynnal a gwella bioamrywiaeth o fewn y sir.

Mae nifer o blant ysgol wedi helpu i blannu’r coed ar eu hen gae ysgol yn Rhuthun.

Mae dosbarth awyr agored bellach wedi cael ei chreu ar y safle i helpu plant i ddysgu am fioamrywiaeth a rhoi help llaw i breswylwyr nosol lleol. 

Adeiladwyd y dosbarth â phren gan y crefftwr lleol, Huw Noble, sydd wedi ymgorffori nodwedd unigryw. 

Mae’r strwythur yn cynnwys ‘To Ystlumod’ sydd wedi cael ei ddylunio’n arbennig i ddarparu’r nodweddion sydd eu hangen ar ystlumod i nythu yn ystod y dydd.  Dros amser, wrth i’r cynefinoedd ddatblygu ar y safle, gobeithir y bydd y strwythur yn cefnogi poblogaethau lleol y creaduriaid prin hyn.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr, plant ysgol ac aelodau lleol sydd wedi gweithio ar safle Llanrhydd yn ogystal â phob safle i helpu i barhau i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth ar draws Sir Ddinbych.

“Rydym yn gweithio’n galed i roi bioamrywiaeth wrth wraidd ein cynlluniau ac mae hyn wedi ein caniatáu i addasu’r cynllun er lles pobl yn ogystal â bywyd gwyllt.

“Bydd yr ychwanegiad gwych hwn at safle Llanrhydd wirioneddol yn helpu plant i ddeall bioamrywiaeth eu cymuned leol a’r hyn y gallant barhau i’w wneud i helpu’r amgylchedd. 

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r saer am osod y To Ystlumod anhygoel, a gobeithiwn y bydd y boblogaeth leol yn elwa’n fawr ohono ac y bydd y dosbarth yn cynnig rhywle unigryw i hyrwyddo bioamrywiaeth ymhlith yr ifanc.”

Gwybodaeth Ychwanegol:

  • Ym mis Gorffennaf 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol. Cymeradwywyd Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021, a oedd yn ymrwymo i fod yn Ddi-Garbon Net ac yn Gyngor Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.
  • Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon y Cyngor o sawl ffynhonnell.
  • Nid yw hi’n bosibl cyrraedd di-garbon net drwy leihau allyriadau’n unig. Bydd yn rhaid gosod hyn yn erbyn unrhyw allyriadau carbon na allwn eu dileu.  Bydd y Prosiect Creu Coetir hwn yn helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at y swm o garbon a gaiff ei ddal a’i storio (neu’i amsugno).

Cyfleoedd i wirfoddoli yn y Blanhigfa Goed

Mae menter newydd yn Sir Ddinbych yn agor ei drysau i wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn bioamrywiaeth.

Mae planhigfa goed leol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy, yn anelu i gynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol bob blwyddyn, ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol.

Ariannwyd y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect ENRaW Partneriaethau Natur Lleol Cymru a’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae’r tîm ar y safle eisoes yn gweld ffrwyth eu llafur wrth i’r hadau blodau gwyllt brodorol cyntaf egino yn y blanhigfa.

Yn dilyn datganiad y Cyngor o Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.

Yn awr mae’r tîm yn croesawu unrhyw wirfoddolwyr i’r safle sydd â diddordeb yn yr amgylchedd lleol, unigolion sy’n frwd dros dyfu planhigion, neu’r unigolion hynny sydd eisiau dysgu mwy am y prosiectau plannu coed a blodau gwyllt y mae’r Cyngor yn eu cynnal.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor: “Rydym yn falch o’r gwaith bioamrywiaeth ar y safle yma ac yn awyddus i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i’r unigolion hynny sydd â diddordeb yn yr hyn rydym yn ei wneud yma ar gyfer yr amgylchedd lleol.  Mae’n gyfle gwych i ddysgu mwy am fioamrywiaeth Sir Ddinbych gan ein tîm profiadol yn y blanhigfa.

“Rydym yn awyddus iawn i groesawu gwirfoddolwyr i’n cynorthwyo â chasglu hadau, ail-botio a thasgau cyffredinol eraill yn y blanhigfa yn ymwneud â’n nod i ddarparu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt a 5,000 o goed bob blwyddyn. 

“Bydd y blanhigfa hefyd yn cynorthwyo i ddarparu coed a blodau gwyllt i grwpiau cymunedol lleol i roi hwb i fioamrywiaeth.”

Os hoffech chi wirfoddoli, cysylltwch â bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk

 

Coetir newydd yn bwrw gwreiddiau

Mae bron i 5,000 o goed newydd wedi cael eu plannu ar draws Sir Ddinbych er mwyn helpu i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.

Mae Prosiect Creu Coetir y Cyngor yn bwrw gwreiddiau ar draws y sir yn sgil gwaith cefnogi gan staff, gwirfoddolwyr ac aelodau etholedig.

Ym mis Gorffennaf 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol.  Cafodd Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021, gan ymrwymo’r Cyngor i fod yn Ddi-garbon ac yn Gyngor Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon y Cyngor o sawl ffynhonnell. 

Nid yw hi’n bosibl cyrraedd di-garbon net drwy leihau allyriadau’n unig.   Bydd yn rhaid gosod hyn yn erbyn unrhyw allyriadau carbon na allwn eu dileu.  Bydd y prosiect creu coetir hwn yn helpu’r Cyngor i gyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon drwy gyfrannu at y swm o garbon a gaiff ei ddal a’i storio (neu’i amsugno).

Mae gwirfoddolwyr a staff y Cyngor wedi plannu 800 o goed yn Llanrhydd, 2,500 ym Maes Gwilym, 1,500 yng Nghae Ddol a 150 o goed ym Maes Esgob.  Roedd hyn yn cynnwys nifer o blant ysgol a blannodd y coed ar eu hen gae ysgol yn Rhuthun, yn ogystal â gwella coetir Maes Gwilym yn y Rhyl.

Mae’r prosiect hefyd wedi’i ddylunio i gefnogi’r Cyngor i gynyddu cyfoeth y rhywogaethau ar ei dir.

Mae'r Cyngor wedi plannu bron i 5000 o goed ar draws y sir ac rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar y safleoedd a’r aelodau etholedig sydd wedi cynorthwyo.

Mae’r holl goed wedi cael eu dewis i wella bioamrywiaeth gyda chymysgedd amrywiol o wrychoedd yn ogystal â rhywogaeth coed maint safonol a ddewiswyd i gyd-fynd â’r ardal.

Mae gan bob safle goeden ‘dathlu’, a ddewiswyd gan breswylwyr yn ystod ein hymgynghoriad ar-lein fis Tachwedd diwethaf, a blannwyd mewn ardal gyda digonedd o le i alluogi iddo dyfu mewn i goeden hyfryd i’r gymuned ei fwynhau a bod yn falch ohono.

I gael rhagor o wybodaeth am waith newid hinsawdd a newid ecolegol y Cyngor ewch i'n gwefan

Prosiect bioamrywiaeth yn tyfu ar gyfer y tymor newydd

Bydd prosiect bioamrywiaeth yn blodeuo ar raddfa fwy eleni ar hyd a lled Sir Ddinbych.

Bydd prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn ehangu yn nhymor 2022 yn dilyn cyhoeddiad y bydd safleoedd ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer y fenter amgylcheddol.

Ddiwedd y llynedd, roedd yna bron i 60 o safleoedd prosiect Dolydd Blodau Gwyllt, yn cynnwys lleiniau ymyl priffyrdd, ymylon llwybrau troed, llwybrau beiciau a glaswelltiroedd amwynder, a’r bwriad yw cynnwys mwy o safleoedd y gwanwyn hwn.

Yn dilyn adborth a gasglwyd gyda chymorth aelodau lleol, mae prosiect eleni wedi tyfu i gynnwys dros 100 o safleoedd a reolir fel dolydd blodau gwyllt (gan gynnwys yr 11 gwarchodfa natur ymyl ffordd). Mae hyn yn gyfystyr â bron i 35 o gaeau pêl-droed o laswelltir a reolir fel dolydd blodau gwyllt brodorol.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor: “Y nod yw cynyddu bioamrywiaeth yn unol â’r Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y bu i ni ei gyhoeddi a blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ar gyfer yr Amgylchedd. 

“Er mwyn rheoli dolydd blodau gwyllt, rhaid peidio â thorri’r glaswellt rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, er mwyn rhoi digon o amser i’r blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu. Ar gyfer y safleoedd hyn, bydd y tîm bioamrywiaeth yn monitro’r gwelliannau o ran twf a bioamrywiaeth bob mis, a dim ond y borderi o amgylch y safleoedd hyn y bydd y Gwasanaethau Stryd yn eu torri yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y safleoedd yn cael eu torri’n llawn ddechrau mis Medi.”

Bydd tîm bioamrywiaeth y Cyngor yn cysylltu â thrigolion sy’n byw ger y safleoedd newydd i roi gwybod iddyn nhw sut y mae’r prosiect yn gweithio i wella a chynnig manteision i fioamrywiaeth y sir.

Yn ogystal â diogelu blodau gwyllt, mae’r dolydd hefyd yn cefnogi lles pryfed sy’n frodorol i ardal Sir Ddinbych.

I gael rhagor o wybodaeth am y safleoedd blodau gwyllt, ewch i'n gwefan.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Dathlu ein hawyr dywyll

Fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2022 gyntaf erioed, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ochr yn ochr â pharciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru, wedi cymryd rhan mewn wythnos gyffrous o ddigwyddiadau wybrennol i ddathlu ein hawyr dywyll.

Dechreuodd yr wythnos gyda dwy sgwrs gyfareddol ar-lein: y gyntaf gan swyddog Awyr Dywyll Gogledd Cymru, Dani Robertson. Arweiniodd Dani noson gyfeillgar, llawn gwybodaeth gyda dros 50 yn cymryd rhan, gan egluro pwysigrwydd golau ystyriol a’r effaith ar fywyd gwyllt ar hyd a lled Cymru. Tynnodd Dani sylw hefyd at y gwaith diweddar ym Mharc Gwledig Loggerheads i ddarparu golau sy’n garedig i awyr dywyll yn yr AHNE. Yn ein hail sgwrs, croesawyd yr ymchwilydd PhD, Rochelle Meah, a rannodd ei gwybodaeth am effeithiau llygredd golau ar ymddygiad, gweithgaredd a gallu pryfaid cop a gwyfynod i lywio yn ystod y nos. Dilynwyd y sgwrs addysgiadol gan gyfoeth o gwestiynau gan wylwyr oedd â diddordeb ac a oedd eisiau dysgu mwy am sut y gallant helpu gyda chadwraeth.

Yn ystod yr wythnos, aeth grŵp mawr o sêr-dremwyr am dro yn ystod y nos i lethrau grugog Moel Famau. Wrth iddynt gario matiau a fflachlampau golau coch, nid oedd awyr y nos yn glir iawn ar y ffordd i fyny oherwydd y cymylau wedi’r stormydd diweddar. Ond wrth i’r noson fynd yn ei blaen, cliriodd y cymylau a gwirionodd y sêr-dremwyr pan welsant sioe o sêr a chytser yn goleuo’r nos. Disgleiriodd Rob Jones, sy’n frwdfrydig iawn am seryddiaeth, gyda’i wybodaeth am y cytser a ffeithiau am y system solar, a gwelwyd ambell i seren wib oedd yn goron ar noson wych.

Defnyddiwyd y Planetariwm chwyddadwy mewn prynhawn ysbrydoledig ac addysgiadol yn Neuadd Bentref Cilcain, dim ond un o’n gweithgareddau cyffrous yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru. Y tu mewn i’r gromen, cafodd dros 70 o ymwelwyr eu cyfareddu gan olygfeydd a straeon awyr y nos. Adroddwyd chwedlau am gytser Cymru i’r plant, oedd wedi eu swyno gan y sêr uwchben!

Yn ein digwyddiad olaf, croesawyd bron i 20 o drigolion i Blas Newydd, Llangollen i ddysgu am y gwyfynod gwych, gyda chyfle i’w gweld yn agos diolch i’r trapiau pryfaid a osodwyd dros nos. Cawsant gyfle hefyd i adeiladu eu blwch ystlumod eu hunain i fynd adref i helpu â chadwraeth bywyd gwyllt y nos yn yr AHNE.

Yn ystod yr wythnos, cofrestrodd nifer anhygoel, sef 300 o unigolion i fod yn sêr-dremwyr yr AHNE. Cawsant becyn gwybodaeth awyr dywyll a chanllaw i’r cytser drwy’r drws. Os hoffech chi gael pecyn am ddim, mae rhai ar gael i’w nôl o’r Ganolfan Wybodaeth ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Rydym yn gobeithio ein bod wedi helpu ein cymuned i ddysgu, darganfod a chael eu hysbrydoli gan awyr y nos, ac wedi addysgu ein cymuned sut i amddiffyn ein hawyr i’r dyfodol. Mae cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn un o blith nifer o ffyrdd y mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn amlygu mor bwysig yw Awyr Dywyll y Nos a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i’w diogelu. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd tîm yr AHNE yn cyflwyno cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol am gydnabyddiaeth ffurfiol o rinweddau awyr y nos yma. I ddysgu mwy am Awyr Dywyll Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ewch i’n tudalennau Awyr Dywyll.

Prosiect Cymunedau Gwyrdd

Mae’r Prosiect Cymunedau Gwyrdd bellach wedi dechrau, mae’n brosiect sy’n cael ei redeg gan Cadwyn Clwyd mewn partneriaeth a Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Wrecsam a Sir Conwy. Nod prosiect Cymunedau Gwyrdd yw dod a phobl a natur ynghyd, er buddy yr amgylchedd a chymunedau. Mae’r prosiect hwn yn galluogi cymunedau i drawsnewid eu hardal leol i fod yn lle mwy dymunol i fyw, gweithio a chwarae ynddo, tra hefyd yn cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal a chaniatau bywyd gwyllt i ffynu.  

Rydym wedi derbyn nifer o geisiadau gwych yn barod ac rydym yn chwilio am nifer o gymunedau gyda phrosiectau i gynyddu bioamrywiaeth ofewn eu hamgylchedd leol ac i drigolion lleol allu elwa o fannau gwyrdd yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae hyd at £30,000 ar gael i gymunedau gwledig. Caiff y prosiectau eu dewis trwy broses galwad agored, nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau a bydd y rhaglen ar agor ac yn rhedeg hyd nes bydd y gronfa o £1.3 miliwn wedi ei ddyrannu.

Caiff prosiect Cymunedau Gwyrdd ei ariannu drwy gronfa Galluogi Adnoddau naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru. Golygai hyn ei fod yn ofynnol I’r prosiectau / mentrau integreiddio egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol (SMNR) I fewn I weithgareddau ac isadeiledd cymunedol.

Enghreifftiau o brosiectau cymwys:

  • Gerddi cymunedol, rhandiroedd a pherllannau, coedlannau, mynwentydd, afonydd a phyllau lleol
  • Ardaloedd bywyd gwyllt a gwarchodfeydd natur
  • Milltiroedd cymunedol i gysylltu cymunedau a thrafnidiaeth werdd gan gynnwys rhwydweithiau beicio a mannau gwefru
  • Llwybrau cerdded, trofeydd trefol a chylchdeithiau o amgylch pentrefi

 

Gall unrhyw gymuned sydd a syniad am brosiect o fewn Sir Ddinbych a’r AHNE ddatgan diddordeb drwy gysylltu a Gwenno Jones – Swyddog Prosiect am fwy o wybodaeth neu sgwrs trwy e-bost Gwenno.jones@sirddinbych.gov.uk neu 07768751430 / 01824712792.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Gwella’r llwybr i Graig Fawr

Daeth Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol at ei gilydd i wella mynediad i Graig Fawr. Ymunodd y Ceidwaid Cefn Gwlad, Rich, Brad, Vitor, Jonny a Claudia o Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adeiladu grisiau newydd a gwella’r grisiau oedd eisoes yn bodoli i fyny i gopa Graig Fawr uwchben Gallt Melyd. Mae’r gwaith yn Graig Fawr, lle ceir golygfeydd bendigedig dros arfordir Gogledd Cymru, yn dwyn ynghyd y prosiectau Natur er Budd Iechyd, Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles a Milltiroedd Cymunedol gan roi cyfleoedd i drigolion lleol ac ymwelwyr fwynhau’r manteision i iechyd a lles y gall cefn gwlad Sir Ddinbych eu cynnig

Roedd gwirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, yn ogystal â Gwirfoddolwyr o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn help aruthrol i gwblhau’r gwaith ar y grisiau. Fe wnaethant hefyd glirio’r llystyfiant o amgylch y llwybr er mwyn ei gwneud yn haws i gyrraedd y copa ac ailgodwyd un o’r arwyddbyst yn dangos y ffordd i fyny. Y gobaith yw y bydd gwelliannau i’r llwybr yn annog mwy o bobl i fynd i fyny Graig Fawr a mwynhau’r golygfeydd godidog.


Staff a gwirfoddolwyr yn gosod grisiau

Mae’r llwybr, a Graig Fawr ei hun, ar lwybr ‘Milltiroedd Cymunedol’ - un o nifer o lwybrau milltiroedd cymunedol sy’n rhedeg drwy aneddiadau ledled Sir Ddinbych a’r AHNE. Llwybrau cerdded cylchol byr wedi’u marcio’n glir at ddefnydd cymunedau yw’r llwybrau hyn, sydd a’r nod o annog preswylwyr i fynd allan i gerdded yn eu hardal leol gan hybu eu hiechyd a’u lles a dysgu am fannau o ddiddordeb ar y ffordd.

Bydd byrddau gwybodaeth newydd ym maes parcio Graig Fawr ac ar Lwybr Prestatyn-Dyserth, wedi’u talu amdanynt gan y prosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles, yn rhoi mwy o wybodaeth, yn cynnwys pellteroedd ac amseroedd cerdded i leoliadau allweddol. Cafodd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy arian gan Lywodraeth Cymru i ail-wynebu’r maes parcio yn Graig Fawr er budd ymwelwyr a phobl leol sydd eisiau mwynhau’r rhan hon o’r wlad.

Maes Parcio Graig Fawr a’i arwyneb newydd

Mae taflenni sy’n rhoi mwy o wybodaeth am Filltiroedd Cymunedol ar gael mewn sawl lleoliad yn cynnwys Y Shed ac ar wefan Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych ffoniwch Claudia Smith ar claudia.smith@sirddinbych.gov.uk neu 07785517398.

Bydd y grisiau yn hwyluso mynediad i Graig Fawr

Nodweddion

Ystyriwch roi gwaed

Oeddech chi'n gwybod mai dim ond 3% o'r boblogaeth gymwys yng Nghymru sy’n rhoi gwaed?

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar breswylwyr ardal Sir Dinbych i ddechrau achub bywydau!

Cynhelir sesiynau nesaf yn Sir Ddinbych ar y dyddiadau canlynol:

  • 13 Mai - Rhewl
  • 16 Mai - Prestatyn
  • 18 Mai - Dinbych

Cliciwch yma i ddod o hyd i'r clinigau rhoi gwaed nesaf yn eich ardal chi ??

https://wbs.wales/DenbighshireCCouncil

Peidiwch a gadael i'ch cŵn faeddu

Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn grym yn Sir Ddinbych i sicrhau fod perchnogion cŵn yn rheoli eu hanifeiliaid anwes yn briodol.
Mae’r Gorchymyn yn caniatáu i’r Cyngor gymryd camau, gan gynnwys rhoi dirwyon, yn erbyn perchnogion sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu ar dir cyhoeddus heb ei lanhau.
Hoffai’r Cyngor ddiolch i bob perchennog ci cyfrifol yn y sir sy’n cadw at y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.
Am fanylion llawn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, ewch i'n gwefan.
Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid