llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Plas Newydd, Llangollen: Arddangosfa Gentleman Jack

1 Ebrill - 1 Hydref 2023

10am - 4pm

Mae Tŷ Hanesyddol Plas Newydd, cartref i ‘Ferched Llangollen’ yn falch o gyflwyno arddangosfa o wisgoedd o’r Gyfres Deledu BBC One ‘Gentleman Jack’.

Am yr Arddangosfa

Bydd yr arddangosfa yn dangos gwisgoedd o ddrama hanesyddol y BBC, ‘Gentleman Jack’. Wedi’i ysgrifennu gan Sally Wainwright, mae’r gyfres yn adrodd hanes Anne Lister (1791 – 1849) o Shibden Hall a’i pherthnasau gyda’i theulu, gyda phobl busnes a gyda'r perchennog tir lleol Ann Walker (1803 – 1853). Wedi’u dylunio gan Tom Pye a’u creu gan Cosprop Ltd, gellir gweld y gwisgoedd ar hyd Tŷ Hanesyddol Plas Newydd, yn yr arddangosfa wisgoedd gyntaf erioed yn y tŷ.

Anne Lister a Merched Llangollen

Ym 1780, tynnodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby, sef ‘Merched Llangollen’ eu hunain o’r bywyd aristocrataidd a sefydlu cartref gyda’i gilydd ym Mhlas Newydd. Gan gyfeirio at ei gilydd fel ‘anwylyd’, treuliasant dros 50 mlynedd gyda’i gilydd, a throsi eu cartref i leoliad rhamantus gothig, a’r gerddi i hafan o heddwch a llonyddwch ymarferol. Roedd cyfoedion wedi’u rhyfeddu ganddynt ac yn dathlu eu ffordd o fyw, ac fe groesawon nhw nifer o bobl enwog i’w cartref.

‘’I am interested about these 2 ladies very much. There is something in their story and in all I have heard about them here that… makes a deep impression’’.
Anne Lister, Gorffennaf 1822

Un o’r ymwelwyr i Blas Newydd oedd Anne Lister (Gentleman Jack), perchennog tir, dynes fusnes, teithiwr anturus a dynes lesbiaidd. Yn debyg i’r Merched, nid oedd Anne yn cydymffurfio â disgwyliad y gymdeithas o ddynes y cyfnod, a chafodd ei hysbrydoli gan fywyd a chartref y Merched.

Ymweld

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Nhŷ Hanesyddol a Gerddi Plas Newydd, o 1 Ebrill 2023 i 1 Hydref 2023. Mae Plas Newydd ar agor i’r cyhoedd bob dydd o 10am – 4pm drwy gydol tymor 2023.

Mae’r arddangosfa wisgoedd wedi’i gynnwys gyda mynediad i Dŷ Hanesyddol Plas Newydd.

Plas Newydd, Llangollen

Am fwy o wybodaeth, gallwch e-bostio:plasnewydd@sirddinbych.gov.uk

Cyfarfod Cefnogwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cynhaliwyd Cyfarfod Cefnogwyr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) llwyddiannus yng Ngholeg Amaethyddiaeth Llysfasi.

Ar hyn o bryd mae AHNE yn chwilio am fwy o gefnogwyr i gynrychioli eu Cyngor Tref neu Gymuned o fewn AHNE er mwyn gwella cyfathrebu a chydweithio ar draws yr AHNE gyfan.

Cynhaliwyd fforwm fis Mawrth yn Hwb Cymunedol Llysfasi ar gyfer Cefnogwyr AHNE, Cynghorau Tref a Chymuned ac Aelodau Lleol, lle cafodd Gynghorwyr gyfle i ddysgu mwy am y cyfle a’r gwaith rydym yn ei wneud yn yr AHNE, gan gynnwys:

  • Trosolwg o’r AHNE, Cyflwyniad i’r AHNE a’n barn ar Barc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Rhaglen Awyr Dywyll rhagorol a sut all bawb chwarae rhan i helpu ein bywyd gwyllt
  • Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy a’r prosiectau hanesyddol a thirlun y mae wedi ymgysylltu â nhw
  • Prosiect Rhostir a Thanau Gwyllt dramatig a gyda mwy o ystyriaeth, sut allwn ni gynnal ein hucheldir gyda’r dulliau traddodiadol gwych o ffermio

Cafodd y Fforwm dderbyniad da a bydd un arall yn cael ei drefnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd Dan Rose, Cynghorydd Sir y Fflint ac aelod o Bartneriaeth AHNE: “Rwy’n mwynhau bod yn rhan o waith yr AHNE, mae’n dod â chymaint o agweddau ynghyd, sy’n ddiddorol ac yn berthnasol. Y peth syml a ddysgom heno oedd y dull o adeiladu Castell Dinas Brân a nodweddion hanesyddol eraill y gallwn weld yn ein tirlun heddiw.”

Dewch yn Geidwad Gwirfoddol

    Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn chwilio am Geidwaid Gwirfoddol a fyddai’n hoffi helpu i ofalu am yr ardal ac ysbrydoli eraill o ran y tir.

    Drwy ymgymryd â rôl gwirfoddolwr fe allwch ddod yn llysgennad dros yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rhannu eich hoffter a’ch gwybodaeth yn ymwneud â’r ardal, ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd a helpu i ofalu am y lle arbennig hwn.

    Fe fydd y Ceidwaid Gwirfoddol yn gwisgo gwisg swyddogol ac fe allant ddisgwyl cychwyn ar y gwaith drwy gael eu lleoli yn ardaloedd prysurach yr AHNE fel Parciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau.

    Fe fyddant yn cyfarfod ac yn ymgysylltu gydag aelodau o’r cyhoedd gan rannu gwybodaeth ac ateb cwestiynau a byddant yn cerdded ar hyd llwybrau poblogaidd sy’n cael eu defnyddio’n helaeth gan ymwelwyr.

    Gan fod hwn yn rhaglen newydd, fe fydd disgwyl i wirfoddolwyr ymrwymo o leiaf ychydig o ddyddiau y mis, un ai ar benwythnosau neu yn ystod yr wythnos.

    Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma rôl wych i bobl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored a gyda byd natur, sy’n mwynhau cyfarfod pobl newydd, crwydro yn yr awyr iach a sydd eisiau dysgu sgiliau newydd.”

    “Fe fydd y rhai hynny sy’n dod yn Geidwaid Gwirfoddol hefyd yn cael treulio amser gyda’r tîm anhygoel sydd gennym ni ac yn fwy na dim gallu mwynhau rhai o’r tirweddau mwyaf trawiadol yn y wlad.”

    Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, yn gallu teithio ac â diddordeb mewn ymuno â ni cysylltwch â Ceri Lloyd drwy e-bost ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 712757.

    Gwobr i'r Grid Cenedlaethol

    Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn rhoi gwobr bob blwyddyn i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i dirwedd yr AHNE ac yr oedd yr AHNE wrth eu bodd bod y wobr eleni yn cydnabod gwaith y Grid Cenedlaethol am eu cefnogaeth i’r prosiect ‘Tirweddau Coll’, sydd wedi’i ariannu drwy eu cynllun Menter Gwella Tirwedd, sydd wedi helpu i adfer rhai o nodweddion allweddol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

    Eglurodd Swyddog Prosiect yr AHNE, Ruth Calcraft, fod y prosiect, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2018, wedi cryfhau cymeriad gweledol y dirwedd trwy adfer a phlannu perthi, adfywio hen byllau, ailadeiladu waliau cerrig sychion, cael gwared â phrysgwydd a phlannu coetir.

    Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt yn cynnwys helpu blodau gwyllt i ffynnu ar warchodfeydd natur ar ymylon ffyrdd a rheoli rhostir grug er budd rhywogaethau prin fel y rugiar ddu. Yn ogystal â hyn, cwblhawyd gwaith yn ymwneud â mynediad i helpu ymwelwyr i fwynhau’r ardal yn cynnwys gwaith i wella golygfeydd o’r llwybr Clawdd Offa uwchben Tremeirchion a gosod gatiau newydd yn lle camfeydd ar ddau lwybr troed.

    Yn dilyn y cyflwyniad y cafodd ei gynnal yn Siop a Chaffi Cymunedol Llandegla (sydd oddi ar y Llwybr Clawdd Offa ac yn gyfle i gerddwyr gael seibiant), cwblhawyd ymweliad safle â 

    Pharc a Gardd Hanesyddol Plas yn iâl, tirnod allweddol yn Nyffryn Morwynion lle bu Huw a Bethan Beech yn arddangos peth o’r gwaith yr oedd wedi’i gwblhau drwy’r prosiect yn cynnwys ffensys parcdir newydd, plygu perthi, cael gwared â rhododendron estron goresgynnol, trin coed mewn modd arbenigol er mwyn helpu i ymestyn oes coed hynafol dewisol a phlannu coed derw mewn parcdir.

    Dywedodd Swyddog yr AHNE, Howard Sutcliffe “O Gaer Drewyn, Corwen i’r Mwynglawdd, a chalon Dyffryn Morwynion, mae’r gwaith sydd wedi’i wneud ar brosiect y Tirweddau Coll â chefnogaeth y Fenter Gwella Tirwedd eisoes wedi dechrau cael effaith gadarnhaol sylweddol yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

    Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Michelle Clark o’r Grid Cenedlaethol: “Mae cydweithio â budd-ddeiliaid yn hanfodol i’n ffordd ni o weithio yn y Grid Cenedlaethol.  Mae’r ymgysylltu cynnar effeithiol a chydweithio â budd-ddeiliaid sydd wedi’u hyrwyddo gan brosiectau’r Ddarpariaeth Effaith Weledol, y mae’r Fenter Gwella Tirwedd yn rhan ohonynt, wedi helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol at wella harddwch naturiol, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol rhai o’n tirweddau mwyaf gwerthfawr.  Rydym ni yn awr yn ceisio rhoi’r gwersi a ddysgwyd o’r dull o gydweithio yr ydym ni wedi’i ddefnyddio drwy’r prosiectau hyn yn ehangach ar draws ein busnes.”

    Dywedodd Cadeirydd Cyd-bwyllgor yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Cynghorydd Sir y Fflint, Dave Hughes ei bod wedi bod yn wych gweld yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a phartneriaid y prosiect, gwirfoddolwyr a pherchnogion tir i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i helpu i ddiogelu cymeriad y tirweddau ysblennydd a gwerthfawr hyn am genedlaethau i ddod.”

    Dywedodd Cynghorydd Sir Ddinbych ac Aelod Cyd-bwyllgor AHNE, y Cynghorydd Emrys Wynne: “Mae’r Prosiect Tirweddau Coll sydd wedi’i gefnogi gan gynllun Menter Gwella Tirwedd wedi bod yn wych wrth ysbrydoli pobl a pherchnogion tir i ailafael yn y mater i helpu gydag adfer a gwella ardaloedd hardd o amgylch ein cymunedau ni. Mae wedi bod yn galonogol clywed am y gwaith gwych hwn i warchod a chefnogi ein tirweddau yn y dyfodol.

    Dywedodd Chris Baines, Cadeirydd Grŵp Cynghori Budd-ddeiliaid Darpariaeth Effaith Weledol “Un o ganlyniadau mwyaf cyffrous y Fenter Gwella Tirwedd fu’r ffordd y mae wedi ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan a dylid rhoi clod enfawr i’r ffermwyr a’r perchnogion tir hynny sy’n byw yn y dirwedd hon sy’n annwyl iawn iddynt. Mae gweithredu ar y cyd gan y rhai sy’n gwybod ac sy’n deall tirwedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn golygu ein bod ni bellach yn gweld gwelliannau ar raddfa tirwedd gwirioneddol. Mae'n galonogol gweld llwyddiant cymunedau yn dod at ei gilydd i achosi newid mawr. Mae’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol y mae Menter Gwella Tirwedd yn rhan ohono wedi bod yn drawsnewidiol, rhywbeth a gydnabuwyd y mis diwethaf mewn llythyr personol gan Syr David Attenborough a oedd yn canmol ein gwaith ni o ran titw’r helyg yn nwyrain y Peak District.”

    Partneriaid: Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr RSPB, Gogledd Cymru. Ymddiriedolaeth Natur a Grŵp Cynghori ar Ffermio, Coedwigaeth a Bywyd Gwyllt. Mae’r Grŵp Cynghori ar Ffermio, Coedwigaeth a Bywyd Gwyllt ynghyd â pherchnogion tir lleol i gyd yn helpu i gymryd rhan hanfodol yn y prosiect. Caffi a Siop Gymunedol Llandegla.

    O'r chwith i'r dde: Cadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE - Cynghorydd Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes, Ben Smith - arweinydd y Grid Cenedlaethol ar gyfer y Fenter Gwella Tirwedd, Howard Sutcliffe - Swyddog AHNE, Michelle Clark - Rheolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol y Grid Cenedlaethol, Zac Richardson - uwch gynrychiolydd y Grid Cenedlaethol ar Grŵp Cynghori Budd-ddeiliaid Darpariaeth Effaith Weledol, aelod o Gyd-bwyllgor AHNE, Cynghorydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Emrys Wynne, Chris Baines - Cadeirydd Grŵp Cynghori Budd-ddeiliaid Darpariaeth Effaith Weledol.

    Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid