Newyddion
Gweithiwr Cymdeithasol Sir Ddinbych wedi’i henwebu mewn gwobrau cenedlaethol
Mae un o weithwyr cymdeithasol y Cyngor wedi’i chydnabod yn ymgyrch ‘Amazing Social Workers 2023’ Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) eleni am ei chyfraniadau rhagorol i’r proffesiwn.
Mae Anne Roberts yn ddirprwy reolwr tîm profiadol yn Nhîm Adnoddau Cymunedol y Cyngor ac mae wedi’i henwebu fel rheolwr gwaith cymdeithasol arbennig yn y gwobrau cenedlaethol.
Lansiwyd yr ymgyrch fel rhan o ddathliadau Mis Gwaith Cymdeithasol y Byd BASW ac mae’n gyfle unigryw i gydnabod a rhannu cyflawniadau gweithwyr cymdeithasol ar draws y DU ac i gydnabod a thalu teyrnged i’w gwaith nhw.
Gan siarad am ei henwebiad, dywedodd Anne: “Mae’n fraint cael fy enwebu am wobr o’r fath. Mae’r gwasanaethau sy’n rhan o ofal cymdeithasol wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd i, ar lefel bersonol a phroffesiynol. Drwy’r holl brofiadau yma gyda’i gilydd rydw i wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o rôl gweithiwr cymdeithasol, a’r cymorth trawsnewidiol mae’n gallu ei ddarparu i bobl.
"Mae addysg yn werthfawr iawn i mi, ac mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu fy ngyrfa ac astudio ymhellach. Mae gweithio mewn amgylchedd mor gadarnhaol a gweithio gyda gweithwyr iechyd eraill wedi rhoi gwybodaeth a sgiliau ychwanegol i mi, sy’n fy ngalluogi i gefnogi fy nhîm.
"Mae’n bleser gweithio gyda fy nghydweithwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych. Mae’r tîm rydw i’n ei reoli’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr gofal cymdeithasol, ymarferydd gofal cymdeithasol dementia a therapyddion galwedigaethol. Mae pob un ohonyn nhw mor weithgar ac yn cefnogi’r naill a’r llall. Maen nhw’n gwneud fy rôl i gymaint yn haws.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydw i’n falch iawn o glywed bod un o weithwyr cymdeithasol Sir Ddinbych wedi’u cydnabod ar lefel genedlaethol am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’w rôl a’u tîm.
"Mae ein gweithwyr cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn gweithio mor galed, felly mae’n braf gweld bod yr ymdrech wedi’i chydnabod gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain. Llongyfarchiadau mawr i Anne am y gamp aruthrol hon.”
Gwirfoddolwr Ar Ymyl Gofal yn creu effaith gadarnhaol
Mewn ymateb i’r pandemig a’r angen i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain, roedd Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Sir Ddinbych wedi sefydlu gwasanaeth gwirfoddoli i helpu i dynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau traddodiadol. Mae’r tîm ‘Ar Ymyl Gofal’ yn helpu pobl ar draws y sir.
Mae Jackie yn wirfoddolwr Ar Ymyl Gofal ac mae ganddi ffrind arbennig sy’n mynd gyda hi ar ei hymweliadau â chartrefi, ei chi annwyl, Maisie.
Maisie yw’r gwirfoddolwr ieuengaf yn y tîm ac mae hi bron yn 3 oed (mewn blynyddoedd dynol). Mae hi yn llai na 2 droedfedd o uchder, ond mae’n rhyddhau straen aruthrol ac yn helpu’r dinasyddion mae’n ymweld â nhw yn wythnosol.
Mae’r Labradwdl Awstralaidd yn ymddwyn yn arbennig o dda ac wrth ei bodd yn derbyn danteithion a sylw. Tra’n ymweld â chartrefi, mae Jackie yn cael paned o de gyda’r dinasyddion ac yn sgwrsio am eu diwrnod ac unrhyw anghenion sydd ganddynt, tra mae Maisie yn derbyn danteithion cwbl haeddiannol.
Tra'n sgwrsio am Maisie, roedd Jackie y gwirfoddolwr a'i pherchennog yn egluro sut roedd am gael ei hailgartrefu o ganlyniad i amgylchiadau'r teulu a sut daeth Maisie yn rhan o'i theulu hi: "Roeddem wedi ei hachub hi ac mewn gwirionedd mae hi wedi fy achub i hefyd. Mae hi gennyf ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn.
“Nid yw Maisie byth yn colli ei hymweliadau a gwnaethom hyd yn oed ymweld â dinesydd ar ddydd Nadolig, fel eu bod yn gallu treulio amser gyda hi.
“Mae hi’n gi tawel iawn a dyna pam ei bod yn wych pan mae hi’n dod gyda mi”.
Mae Maisie wedi dod yn ffrindiau gorau yn gyflym iawn gydag aelodau’r gwasanaeth a’r dinasyddion mae’n eu cefnogi. Maent bob amser yn edrych ymlaen at ymweliadau wythnosol Jackie a Maisie.
Dywedodd un o ddinasyddion Prestatyn, sy’n derbyn ymweliadau rheolaidd iawn gan Jackie a Maisie: “Rwy’n falch iawn ei bod hi’n dod yma, rwy’n teimlo ein bod ni wedi achub ein gilydd mewn ffordd. Mae Maisie wedi fy helpu gyda fy hyder ac rwy’n mynd allan o’r tŷ mwy erbyn hyn.
“Mae Maisie wedi trawsnewid fy mywyd. Roeddwn yn colli’r cyswllt ci, gan fy mod wedi cael ci erioed. Roeddwn yn teimlo’n unig iawn a byddwn yn rhoi 10/10 i Jackie a’r ci bach.
“Rwyf bob amser yn falch o weld Maisie ac rwy’n teimlo ei bod wedi cael gwared â llawer o’r boen.
“Mae gennyf lun o Maisie a fi gyda’n gilydd ac mae pawb yn gwneud sylw pan maent yn ei weld. Cyn belled â’ch bod yn caru cŵn, byddai unrhyw un wrth ei fodd yng nghwmni Maisie".
Mae Jackie, Maisie a’r dinesydd yma yn cynllunio ar gyfer yr haf ac yn edrych ymlaen at fynd am dro unwaith y bydd y tywydd wedi gwella.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth Ar Ymyl Gofal cliciwch yma.
Dysgwch fwy am fabwysiadu

Er bod cyfartaledd oedran plentyn mewn gofal maeth ychydig yn hŷn, weithiau mae babanod a phlant bach dan 4 oed angen gofal maeth hefyd, weithiau mae babanod newydd angen hyn yn syth o’r ysbyty pan maent ond yn ychydig oriau oed.
Yng Nghymru, mae 2 o bob 5 plentyn mewn gofal yn 10 i 15 oed, a llai na 1 ym mhob 20 o dan 1 oed (ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Mawrth 2022) (gwefan allanol).
Am ragor o wybodaeth, beth am ddarllen blog Maethu Cymru 'Sir Ddinbych'.
Cliciwch yma i ddarllen mwy.
NYTH: Awgrymiadau arbed ynni

NYTH - 'Mae pob nyth yn wahanol, ond gall newidiadau bach helpu pan ddaw hi'n fater o arbed arian ac egni.'
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch gyda'r nod o fynd i'r afael ag ynni a chostau byw sy'n effeithio ar aelwydydd ledled Cymru.
Drwy eu menter, mae NEST yn darparu cyngor ar arbed arian ac ynni, tra hefyd yn darparu cynlluniau cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth.
Gall trigolion ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan NEST.
Gwasanaeth argraffu a dylunio graffeg

Ydy’ch busnes chi’n cynnig gwasanaeth argraffu neu ddylunio graffeg, neu gynhyrchu cynllun lliwiau ar gerbydau, neu faneri ac arwyddion?
Os felly, efallai yr hoffech chi gael eich cynnwys ar system brynu ddynamig Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint.
Gellir gweld y cyfle hwn ar PROACTIS ac mae’n agored i bob busnes sy’n darparu gwasanaeth argraffu, dylunio graffeg neu gynllun lliwiau ar gerbydau. Mae’r System Brynu Ddynamig ar agor tan 2027 felly gallwch wneud cais ar unrhyw adeg.
Gallwch fwrw golwg ar y cyfle hwn a gwneud cais ar-lein yn https://supplierlive.proactisp2p.com
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am eich cais, cysylltwch â argraffu@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706223.
Digwyddiad i ddathlu ail-agor Carchar Rhuthun
Cynhaliwyd digwyddiad ail-agor swyddogol Carchar Rhuthun yn ddiweddar yn dilyn dwy flynedd o waith adfer ar ôl y llifogydd.

Trefnwyd y digwyddiad i ddathlu’r holl waith adfer sydd wedi cael ei wneud yn y safle hanesyddol, gan gynnwys cell newydd, yn arbennig ar gyfer rhannu stori’r carcharorion a gafodd eu hanfon i Awstralia o Garchar Rhuthun.
Cafodd ymwelwyr eu cyfarch gan staff oedd wedi gwisgo i fyny mewn gwisgoedd traddodiadol a’u croesawu gyda chacennau bach a phaneidiau cyn i gynghorwyr lleol gyflwyno areithiau i’r ymwelwyr.
Yn dilyn yr areithiau cynigwyd taith i’r ymwelwyr o amgylch y carchar ar ei newydd wedd. Darparwyd canllawiau sain wrth i’r daith ddechrau ar yr islawr a pharhau i fyny’r grisiau i’r prif floc o gelloedd lle'r oedd Coch Bach y Bala yn byw cyn iddo ddianc allan o’r carchar drwy gloddio twll yn y wal gyda llwy ym 1913.
Daeth y daith i ben yn yr iard sydd wedi cael ei ddatblygu’n ddiweddar i ymwelwyr gael gwell golwg o’r tiroedd hanesyddol, a thu allan i gell Williams Hughes sef yr unig ŵr erioed i gael ei grogi yng Ngharchar Rhuthun ym 1903.

Mae’r Carchar yn agored drwy’r tymor, hyd at 30 Medi. Mae’n agor yn ddyddiol (ar wahân i ddydd Mawrth) o 10:30am tan 5pm, gyda’r ymweliad olaf am 4pm.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n wych gweld pawb yn ymweld a Carchar Rhuthun wedi dwy flynedd o waith adfer. Mae’n rhan bwysig o hanes cyfoethog y dref, ac er gwaetha’r tywydd roedd hi’n braf gweld bobl leol yn mwynhau’r ychwanegiadau newydd sydd wir yn werth ymweld â nhw.”
Llwyddiant i ddigwyddiadau cymunedol yn Sir Ddinbych
Cyhoeddodd y Cyngor gyfle ariannol grant un tro i gymunedau sy'n cynnal a threfnu digwyddiadau yn Sir Ddinbych.
Nod y gronfa oedd gwella'r isadeiledd presennol i gefnogi digwyddiadau mwy cynaliadwy a chost-effeithiol, gan ei gwneud hi'n haws cynnal mwy o ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol.
Roedd cyfanswm cyllideb o £128,000 ar gael, i'w rhannu gan ymgeiswyr llwyddiannus ar draws Sir Ddinbych.
Mae'r Grant Digwyddiadau hwn wedi cefnogi sawl cymuned i wella eu seilwaith digwyddiadau. Ymhlith y prosiectau llwyddiannus mae;
- Neuadd Eleanor - Gosod lifft grisiau a diffibriliwr yn Neuadd Bentref Eleanor.
- Canolfan Cymuned Pentredwr - Darparu arwyddion mewnol ac allanol newydd, cadeiriau ac offer cegin.
- Top Dre Rhuthun - Digwyddiadau Sgwâr Rhuthun Gwelliannau trydanol yn y Dref Cloc ac yn allanol i'r Hen Lys Ty.
- Y Ganolfan Llandrillo – gwelliannau sain, gwelliannau i oleuo a gwelliannau storio.
- Neuadd Goffa Owain Glyndwr – Gwelliannau i fynediad band eang i'r neuadd i helpu i gefnogi digwyddiadau.
- Neuadd Bentref Llandyrnog - Gwelliannau i'r gegin, y grisiau ac i ddarparu sgrin a thaflunydd yn y cyfleuster.
- Neuadd Carrog - Uwchraddio'r gegin yn ein neuadd bentref.
- Cyngor Tref Rhuddlan - Gwelliannau trydanol ym maes parcio Stryd y Senedd ac i'r ganolfan gymunedol. Prynu Gazebos a storio ar gyfer offer. Roedd y Grant hefyd yn cynnwys prynu a gosod Dolen Clyw yn y Ganolfan Gymunedol. Mae'r gymuned eisoes wedi teimlo budd y ddolen Clyw a osodwyd gyda defnyddwyr yn dweud ei fod yn 'ased i'w groesawu i'r ganolfan a bydd yn siŵr o annog mwy o bobl i fynychu'r gweithgareddau amrywiol'
Roedd cymorth gan swyddogion datblygu cymunedol ar gael trwy gydol cyfnod y cynllun i gynnig arweiniad ac i hwyluso, ac i weithredu fel swyddog cyswllt gydag adrannau mewnol yn ôl y galw.
Os hoffech gymorth i ddatblygu prosiect neu syniad cymunedol, cysylltwch â'n Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.
Y Ganolfan, Llandrillo
Y Cyngor yn cadarnhau rhestr fer y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae'r Cyngor wedi penderfynu ei restr fer o geisiadau ar gyfer cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).
Mae UKSPF yn rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU sy’n darparu arian i’w fuddsoddi’n lleol ledled y DU tan mis Mawrth 2025. Mae cyllid o £25.6 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau ar draws Sir Ddinbych.
Cyflwynwyd ceisiadau i’w hystyried ar gyfer cam nesaf y broses i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 25ain Ebrill 2023, ac mae 29 prosiect wedi llwyddo i gyrraedd y cam nesaf (cymysgedd o brosiectau Sir Ddinbych yn unig a phrosiectau rhanbarthol).
Mae’r prosiectau sydd wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych sydd wedi pasio cam 1 o’r broses gwerthuso wedi’u gwahodd i symud ymlaen i gyflwyno cais cam 2. Ni all prosiectau aml awdurdod lleol sydd ar y rhestr fer symud ymlaen i gam 2 nes gwneir penderfyniad ar draws yr holl awdurdodau lleol priodol dros Ogledd Cymru.
Derbyniodd y Cyngor 110 o geisiadau gan brosiectau cymunedol, busnes a menter dros y sir, yn ceisio am swm oedd bron i bedair gwaith yn fwy na’r hyn sydd wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych gan yr UKSPF. Yn anffodus, golyga hyn na ellir cefnogi’r mwyafrif o brosiectau, a fydd yn newyddion siomedig i nifer o’r ymgeiswyr. Fodd bynnag, bydd cefnogaeth ar gael gan y Cyngor i helpu ymgeiswyr aflwyddiannus i archwilio ffynonellau ariannu eraill ar gyfer eu prosiectau lle bo’n bosibl.
Dywedodd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wrth ein boddau i gymryd 29 cais ymlaen am gyllid ar y cyfnod hwn. Derbyniwyd nifer uchel o geisiadau gyda gwerth cyfunol yn sylweddol uwch na'r dyraniad cyllideb ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. Nid yw hyn yn golygu bod y prosiectau aflwyddiannus o ansawdd gwael neu’n ddi-werth, yn fwy ein bod ni wedi ein cyfyngu gan y cyllid sydd ar gael, ein targedau cynllun buddsoddi a chyfyngiadau amserlen rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Os bydd angen cymorth pellach ar ymgeiswyr aflwyddiannus i ddod o hyd i gyllid arall ar gyfer eu prosiectau, mae ein tîm wrth law i roi cymorth iddynt.”
Am wybodaeth bellach am broses ymgeisio y Cyngor ar gyfer cyllid Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, ewch i’n gwefan.
Gwaith cynllun amddiffynfeydd arfordirol Sir Ddinbych yn dechrau ym Mhrestatyn
Mae gwaith i wella amddiffynfeydd arfordirol wedi dechrau ar y promenâd ym Mhrestatyn fel rhan o Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn. Nod y prosiect aml filiwn yw amddiffyn dros 2,000 o eiddo yn yr ardal rhag llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.
Bydd gwaith adeiladu amddiffynfeydd newydd yn dilyn ffin Clwb Golff Y Rhyl gan ymestyn tuag at y twyni tywod i’r dwyrain ac yn gorffen yn y gorllewin drwy ymuno â’r Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol sydd wedi ei gwblhau yn Nwyrain Y Rhyl. Bydd y gwaith yn cymryd oddeutu tair blynedd i’w gwblhau gyda’r promenâd yn cau am gyfnod byr o faes parcio Heol Garford i lwybr troed Green Lanes tan Hydref 2023.
Bydd prif ganolbwynt y gwaith ar gyfer y prosiect yn nhŷ clwb golff presennol Y Rhyl, gyda dau fan mynediad i safleoedd adeiladu newydd yn cael eu creu yn y Clwb Golff ac wrth y gyffordd â Sherwood Avenue. Bydd arwyddion ar gyfer gwyriadau priodol i gerddwyr a beicwyr mewn lle tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Bydd y traeth yn parhau i fod ar agor, ond bydd rhai mannau mynediad i’r traeth wedi cau. Ar hyn o bryd mae mynediad ar gael trwy’r llwybr troed trwy ganol Clwb Golff Y Rhyl, sy’n cysylltu â Coast Road i’r traeth.
Meddai Balfour Beatty, prif gontractwyr y gwaith: “Mae camau yn cael eu cymryd i leihau’r effaith y mae cau'r llwybrau yn ei gael ac i geisio cynnal mynediad i’r traeth ar gyfer y cyhoedd trwy lwybrau troed Terfyn Pella Avenue a Green Lane cymaint ag y mae hynny’n bosib ac yn ymarferol yn ystod y gwaith. Byddwn yn rhoi gwybod i breswylwyr o flaen llaw ynglŷn ag unrhyw newidiadau.”
“Byddwn hefyd yn creu man croesi i gerddwyr ar lwybr troed Green Lanes er mwyn rhoi mynediad i’r traeth ac rydym yn y broses o gyflogi rhywun i oruchwylio’r llwybr troed er mwyn galluogi cerddwyr i ddefnyddio’r mynediad hwn yn ddiogel am ei fod yn torri trwy’r safle adeiladu. Bydd rhywun yn goruchwylio yn ystod oriau adeiladu.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod o falch bod y gwaith i ddiogelu cannoedd o eiddo a busnesau yn yr ardal rhag stormydd a llifogydd wedi dechrau ym Mhrestatyn fel rhan o’n prosiect ehangach i wella amddiffynfeydd arfordirol mewn trefi glan môr Sir Ddinbych. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddiogelu amddiffynfeydd arfordirol ar gyfer y dyfodol i amddiffyn dros 2,000 o eiddo a phreswylwyr yn ardal Prestatyn.”
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein Cynllun Amddiffynfa Arfordirol Canol Prestatyn ar ein gwefan.