Sir Ddinbych yn Gweithio
Mae digwyddiadau ‘Hwb y Dyfodol’ Conwy a Sir Ddinbych yn anelu i roi hwb i ddyfodol ein bobl ifanc
Roedd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cydweithio yn ddiweddar i greu eu digwyddiadau ‘Hwb y Dyfodol’, a ddyluniwyd i helpu pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed i gymryd rheolaeth o’u dyfodol.

Roedd y cyntaf o’r digwyddiadau wedi ei gynnal yn y Ganolfan Ieuenctid yn y Rhyl, o dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych a Sir Ddinbych yn Gweithio. 
Roedd yr ail yn cynnwys Prosiect Cynnydd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cynnig llety yng Nghoed Pella, Bae Colwyn.
Nod y digwyddiadau hyn oedd i roi cyngor a gwybodaeth i bobl ifanc ar faterion oeddent yn wynebu yn ddyddiol, helpu i baratoi pobl ifanc er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau hysbys ar faterion sy’n effeithio ar eu sefyllfa bresennol a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Roedd timau’r cyngor wedi eu cefnogi gan amrywiol sefydliadau partner, y cyfan yn cynnig ystod o gefnogaeth ynglŷn â materion gan gynnwys:
- Cyllid a Budd-daliadau
- Tai
- Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant
- Lles
- Byw’n Iach
Yn dilyn y digwyddiadau hyn, gobeithio y bydd digwyddiadau dilynol yn cael eu cynnal yn ystod misoedd yr haf.

Digwyddiad Ymgysylltu â Ieuenctid Canolfan Gymunedol Pengwern
Yn ystod mis Mawrth, darparodd Sir Ddinbych yn Gweithio a Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych sesiwn ymgysylltu min nos yng Nghanolfan Gymunedol Pengwern yn Llangollen.
Nod y sesiwn oedd cynnig cefnogaeth i oedolion ifanc oedd yn lleol i’r ardal gyda chyngor a chefnogaeth ynglŷn ag amcanion y dyfodol.


Roedd pawb wnaeth fynychu wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog a chael darn o bitsa ffres, a gyflenwyd gan fusnes fan pitsa lleol.
Dymuna’r tîm Sir Ddinbych yn Gweithio ddiolch i Margaret Sutherland a phawb arall sy’n gysylltiedig â Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych am eu cefnogaeth i drefnu’r sesiwn hwn.
Sir Ddinbych yn Gweithio yn cydweithio ar gwrs gyda Chanolfan Sgiliau Coetir


Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnal cwrs 6 wythnos mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Sgiliau Coetir.
Mae wyth o gyfranogwyr wedi cydweithio ar y cwrs, bydd pob un yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau fel byw yn y gwyllt; dysgu gweithio o fewn y coetiroedd gan gynnwys creu cynefin; dysgu am y defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol; dysgu am reoli coetir; plannu coed a chrefftau coedlan a glasgoed.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle.
Bydd y cwrs hwn yn cefnogi cyfranogwyr i ddysgu sgiliau ymarferol newydd ac adeiladu ar sgiliau presennol fel gwaith tîm, datrys problemau, cyfathrebu a datblygu hyder.
Sir Ddinbych yn Gweithio yn mynychu Ffair Yrfaoedd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy
Ar ddydd Iau, 23 Mawrth roedd staff Sir Ddinbych yn Gweithio yn un o’r nifer o dimau oedd yn arddangos yn y Ffair Yrfaoedd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a gynhaliwyd yn ‘Yr Ysgubor’ yn Nghanolfan Ddigwyddiadau Eirias ym Mae Colwyn.
Roedd yna nifer dda yn bresennol yn y ffair, gyda 482 o ymwelwyr yn dod drwy’r giatiau a saith deg pump o arddangoswyr, yn cynnig ystod eang o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar ystod eang o destunau.
Roedd hefyd yn gyfle da i’n tîm gryfhau perthnasoedd gwaith ymhellach gyda thimau eraill ac i ddatblygu cysylltiadau newydd.

Gwobrau Busnes AGB y Rhyl - Rownd Derfynol!
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn dymuno diolch i bawb wnaeth bleidleisio i ni ar gyfer Gwobrau Busnes AGB y Rhyl. Roeddem yn y rownd derfynol mewn dau gategori - Ymgysylltu â’r Gymuned Orau / Gwobr Menter a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Gorau!
Ffair Swyddi a gynhaliwyd yn Llangollen yn llwyddiant mawr
Cynhaliwyd Ffair Swyddi’r gwanwyn yn Neuadd y Dref Llangollen mis Ebrill a daeth mwy nag 80 o bobl trwy’r drysau.
Nod cynnal y ffair oedd caniatáu i bobl gwrdd â chyflogwyr wyneb i wyneb a thrafod cyfleoedd gyrfa a chyflogaeth.
Hon oedd yr ail ffair swyddi i gael ei chynnal eleni, ac fe’i trefnwyd gan Dîm Sir Ddinbych yn Gweithio y Cyngor, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llangollen.

Roedd gan amrywiaeth eang o gyflogwyr stondinau yn y ffair, gan gynnwys sefydliadau a gaiff eu hadnabod yn lleol a chenedlaethol, fel A N Richards, Preworn Ltd, Ifor Williams Trailers Ltd, Y Gwasanaeth Tân, Y Fyddin a llawer mwy, gan gynnig cyfleoedd i unigolion â phob lefel o brofiad.
Roedd y Ffair Swyddi hon yn rhan o Fis Mawrth Menter y Cyngor, sef ymgyrch sy’n darparu gweithdai, digwyddiadau hyfforddiant a sesiynau cyngor rhad ac am ddim i fusnesau ar draws Sir Ddinbych trwy gydol mis Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rwy’n falch o weld bod cynifer o bobl wedi mynychu’r ffair swyddi ddiweddaraf hon. Mae’r ffeiriau swyddi hyn yn hynod o bwysig oherwydd eu bod yn cysylltu pobl Sir Ddinbych gyda busnesau a chyflogwyr a gaiff eu hadnabod yn lleol a chenedlaethol.
Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych, a oedd o fudd mawr i bobl Llangollen, yn ogystal â’r sir gyfan. Hoffwn ddiolch i dîm Sir Ddinbych yn Gweithio am eu gwaith caled a’u hymrwymiad a oedd yn help mawr i sicrhau bod y digwyddiad hwn yn bosibl, a’i fod yn llwyddiant mawr.”
Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn denu’r nifer uchaf erioed
Cynhaliwyd ym Mwyty a Bar 1891 yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl, fe groesawodd y Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio dros 50 o sefydliadau a chyflogwyr i gwrdd a thrafod cyfleoedd gyrfa gyda thrigolion Sir Ddinbych yr wythnos diwethaf.
Daeth dros 250 i’r digwyddiad, y nifer uchaf erioed, a chawsant ddefnyddio dwy lefel y Bwyty a’r Bar glan y môr.
Bu amrywiaeth eang o gyflogwyr yn arddangos yn y ffair, gyda sefydliadau a gydnabyddir yn lleol a chenedlaethol fel Aldi, Qioptiq, Airbus, Y Gwasanaeth Tân, Y Fyddin a llawer mwy, gan ddarparu cyfleoedd i unigolion ar bob lefel o brofiad.
Cofrestrodd Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio dros 35 o bobl ar eu fframwaith yn ystod y dydd. Bydd y gwasanaeth bellach yn rhoi cefnogaeth lawn i'r ymgeiswyr ar ôl y digwyddiad a hyd nes y byddant yn dod o hyd i waith.
Meddai Rachael Sumner-Lewis, Rheolwr Ymgysylltu Cyflogaeth yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Rydym wrth ein bodd gyda’r nifer a oedd yn bresennol a’r adborth o’r Ffair Swyddi. Hwn oedd ein digwyddiad gorau hyd yma ac rydym wedi rhagori ar yr holl fetrigau blaenorol.
Daeth dros 250 o bobl drwy'r drysau, ac roedd dros 50 o arddangoswyr yn bresennol. Roedd cynnal y digwyddiad yn 1891 yn y Rhyl yn benderfyniad gwych, gan ganiatáu i ni gynyddu capasiti o dros 50% yn ogystal ag ychwanegu cyfleustra parcio ar y safle.
Roedd adborth gan ymwelwyr yn hynod gadarnhaol, gyda 98% o'r mynychwyr yn nodi bod y digwyddiad yn ardderchog neu'n dda. Roedd adborth gan cyflogwyr a dderbyniwyd drwy'r arddangoswyr hefyd yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn dweud eu bod yn hyderus y byddant yn dysgu talent newydd o ganlyniad i fynychu. Gwnaethant hefyd sylwadau ar fanteision rhwydweithio gyda chymaint o bartneriaid busnes yn y digwyddiad.
Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych, a oedd o fudd mawr i bobl y Rhyl, yn ogystal â’r sir gyfan. Hoffwn ddiolch i holl dîm Sir Ddinbych yn Gweithio am eu gwaith caled a’u hymroddiad a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl ac yn hynod o lwyddiannus.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’n wych gweld bod cymaint wedi bod yn bresennol yn y ffair swyddi ddiweddaraf. Fe’u cynhelir i helpu pobl Sir Ddinbych i ffynnu, ac i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a chefnogaeth i’r sir gyfan. Mae tîm Sir Ddinbych yn Gweithio wedi gweithio’n galed iawn i drefnu’r ffair hon, diolch iddynt am ei gwneud yn llwyddiant ysgubol.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.