llais y sir

Twristiaeth

Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych yn llwyddiant mawr

Mynychodd dros 75 o bobl y Fforwm Twristiaeth yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy yn ddiweddar.

Roedd y Fforwm yn rhan o ymgyrch Mis Mawrth Menter y Cyngor a bu’n gyfle gwych i gynrychiolwyr glywed y newyddion diweddaraf ym myd twristiaeth a chyfarfod busnesau o’r un meddylfryd.

Cafodd y cynrychiolwyr glywed gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd gan gynnwys Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, Uchelgais Gogledd Cymru, a roddodd gyflwyniad ar gynnydd a chyfleoedd Bargen Dwf Gogledd Cymru. Tynnodd Alice Kirwan a Rachel Sumner-Lewis sylw at Raglen Sir Ddinbych yn Gweithio a Dechrau Gweithio yn ogystal â chreu cysylltiadau newydd â chyflogwyr lleol, a’r gobaith yw y byddant yn arwain at leoliadau gwaith a chyfleoedd gwaith ar gyfer eu cyfranogwyr.

Yn olaf, cymerodd y mynychwyr ran mewn sesiwn holi ac ateb ysbrydoledig gyda Jenny a Tom Williams o The Laundry Retreat yn Llanrhaeadr, a adroddodd eu hanes am y busnes teuluol a sut mae wedi tyfu, yn ogystal â rhannu ambell awgrym defnyddiol ar gyfer busnesau lleol eraill.

Roedd cyfle i fynychwyr ymweld ag amrywiaeth o stondinau gwybodaeth yn y digwyddiad, yn cynnwys Croeso Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Busnes Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Banc Datblygu Cymru.

Mae Tîm Twristiaeth y Cyngor yn cynnal dau Fforwm y flwyddyn i fusnesau lleol, grwpiau cymunedol a budd-ddeiliaid ac mae’r nesaf wedi’i drefnu ar gyfer yr Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Rwy’n falch o glywed bod llawer wedi mynychu’r digwyddiad hwn, gan ei fod yn gyfle gwerthfawr i bawb yn y sector ddod at ei gilydd a rhannu eu gwybodaeth a’u cynlluniau, er mwyn sicrhau twf twristiaeth cynaliadwy yn y dyfodol.”

Llwybrau: Wales by Trails

Nôl ym mis Ionawr cyhoeddodd Croeso Cymru 2023 fel blwyddyn y llwybrau ac mae’n gwahodd ymwelwyr a phobl Cymru i greu eu llwybrau epig eu hunain yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Mae Llwybrau Wales, by Trails yn codi o lwyddiant pum mlynedd ar thema Croeso Cymru hyd yma – antur, chwedlau, môr, darganfyddiadau, awyr agored. Rydym yn credu bod y thema Llwybrau yn berffaith ar gyfer ein rhan ni o Gymru yma yn Sir Ddinbych.

Mewn byd ar ôl y pandemig, mae ymchwil yn dangos bod pobl yn chwilio am brofiadau wedi'u curadu sy'n eu hailgysylltu â threftadaeth, diwylliant, natur a chymuned.

Parc Gwledig Moel Famau

Aeth yr ymgyrch Llwybrau yn fyw ar 9 Ionawr ar y teledu ledled y DU ac yng Nghymru, felly dylech ddechrau gweld yr hysbysebion ar y teledu yn fuan. Pwrpas y flwyddyn yw darganfod trysorau anghofiedig, mwynhau symbylu’r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau sy'n cwmpasu bwyd, atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd lleol.

Rydym yn gobeithio ysbrydoli ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn i greu eu llwybrau eu hunain yn ein cornel fach ni o Gymru a rhoi hwb i'r economi drwy gefnogi busnesau lleol. Rydym wedi creu llyfryn ysbrydoledig newydd ar gyfer 2023 a fydd yn cael ei ddosbarthu'n eang i demtio ymwelwyr yn ogystal â bod ar gael yn ddigidol. Rydym wedi cynhyrchu ffilmiau newydd, syniadau llwybrau ysbrydoledig gan bobl leol a digon o flogiau ac ysbrydoliaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud #blwyddyn o lwybrau yn un i'w cofio.

 

Teithiau ymgyfarwyddo yn llwyddiant mawr gyda busnesau lleol

Mae cyfres o deithiau ymgyfarwyddo i amrywiaeth o lefydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru wedi bod yn boblogaidd iawn gyda busnesau lleol. Wedi'u cynllunio i amlygu cyrchfannau diddorol ac allweddol i fusnesau twristiaeth lleol; mae'r teithiau wedi bod yn boblogaidd iawn, gan alluogi i fusnesau, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr rannu'r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dreiddio'n ddyfnach i hanes, diwylliant, tirweddau, atyniadau, a lleoliadau lletygarwch lleol.

Wedi’i drefnu gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Wrecsam a Sir y Fflint, mae dros 60 o fusnesau a 170 o bobl wedi mynychu i gyd. Mae’r 6 thaith wedi cynnwys;

  • Cerdded Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir o hyd - Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte
  • Teithiau tu ôl i’r llenni yn Theatr Clwyd a Bryn Beili yn yr Wyddgrug
  • Ymweld â chestyll Dinbych, Rhuddlan, Y Waun a’r Fflint
  • Taith o amgylch canol dinas Wrecsam yn archwilio Tŷ Pawb
  • Xplore!, Amgueddfa Wrecsam
  • Dringo tŵr yn Eglwys y Plwyf San Silyn.

Mae’r teithiau olaf wedi cynnwys ymweliadau â Rhuthun, Dinbych, Llanelwy a Bodelwyddan i ddysgu mwy am y celfyddydau a threftadaeth leol, galw yn Nantclwyd y Dre, Yr Hen Lys, y Carchar a’r Ganolfan Grefftau yn Rhuthun, Llyfrgell Dinbych a Muriau’r Dref, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, a'r Eglwys Farmor gerllaw. Darganfu’r grŵp fwy am leoliadau arfordirol y Rhyl, Prestatyn a Thalacre yn ystod y daith olaf, yn ogystal â stop olaf yn safle’r gwaith arfau ym mhentref Rhyd-y-mwyn - diwydiant a chwaraeodd ran allweddol yn ein hanes yn ystod y rhyfel.

Cafodd tywyswyr teithiau lleol eu recriwtio i dywys pob taith. Meddai Sarah Jones, Tywysydd Bathodyn Glas Cymru, sydd wedi arwain a mynychu llawer o’r teithiau: “Diolch yn fawr iawn am yr holl deithiau ymgyfarwyddo gwych. Roeddwn i’n falch iawn o ymweld â’r arfordir yn ddiweddar - dyma ardal rydw i eisiau darganfod mwy amdani. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn ailymweld â llawer o lefydd lleol i ddysgu mwy am hanes a diwylliant lleol, a fydd o ddefnydd mawr i mi ar deithiau yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio y gall y teithiau barhau gan eu bod mor fuddiol i’r holl fusnesau amrywiol yn Sir Ddinbych ac yn helpu i hyrwyddo’r ardal mor dda.”

Meddai Richard Hughes, perchennog Maes Gwersylla a Bwthyn Bracdy ger Dinbych: “Diolch yn fawr iawn am drefnu’r holl deithiau addysgiadol. Maent wedi darparu llawer o syniadau i mi eu trosglwyddo i'n hymwelwyr sydd eisoes yn mwynhau Dyffryn Clwyd a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r tywyswyr i gyd wedi bod yn wybodus iawn ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau. Mae hefyd wedi bod yn wych cyfarfod â busnesau eraill a rhannu profiadau.”

Mae’r prosiect hwn wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r teithiau’n rhan o Gynllun ehangach Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych, sy’n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig y sir. Mae cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys cerdded, beicio, hanes, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, yr arfordir, twristiaeth gynaliadwy a bwyd. Mae yna 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblheir. Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o’i fath yng Nghymru. Ers hynny mae Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, a Sir Gaerfyrddin wedi lansio cyrsiau ac mae Sir y Fflint, Wrecsam a Cheredigion yn brysur yn paratoi i lansio yn ddiweddarach eleni. I gael mwy o wybodaeth am y cynllun ac i gofrestru, ewch i www.llysgennadsirddinbych.cymru

Llwybr ar gyfer bob dydd

Wyddoch chi fod gan bob tref yn Sir Ddinbych drywydd ei hun?

Mae wyth i gyd, un am bob diwrnod o'r wythnos ac un sbar!

Maen nhw yn llawn diddordeb hanesyddol ac yn tynnu sylw at ffeithiau hynod ddiddorol wrth i chi gerdded o gwmpas.

Gan fod ein trefi yn wahanol felly hefyd ein llwybrau. Maen nhw i gyd yn cymryd tua awr a hanner gyda digon o siopau a chaffis i'ch temtio ar hyd y ffordd.

Mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddiweddaru'r rhain ac maent eisoes wedi diweddaru 5 o'r 8 eleni. Maen nhw'n cael eu dosbarthu am ddim i fusnesau lleol a'n Canolfannau Croeso felly peidiwch ag anghofio codi un i fyny a rhoi cynnig arnyn nhw. Byddem wrth ein boddau'n clywed pa un yw eich ffefryn.

Fel nodwedd arbennig mae gan Y Rhyl ei Thaith Sain ei hun i ennyn diddordeb ymwelwyr yn ystod gwaith amddiffyn yr arfordir y gellir gwrando arno yn fan hyn.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid