llais y sir

Newyddion

Teyrngedau i'r Cynghorydd Win Mullen-James

Gyda thristwch mawr y clywodd Cyngor Sir Ddinbych am farwolaeth y Cynghorydd Win Mullen-James a fu farw’n sydyn ddydd Mercher 1af Mai.

Etholwyd y Cynghorydd Mullen-James i gynrychioli Ward De-ddwyrain y Rhyl o fis Mai 2012 tan fis Mai 2017.

Ym mis Mai 2022, etholwyd y Cynghorydd Mullen-James i gynrychioli Ward Trellewelyn yn y Rhyl ac hi oedd yr Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio.

Roedd y Cynghorydd Mullen-James yn aelod gwerthfawr o'r Cabinet a bu hefyd yn aelod o Gyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, y Pwyllgor Trwyddedu a hefyd y Pwyllgor Cynllunio. Yn ogystal, roedd yn Gynghorydd ar Gyngor Tref y Rhyl ac yn Faer y Rhyl rhwng 2018 a 2019.

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan:

“Ces i sioc ac dwi'n hynod o drist i glywed yr newyddion ofnadwy. Rwyf wedi adnabod Win ers blynyddoedd lawer, drwy’r blaid Lafur, yn gynghorydd ac yn fwy diweddar fel aelod gwerthfawr o’r cabinet. Roedd Win yn gynghorydd hynod weithgar a oedd bob amser yn rhoi ei thrigolion yn gyntaf. Fel aelod or cabinet roedd pawb yn ei parchu. Mae ei blynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus yn dyst i'w hymroddiad. Byddaf yn ei cholli fel cydweithiwr ac fel ffrind. Mae fy holl feddyliau gyda’i gŵr Alan a’i theulu ehangach ar yr amser anodd iawn hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych:

“Bydd pawb yn gweld colled ar Win, yn enwedig Alan, a oedd yn help mawr i mi yn ystod fy amser trist, ynghyd â’r holl gynghorwyr eraill.

Dwi’n siwr bydd Pete P, Brian a Sue wedi sortio lle iddi hi wrth fwrdd uchaf Duw.

Alan, mae gennych chi a'ch teulu fy nghydymdeimlad, ond bydd gennym bob amser ein hatgofion gwerthfawr. Hwyl fawr Win.”

Aeth y Cynghorydd Scott ymlaen i ddweud: “Ar ran y Cyngor cyfan, hoffwn ddatgan fy nghydymdeimlad dwysaf â’i gŵr, y Cynghorydd Alan James, ei theulu a’i ffrindiau. Mae ein meddyliau gyda nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Newidiadau i oriau agor Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

O 1 Mehefin mae’r oriau agor ar gyfer Llyfrgelloedd a Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn newid. 

Mae’r oriau newydd wedi cael eu penodi a’u newid gan staff a defnyddwyr o’r Llyfrgell, a’r nifer o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn cyd-fynd ag anghenion bob Llyfrgell yn unigol ac ar sail achos i achos.

Mae’r dewis llawn o wasanaethau llyfrgell yn cael eu cynnal a rhaglen lawn o weithgareddau ar gael i ddefnyddwyr ledled Sir Ddinbych. Er enghraifft mae’r sesiynau rhigwm Dechrau Da hynod boblogaidd yn parhau, ac mi fydd cyfle dal i fod i bobl alw heibio’u Pwyntiau Siarad lleol i ddarganfod pa help a chefnogaeth sydd ar gael yn eu hardal leol, ond efallai y bydd rhai newidiadau i amseroedd penodol. 

Bydd y cynnig Llyfrgell Ddigidol yn parhau i fod ar gael 24/7, gan roi mynediad am ddim i aelodau’r llyfrgell i eLyfrau, llyfrau sain ac ePress trwy’r ap Borrowbox, a chylchgronau digidol trwy’r ap Libby.

Mae’r oriau agor newydd i’w gweld isod ac yn cael eu gweithredu ar 1 Mehefin:

Llyfrgell Corwen

 

Llyfrgell Llangollen

Dydd Llun

10am-1pm & 2pm-5pm

 

Dydd Mercher

2pm - 5pm

Dydd Mawrth

10am-1pm & 2pm-5pm

 

Dydd Iau

10am-1pm & 2pm-5pm

Dydd Mercher

10am - 1pm

 

Dydd Gwener

10am-1pm & 2pm-5pm

 

 

 

Dydd Sadwrn

9.30am - 12.30pm

 

Llyfrgell Dinbych

 

Llyfrgell Rhuthun

Dydd Llun

10am - 5pm

 

Dydd Llun

10am - 5pm

Dydd Mercher

10am - 6pm

 

Dydd Mawrth

10am - 6pm

Dydd Gwener

12pm - 5pm

 

Dydd Iau

12pm - 5pm

Dydd Sadwrn

9.30am - 12.30pm

 

Dydd Sadwrn

9.30am - 12.30pm

 

Llyfrgell Llanelwy

 

Llyfrgell Rhuddlan

Dydd Llun

10-1, 2-5

 

Dydd Llun

9.30-12.30, 1.30-5

Dydd Mercher

10-1, 2-5

 

Dydd Mercher

9.30-12.30, 1.30-5

Dydd Sadwrn

9.30-12.30

 

Dydd Iau

1.30-5

 

 

 

Dydd Gwener

9.30-12.30, 1.30-5

 

Llyfrgell Prestatyn

 

Llyfrgell y Rhyl

Dydd Llun

10.00am - 5pm

 

Dydd Mawrth

10.00-5.00

Dydd Mawrth

10.00am - 5pm

 

Dydd Mercher

12.00-5.00

Dydd Gwener

10.00am - 5pm

 

Dydd Iau

10am - 5pm

Dydd Sadwrn

9.30am - 12.30pm

 

Dydd Gwener

10am - 2pm

 

 

 

Dydd Sadwrn

9.30am - 12.30pm

Meddai Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau:

“Rydym wedi ceisio dewis oriau sy’n ateb anghenion penodol pob Llyfrgell ac yn creu cydbwysedd rhwng lleoliad ac oriau agor.

Nid yw unrhyw lyfrgell yn Sir Ddinbych yn cau eu drysau’n barhaol trwy’r newidiadau hyn, ac mae’r Gwasanaethau Llyfrgell craidd y mae ein preswylwyr yn eu gwerthfawrogi gymaint wedi cael eu diogelu ac ar gael i’w defnyddio’n llawn yn ystod yr oriau newydd hyn. 

Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid a grwpiau cymunedol fel ein bod yn gallu cadw llyfrgelloedd wrth galon ein cymunedau lleol.”

Cynnig gofal plant i ehangu yn Sir Ddinbych

Flying Start logoMae cynnig gofal plant Dechrau'n Deg ar fin ehangu ymhellach yn Sir Ddinbych, gyda mwy o ardaloedd i'w cynnwys yn fuan yn Nyserth, Rhuddlan a Dinbych. Bydd y cynnig ar gael tuag ail hanner y flwyddyn hon.

Er mwyn cyflwyno’r cynnig yn llawn i’r ardaloedd newydd hyn a helpu cyfranogwyr i gofrestru, cynhelir cyfres o sesiynau dathlu rhagarweiniol dros gyfnod hanner tymor mis Mai. Bydd gwahoddiadau i'r sesiynau hyn yn cael eu hanfon drwy'r post i gartrefi cymwys yn yr ardaloedd newydd.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys gwybodaeth werthfawr i rieni yn ogystal â gweithgareddau hwyliog i blant gan gynnwys chwarae blêr, chwarae meddal, paentio wynebau a gwesteion arbennig.

Mae’r cynnig eisoes wedi’i ehangu i fwy o ardaloedd ym Mhrestatyn, Gallt Melyd a’r Rhyl dros y misoedd diwethaf, gan alluogi mwy o deuluoedd sydd â phlant 2-3 oed i gael mynediad at y 12 ½ awr o ofal plant a ariennir.

Gall plant sy’n byw mewn ardaloedd cod post cymwys Dechrau’n Deg gael mynediad i ddarpariaeth gofal plant wedi’i ariannu o ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn ddwy oed, hyd at ddiwedd y tymor y byddant yn dathlu eu trydydd pen-blwydd.

Dywedodd Rhiain Morrlle, Pennaeth Gwasanaethau Plant:

“Mae’r cynnig Gofal Plant Dechrau’n Deg wedi’i ehangu i fwy o ardaloedd ym Mhrestatyn, Gallt Melyd a’r Rhyl dros y misoedd diwethaf, sy’n golygu bod llawer mwy o deuluoedd sydd â phlant 2-3 oed bellach yn cael mynediad at y 12 ½ awr o ofal plant a ariennir.

Dros wyliau’r Pasg yn ddiweddar cynhaliwyd nifer o sesiynau ar gyfer teuluoedd lleol a oedd yn cynnwys Cwningen y Pasg, Alys yng Ngwlad Hud, chwarae meddal, chwarae blêr a phaentio wynebau. Roeddent hefyd yn darparu gwybodaeth gofrestru i rieni.

Bydd y cynnig yn ehangu’n fuan i ardaloedd Dyserth, Rhuddlan a Dinbych, a bydd sesiynau rhagarweiniol i deuluoedd cymwys yn cael eu cynnal dros hanner tymor mis Mai, gyda’r gwahoddiadau’n cael eu hanfon yn fuan.”

Er mwyn darganfod mwy ac i wirio eich cod post, ewch i'n gwefan.

Ymgynghoriad Cyhoeddus a Sesiynau Gwybodaeth: Prosiectau yn Rhuthun

Cynhelir y sesiwn ymgynghori cyhoeddus nesaf yng Nghlwb Rygbi Rhuthun ddydd Gwener, 10 Mai (2pm - 7pm).

Grant newydd Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych

A yw eich sefydliad yn weithgar yn Sir Ddinbych ac wedi ymrwymo i ddarparu cymorth cyflogadwyedd o safon gan gynnwys dysgu a hyfforddiant?

Os felly, edrychwch ar Grant Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Sir Ddinbych sy'n galluogi sefydliadau i ddarparu hyfforddiant, mentora a chefnogaeth i helpu pobl o bob oed i gyflawni eu potensial cyflogaeth, yn bersonol ac yn broffesiynol.

Mae'r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau, ewch i https://bit.ly/3Wmo04r am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Mai 2024!


Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer Archif Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn falch iawn o gael clywed yn ddiweddar bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu grant o £7.3 miliwn i helpu i ariannu’r gwaith o godi adeilad newydd ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC).

Gyda chyfraniadau cyfatebol o £2m gan Gyngor Sir Ddinbych a £3m gan Gyngor Sir y Fflint, bydd hyn yn caniatáu i AGDdC symud o’r adeiladau presennol yn Rhuthun a Phenarlâg i ddiogelu cofnodion hanesyddol y rhanbarth at y dyfodol mewn adeilad pwrpasol di-garbon net yn yr Wyddgrug.

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych, “Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i gynnal archif, ac nid yw’r cyfleusterau presennol yn addas i’r diben. Gwnaethpwyd y penderfyniad i gymeradwyo’r prosiect mewn egwyddor fis Hydref 2023 gan gymryd i ystyriaeth yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Fel rhan o’r broses, rhoddwyd ystyriaeth i nifer o opsiynau a daethpwyd i’r casgliad nad oedd opsiwn ‘dim cost’ neu ‘cost isel’.

“Mae’r dull cydweithredol hwn o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint yn cynnig y gwerth gorau am arian ac yn sicrhau y gallwn fanteisio ar y cyllid o’r Gronfa Dreftadaeth na fyddai efallai ar gael fel arall i sicrhau’r datrysiad hirdymor hwn. Bydd hefyd yn golygu gall ein staff ddarparu gwell gwasanaeth ac ymgysylltu’n well â’r gymuned yng ngogledd Cymru.”

Dywedodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Sir y Fflint, “Bydd y prosiect llwyddiannus, o’r enw ‘Archifau Creadigol’, yn trawsnewid y ffordd y mae AGDdC yn gweithio gan roi mwy o fynediad i gymunedau lleol i’r casgliadau gan hefyd ddarparu cyfleoedd i staff ryngweithio â’r cyhoedd i ddathlu eu hanes personol a chymunedol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen allgymorth a digidol i ehangu mynediad i’r archifau ar draws y rhanbarth a thu hwnt yn ogystal â chreu mwy o leoedd ar gyfer ymchwil, perfformiadau ac arddangosfeydd.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, “Mae prosiectau fel hyn yn amlygu sut y gellir defnyddio cyllid o’r Gronfa Dreftadaeth nid yn unig i warchod ein treftadaeth a’n hanes ond ei droi’n weledigaeth gyffrous a gaiff effaith ar fywydau cenedlaethau'r dyfodol.

“I raddau helaeth, mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ein bod yn gallu mwynhau gweld prosiectau fel yr Archifau Creadigol yn ffynnu a darparu hwb ar gyfer mannau creadigol ac addysgol i gymunedau.”

Mae Carchar Rhuthun a’r Hen Reithordy ym Mhenarlâg wedi bod yn gartref i’r gwasanaeth archif ers blynyddoedd lawer ond bellach nid ydynt yn bodloni disgwyliadau a gofynion rhanddeiliaid nac yn darparu gofod digonol neu addas ar gyfer y casgliadau. Bydd y safle newydd yn helpu i chwyldroi mynediad i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol gan hefyd ddiogelu’r casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd presenolded Archif llai yn parhau yn Rhuthun, a bydd adleoli AGDdC yn rhyddhau gofod yng Ngharchar Rhuthun i ddatblygu profiad gwell er mwyn cynyddu nifer ymwelwyr ac incwm. Disgwylir i'r ganolfan archifau newydd agor ddiwedd 2027.

 

Pobl Ifanc Dinbych yn cynnal digwyddiad ymgynghori ar lwybrau beicio mwy diogel

Mae grŵp o bobl ifanc o Sir Ddinbych wedi cynnal digwyddiad i gael barn y cyhoedd am lwybrau beicio diogel er mwyn iddyn nhw allu teithio o gwmpas y dref yn saff a chadw’n actif.

Daeth y syniad ar ôl i Osian Gregson, sy’n 13 oed ac yn mynd i Glwb Ieuenctid Dinbych, benderfynu gwneud rhywbeth ar ôl iddo ddechrau teimlo’n rhwystredig nad oedd unrhyw le addas yn y dref iddo ef a phobl ifanc eraill yr ardal allu mynd allan i chwarae’n ddiogel ar eu beics. Rhannodd ei bryderon gyda Gweithiwr Ieuenctid a ddywedodd wrtho beth y byddai angen iddo’i wneud i’w lais gael ei glywed.

Aeth Osian ymlaen i ysgrifennu at yr AS lleol i rannu ei farn am yr angen am lwybrau ac ardaloedd mwy diogel i bobl reidio eu beics Ninbych cyn ymuno â phobl eraill o’r Clwb Ieuenctid i lansio’r ymgyrch ‘Twmpathau a Neidiau’.

Nod eu hymgyrch yw casglu barn a chael cefnogaeth ar gyfer llwybrau beicio ac ardaloedd lle gall pobl ifanc fynd i reidio eu beics yn ddiogel.

Lansiodd y grŵp yr ymgyrch ar 26 Mawrth 2024 mewn digwyddiad ymgynghori yng Nghae Hywel yn Ninbych gyda chefnogaeth eu Gweithiwr Ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.

Bwriad y digwyddiad oedd rhoi cyfle i’r gymuned leol rannu eu barn ar yr angen am fwy o lwybrau  ac ardaloedd i reidio’n ddiogel yn Ninbych, er enghraifft traciau pwmpio

Fe wnaeth y grŵp hyd yn oed osod trac pwmpio symudol yn y digwyddiad er mwyn dangos rhai o’u sgiliau beicio ac arddangos manteision trac o’r fath yn Ninbych.

Darparodd Hamdden Sir Ddinbych a Thai Sir Ddinbych weithgareddau eraill fel ‘zorbs’ a gweithgareddau peintio, a threfnodd Hwb Dinbych a Phrosiect Ieuenctid Dinbych ginio pecyn ar gyfer y rhai oedd yn bresennol. Roedd Beics Drosi hefyd yn y digwyddiad gyda’u gwasanaeth Doctor Beics i wirio diogelwch beiciau a chynnig cyngor.

Y digwyddiad ymgynghori hwn oedd cam cyntaf prosiect ‘Twmpathau a Neidiau'r bobl ifanc gyda’r grŵp eisoes yn cynllunio gweithgareddau yn y dyfodol gyda chefnogaeth eu Clwb Ieuenctid i fynd â’r ymgyrch ymhellach.

Dywed Osian: “Daeth y syniad ar gyfer yr ymgyrch yn rhannol o’r ffaith mod i’n caru bod y tu allan, mi fasa’n well gen i fod allan nag ar y PlayStation! Ond hefyd dydi pawb ddim yn gallu mynd o un lle i’r llall yn hawdd. Mae na rai pobl ifanc efo rhieni sydd ddim yn gyrru felly mae nhw’n dibynnu ar eu beic i fynd o un lle i’r llall a dwi isio i ni i gyd deimlo’n ddiogel wrth reidio o un lle i’r llall yn Ninbych.

“Mae’r ymgyrch am fwy na dim ond llwybrau beicio mwy diogel, ond does na wir unman lle gallwn fynd allan ar ein beics a bod yn saff yn Ninbych. Dyna pam y basa rhywbeth fel trac pwmpio yn yr ardal mor wych, achos byddai’n lle i ni fynd i gymdeithasu a chadw’n actif yn lle eistedd yn ein cartrefi.”

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Tai a Gwasanaethau Cymunedol Sir Ddinbych: ”Mae hi mor galonogol gweld grŵp mor frwdfrydig o bobl ifanc  yn rhoi cymaint o ymdrech i mewn i rywbeth fydd o fantais i’w cymuned leol ac yn annog pobl ifanc eraill i fynd allan a chadw’n actif.

“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych am gefnogi’r bobl ifanc ar eu siwrnai i wireddu eu nodau ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd yr ymgyrch ‘Twmpathau a Neidiau’. Rydw i’n dymuno’r gorau i’r grŵp gydag unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau maen nhw’n eu trefnu i yrru’r ymgyrch yn ei blaen.”

Digwyddiad Rhwydwaith Bwyd Newydd wedi’i gynnal yn Rhuthun

Cynhaliwyd digwyddiad rhwydwaith bwyd am y tro cyntaf yn ddiweddar yng Nghanolfan Naylor Leyland, Rhuthun, i drafod partneriaeth newydd sy'n anelu at gyflwyno prosiectau sy'n ymwneud â bwyd o amgylch Sir Ddinbych. 

Mae COGOG yn bartneriaeth aml-asiantaeth sy'n gweithio ar y cyd i leihau gwastraff bwyd a thlodi bwyd yn y Sir trwy ddatblygu mentrau bwyd cynaliadwy. 

Daeth dros 40 o aelodau o wahanol grwpiau cymunedol ar draws y Sir ynghyd i ystyried sut y gall Sir Ddinbych wneud y mwyaf o fynediad at fwyd iach a fforddiadwy a lleihau gwastraff bwyd. 

Roedd aelodau o dîm dieteteg y GIG a FareShare yn bresennol i roi cyngor, tra bod Use Your Loaf, becws cymunedol o’r Rhyl, yno i ddarparu rholiau crystiog ffres a bara focaccia i fynychwyr.

Dywedodd Tom Barham, Cadeirydd y Bartneriaeth Fwyd:

“Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o grwpiau gwirfoddol yn rhoi o’u hamser i fynd i’r afael â thlodi bwyd a hybu bwyta’n iach yn eu cymunedau lleol, trwy fentrau fel sesiynau coginio i’r teulu, ac edrychwn ymlaen at weld y Bartneriaeth yn gallu cefnogi cydweithio parhaus drwy rannu’r hyn a ddysgir a datblygu cydweithredol.”

I gael rhagor o wybodaeth am bartneriaeth COGOG Sir Ddinbych, cysylltwch â Nikki Jones yn nikki.Jones@sirddinbych.gov.uk

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid