llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2021

Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Wedi’i sefydlu yn 2001, mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) yn cefnogi prosiectau arloesol, cynaliadwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n gweithio i hybu a diogelu harddwch, bywyd gwyllt, diwylliant, tirweddau, y defnydd o dir, a'r gymuned yng nghyd-destun amcanion ac egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r egwyddorion a amlinellir yn Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.

Oes gennych chi brosiect sy'n haeddu cefnogaeth? A yw eich prosiect:

  1. Yn archwilio ffyrdd arloesol o gyfrannu at y cyfleoedd a’r heriau a amlinellir yn Gwerthfawr a Chydnerth?
  2. Yn adeiladu gallu mewn cymunedau lleol, ac yn datblygu ac yn cefnogi prosiectau yn y gymuned sy'n hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy?
  3. Yn creu gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd ymhlith trigolion ac ymwelwyr, ac yn hwyluso newid cadarnhaol mewn ymddygiad?
  4. Yn cyflawni ac yn hyrwyddo dibenion yr AHNE a’r amcanion a amlinellir yng Nghynllun Rheoli’r AHNE?

Os felly, hoffem glywed gennych.

Cymhwyster

Mae Awdurdodau Lleol a grwpiau gwirfoddol, cymunedol a phartneriaethau’n gymwys i wneud cais am gyllid ar yr amod bod y prosiect arfaethedig yn bodloni blaenoriaethau’r cynllun. Dylai’r prosiectau fod yn digwydd o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu’n dod â budd uniongyrchol iddi.

Gall busnesau neu unigolion preifat ymgeisio ar yr un sail ar yr amod eu bod yn gallu dangos budd amlwg i’r gymuned ehangach a’r AHNE.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau a gefnogwyd yn ddiweddar:

Sudd

Defnyddiwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i helpu gyda chostau sefydlu prosiect sudd afal cymunedol arloesol

sy’n ceisio defnyddio afalau nas defnyddiwyd o’r AHNE a Dyffryn Clwyd. Sefydlwyd Sudd Afal Cwmni Buddiant Cymunedol gyda Thŷ’r Cwmnïau, ac fe’i cofrestrwyd fel cwmni dosbarthu bwyd gyda Chyngor Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod agored yn y Llew Aur, Llangynhafal ym Mehefin 2019 i lansio’r prosiect ac i fesur y diddordeb yn lleol. Dosbarthwyd posteri i siopau, tafarndai hysbysfyrddau cymunedol lleol yn gofyn am unrhyw afalau nad oedd eu hangen. Defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol hefyd i hysbysebu’r prosiect ac i gael gafael ar afalau nad oedd eu hangen.

Prosiect Eco-Gysylltedd Graigfechan

Defnyddiwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i gynyddu cyfranogiad y gymuned yn y gwaith o reoli'r amgylchedd naturiol, yn bennaf o amgylch Graigfechan yn rhan orllewinol yr AHNE. Y bwriadu oedd gyrru ymlaen y nodau tymor hirach o wella eco-gysylltedd ac athreiddedd cynefinoedd rhwng tair gwarchodfa natur. Roedd dau grŵp cymunedol – Grŵp Gwyllt a Llanfair Fyw – yn rhan o’r gwaith o reoli’r gwarchodfeydd a’r safleoedd o ddiddordeb bioamrywiol lleol yn ystod 2019. Bu digwyddiadau gwirfoddoli rheolaidd o gymorth gyda gwaith cadwraeth pwysig, yn cynnwys adeiladu gwâl i ddyfrgwn ar Ddŵr Iâl, cael gwared ar blanhigion goresgynnol ym Mhant Ruth, a phlannu cennin Pedr gwyllt ym Mhwllglas. Un o ganlyniadau buddiol y cynllun oedd ymestyn Gwarchodfa Natur Graig Wyllt i gynnwys nodweddion arbennig coetiroedd aeddfed a glaswelltir calchfaen. Mae’r estyniad i’r Warchodfa’n help i sicrhau gwell amddiffyniad i'r bioamrywiaeth sylweddol o fewn yr AHNE.

Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru

Roedd Blasu yn brosiect cydweithio tair blynedd a fu’n profi dulliau newydd o ddatblygu gwerth economaidd y sector bwyd a diod. Yn benodol, datblygodd y prosiect y cydweithio rhwng cynhyrchwyr bwyd, y fasnach lletygarwch a defnyddwyr drwy fyrhau’r gadwyn gyflenwi. Archwiliodd ffyrdd newydd o hybu bwyd lleol drwy ganiatáu i gwsmeriaid fynd i mewn i geginau cynhyrchwyr, cynnal digwyddiadau ar-lein, yn ogystal â chynyddu gallu cynhyrchwyr a’r sector lletygarwch drwy gyfrwng gweithdai a hyfforddiant arbennig.

Prosiect Datgarboneiddio Ysgol y Foel

Drwy ddatgarboneiddio, cofleidiodd Ysgol y Foel gyfleoedd yr economi werdd, gan leihau eu costau a chreu llinellau cyllido newydd drwy gynhyrchu ynni, a thrwy hynny wella eu hyfywedd economaidd tymor hir, sy’n her gyffredin i ysgolion cynradd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Am ragor o wybodaeth am y gronfa, cysylltwch â Ceri Lloyd (ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk).

Sylwer bod y cyllid yn gyfyngedig, ac y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel annibynnol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...