llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Prosiect Pori Datrysiadau Titrun

Oherwydd y cyfyngiadau covid 19 sydd mewn grym, mae ein Prosiect Pori Datrysiadau Titrun wedi cael ei wthio'n ôl mewn sawl agwedd gyda phethau'n cael eu gohirio a'u haildrefnu. Fodd bynnag, mae ein hanifeiliaid pori yn dal i weithio'n galed i gynnal a chadw ein safleoedd, yn aml fe'u hystyrir y ffordd fwyaf effeithiol a chynaliadwy o gynnal cynefinoedd gan sicrhau amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt ac hyrwyddo bioamrywiaeth.

Cawsom duadell fechan o ddefaid soay yn pori ym Mharc Gwledig Loggerheads, gwartheg Belted Galloway yng Ngronfa Natur Aberduna ac mae ein merlod cadwraeth y Carneddau hefyd wedi bod yn brysur yng Ngronfa Natur Aberduna, cyn symud ymlaen i Moel Findeg yn ddiweddar. Mae'r prosiect yn defnyddio bridiau brodorol traddodiadol o dda byw sydd wedi eu bridio i fod yn galed, maen’t yn dueddol o fwyta’r rhywogaethau planhigion mwy amlwg, mae hyn yn gadael lle i amrywiaeth o rywogaethau planhigion eraill gael sefydlu. Mae'r gwartheg a'r merlod hefyd yn creu aflonyddwch ar y ddaear sy'n darparu cynefinoedd newydd ar gyfer ymlusgiaid ac infertebratau, maent hefyd yn creu mannau diogel i eginblanhigion newydd ffynnu.  

Dros yr eira diweddar, er bod yr anifeiliaid hyn yn galed iawn ac wedi arfer byw allan ym mhob tywydd, rydym yn hoffi darparu rhywfaint o wair i'w cadw i fynd nes bod yr eira wedi toddi.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Wedi’i sefydlu yn 2001, mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) yn cefnogi prosiectau arloesol, cynaliadwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n gweithio i hybu a diogelu harddwch, bywyd gwyllt, diwylliant, tirweddau, y defnydd o dir, a'r gymuned yng nghyd-destun amcanion ac egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r egwyddorion a amlinellir yn Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.

Oes gennych chi brosiect sy'n haeddu cefnogaeth? A yw eich prosiect:

  1. Yn archwilio ffyrdd arloesol o gyfrannu at y cyfleoedd a’r heriau a amlinellir yn Gwerthfawr a Chydnerth?
  2. Yn adeiladu gallu mewn cymunedau lleol, ac yn datblygu ac yn cefnogi prosiectau yn y gymuned sy'n hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy?
  3. Yn creu gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd ymhlith trigolion ac ymwelwyr, ac yn hwyluso newid cadarnhaol mewn ymddygiad?
  4. Yn cyflawni ac yn hyrwyddo dibenion yr AHNE a’r amcanion a amlinellir yng Nghynllun Rheoli’r AHNE?

Os felly, hoffem glywed gennych.

Cymhwyster

Mae Awdurdodau Lleol a grwpiau gwirfoddol, cymunedol a phartneriaethau’n gymwys i wneud cais am gyllid ar yr amod bod y prosiect arfaethedig yn bodloni blaenoriaethau’r cynllun. Dylai’r prosiectau fod yn digwydd o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu’n dod â budd uniongyrchol iddi.

Gall busnesau neu unigolion preifat ymgeisio ar yr un sail ar yr amod eu bod yn gallu dangos budd amlwg i’r gymuned ehangach a’r AHNE.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau a gefnogwyd yn ddiweddar:

Sudd

Defnyddiwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i helpu gyda chostau sefydlu prosiect sudd afal cymunedol arloesol

sy’n ceisio defnyddio afalau nas defnyddiwyd o’r AHNE a Dyffryn Clwyd. Sefydlwyd Sudd Afal Cwmni Buddiant Cymunedol gyda Thŷ’r Cwmnïau, ac fe’i cofrestrwyd fel cwmni dosbarthu bwyd gyda Chyngor Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod agored yn y Llew Aur, Llangynhafal ym Mehefin 2019 i lansio’r prosiect ac i fesur y diddordeb yn lleol. Dosbarthwyd posteri i siopau, tafarndai hysbysfyrddau cymunedol lleol yn gofyn am unrhyw afalau nad oedd eu hangen. Defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol hefyd i hysbysebu’r prosiect ac i gael gafael ar afalau nad oedd eu hangen.

Prosiect Eco-Gysylltedd Graigfechan

Defnyddiwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i gynyddu cyfranogiad y gymuned yn y gwaith o reoli'r amgylchedd naturiol, yn bennaf o amgylch Graigfechan yn rhan orllewinol yr AHNE. Y bwriadu oedd gyrru ymlaen y nodau tymor hirach o wella eco-gysylltedd ac athreiddedd cynefinoedd rhwng tair gwarchodfa natur. Roedd dau grŵp cymunedol – Grŵp Gwyllt a Llanfair Fyw – yn rhan o’r gwaith o reoli’r gwarchodfeydd a’r safleoedd o ddiddordeb bioamrywiol lleol yn ystod 2019. Bu digwyddiadau gwirfoddoli rheolaidd o gymorth gyda gwaith cadwraeth pwysig, yn cynnwys adeiladu gwâl i ddyfrgwn ar Ddŵr Iâl, cael gwared ar blanhigion goresgynnol ym Mhant Ruth, a phlannu cennin Pedr gwyllt ym Mhwllglas. Un o ganlyniadau buddiol y cynllun oedd ymestyn Gwarchodfa Natur Graig Wyllt i gynnwys nodweddion arbennig coetiroedd aeddfed a glaswelltir calchfaen. Mae’r estyniad i’r Warchodfa’n help i sicrhau gwell amddiffyniad i'r bioamrywiaeth sylweddol o fewn yr AHNE.

Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru

Roedd Blasu yn brosiect cydweithio tair blynedd a fu’n profi dulliau newydd o ddatblygu gwerth economaidd y sector bwyd a diod. Yn benodol, datblygodd y prosiect y cydweithio rhwng cynhyrchwyr bwyd, y fasnach lletygarwch a defnyddwyr drwy fyrhau’r gadwyn gyflenwi. Archwiliodd ffyrdd newydd o hybu bwyd lleol drwy ganiatáu i gwsmeriaid fynd i mewn i geginau cynhyrchwyr, cynnal digwyddiadau ar-lein, yn ogystal â chynyddu gallu cynhyrchwyr a’r sector lletygarwch drwy gyfrwng gweithdai a hyfforddiant arbennig.

Prosiect Datgarboneiddio Ysgol y Foel

Drwy ddatgarboneiddio, cofleidiodd Ysgol y Foel gyfleoedd yr economi werdd, gan leihau eu costau a chreu llinellau cyllido newydd drwy gynhyrchu ynni, a thrwy hynny wella eu hyfywedd economaidd tymor hir, sy’n her gyffredin i ysgolion cynradd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Am ragor o wybodaeth am y gronfa, cysylltwch â Ceri Lloyd (ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk).

Sylwer bod y cyllid yn gyfyngedig, ac y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel annibynnol.

Cynnydd mewn gweithgarwch oddi ar y ffordd yn ystod y cyfnod clo

Rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am weithgarwch oddi ar y ffordd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ers dechrau’r cyfnod clo, gyda phobl yn teithio i ddefnyddio llwybrau lle ceir hawliau tramwy cyfreithiol ar gyfer cerbydau oddi ar y ffordd. Fodd bynnag, mae yna hefyd gynnydd yn nifer y damweiniau mewn mannau lle gwaherddir mynediad i gerbydau. Gall hyn achosi difrod anadferadwy i rai o’n cynefinoedd a’n bywyd gwyllt mwyaf bregus.

Ar hyn o bryd, tra bod Cymru dan gyfyngiadau clo Lefel Rhybudd 4, dydi teithio oddi ar y ffordd ar lwybrau gyda hawliau tramwy cyfreithiol ddim yn cael ei ystyried yn daith hanfodol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn stopio ac yn rhoi dirwyon i bobl.

Os ydych chi’n gweld gweithgarwch oddi ar y ffordd a all fod yn anghyfreithlon, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio neu’r ffurflenni ar-lein.

Gwobr Gwirfoddolwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Llongyfarchiadau i Grŵp Celf Llanferres, a adwaenir fel Peintwyr y Parc Gwledig, am ennill Gwobr Gwirfoddolwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 2020. Ymgartrefodd y grŵp ym Mharc Gwledig Loggerheads yn 2005 ac ers hynny maen nhw wedi gwneud cyfraniad sylweddol at weithgareddau cymdeithasol y parc a’r AHNE ehangach.

Maen nhw wedi hyrwyddo celf yn y parc, wedi cynnal arddangosfeydd di-ri ac wedi gweithio’n ddiflino i godi arian ar gyfer achosion lleol. Pob blwyddyn mae’r grŵp yn llwyddo i werthu nifer o beintiadau gan ofyn i’r ymwelwyr bleidleisio dros eu hoff beintiad – gyda’r artist buddugol yn cael dewis elusen ar gyfer y flwyddyn honno. Dros y blynyddoedd mae’r grŵp wedi cefnogi sawl achos da, gan gynnwys Ymchwil Canser, Ymchwil Diabetes, Eglwys Llanferres, Help the Heroes, WaterAid Affrica, Support Dogs a Hosbis Tŷ Gobaith.

Dywedodd arweinydd y grŵp, Pat Armstrong, bod pawb wrth eu bodd efo’r enwebiad ac yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn rhan annatod o’r parc, ac yn teimlo’n lwcus iawn i fod yno, gan dderbyn croeso cynnes gan y tîm yn Loggerheads bob tro.

Er gwaetha’r pandemig mae’r grŵp ar y cyfan yn dal i beintio, ond dydi hynny ddim yr un fath â pheintio yn y parc ac maen nhw i gyd yn edrych ymlaen at ailgychwyn eu sesiynau wythnosol yn y parc a threfnu eu harddangosfa nesaf pan fydd yr amodau’n caniatáu. Dywedodd tîm Loggerheads eu bod yn colli ymweliadau rheolaidd y grŵp â’r parc ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yn ôl pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr poblogaidd a theilwng yma.

Tynnwyd yr holl luniau cyn Covid-19

Gwaith adfer Mynydd Llantysilio yn cychwyn gyda gobeithion uchel!

Bydd gwaith i adfer Mynydd Llantysilio a ddifrodwyd gan dân yn mynd rhagddo cyn bo hir. Cynhaliodd staff Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy nifer o dreialon yn 2020 i brofi ffyrdd o ailsefydlu planhigion rhostir ar y mynydd. Yn dilyn llwyddiant y treialon, bydd dull ar raddfa fwy yn cychwyn ym mis Mawrth.

Mae Swyddog Maes Rhostiroedd y Cyngor, Graham Berry, wedi bod yn helpu i drefnu'r gwaith sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu harwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru. “Bydd grug yn cael ei thorri ar Fynydd Llantysilio fel rhan o reoli rhostir blynyddol gydag un gwahaniaeth, bydd y toriadau yn cael eu rhoi mewn bagiau a’u cludo mewn awyren i rai o’r ardaloedd gwaethaf o’r mynydd a ddifrodwyd gan dân sef Moel y Gamelin a Moel y Faen.”

Bydd ychydig dros 1 hectar o docion grug yn cael ei daenu fel tomwellt, gan sefydlogi'r pridd a chreu amodau i blanhigion rhostir fel grug a llus ail-gyfuno. Bydd 68 hectar arall o'r mynydd hefyd yn cael ei hau gyda chymysgedd hadau glaswellt yr ucheldir i greu cnwd meithrinfa i blanhigion rhostir ei ail-gytrefu.

Bydd y gwaith adfer eleni dim ond yn mynd i'r afael a hanner o'r mynydd a ddifrodwyd gwaethaf ac mae gwaith pellach ar y gweill yn y dyfodol. Mae'r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus ar rostiroedd a ddifrodwyd gan dân yn Lloegr a'r gobaith yw y bydd y llystyfiant yn ailsefydlu dros amser er budd bywyd gwyllt, ffermio a chymunedau lleol fel ei gilydd.

Am resymau iechyd a diogelwch, gofynnir yn garedig i aelodau'r cyhoedd beidio â mentro allan i fynydd Llantysilio pan fydd yr hofrennydd yn cludo bagiau grug.

Credyd llun: Airbourne Solutions

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid