llais y sir

Y Cyngor yn sicrhau mwy na £560,000 ar gyfer prosiectau i ailddefnyddio a lleihau gwastraff

Mae'r Cyngor wedi sicrhau mwy na £560,000 ar gyfer prosiectau ailddefnyddio a lleihau gwastraff yn y sir! Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar prosiect o dan y gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd, sydd â’r nod o helpu i gadw deunyddiau mewn cylchrediad cyhyd â phosibl er mwyn atal gwastraff.

Bydd y cyllid yn cefnogi gwaith i gynyddu ailddefnyddio amrywiaeth o eitemau diangen a ddaw i’r tair canolfan ailgylchu gwastraff cartref yn Sir Ddinbych, er mwyn darparu prosiect i gynyddu casgliadau ymyl palmant o decstilau ar gyfer eu hailddefnyddio trwy baratoi dillad ac eitemau eraill ar gyfer eu hailwerthu, i gefnogi rôl elusennau i ddarparu llefydd i gyfrannu a gwerthu nwyddau a fyddai fel arall yn cael eu gwaredu fel gwastraff, ac i helpu i ddarparu prosiect archfarchnad cymdeithasol yn Neuadd y Farchnad, Rhuthun, i werthu a rhannu cynnyrch bwyd lleol a lleihau gwastraff bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyllid a fydd yn hybu canol trefi yn ogystal â chefnogi’r amgylchedd trwy gadw deunyddiau mewn cylchrediad cyhyd â phosibl. Mae cadw deunyddiau mewn defnydd am hirach yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn helpu i gynnal ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector ar y prosiectau hyn a fydd yn elwa’r sir gyfan.”

Mae diogelu’r amgylchedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor a bydd y cyllid hwn yn helpu i gyfrannu i waith ehangach parhaus yn y sir, sy’n cynnwys datganiad argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol y Cyngor sy’n mynegi ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid