llais y sir

Strategaeth Newid Hinsawdd Sir Ddinbych wedi’i gymeradwyo

Mae cynllun i fynd i’r afael â newid hinsawdd a newid ecolegol wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn.

Yn 2019 datganodd y Cyngor argyfwng newid hinsawdd a newid ecolegol a oedd yn cynnwys ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030, gwella bioamrywiaeth ar draws y sir a chynhyrchu cynllun clir i lywio’r gwaith.

Mae Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor yn cynnwys y blynyddoedd 2021/22 – 2029/30, yn nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu dod yn Ddi-Garbon Net ac yn Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae’r strategaeth yn cynnwys targedau i leihau allyriadau carbon y Cyngor o amryw o ffynonellau, gan gynnwys gostyngiad o 50 y cant yn ynni a’r dŵr a ddefnyddir mewn adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor.

Yn ogystal â thargedau i gynyddu’r swm o garbon sy’n cael ei amsugno gan dir sy’n eiddo i’r Cyngor, bydd yn creu mwy o gynefinoedd amrywiol ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt.

Mae’r gwaith wedi cael ei lywio gan Weithgor Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol, a sefydlwyd fel rhan o’r datganiad argyfwng, ac mae wedi’i greu o ddau gynrychiolydd o bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cyngor, a’r ddau Aelod Arweiniol ar gyfer newid hinsawdd a newid ecolegol.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Timms, Cadeirydd Gweithgor Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor: “Rwy’n falch iawn bod y strategaeth wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn. Mae’r strategaeth yn egluro’r hyn y mae ein nodau i fod yn Gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net yn ei olygu, sut mae'r Cyngor yn perfformio o ran y nodau ar hyn o bryd, ein gobeithion fel Cyngor ar gyfer 2030 ar ôl i ni gyflawni ein nodau, a’r newidiadau a’r camau yr ydym yn gobeithio eu cyflawni dros y 9 mlynedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cadarnhaol arall ar gyfer y Cyngor yn ei ymdrech i ddiogelu’r amgylchedd a lleihau ein ôl troed carbon.

“Rydym eisoes wedi cyflawni llawer, rydym wedi lleihau allyriadau carbon o 15% o'n hadeiladau a’n fflyd ers 2017, erbyn hyn mae’r Cyngor ond yn defnyddio trydan adnewyddadwy ar gyfer ei adeiladau ar ôl newid i ddarparwr ynni adnewyddadwy yn unig ar gyfer ei ysgolion, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, swyddfeydd y cyngor a depos, rydym dros hanner ffordd o gyrraedd ein targed o blannu 18,000 o goed erbyn 2022.”

Gallwch ddarllen y strategaeth ar-lein ar www.sirddinbych.gov.uk/newid-hinsawdd.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid