llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2021

Ailenwi Canolfan Hamdden Corwen mewn teyrnged i gynghorydd poblogaidd

Bydd Canolfan Hamdden Corwen, sydd wedi cael llawer o waith adnewyddu, yn ailagor ar ôl y cyfnod clo gydag enw newydd sbon er anrhydedd i’r Cynghorydd poblogaidd, Huw ‘Chick’ Jones.

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf a'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Canolfan Hamdden Corwen yn newid ei henw i Canolfan Hamdden Huw Jones, mewn teyrnged i'r Cynghorydd lleol a sirol poblogaidd a fu farw ym mis Chwefror 2020.

Mae'r gwaith adnewyddu cyffrous i Ganolfan Hamdden Corwen, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â'r Cyngor, bellach wedi'i gwblhau. Mae'n cynnwys pwll newydd, ardaloedd newid, man gwylio ac offer ffitrwydd newydd o'r radd flaenaf.

Roedd y Cynghorydd Jones yn Gynghorydd gweithgar, uchel ei barch, a oedd yn ymwneud â llawer o grwpiau a phrosiectau cymunedol yn ei dref enedigol, Corwen. Bu hefyd yn gweithredu fel Aelod Arweiniol Hamdden Cyngor Sir Ddinbych rhwng 2013 a 2017 ac roedd yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd hamdden a'i effaith ar wella iechyd a lles.

Yn ystod cyfnod y Cynghorydd Jones fel Aelod Arweiniol, roedd y ffocws ar hamdden yn Sir Ddinbych yn tyfu’n gyflym, a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych, o Wasanaeth Cyngor Sir bach i fod yn Gwmni prysur, ffyniannus.

Roedd diddordebau personol Huw yn canolbwyntio ar chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Mae’n debyg y bydd yn cael ei gofio fwyaf yng Nghorwen am ei waith gyda Chlwb Pêl-droed Corwen. Roedd wedi ymrwymo i ddatblygu pêl-droed genethod a merched yn yr ardal.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych, “Roedd Huw yn ddyn poblogaidd, caredig y gellid ymddiried ynddo. Roedd eisiau’r gorau i bawb yn ei gymuned a’i sir. Pan gafodd ei benodi’n Aelod Arweiniol Hamdden, roeddem yn cychwyn ar daith gyda sawl her o’n blaenau. Heb ymrwymiad a theyrngarwch Huw, byddai llawer o'n cyflawniadau wedi bod yn amhosibl fel arall. O fy safbwynt personol i, ni fydd ei frwdfrydedd a’i gefnogaeth ddiwyro byth yn cael ei anghofio. Teimlwn fod hon yn deyrnged addas iawn am y blynyddoedd lawer a neilltuodd Huw i'w gymuned leol a'i Sir.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Llesiant ac Annibyniaeth y Cyngor: “Pan fu farw Huw, collodd ei gyd-Gynghorwyr ffrind a chydweithiwr ffyddlon a chollodd ei gymuned gynghorydd dibynadwy, a wasanaethodd ei drigolion yn onest ac hyd eithaf ei allu. Roedd gan Huw amrywiaeth eang o ddiddordebau ac roedd yn angerddol am lawer o brosiectau lleol, ond roedd chwaraeon a hamdden yn rhywbeth agos iawn at ei galon. Rydyn ni'n teimlo bod ailenwi Canolfan Hamdden Corwen er cof amdano, yn deyrnged addas iawn am y blynyddoedd lawer y mae Huw wedi'u neilltuo i'w gymuned leol. "

Mae gofod ffitrwydd ar lawr cyntaf Canolfan Hamdden Huw Jones hefyd wedi ei adnewyddu gydag ystod eang o offer pwrpasol o’r radd flaenaf wedi’u gosod. Bydd yr adnewyddiad hwn yn sicrhau bod trigolion Corwen yn cael yr un safon ardderchog o offer y mae Hamdden Sir Ddinbych yn ei gynnig i’w aelodau i gyd ar draws 7 canolfan hamdden y sir.

Mae’r prosiect yn dilyn gosodiadau diweddar a gwaith adnewyddu arall yn Nyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys cae 3G a chyfleusterau ffitrwydd newydd sbon yng Nghorwen a Llangollen.

Bydd Canolfan Hamdden Huw Jones yn ailagor ar gyfer aelodau a’r cyhoedd unwaith y bydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny.

Os hoffech wybod mwy am 'Wasanaethau Hamdden a'r hyn y maent yn ei gynnig, ewch i'w gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...