llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2021

Ailddatblygu Adeiladau’r Frenhines – Y Rhyl

Datblygwyd uwchgynllun Canol Tref y Rhyl gan y Cyngor Sir, Cyngor Tref y Rhyl a’r sectorau busnes, cymunedol a gwirfoddol, i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer Y Rhyl. Bydd yr uwchgynllun yn cynnig dyfodol cynaliadwy i’r dref drwy gamau gweithredu realistig y gellir eu cyflawni.

Yn dilyn hyn, ym mis Mawrth 2019, bu i'r Cyngor gaffael nifer o adeiladau cyfagos yng nghanol y dref sy’n wynebu’r promenâd glan môr, a elwir ar y cyd yn Adeiladau’r Frenhines. Roedd yr adeiladau wedi adfeilio, heb unrhyw ddefnydd yn cael ei wneud o’r lloriau uchaf a gwagleoedd sylweddol ar y llawr gwaelod.

Fel rhan o strategaeth adfywio ehangach Y Rhyl, cafodd Adeiladau’r Frenhines eu caffael gyda’r nodau penodol canlynol:

  • Mynd i’r afael ag ymddangosiad difrifol y safle rhannol segur sydd wedi mynd â’i ben iddo, er mwyn gwella ymddangosiad cyffredinol yr ardal allweddol hon o ganol y dref a chynnig delwedd llawer mwy cadarnhaol o’r dref i siopwyr ac ymwelwyr;
  • Cynnig cymysgedd newydd o ddefnyddiau ar y safle i helpu ailfywiogi canol y dref, gyda chanolbwynt clir ar ddychwelyd y safle i ddefnydd economaidd cynhyrchiol a chynnig cyfleoedd busnes a chyflogaeth newydd;
  • Gwella hyder yng nghanol y dref, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a helpu ysgogi buddsoddiad pellach gan y sector preifat yn y dref.

Oherwydd cyflwr difrifol wael y safle, bydd rhaid dymchwel nifer sylweddol o’r adeiladau cyn cychwyn ar unrhyw ddatblygiad. Bu i’r Contractwyr, Wye Valley Demolition, gychwyn ar y gwaith dymchwel ar y safle mis Ionawr, ac fe ddylai’r gwaith fod wedi dod i ben erbyn yr haf.

Mae yna gynlluniau ar y gweill i gadw cymaint o eitemau ag sy’n bosib drwy gydol y gwaith o adnewyddu’r safle. Un eithriad rhag y gwaith dymchwel yw’r adeilad brics coch sy’n wynebu Sussex Street. Mae hwn yn adeilad deniadol â thalwyneb brics coch sydd o fewn Ardal Gadwraeth Canol Tref y Rhyl, a bydd yn cael ei gadw a’i adfer fel un o’r mynedfeydd i fan digwyddiadau a neuadd farchnad newydd.

Bydd y safle’n cael ei ddatblygu fesul cam a bydd y cyntaf ohonynt yn cychwyn yn nes ymlaen yn yr haf. Bydd Cam Un yn cynnwys: 

  • Datblygu neuadd farchnad dan do fydd yn cynnwys ciosgau bwyd poeth, stondinau marchnad parhaol, stondinau marchnad dros dro a lle i hyd at 200 o bobl eistedd i fwyta. Bydd y neuadd farchnad hon yn canolbwyntio ar gynnyrch lleol/Cymreig o safon dda;
  • Datblygu man dan do hyblyg allai gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys marchnadoedd arbenigol, arddangosiadau, cerddoriaeth, ffilmiau a pherfformiadau theatr;
  • Toiledau a bar fydd yn gwasanaethu’r ddau fan uchod; a
  • Marchnad / man digwyddiadau awyr agored gyda pharth cyhoeddus/gwaith tirlunio o safon uchel.

Mae camau nesaf datblygu’r safle yn cynnwys darpar unedau masnachol ac unedau preswyl glan môr.

Cyflwynwyd Cais Cynllunio, ac mae wrthi’n cael ei benderfynu. Gallwch fynd i weld hwn ar Y Porth Cynllunio, cyfeirnod cais: 45/2021/0040.

Credyd llun: B.C. Photography

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...