llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2021

Cyfrifiad 2021

Yn fuan, bydd gofyn i gartrefi ar draws Sir Ddinbych gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd sy'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r cyfrifiad gael ei gynnal ar lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw a fydd yn eu galluogi i lenwi'r cyfrifiad ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu llechi.

“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf. Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, ysgolion a llwybrau trafnidiaeth newydd. Dyna pam mae mor bwysig bod pawb yn cymryd rhan a pham ein bod wedi'i gwneud hi'n haws i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, gan gynnig help a holiaduron papur i bobl os bydd angen.

Bydd Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth, ond bydd cartrefi ledled y wlad yn cael llythyrau â chodau ar-lein a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan o ddechrau mis Mawrth.

Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk (gwefan allanol).

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...