llais y sir

Newyddion

Ailenwi Canolfan Hamdden Corwen mewn teyrnged i gynghorydd poblogaidd

Bydd Canolfan Hamdden Corwen, sydd wedi cael llawer o waith adnewyddu, yn ailagor ar ôl y cyfnod clo gydag enw newydd sbon er anrhydedd i’r Cynghorydd poblogaidd, Huw ‘Chick’ Jones.

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf a'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Canolfan Hamdden Corwen yn newid ei henw i Canolfan Hamdden Huw Jones, mewn teyrnged i'r Cynghorydd lleol a sirol poblogaidd a fu farw ym mis Chwefror 2020.

Mae'r gwaith adnewyddu cyffrous i Ganolfan Hamdden Corwen, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â'r Cyngor, bellach wedi'i gwblhau. Mae'n cynnwys pwll newydd, ardaloedd newid, man gwylio ac offer ffitrwydd newydd o'r radd flaenaf.

Roedd y Cynghorydd Jones yn Gynghorydd gweithgar, uchel ei barch, a oedd yn ymwneud â llawer o grwpiau a phrosiectau cymunedol yn ei dref enedigol, Corwen. Bu hefyd yn gweithredu fel Aelod Arweiniol Hamdden Cyngor Sir Ddinbych rhwng 2013 a 2017 ac roedd yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd hamdden a'i effaith ar wella iechyd a lles.

Yn ystod cyfnod y Cynghorydd Jones fel Aelod Arweiniol, roedd y ffocws ar hamdden yn Sir Ddinbych yn tyfu’n gyflym, a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych, o Wasanaeth Cyngor Sir bach i fod yn Gwmni prysur, ffyniannus.

Roedd diddordebau personol Huw yn canolbwyntio ar chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Mae’n debyg y bydd yn cael ei gofio fwyaf yng Nghorwen am ei waith gyda Chlwb Pêl-droed Corwen. Roedd wedi ymrwymo i ddatblygu pêl-droed genethod a merched yn yr ardal.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych, “Roedd Huw yn ddyn poblogaidd, caredig y gellid ymddiried ynddo. Roedd eisiau’r gorau i bawb yn ei gymuned a’i sir. Pan gafodd ei benodi’n Aelod Arweiniol Hamdden, roeddem yn cychwyn ar daith gyda sawl her o’n blaenau. Heb ymrwymiad a theyrngarwch Huw, byddai llawer o'n cyflawniadau wedi bod yn amhosibl fel arall. O fy safbwynt personol i, ni fydd ei frwdfrydedd a’i gefnogaeth ddiwyro byth yn cael ei anghofio. Teimlwn fod hon yn deyrnged addas iawn am y blynyddoedd lawer a neilltuodd Huw i'w gymuned leol a'i Sir.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Llesiant ac Annibyniaeth y Cyngor: “Pan fu farw Huw, collodd ei gyd-Gynghorwyr ffrind a chydweithiwr ffyddlon a chollodd ei gymuned gynghorydd dibynadwy, a wasanaethodd ei drigolion yn onest ac hyd eithaf ei allu. Roedd gan Huw amrywiaeth eang o ddiddordebau ac roedd yn angerddol am lawer o brosiectau lleol, ond roedd chwaraeon a hamdden yn rhywbeth agos iawn at ei galon. Rydyn ni'n teimlo bod ailenwi Canolfan Hamdden Corwen er cof amdano, yn deyrnged addas iawn am y blynyddoedd lawer y mae Huw wedi'u neilltuo i'w gymuned leol. "

Mae gofod ffitrwydd ar lawr cyntaf Canolfan Hamdden Huw Jones hefyd wedi ei adnewyddu gydag ystod eang o offer pwrpasol o’r radd flaenaf wedi’u gosod. Bydd yr adnewyddiad hwn yn sicrhau bod trigolion Corwen yn cael yr un safon ardderchog o offer y mae Hamdden Sir Ddinbych yn ei gynnig i’w aelodau i gyd ar draws 7 canolfan hamdden y sir.

Mae’r prosiect yn dilyn gosodiadau diweddar a gwaith adnewyddu arall yn Nyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys cae 3G a chyfleusterau ffitrwydd newydd sbon yng Nghorwen a Llangollen.

Bydd Canolfan Hamdden Huw Jones yn ailagor ar gyfer aelodau a’r cyhoedd unwaith y bydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny.

Os hoffech wybod mwy am 'Wasanaethau Hamdden a'r hyn y maent yn ei gynnig, ewch i'w gwefan.

Bwth ymweld mewn cartref gofal yn caniatáu i ffrindiau weld ei gilydd eto

Mae bwth ymweld wedi’i osod mewn cartref gofal yn Sir Ddinbych.

Dyluniwyd ac adeiladwyd y bwth, sydd wedi’i osod yng nghartref gofal Dolwen yn Ninbych, gan yr aelod staff Erfyl Jones, sy'n weithiwr cefnogi yn y cartref.

Mae’r bwth wedi caniatáu i drigolion y cartref gofal, nad ydynt wedi gallu cymysgu ers mis Rhagfyr, i ddod at ei gilydd.

Unwaith y bydd y cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi’u newid, gall teuluoedd a ffrindiau sy’n ymweld ag anwyliaid ddefnyddio'r bwth.

Dwy o drigolion Dolwen, Olwen Lloyd a Janet Kenyon Thompson, oedd y cyntaf i ddefnyddio’r bwth ar ôl iddo gael ei osod y mis diwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Hoffwn ddiolch i Erfyl am ei waith yn dylunio ac yn adeiladu’r bwth ymweld, sydd wedi bod yn hwb mawr i’r trigolion. 

“Mae wedi galluogi’r trigolion i weld ffrindiau o wahanol rannau o'r cartref, sydd wedi bod yn cael eu cadw ar wahân am resymau diogelwch.  Rwy’n falch o weld faint o bleser y mae wedi’i roi i’n trigolion.

“Pan fydd y rheoliadau ynghylch ymweld â chartrefi gofal yn newid, bydd y bwth hwn yn rhoi cyfle i ffrindiau a theuluoedd ymweld â'u hanwyliaid mewn ffordd ddiogel."

Ailddatblygu Adeiladau’r Frenhines – Y Rhyl

Datblygwyd uwchgynllun Canol Tref y Rhyl gan y Cyngor Sir, Cyngor Tref y Rhyl a’r sectorau busnes, cymunedol a gwirfoddol, i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer Y Rhyl. Bydd yr uwchgynllun yn cynnig dyfodol cynaliadwy i’r dref drwy gamau gweithredu realistig y gellir eu cyflawni.

Yn dilyn hyn, ym mis Mawrth 2019, bu i'r Cyngor gaffael nifer o adeiladau cyfagos yng nghanol y dref sy’n wynebu’r promenâd glan môr, a elwir ar y cyd yn Adeiladau’r Frenhines. Roedd yr adeiladau wedi adfeilio, heb unrhyw ddefnydd yn cael ei wneud o’r lloriau uchaf a gwagleoedd sylweddol ar y llawr gwaelod.

Fel rhan o strategaeth adfywio ehangach Y Rhyl, cafodd Adeiladau’r Frenhines eu caffael gyda’r nodau penodol canlynol:

  • Mynd i’r afael ag ymddangosiad difrifol y safle rhannol segur sydd wedi mynd â’i ben iddo, er mwyn gwella ymddangosiad cyffredinol yr ardal allweddol hon o ganol y dref a chynnig delwedd llawer mwy cadarnhaol o’r dref i siopwyr ac ymwelwyr;
  • Cynnig cymysgedd newydd o ddefnyddiau ar y safle i helpu ailfywiogi canol y dref, gyda chanolbwynt clir ar ddychwelyd y safle i ddefnydd economaidd cynhyrchiol a chynnig cyfleoedd busnes a chyflogaeth newydd;
  • Gwella hyder yng nghanol y dref, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a helpu ysgogi buddsoddiad pellach gan y sector preifat yn y dref.

Oherwydd cyflwr difrifol wael y safle, bydd rhaid dymchwel nifer sylweddol o’r adeiladau cyn cychwyn ar unrhyw ddatblygiad. Bu i’r Contractwyr, Wye Valley Demolition, gychwyn ar y gwaith dymchwel ar y safle mis Ionawr, ac fe ddylai’r gwaith fod wedi dod i ben erbyn yr haf.

Mae yna gynlluniau ar y gweill i gadw cymaint o eitemau ag sy’n bosib drwy gydol y gwaith o adnewyddu’r safle. Un eithriad rhag y gwaith dymchwel yw’r adeilad brics coch sy’n wynebu Sussex Street. Mae hwn yn adeilad deniadol â thalwyneb brics coch sydd o fewn Ardal Gadwraeth Canol Tref y Rhyl, a bydd yn cael ei gadw a’i adfer fel un o’r mynedfeydd i fan digwyddiadau a neuadd farchnad newydd.

Bydd y safle’n cael ei ddatblygu fesul cam a bydd y cyntaf ohonynt yn cychwyn yn nes ymlaen yn yr haf. Bydd Cam Un yn cynnwys: 

  • Datblygu neuadd farchnad dan do fydd yn cynnwys ciosgau bwyd poeth, stondinau marchnad parhaol, stondinau marchnad dros dro a lle i hyd at 200 o bobl eistedd i fwyta. Bydd y neuadd farchnad hon yn canolbwyntio ar gynnyrch lleol/Cymreig o safon dda;
  • Datblygu man dan do hyblyg allai gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys marchnadoedd arbenigol, arddangosiadau, cerddoriaeth, ffilmiau a pherfformiadau theatr;
  • Toiledau a bar fydd yn gwasanaethu’r ddau fan uchod; a
  • Marchnad / man digwyddiadau awyr agored gyda pharth cyhoeddus/gwaith tirlunio o safon uchel.

Mae camau nesaf datblygu’r safle yn cynnwys darpar unedau masnachol ac unedau preswyl glan môr.

Cyflwynwyd Cais Cynllunio, ac mae wrthi’n cael ei benderfynu. Gallwch fynd i weld hwn ar Y Porth Cynllunio, cyfeirnod cais: 45/2021/0040.

Credyd llun: B.C. Photography

Gofalwyr Maeth ..... mae arnom eich angen

Mae'r Cyngor yn dymuno recriwtio Gofalwyr Maeth trwy gydol ardal Sir Ddinbych i fodloni anghenion rhai o’r plant mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas.

Mae maethu yn golygu gofalu am blant, o’u geni hyd nes eu bod yn 18 oed, ond serch hynny, gall gofalwyr maeth ar y cyd â’u gweithiwr cymdeithasol, benderfynu ar oedran y plant a fyddai’n gweddu orau ar gyfer eu teulu. Rydym ni’n chwilio am bobl sydd yn gallu darparu amgylchedd saff, diogel a chariadus sy’n meithrin ar gyfer plant a phobl ifanc sydd methu byw gartref, am nifer o resymau. Gall gofalwyr maeth ddarparu gofal tymor byr, gofal tymor hir, gofal seibiant neu ofal mewn argyfwng, neu wyliau byr i blant sydd ag anghenion ychwanegol.

Ydych chi dros 21 oed, oes gennych chi'r amser a sgiliau i ofalu am blant neu bobl ifanc, oes gennych chi ystafell wely sbâr, ond yn bwysicach na dim allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

Mae gan Wasanaeth Maethu Sir Ddinbych berthynas agos a chefnogol iawn gyda’u gofalwyr, ac mae hyfforddiant, cefnogaeth a lwfans ariannol yn rhan o fod yn ofalwr maeth. Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol gyda naill ai Gweithiwr Cymdeithasol Maethu neu ofalwr maeth, cysylltwch â Julie Fisher, Rheolwr y Gwasanaeth Maethu 01824 712821 neu Penny Moran 01824 712287, Swyddog Lleoli a Chomisiynu

Cyfrifiad 2021

Yn fuan, bydd gofyn i gartrefi ar draws Sir Ddinbych gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd sy'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r cyfrifiad gael ei gynnal ar lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw a fydd yn eu galluogi i lenwi'r cyfrifiad ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu llechi.

“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf. Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, ysgolion a llwybrau trafnidiaeth newydd. Dyna pam mae mor bwysig bod pawb yn cymryd rhan a pham ein bod wedi'i gwneud hi'n haws i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, gan gynnig help a holiaduron papur i bobl os bydd angen.

Bydd Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth, ond bydd cartrefi ledled y wlad yn cael llythyrau â chodau ar-lein a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan o ddechrau mis Mawrth.

Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk (gwefan allanol).

Sut y dylid darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn Ninbych?

Bydd y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llunio opsiynau ar gyfer buddsoddi yn nyfodol gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chymunedol yn Ninbych a'r cyffiniau yn ystod y misoedd nesaf.

Yn gyntaf, maent am wybod sut mae dinasyddion yn profi’r ddarpariaeth gyfredol, a deall beth allai eu dewisiadau neu eu hanghenion fod yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys yr ystod gyfan o gymorth, er enghraifft, o gymorth yn y gymuned, tai gwarchod a thai a gofal ychwanegol, cludiant gwirfoddol, gweithgareddau grŵp, gwasanaethau MT, i ofal a chymorth llawn amser.

Sut mae'r pandemig wedi newid y ffordd yr ydym yn ystyried y gwasanaethau hyn ac yn eu cyrchu, sut mae hyn wedi effeithio ar les pobl, a beth allwn ddysgu o hyn wrth symud ymlaen?

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Llesiant ac Annibyniaeth y Cyngor: “Efallai y bydd cyfleoedd yn Ninbych i fuddsoddi mewn adeiladau, i ddod â gwasanaethau ychwanegol i'r ardal, i ad-drefnu'r ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau yn y gymuned, ac i ddefnyddio technoleg yn effeithiol. Ond mae angen i ni adeiladu'r weledigaeth hon ar sail dealltwriaeth gliriach o'r hyn y mae pobl Dinbych a'r cyffiniau ei eisiau a'i angen.

“Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn fel y gall y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Caldwaladr gael barn preswylwyr.”

Sut allwch chi ymuno yn y sgwrs?

Mae'r cyngor a'r bwrdd iechyd wedi gofyn i Practice Solutions - arbenigwr annibynnol sy'n ymgysylltu â'r gymuned - gasglu barn pobl ar y pynciau hyn yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. O ystyried yr angen i gadw pellter cymdeithasol, byddant yn gwneud hyn trwy sawl dull gwahanol.

  • Arolwg ar lein, y gallwch gael hyd iddo ar http://sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk/
  • Sgwrsio gydag unigolion ar y ffôn
  • Ymuno â grwpiau sy’n cyfarfod ar lein, efallai y byddai ganddynt ddiddordeb mewn sgwrsio ar y cyd amdano.

Mae Practice Solutions wedi cysylltu ag ystod o weithwyr proffesiynol, aelodau etholedig, cynrychiolwyr grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd yn yr ardal leol, y mae nifer ohonynt wedi cytuno i’n cyflwyno i ddinasyddion.

Os hoffech gymryd rhan, neu os allech ein helpu i estyn allan i eraill, cysylltwch â Rhian (yn Gymraeg neu’n Saesneg) ar rhian@practicesolutions-ltd.co.uk neu ar 07468 484003.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid