Sut y dylid darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn Ninbych?
Bydd y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llunio opsiynau ar gyfer buddsoddi yn nyfodol gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chymunedol yn Ninbych a'r cyffiniau yn ystod y misoedd nesaf.
Yn gyntaf, maent am wybod sut mae dinasyddion yn profi’r ddarpariaeth gyfredol, a deall beth allai eu dewisiadau neu eu hanghenion fod yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys yr ystod gyfan o gymorth, er enghraifft, o gymorth yn y gymuned, tai gwarchod a thai a gofal ychwanegol, cludiant gwirfoddol, gweithgareddau grŵp, gwasanaethau MT, i ofal a chymorth llawn amser.
Sut mae'r pandemig wedi newid y ffordd yr ydym yn ystyried y gwasanaethau hyn ac yn eu cyrchu, sut mae hyn wedi effeithio ar les pobl, a beth allwn ddysgu o hyn wrth symud ymlaen?
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Llesiant ac Annibyniaeth y Cyngor: “Efallai y bydd cyfleoedd yn Ninbych i fuddsoddi mewn adeiladau, i ddod â gwasanaethau ychwanegol i'r ardal, i ad-drefnu'r ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau yn y gymuned, ac i ddefnyddio technoleg yn effeithiol. Ond mae angen i ni adeiladu'r weledigaeth hon ar sail dealltwriaeth gliriach o'r hyn y mae pobl Dinbych a'r cyffiniau ei eisiau a'i angen.
“Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn fel y gall y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Caldwaladr gael barn preswylwyr.”
Sut allwch chi ymuno yn y sgwrs?
Mae'r cyngor a'r bwrdd iechyd wedi gofyn i Practice Solutions - arbenigwr annibynnol sy'n ymgysylltu â'r gymuned - gasglu barn pobl ar y pynciau hyn yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. O ystyried yr angen i gadw pellter cymdeithasol, byddant yn gwneud hyn trwy sawl dull gwahanol.
- Arolwg ar lein, y gallwch gael hyd iddo ar http://sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk/
- Sgwrsio gydag unigolion ar y ffôn
- Ymuno â grwpiau sy’n cyfarfod ar lein, efallai y byddai ganddynt ddiddordeb mewn sgwrsio ar y cyd amdano.
Mae Practice Solutions wedi cysylltu ag ystod o weithwyr proffesiynol, aelodau etholedig, cynrychiolwyr grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd yn yr ardal leol, y mae nifer ohonynt wedi cytuno i’n cyflwyno i ddinasyddion.
Os hoffech gymryd rhan, neu os allech ein helpu i estyn allan i eraill, cysylltwch â Rhian (yn Gymraeg neu’n Saesneg) ar rhian@practicesolutions-ltd.co.uk neu ar 07468 484003.