llais y sir

Priffyrdd

Goleuni yn y tywyllwch

Erthygl drwy garedigrwydd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a'r Cylch

Faint ohonom sy'n cymryd yn ganiataol y cysur a gawn o'n goleuadau stryd?

Maen nhw yn ein helpu i fyw ein bywydau mor ddiogel â phosibl. Ac yn ystod y dydd, ydym ni wedi edrych a sylwi ar amrywiol gynlluniau’r goleuadau sydd i’w gweld o amgylch y dref?

Gallai fod yn amser da rŵan i gael golwg arnynt. Mae Cyngor Sir Ddinbych ar fin gorffen ei gynllun 10 mlynedd yn cyfnewid goleuadau’r stryd am lusernau LED newydd. Mae rhai enghreifftiau o’r hen fathau i’w gweld o hyd. Yn Rhuthun, daeth goleuadau LED i’r golwg wyth mlynedd yn ôl. Y bwriad oedd newid rhannau o’r dref ar y tro, yn hytrach na chwblhau popeth ar unwaith. Roedd Sir Ddinbych ar flaen y gad yn y chwyldro goleuadau LED, diolch i raglen ‘buddsoddi i arbed’ a alluogodd i’r arbediad ynni LED ad-dalu benthyciad a ddefnyddiwyd i brynu’r caledwedd.

Yr hen olau yn dod i ffwrdd …..
….. a'r golau newydd yn mynd ymlaen.

Dechreuodd y rhaglen gyda’n priffyrdd, ac mae pob un ohonynt bellach wedi eu newid i amrywiol fathau o oleuadau LED. Mae gan briffyrdd a’r ffyrdd dosbarthu ddosbarthiad LED gryn dipyn yn uwch na stadau tai.

Roedd Parc Brynhyfryd yn unigryw o’r blaen gan mai yno yr oedd unig lusernau tiwb fflworoleuol Rhuthun, a’r rheiny’n ffordd newydd a chynnar o arbed arian. Roedden nhw’n wynnach na'r goleuadau eraill yn y dref. Roedden nhw’n rhoi llai o watiau o tua 60 y cant, sef 36W yr un. Newidiodd y Cyngor y tiwbiau fflworoleuol yma fis Hydref. Mae’r pennau LED newydd yn dod â’r raddfa bŵer i 9W a dyma’r rhai mwyaf effeithlon yn Rhuthun (roedd goleuadau LED blaenorol gyda’r un golau yn rhedeg ar 13W. Yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae goleuadau LED, sydd eisoes yn effeithlon, wedi gwella o 25 y cant). Ond yn bennaf, er gwaetha’r gostyngiad i chwarter yr ynni a ddefnyddir, mae’r golau yn well hefyd. Mae golau gwyn LED yn colli llai, mae’n canolbwyntio ar y droedffordd a’r gerbytffordd ac mae popeth yn fwy amlwg oddi tanynt.

Ond does dim croeso i hynny bob amser. Gall yr eglurder o dan olau ‘gwynach’ wneud i rai pobl deimlo’n llai cyfforddus wrth gerdded. Ac nid yw goleuadau LED yn tueddu i dreiddio i ddrysau blaen tai yn yr un ffordd ag y gwnâi llusernau traddodiadol – gall hyn fod yn fantais neu’n anfantais. Ond mae’r eglurder yn gwella ac mae’r gostyngiad yn y carbon yn sylweddol.

Mae’n dal yn bosibl profi golau orengoch, mwll y lampau arogl sodiwm yn Rhuthun. Bydd y llusernau orenaidd 60W yma’n cael eu cyfnewid cyn bo hir yn Nhy’n y Parc, Porth y Dre, Bryn Coch, Bryn Glas, Y Menllis, Bryn Rhydd, Maes Cantaba, The Werns oddi ar Ffordd Greenfield a Castle Park.

Mae Haulfryn hefyd yn unigryw. Dros y 15 mlynedd blaenorol, goleuwyd ei ffyrdd gan lampau halid metal ceramig gan Philips, rhywbeth tebyg o ran siâp i fwlb domestig ac roedd yn arfer cynnig arbediad ynni ond bellach mae’r golau LED yn well.

Mae colofnau traddodiadol eu harddull yn Glasdir yn cynnwys golau LED. Pan gawsant eu gosod, roeddent o’r math sodiwm gwasgedd uchel. Tua blwyddyn yn ôl, pan fabwysiadodd y Cyngor ffyrdd y stad, roedd hynny’n cynnwys trosi i olau LED. Ond ni fabwysiadwyd y meysydd parcio ac maen nhw’n dal i gael eu goleuo gan lusernau sodiwm a dyma un lle y gallwch weld y gwahaniaeth amlwg rhwng y ddau olau.

Ac yna, canol y dref. Ar gychwyn yr 1990au, daeth colofnau a phennau lampau’r dref yn debyg o ran cynllun i lampau nwy yr hen ddyddiau. Mae dod o hyd i olau LED fydd yn ffitio’r cynllun hwn wedi bod yn her ond ni fydd yn hir nes y caiff pob un o’r rhain eu moderneiddio (gobeithio y bydd hynny yn Ionawr neu Chwefror 2021). Ar hyn o bryd, mae’r llusernau sodiwm yn gweithio ar 100-150W a hyd at 250W yn dibynnu ar eu lleoliad, a dyma gyfle gorau i leihau carbon – a gwella’r golau.

Tra bod y mwyafrif yn fodlon gyda’u golau stryd newydd, mae rhai yn credu eu bod yn tarfu arnynt. Mae modd rhoi ‘cysgod’ dros olau LED er mwyn canolbwyntio’r golau tua’r llawr ymhellach, fel y gwelir ar y llusern hon ar Ffordd Dinbych.

Goleuo lampau LED

  • Mae’r gyrwyr mewn llusernau LED yn gallu lleihau disgleirdeb o 30 y cant yn ystod cyfnodau llai prysur, rhwng 10 p.m. a 6 a.m. Mae hyn yn arbed mwy o ynni a CO2. Mae’n annhebygol y byddwch yn sylwi ar y gostyngiad hwn yn nwyster y golau.
  • Mae oes goleuadau LED tua 25 mlynedd. Wrth iddyn nhw fynd yn hyn, gall y golau LED bylu ond gall y gyrwyr o fewn y llusern wneud iawn am hynny drwy gynyddu’r watedd fymryn. Mae hyn, yn amlwg, wedi ei gynnwys yn y cyfrifiadau arbed ynni a'r gostyngiad carbon.
  • Mae Sir Ddinbych yn newid 1,500 o lusernau i olau LED bob blwyddyn. Dechreuon nhw ar 18-22W yr un ac maen nhw bellach yn 9-13W, oherwydd y gwelliant mewn cynllun dros gyfnod o ddim ond pum mlynedd.

Mae tîm peirianwyr goleuadau stryd Sir Ddinbych wedi ennill gwobrau lu, sef gwobr safonau perfformiad y DU bron bob blwyddyn dros ddwsin o flynyddoedd.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid