llais y sir

Newyddion

Ailenwi Canolfan Hamdden Corwen mewn teyrnged i gynghorydd poblogaidd

Bydd Canolfan Hamdden Corwen, sydd wedi cael llawer o waith adnewyddu, yn ailagor ar ôl y cyfnod clo gydag enw newydd sbon er anrhydedd i’r Cynghorydd poblogaidd, Huw ‘Chick’ Jones.

Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf a'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Canolfan Hamdden Corwen yn newid ei henw i Canolfan Hamdden Huw Jones, mewn teyrnged i'r Cynghorydd lleol a sirol poblogaidd a fu farw ym mis Chwefror 2020.

Mae'r gwaith adnewyddu cyffrous i Ganolfan Hamdden Corwen, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â'r Cyngor, bellach wedi'i gwblhau. Mae'n cynnwys pwll newydd, ardaloedd newid, man gwylio ac offer ffitrwydd newydd o'r radd flaenaf.

Roedd y Cynghorydd Jones yn Gynghorydd gweithgar, uchel ei barch, a oedd yn ymwneud â llawer o grwpiau a phrosiectau cymunedol yn ei dref enedigol, Corwen. Bu hefyd yn gweithredu fel Aelod Arweiniol Hamdden Cyngor Sir Ddinbych rhwng 2013 a 2017 ac roedd yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd hamdden a'i effaith ar wella iechyd a lles.

Yn ystod cyfnod y Cynghorydd Jones fel Aelod Arweiniol, roedd y ffocws ar hamdden yn Sir Ddinbych yn tyfu’n gyflym, a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych, o Wasanaeth Cyngor Sir bach i fod yn Gwmni prysur, ffyniannus.

Roedd diddordebau personol Huw yn canolbwyntio ar chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Mae’n debyg y bydd yn cael ei gofio fwyaf yng Nghorwen am ei waith gyda Chlwb Pêl-droed Corwen. Roedd wedi ymrwymo i ddatblygu pêl-droed genethod a merched yn yr ardal.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych, “Roedd Huw yn ddyn poblogaidd, caredig y gellid ymddiried ynddo. Roedd eisiau’r gorau i bawb yn ei gymuned a’i sir. Pan gafodd ei benodi’n Aelod Arweiniol Hamdden, roeddem yn cychwyn ar daith gyda sawl her o’n blaenau. Heb ymrwymiad a theyrngarwch Huw, byddai llawer o'n cyflawniadau wedi bod yn amhosibl fel arall. O fy safbwynt personol i, ni fydd ei frwdfrydedd a’i gefnogaeth ddiwyro byth yn cael ei anghofio. Teimlwn fod hon yn deyrnged addas iawn am y blynyddoedd lawer a neilltuodd Huw i'w gymuned leol a'i Sir.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Llesiant ac Annibyniaeth y Cyngor: “Pan fu farw Huw, collodd ei gyd-Gynghorwyr ffrind a chydweithiwr ffyddlon a chollodd ei gymuned gynghorydd dibynadwy, a wasanaethodd ei drigolion yn onest ac hyd eithaf ei allu. Roedd gan Huw amrywiaeth eang o ddiddordebau ac roedd yn angerddol am lawer o brosiectau lleol, ond roedd chwaraeon a hamdden yn rhywbeth agos iawn at ei galon. Rydyn ni'n teimlo bod ailenwi Canolfan Hamdden Corwen er cof amdano, yn deyrnged addas iawn am y blynyddoedd lawer y mae Huw wedi'u neilltuo i'w gymuned leol. "

Mae gofod ffitrwydd ar lawr cyntaf Canolfan Hamdden Huw Jones hefyd wedi ei adnewyddu gydag ystod eang o offer pwrpasol o’r radd flaenaf wedi’u gosod. Bydd yr adnewyddiad hwn yn sicrhau bod trigolion Corwen yn cael yr un safon ardderchog o offer y mae Hamdden Sir Ddinbych yn ei gynnig i’w aelodau i gyd ar draws 7 canolfan hamdden y sir.

Mae’r prosiect yn dilyn gosodiadau diweddar a gwaith adnewyddu arall yn Nyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys cae 3G a chyfleusterau ffitrwydd newydd sbon yng Nghorwen a Llangollen.

Bydd Canolfan Hamdden Huw Jones yn ailagor ar gyfer aelodau a’r cyhoedd unwaith y bydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn caniatáu hynny.

Os hoffech wybod mwy am 'Wasanaethau Hamdden a'r hyn y maent yn ei gynnig, ewch i'w gwefan.

Bwth ymweld mewn cartref gofal yn caniatáu i ffrindiau weld ei gilydd eto

Mae bwth ymweld wedi’i osod mewn cartref gofal yn Sir Ddinbych.

Dyluniwyd ac adeiladwyd y bwth, sydd wedi’i osod yng nghartref gofal Dolwen yn Ninbych, gan yr aelod staff Erfyl Jones, sy'n weithiwr cefnogi yn y cartref.

Mae’r bwth wedi caniatáu i drigolion y cartref gofal, nad ydynt wedi gallu cymysgu ers mis Rhagfyr, i ddod at ei gilydd.

Unwaith y bydd y cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal wedi’u newid, gall teuluoedd a ffrindiau sy’n ymweld ag anwyliaid ddefnyddio'r bwth.

Dwy o drigolion Dolwen, Olwen Lloyd a Janet Kenyon Thompson, oedd y cyntaf i ddefnyddio’r bwth ar ôl iddo gael ei osod y mis diwethaf.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Hoffwn ddiolch i Erfyl am ei waith yn dylunio ac yn adeiladu’r bwth ymweld, sydd wedi bod yn hwb mawr i’r trigolion. 

“Mae wedi galluogi’r trigolion i weld ffrindiau o wahanol rannau o'r cartref, sydd wedi bod yn cael eu cadw ar wahân am resymau diogelwch.  Rwy’n falch o weld faint o bleser y mae wedi’i roi i’n trigolion.

“Pan fydd y rheoliadau ynghylch ymweld â chartrefi gofal yn newid, bydd y bwth hwn yn rhoi cyfle i ffrindiau a theuluoedd ymweld â'u hanwyliaid mewn ffordd ddiogel."

Ailddatblygu Adeiladau’r Frenhines – Y Rhyl

Datblygwyd uwchgynllun Canol Tref y Rhyl gan y Cyngor Sir, Cyngor Tref y Rhyl a’r sectorau busnes, cymunedol a gwirfoddol, i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer Y Rhyl. Bydd yr uwchgynllun yn cynnig dyfodol cynaliadwy i’r dref drwy gamau gweithredu realistig y gellir eu cyflawni.

Yn dilyn hyn, ym mis Mawrth 2019, bu i'r Cyngor gaffael nifer o adeiladau cyfagos yng nghanol y dref sy’n wynebu’r promenâd glan môr, a elwir ar y cyd yn Adeiladau’r Frenhines. Roedd yr adeiladau wedi adfeilio, heb unrhyw ddefnydd yn cael ei wneud o’r lloriau uchaf a gwagleoedd sylweddol ar y llawr gwaelod.

Fel rhan o strategaeth adfywio ehangach Y Rhyl, cafodd Adeiladau’r Frenhines eu caffael gyda’r nodau penodol canlynol:

  • Mynd i’r afael ag ymddangosiad difrifol y safle rhannol segur sydd wedi mynd â’i ben iddo, er mwyn gwella ymddangosiad cyffredinol yr ardal allweddol hon o ganol y dref a chynnig delwedd llawer mwy cadarnhaol o’r dref i siopwyr ac ymwelwyr;
  • Cynnig cymysgedd newydd o ddefnyddiau ar y safle i helpu ailfywiogi canol y dref, gyda chanolbwynt clir ar ddychwelyd y safle i ddefnydd economaidd cynhyrchiol a chynnig cyfleoedd busnes a chyflogaeth newydd;
  • Gwella hyder yng nghanol y dref, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a helpu ysgogi buddsoddiad pellach gan y sector preifat yn y dref.

Oherwydd cyflwr difrifol wael y safle, bydd rhaid dymchwel nifer sylweddol o’r adeiladau cyn cychwyn ar unrhyw ddatblygiad. Bu i’r Contractwyr, Wye Valley Demolition, gychwyn ar y gwaith dymchwel ar y safle mis Ionawr, ac fe ddylai’r gwaith fod wedi dod i ben erbyn yr haf.

Mae yna gynlluniau ar y gweill i gadw cymaint o eitemau ag sy’n bosib drwy gydol y gwaith o adnewyddu’r safle. Un eithriad rhag y gwaith dymchwel yw’r adeilad brics coch sy’n wynebu Sussex Street. Mae hwn yn adeilad deniadol â thalwyneb brics coch sydd o fewn Ardal Gadwraeth Canol Tref y Rhyl, a bydd yn cael ei gadw a’i adfer fel un o’r mynedfeydd i fan digwyddiadau a neuadd farchnad newydd.

Bydd y safle’n cael ei ddatblygu fesul cam a bydd y cyntaf ohonynt yn cychwyn yn nes ymlaen yn yr haf. Bydd Cam Un yn cynnwys: 

  • Datblygu neuadd farchnad dan do fydd yn cynnwys ciosgau bwyd poeth, stondinau marchnad parhaol, stondinau marchnad dros dro a lle i hyd at 200 o bobl eistedd i fwyta. Bydd y neuadd farchnad hon yn canolbwyntio ar gynnyrch lleol/Cymreig o safon dda;
  • Datblygu man dan do hyblyg allai gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys marchnadoedd arbenigol, arddangosiadau, cerddoriaeth, ffilmiau a pherfformiadau theatr;
  • Toiledau a bar fydd yn gwasanaethu’r ddau fan uchod; a
  • Marchnad / man digwyddiadau awyr agored gyda pharth cyhoeddus/gwaith tirlunio o safon uchel.

Mae camau nesaf datblygu’r safle yn cynnwys darpar unedau masnachol ac unedau preswyl glan môr.

Cyflwynwyd Cais Cynllunio, ac mae wrthi’n cael ei benderfynu. Gallwch fynd i weld hwn ar Y Porth Cynllunio, cyfeirnod cais: 45/2021/0040.

Credyd llun: B.C. Photography

Gofalwyr Maeth ..... mae arnom eich angen

Mae'r Cyngor yn dymuno recriwtio Gofalwyr Maeth trwy gydol ardal Sir Ddinbych i fodloni anghenion rhai o’r plant mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas.

Mae maethu yn golygu gofalu am blant, o’u geni hyd nes eu bod yn 18 oed, ond serch hynny, gall gofalwyr maeth ar y cyd â’u gweithiwr cymdeithasol, benderfynu ar oedran y plant a fyddai’n gweddu orau ar gyfer eu teulu. Rydym ni’n chwilio am bobl sydd yn gallu darparu amgylchedd saff, diogel a chariadus sy’n meithrin ar gyfer plant a phobl ifanc sydd methu byw gartref, am nifer o resymau. Gall gofalwyr maeth ddarparu gofal tymor byr, gofal tymor hir, gofal seibiant neu ofal mewn argyfwng, neu wyliau byr i blant sydd ag anghenion ychwanegol.

Ydych chi dros 21 oed, oes gennych chi'r amser a sgiliau i ofalu am blant neu bobl ifanc, oes gennych chi ystafell wely sbâr, ond yn bwysicach na dim allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?

Mae gan Wasanaeth Maethu Sir Ddinbych berthynas agos a chefnogol iawn gyda’u gofalwyr, ac mae hyfforddiant, cefnogaeth a lwfans ariannol yn rhan o fod yn ofalwr maeth. Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol gyda naill ai Gweithiwr Cymdeithasol Maethu neu ofalwr maeth, cysylltwch â Julie Fisher, Rheolwr y Gwasanaeth Maethu 01824 712821 neu Penny Moran 01824 712287, Swyddog Lleoli a Chomisiynu

Cyfrifiad 2021

Yn fuan, bydd gofyn i gartrefi ar draws Sir Ddinbych gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd sy'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r cyfrifiad gael ei gynnal ar lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw a fydd yn eu galluogi i lenwi'r cyfrifiad ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu llechi.

“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf. Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, ysgolion a llwybrau trafnidiaeth newydd. Dyna pam mae mor bwysig bod pawb yn cymryd rhan a pham ein bod wedi'i gwneud hi'n haws i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, gan gynnig help a holiaduron papur i bobl os bydd angen.

Bydd Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth, ond bydd cartrefi ledled y wlad yn cael llythyrau â chodau ar-lein a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan o ddechrau mis Mawrth.

Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rhai sy'n dymuno cwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae botymau "Cymraeg" ac "English" er mwyn gallu newid rhwng yr ieithoedd ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur gallwch chi ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg ar yr un ffurflen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk (gwefan allanol).

Sut y dylid darparu iechyd a gofal cymdeithasol yn Ninbych?

Bydd y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llunio opsiynau ar gyfer buddsoddi yn nyfodol gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, tai a chymunedol yn Ninbych a'r cyffiniau yn ystod y misoedd nesaf.

Yn gyntaf, maent am wybod sut mae dinasyddion yn profi’r ddarpariaeth gyfredol, a deall beth allai eu dewisiadau neu eu hanghenion fod yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys yr ystod gyfan o gymorth, er enghraifft, o gymorth yn y gymuned, tai gwarchod a thai a gofal ychwanegol, cludiant gwirfoddol, gweithgareddau grŵp, gwasanaethau MT, i ofal a chymorth llawn amser.

Sut mae'r pandemig wedi newid y ffordd yr ydym yn ystyried y gwasanaethau hyn ac yn eu cyrchu, sut mae hyn wedi effeithio ar les pobl, a beth allwn ddysgu o hyn wrth symud ymlaen?

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Llesiant ac Annibyniaeth y Cyngor: “Efallai y bydd cyfleoedd yn Ninbych i fuddsoddi mewn adeiladau, i ddod â gwasanaethau ychwanegol i'r ardal, i ad-drefnu'r ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau yn y gymuned, ac i ddefnyddio technoleg yn effeithiol. Ond mae angen i ni adeiladu'r weledigaeth hon ar sail dealltwriaeth gliriach o'r hyn y mae pobl Dinbych a'r cyffiniau ei eisiau a'i angen.

“Byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn fel y gall y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Caldwaladr gael barn preswylwyr.”

Sut allwch chi ymuno yn y sgwrs?

Mae'r cyngor a'r bwrdd iechyd wedi gofyn i Practice Solutions - arbenigwr annibynnol sy'n ymgysylltu â'r gymuned - gasglu barn pobl ar y pynciau hyn yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. O ystyried yr angen i gadw pellter cymdeithasol, byddant yn gwneud hyn trwy sawl dull gwahanol.

  • Arolwg ar lein, y gallwch gael hyd iddo ar http://sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk/
  • Sgwrsio gydag unigolion ar y ffôn
  • Ymuno â grwpiau sy’n cyfarfod ar lein, efallai y byddai ganddynt ddiddordeb mewn sgwrsio ar y cyd amdano.

Mae Practice Solutions wedi cysylltu ag ystod o weithwyr proffesiynol, aelodau etholedig, cynrychiolwyr grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd yn yr ardal leol, y mae nifer ohonynt wedi cytuno i’n cyflwyno i ddinasyddion.

Os hoffech gymryd rhan, neu os allech ein helpu i estyn allan i eraill, cysylltwch â Rhian (yn Gymraeg neu’n Saesneg) ar rhian@practicesolutions-ltd.co.uk neu ar 07468 484003.

Gwastraff ac Ailgylchu

Y Cyngor yn sicrhau mwy na £560,000 ar gyfer prosiectau i ailddefnyddio a lleihau gwastraff

Mae'r Cyngor wedi sicrhau mwy na £560,000 ar gyfer prosiectau ailddefnyddio a lleihau gwastraff yn y sir! Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar prosiect o dan y gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd, sydd â’r nod o helpu i gadw deunyddiau mewn cylchrediad cyhyd â phosibl er mwyn atal gwastraff.

Bydd y cyllid yn cefnogi gwaith i gynyddu ailddefnyddio amrywiaeth o eitemau diangen a ddaw i’r tair canolfan ailgylchu gwastraff cartref yn Sir Ddinbych, er mwyn darparu prosiect i gynyddu casgliadau ymyl palmant o decstilau ar gyfer eu hailddefnyddio trwy baratoi dillad ac eitemau eraill ar gyfer eu hailwerthu, i gefnogi rôl elusennau i ddarparu llefydd i gyfrannu a gwerthu nwyddau a fyddai fel arall yn cael eu gwaredu fel gwastraff, ac i helpu i ddarparu prosiect archfarchnad cymdeithasol yn Neuadd y Farchnad, Rhuthun, i werthu a rhannu cynnyrch bwyd lleol a lleihau gwastraff bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyllid a fydd yn hybu canol trefi yn ogystal â chefnogi’r amgylchedd trwy gadw deunyddiau mewn cylchrediad cyhyd â phosibl. Mae cadw deunyddiau mewn defnydd am hirach yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn helpu i gynnal ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector ar y prosiectau hyn a fydd yn elwa’r sir gyfan.”

Mae diogelu’r amgylchedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor a bydd y cyllid hwn yn helpu i gyfrannu i waith ehangach parhaus yn y sir, sy’n cynnwys datganiad argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol y Cyngor sy’n mynegi ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Papurau newydd yn syth i’ch dyfais

Yn ystod y cyfnod clo mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych wedi bod yn darganfod dulliau dyfeisgar newydd i ddarparu gwasanaethau.

Yn draddodiadol roedd llawer o bobl yn mwynhau ymweld â’r llyfrgell i ddarllen y papurau newydd a gan nad yw hyn yn bosib ar hyn o bryd, gallwch nawr ddefnyddio Press Reader. Mae’r gwasanaeth ardderchog hwn yn danfon eich papur dyddiol yn syth i’ch dyfais, 24/7. Mae mynediad i dros 7,000 o bapurau newydd a chylchgronnau’r byd ar gael yn union wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Y cwbl sydd angen i chi wneud ydi lawrlwytho’r ap a chreu cyfrif gyda’ch cerdyn llyfrgell (cyfrwng Saesneg yw’r ap). Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell eto mae’n gyflym ac yn hawdd i wneud arlein.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd

Cardiau adborth

Efallai y byddwch yn dod o hyd i gerdyn adborth yn eich bag Archebu a Chasglu nesaf - byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am ein gwasanaeth.

#CaruDarllen

Bagiau Hel Atgofion

Mae Llyfgelloedd Sir Ddinbych yn falch o fedru cynnig casgliad newydd o Fagiau Hel Atgofion sydd ar gael i’w benthyg o’ch llyfrgell leol.

Maent yn cynnwys casgliad o lyfrau, cerddi, eitemau ac arogleuon sydd wedi eu cynllunio i ysgogi’r synhwyrau ac annog hel atgofion a thrafodaeth. Maent yn dilyn themau llyfrau ‘Pictures to Share’ sydd wedi eu cynllunio yn benodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, ac sy’n rhan o’r cynllun Darllen yn Well: Dementia. Maent yn cynnwys lluniau a geiriau i helpu pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau llesol. Maent yn ddelfrydol i’w defnyddio un-i-un neu mewn grwpiau bach.

Mae’r Bagiau Hel Atgofion hefyd yn cynnwys ‘Pecyn Gweithgaredd Lles Creadigol’ sy’n cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau creadigol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr.

Yr wyth thema yw:

  • Ar Lan y Môr;
  • Dyddiau Plentyndod;
  • Yn yr Ardd;
  • Atgofion Cerdd;
  • Siopa;
  • Byd Gwaith;
  • Teithio; ac
  • Amser Hamdden

Crewyd y bagiau gan Lyfrgelloedd Sir Ddinbych mewn partneriaeth gyda Rhwydwaith Stori Bywyd CIC a Hamdden Sir Ddinbych Cyf gyda ariannu Rhaglen Grantiau Cymunedau Dementia Ymwybodol 2019/20.

Cysylltwch gyda’ch llyfrgell leol i archebu Bag Hel Atgofion trwy ddefnyddio ein gwasanaeth Archebu a Chasglu neu gwnewch gais arlein trwy ein catalog llyfrgell.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan

Darllen yn Well i blant

Os ydy’ch plant yn ceisio delio gyda theimladau MAWR neu anodd, gall darllen fod yn declyn defnyddiol i agor sgwrs am deimladau gyda phlant.

Gallwch ddod o hyd i lyfrau sydd wedi eu dewis yn arbennig a’u cymeradwyo gan arbenigwyr, trwy eich llyfrgell leol gyda’r rhestr Darllen yn Well i blant newydd.

Gallwch lawrlwytho’r rhestr lyfrau ddwyeithog yma ac archebu’r llyfrau rydych yn dymuno o’ch llyfrgell leol dros y ffôn neu arlein drwy ein gwefan.

Dyma ffilm byr sy'n esbonio mwy ……

 

Twristiaeth

BLOG: Ein Milltiroedd Cymunedol

Dyma flog sy'n cael ei ysgrifennu gan ein adran twristiaeth. Yn y rhifyn hwn maent yn tynnu sylw at rhai o'r llwybrau cerdded byrrach yng Ngogledd-ddwyrain Cymru gan 'obeithio bod un yn agos at ble rydych chi'n byw, gan mai dim ond cerdded o gartref ar hyn o bryd y mae'r cyfyngiadau presennol yn caniatáu.

Gobeithio y bydd o ddiddordeb i chi.

https://www.northeastwales.wales/cy/ein-milltiroedd-cymunedol/

Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych

Byddwch yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych.

Mae yna 11 o modiwlau, sef:

  • Croeso i Sir Ddinbych
  • Trefi a Dinas Sir Ddinbych
  • Cerdded yn Sir Ddinbych
  • Beicio yn Sir Ddinbych
  • Hanes a Threftadaeth Sir Ddinbych
  • Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant
  • Y Celfyddydau yn Sir Ddinbych
  • Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte *
  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  • Sir Ddinbych Arfordirol
  • Twristiaeth Bwyd

Nod y cynllun rhad ac am ddim hwn yw gwella’r profiad ymweld a'r profiad lleol ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes twristiaeth, yn gweithio gydag ymwelwyr neu’n byw neu’n astudio yn yr ardal. Cynhyrchwyd cyfres o fodiwlau hyfforddi ar-lein rhagweithiol a chwisiau. Mae yna 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gwblhawyd. Bydd pawb sy’n cwblhau’r gwobrau yn derbyn tystysgrif, bathodyn a sticeri ffenestr.

Dewch yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych heddiw!

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Sicrhewch eich bod yn cael y newyddion diwddaraf

Cliciwch yma, os hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Ydych chi eisiau swydd ond ddim yn siwr lle i ddechrau?

Sesiynau galw heibio

Mae ADTRAC yn cynnal sesiynau galw heibio bob dydd Mawrth o 2pm tan 3pm ar bynciau amrywiol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y tîm yn adtrac@sirddinbych.gov.uk.

 

Awgrymiadau ar arbed ynni

'Miss A'

Fe atgyfeiriwyd Miss A at brosiect Cymunedau am Waith ym mis Hydref 2020. Prosiect cyflogadwyedd ydi Cymunedau am Waith sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Nod y prosiect ydi cefnogi dinasyddion i fagu hyder unwaith eto er mwyn dychwelyd i hyfforddiant, gwirfoddoli a/neu waith.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Miss A wedi bod trwy gyfnod anodd a arweiniodd at ddirywiad yn ei iechyd meddwl, a chyfnod byr yn y carchar. Ers gadael y carchar, mae Miss A wedi ymgysylltu’n dda gyda nifer o wasanaethau cefnogi ac mae hi wedi dilyn gofynion y gwasanaeth prawf.

Cyfeiriwyd Miss A at Cymunedau am Waith gan ei bod eisiau archwilio dewisiadau gwirfoddoli gwahanol a chael y gwaith gorau posibl yn y dyfodol, ond nid oedd hi’n sicr sut i gyrraedd ei nod. Yn rhan o’i chynllun cefnogi, fe ddyrannwyd Mentor iddi hi ac mae hi wedi bod yn derbyn cefnogaeth 1:1 unigryw ers hynny. Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru, mae’r holl gefnogaeth wedi bod yn digwydd ar ffurf galwadau ffôn a galwadau fideo. O fewn ychydig o apwyntiadau, cafodd Work Star ei lenwi er mwyn canfod y meysydd roedd Miss A yn hyderus ynddynt a ble roedd hi angen mwy o gefnogaeth. Roedd gwella hyder a iechyd meddwl Miss A yn ffactor pwysig yn cynorthwyo ei datblygiad, a dyna oedd prif ffocws cynllun gweithredu Miss A.

Yn sgil cyfyngiadau Covid-19, nid oedd gan Miss A fynediad at gyfrifiadur felly fe edrychodd y prosiect ar y posibilrwydd o brynu gliniadur a Microsoft Office a fyddai’n galluogi iddi gymryd rhan mewn galwadau fideo a hyfforddiant ar-lein.

Mae mentor Miss A wedi bod yn gweithio gyda hi’n wythnosol ar nifer o dasgau gwahanol sy’n helpu iddi adnabod ei sgiliau a sut i adeiladu arnynt ymhellach. Er bod gan Miss A brofiad blaenorol ym maes manwerthu, mae’r mentor wedi bod yn gweithio gyda hi i edrych ar opsiynau gwahanol ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith yn y dyfodol er mwyn sicrhau pan fydd hi’n dychwelyd i weithio, y bydd yn faes y bydd hi’n ei fwynhau na fydd wedi’i gyfyngu i sector penodol. Yn ddiweddar, fe gwblhaodd Miss A gwrs gwytnwch ar-lein trwy ACT, system hyfforddiant ac archebion ar-lein y mae’r prosiect yn ei ddefnyddio’n rheolaidd. Mae nifer o’r cyrsiau bellach wedi cael eu haddasu i sesiynau ar-lein, o bell er mwyn caniatáu i gyfranogwyr ennill sgiliau a chymwysterau yn ystod y pandemig i fod yn barod i weithio. Mae’r cwrs gwytnwch yn cael ei arwain gan diwtor sy’n ymdrin â hunan-barch, hyder, dulliau ymdopi, iechyd meddwl yn y gwaith a bod yn gadarnhaol. Dywedodd Miss A bod y cwrs wedi bod yn ddefnyddiol iawn a’i bod yn defnyddio’r hyn mae hi wedi’i ddefnyddio yn ei gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae cyrsiau eraill bellach yn cael eu hystyried er mwyn parhau â dysgu Miss A.

 

 

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Strategaeth Newid Hinsawdd Sir Ddinbych wedi’i gymeradwyo

Mae cynllun i fynd i’r afael â newid hinsawdd a newid ecolegol wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn.

Yn 2019 datganodd y Cyngor argyfwng newid hinsawdd a newid ecolegol a oedd yn cynnwys ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030, gwella bioamrywiaeth ar draws y sir a chynhyrchu cynllun clir i lywio’r gwaith.

Mae Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor yn cynnwys y blynyddoedd 2021/22 – 2029/30, yn nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu dod yn Ddi-Garbon Net ac yn Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae’r strategaeth yn cynnwys targedau i leihau allyriadau carbon y Cyngor o amryw o ffynonellau, gan gynnwys gostyngiad o 50 y cant yn ynni a’r dŵr a ddefnyddir mewn adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor.

Yn ogystal â thargedau i gynyddu’r swm o garbon sy’n cael ei amsugno gan dir sy’n eiddo i’r Cyngor, bydd yn creu mwy o gynefinoedd amrywiol ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt.

Mae’r gwaith wedi cael ei lywio gan Weithgor Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol, a sefydlwyd fel rhan o’r datganiad argyfwng, ac mae wedi’i greu o ddau gynrychiolydd o bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cyngor, a’r ddau Aelod Arweiniol ar gyfer newid hinsawdd a newid ecolegol.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Timms, Cadeirydd Gweithgor Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor: “Rwy’n falch iawn bod y strategaeth wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn. Mae’r strategaeth yn egluro’r hyn y mae ein nodau i fod yn Gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net yn ei olygu, sut mae'r Cyngor yn perfformio o ran y nodau ar hyn o bryd, ein gobeithion fel Cyngor ar gyfer 2030 ar ôl i ni gyflawni ein nodau, a’r newidiadau a’r camau yr ydym yn gobeithio eu cyflawni dros y 9 mlynedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cadarnhaol arall ar gyfer y Cyngor yn ei ymdrech i ddiogelu’r amgylchedd a lleihau ein ôl troed carbon.

“Rydym eisoes wedi cyflawni llawer, rydym wedi lleihau allyriadau carbon o 15% o'n hadeiladau a’n fflyd ers 2017, erbyn hyn mae’r Cyngor ond yn defnyddio trydan adnewyddadwy ar gyfer ei adeiladau ar ôl newid i ddarparwr ynni adnewyddadwy yn unig ar gyfer ei ysgolion, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, swyddfeydd y cyngor a depos, rydym dros hanner ffordd o gyrraedd ein targed o blannu 18,000 o goed erbyn 2022.”

Gallwch ddarllen y strategaeth ar-lein ar www.sirddinbych.gov.uk/newid-hinsawdd.

Dweud eich dweud ar Newid Hinsawdd ac Ecolegol

Mae ffordd newydd o fod yn rhan o’r rhaglen newid hinsawdd ac ecolegol yma yng Nghyngor Sir Ddinbych. Rydym wedi lansio ‘Trafodaethau’ lle gallwch rannu eich safbwyntiau a syniadau a bod yn rhan mewn amrywiaeth o destunau newid hinsawdd ac ecolegol.

Gallwch gofrestru i gymryd rhan trwy gofrestru ar gyfer is-grŵp Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Panel ar wefan Sgwrs y Sir. Bydd hyn yn eich galluogi i bostio sylwadau, ymateb i sylwadau a derbyn hysbysiadau pan fydd testun newydd yn ‘fyw’.

Mae trafodaethau yn fyrddau neges – megis fforwm sgwrsio ar-lein. Byddwn yn rhoi neges i fyny am destun a gallwch bostio eich ymatebion, ac ateb pobl eraill. Bydd testun newydd bob 4 wythnos a bydd bob testun yn aros ar agor ar gyfer trafodaeth am bythefnos.  

Y testun cyntaf oedd ‘Holl Greaduriaid Mawr a Bach’ gan ganolbwyntio ar drafodaethau o ran adferiad natur – gan ei fod yn cyd-fynd â Gwylio Adar yr Ardd RSPB a ddigwyddodd ar ddiwedd mis Ionawr. A wnaethoch chi gymryd rhan? Cyflynodd y tîm Newid Hinsawdd ein canlyniadau a gwelwyd adar du, robin, adar y to, drudwennod, titw penddu, titw tomos las ac ysguthanod. Rhestr sylweddol iawn. Mae’r llun yn dangos aderyn du a gafodd ei dynnu gan gamera bywyd gwyllt yng ngardd un o’r tîm. Mae dros 12 miliwn a hanner o bobl wedi cyflwyno eu canlyniadau i’r RSPB hyd yn hyn. Gobeithiwn i chi gymryd rhan hefyd!

Y mis hwn bydd y testun yn dechrau ar 15 Chwefror, sef ‘Cyrraedd eich cyrchfan mewn ffordd carbon isel’. Bydd yn canolbwyntio ar deithio a sut ydych chi’n gwneud hynny mewn ffordd carbon isel. Efallai nad ydych yn teithio cymaint ag oeddech chi? Mae nifer ohonom yn gweithio a adref ac yn aros yn fwy lleol rŵan, ond mae rhai yn dal i fod angen teithio. Hoffwn wybod os ydych chi’n ymwybodol o’ch ôl troed carbon wrth deithio, a beth mae hyn yn ei olygu i chi.

Dyma eich cyfle i rannu eich gwybodaeth, dweud eich barn ac ymgysylltu gyda phobl eraill. Beth am gofrestru ar gyfer y Panel ar sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk i gymryd rhan? Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Y Cyngor yn sicrhau mwy na £560,000 ar gyfer prosiectau ailddefnyddio a lleihau gwastraff

Mae'r Cyngor wedi sicrhau mwy na £560,000 ar gyfer prosiectau ailddefnyddio a lleihau gwastraff yn y sir! Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar prosiect o dan y gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd, sydd â’r nod o helpu i gadw deunyddiau mewn cylchrediad cyhyd â phosibl er mwyn atal gwastraff.

Bydd y cyllid yn cefnogi gwaith i gynyddu ailddefnyddio amrywiaeth o eitemau diangen a ddaw i’r tair canolfan ailgylchu gwastraff cartref yn Sir Ddinbych, er mwyn darparu prosiect i gynyddu casgliadau ymyl palmant o decstilau ar gyfer eu hailddefnyddio trwy baratoi dillad ac eitemau eraill ar gyfer eu hailwerthu, i gefnogi rôl elusennau i ddarparu llefydd i gyfrannu a gwerthu nwyddau a fyddai fel arall yn cael eu gwaredu fel gwastraff, ac i helpu i ddarparu prosiect archfarchnad cymdeithasol yn Neuadd y Farchnad, Rhuthun, i werthu a rhannu cynnyrch bwyd lleol a lleihau gwastraff bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn croesawu’r cyllid a fydd yn hybu canol trefi yn ogystal â chefnogi’r amgylchedd trwy gadw deunyddiau mewn cylchrediad cyhyd â phosibl. Mae cadw deunyddiau mewn defnydd am hirach yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn helpu i gynnal ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae’r Cyngor yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector ar y prosiectau hyn a fydd yn elwa’r sir gyfan.”

Mae diogelu’r amgylchedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor a bydd y cyllid hwn yn helpu i gyfrannu i waith ehangach parhaus yn y sir, sy’n cynnwys datganiad argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol y Cyngor sy’n mynegi ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Prosiect Pori Datrysiadau Titrun

Oherwydd y cyfyngiadau covid 19 sydd mewn grym, mae ein Prosiect Pori Datrysiadau Titrun wedi cael ei wthio'n ôl mewn sawl agwedd gyda phethau'n cael eu gohirio a'u haildrefnu. Fodd bynnag, mae ein hanifeiliaid pori yn dal i weithio'n galed i gynnal a chadw ein safleoedd, yn aml fe'u hystyrir y ffordd fwyaf effeithiol a chynaliadwy o gynnal cynefinoedd gan sicrhau amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt ac hyrwyddo bioamrywiaeth.

Cawsom duadell fechan o ddefaid soay yn pori ym Mharc Gwledig Loggerheads, gwartheg Belted Galloway yng Ngronfa Natur Aberduna ac mae ein merlod cadwraeth y Carneddau hefyd wedi bod yn brysur yng Ngronfa Natur Aberduna, cyn symud ymlaen i Moel Findeg yn ddiweddar. Mae'r prosiect yn defnyddio bridiau brodorol traddodiadol o dda byw sydd wedi eu bridio i fod yn galed, maen’t yn dueddol o fwyta’r rhywogaethau planhigion mwy amlwg, mae hyn yn gadael lle i amrywiaeth o rywogaethau planhigion eraill gael sefydlu. Mae'r gwartheg a'r merlod hefyd yn creu aflonyddwch ar y ddaear sy'n darparu cynefinoedd newydd ar gyfer ymlusgiaid ac infertebratau, maent hefyd yn creu mannau diogel i eginblanhigion newydd ffynnu.  

Dros yr eira diweddar, er bod yr anifeiliaid hyn yn galed iawn ac wedi arfer byw allan ym mhob tywydd, rydym yn hoffi darparu rhywfaint o wair i'w cadw i fynd nes bod yr eira wedi toddi.

Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Wedi’i sefydlu yn 2001, mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) yn cefnogi prosiectau arloesol, cynaliadwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n gweithio i hybu a diogelu harddwch, bywyd gwyllt, diwylliant, tirweddau, y defnydd o dir, a'r gymuned yng nghyd-destun amcanion ac egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r egwyddorion a amlinellir yn Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.

Oes gennych chi brosiect sy'n haeddu cefnogaeth? A yw eich prosiect:

  1. Yn archwilio ffyrdd arloesol o gyfrannu at y cyfleoedd a’r heriau a amlinellir yn Gwerthfawr a Chydnerth?
  2. Yn adeiladu gallu mewn cymunedau lleol, ac yn datblygu ac yn cefnogi prosiectau yn y gymuned sy'n hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy?
  3. Yn creu gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd ymhlith trigolion ac ymwelwyr, ac yn hwyluso newid cadarnhaol mewn ymddygiad?
  4. Yn cyflawni ac yn hyrwyddo dibenion yr AHNE a’r amcanion a amlinellir yng Nghynllun Rheoli’r AHNE?

Os felly, hoffem glywed gennych.

Cymhwyster

Mae Awdurdodau Lleol a grwpiau gwirfoddol, cymunedol a phartneriaethau’n gymwys i wneud cais am gyllid ar yr amod bod y prosiect arfaethedig yn bodloni blaenoriaethau’r cynllun. Dylai’r prosiectau fod yn digwydd o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu’n dod â budd uniongyrchol iddi.

Gall busnesau neu unigolion preifat ymgeisio ar yr un sail ar yr amod eu bod yn gallu dangos budd amlwg i’r gymuned ehangach a’r AHNE.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau a gefnogwyd yn ddiweddar:

Sudd

Defnyddiwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i helpu gyda chostau sefydlu prosiect sudd afal cymunedol arloesol

sy’n ceisio defnyddio afalau nas defnyddiwyd o’r AHNE a Dyffryn Clwyd. Sefydlwyd Sudd Afal Cwmni Buddiant Cymunedol gyda Thŷ’r Cwmnïau, ac fe’i cofrestrwyd fel cwmni dosbarthu bwyd gyda Chyngor Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod agored yn y Llew Aur, Llangynhafal ym Mehefin 2019 i lansio’r prosiect ac i fesur y diddordeb yn lleol. Dosbarthwyd posteri i siopau, tafarndai hysbysfyrddau cymunedol lleol yn gofyn am unrhyw afalau nad oedd eu hangen. Defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol hefyd i hysbysebu’r prosiect ac i gael gafael ar afalau nad oedd eu hangen.

Prosiect Eco-Gysylltedd Graigfechan

Defnyddiwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy i gynyddu cyfranogiad y gymuned yn y gwaith o reoli'r amgylchedd naturiol, yn bennaf o amgylch Graigfechan yn rhan orllewinol yr AHNE. Y bwriadu oedd gyrru ymlaen y nodau tymor hirach o wella eco-gysylltedd ac athreiddedd cynefinoedd rhwng tair gwarchodfa natur. Roedd dau grŵp cymunedol – Grŵp Gwyllt a Llanfair Fyw – yn rhan o’r gwaith o reoli’r gwarchodfeydd a’r safleoedd o ddiddordeb bioamrywiol lleol yn ystod 2019. Bu digwyddiadau gwirfoddoli rheolaidd o gymorth gyda gwaith cadwraeth pwysig, yn cynnwys adeiladu gwâl i ddyfrgwn ar Ddŵr Iâl, cael gwared ar blanhigion goresgynnol ym Mhant Ruth, a phlannu cennin Pedr gwyllt ym Mhwllglas. Un o ganlyniadau buddiol y cynllun oedd ymestyn Gwarchodfa Natur Graig Wyllt i gynnwys nodweddion arbennig coetiroedd aeddfed a glaswelltir calchfaen. Mae’r estyniad i’r Warchodfa’n help i sicrhau gwell amddiffyniad i'r bioamrywiaeth sylweddol o fewn yr AHNE.

Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru

Roedd Blasu yn brosiect cydweithio tair blynedd a fu’n profi dulliau newydd o ddatblygu gwerth economaidd y sector bwyd a diod. Yn benodol, datblygodd y prosiect y cydweithio rhwng cynhyrchwyr bwyd, y fasnach lletygarwch a defnyddwyr drwy fyrhau’r gadwyn gyflenwi. Archwiliodd ffyrdd newydd o hybu bwyd lleol drwy ganiatáu i gwsmeriaid fynd i mewn i geginau cynhyrchwyr, cynnal digwyddiadau ar-lein, yn ogystal â chynyddu gallu cynhyrchwyr a’r sector lletygarwch drwy gyfrwng gweithdai a hyfforddiant arbennig.

Prosiect Datgarboneiddio Ysgol y Foel

Drwy ddatgarboneiddio, cofleidiodd Ysgol y Foel gyfleoedd yr economi werdd, gan leihau eu costau a chreu llinellau cyllido newydd drwy gynhyrchu ynni, a thrwy hynny wella eu hyfywedd economaidd tymor hir, sy’n her gyffredin i ysgolion cynradd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Am ragor o wybodaeth am y gronfa, cysylltwch â Ceri Lloyd (ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk).

Sylwer bod y cyllid yn gyfyngedig, ac y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel annibynnol.

Cynnydd mewn gweithgarwch oddi ar y ffordd yn ystod y cyfnod clo

Rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am weithgarwch oddi ar y ffordd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ers dechrau’r cyfnod clo, gyda phobl yn teithio i ddefnyddio llwybrau lle ceir hawliau tramwy cyfreithiol ar gyfer cerbydau oddi ar y ffordd. Fodd bynnag, mae yna hefyd gynnydd yn nifer y damweiniau mewn mannau lle gwaherddir mynediad i gerbydau. Gall hyn achosi difrod anadferadwy i rai o’n cynefinoedd a’n bywyd gwyllt mwyaf bregus.

Ar hyn o bryd, tra bod Cymru dan gyfyngiadau clo Lefel Rhybudd 4, dydi teithio oddi ar y ffordd ar lwybrau gyda hawliau tramwy cyfreithiol ddim yn cael ei ystyried yn daith hanfodol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn stopio ac yn rhoi dirwyon i bobl.

Os ydych chi’n gweld gweithgarwch oddi ar y ffordd a all fod yn anghyfreithlon, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio neu’r ffurflenni ar-lein.

Gwobr Gwirfoddolwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Llongyfarchiadau i Grŵp Celf Llanferres, a adwaenir fel Peintwyr y Parc Gwledig, am ennill Gwobr Gwirfoddolwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 2020. Ymgartrefodd y grŵp ym Mharc Gwledig Loggerheads yn 2005 ac ers hynny maen nhw wedi gwneud cyfraniad sylweddol at weithgareddau cymdeithasol y parc a’r AHNE ehangach.

Maen nhw wedi hyrwyddo celf yn y parc, wedi cynnal arddangosfeydd di-ri ac wedi gweithio’n ddiflino i godi arian ar gyfer achosion lleol. Pob blwyddyn mae’r grŵp yn llwyddo i werthu nifer o beintiadau gan ofyn i’r ymwelwyr bleidleisio dros eu hoff beintiad – gyda’r artist buddugol yn cael dewis elusen ar gyfer y flwyddyn honno. Dros y blynyddoedd mae’r grŵp wedi cefnogi sawl achos da, gan gynnwys Ymchwil Canser, Ymchwil Diabetes, Eglwys Llanferres, Help the Heroes, WaterAid Affrica, Support Dogs a Hosbis Tŷ Gobaith.

Dywedodd arweinydd y grŵp, Pat Armstrong, bod pawb wrth eu bodd efo’r enwebiad ac yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn rhan annatod o’r parc, ac yn teimlo’n lwcus iawn i fod yno, gan dderbyn croeso cynnes gan y tîm yn Loggerheads bob tro.

Er gwaetha’r pandemig mae’r grŵp ar y cyfan yn dal i beintio, ond dydi hynny ddim yr un fath â pheintio yn y parc ac maen nhw i gyd yn edrych ymlaen at ailgychwyn eu sesiynau wythnosol yn y parc a threfnu eu harddangosfa nesaf pan fydd yr amodau’n caniatáu. Dywedodd tîm Loggerheads eu bod yn colli ymweliadau rheolaidd y grŵp â’r parc ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yn ôl pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr poblogaidd a theilwng yma.

Tynnwyd yr holl luniau cyn Covid-19

Gwaith adfer Mynydd Llantysilio yn cychwyn gyda gobeithion uchel!

Bydd gwaith i adfer Mynydd Llantysilio a ddifrodwyd gan dân yn mynd rhagddo cyn bo hir. Cynhaliodd staff Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy nifer o dreialon yn 2020 i brofi ffyrdd o ailsefydlu planhigion rhostir ar y mynydd. Yn dilyn llwyddiant y treialon, bydd dull ar raddfa fwy yn cychwyn ym mis Mawrth.

Mae Swyddog Maes Rhostiroedd y Cyngor, Graham Berry, wedi bod yn helpu i drefnu'r gwaith sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu harwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru. “Bydd grug yn cael ei thorri ar Fynydd Llantysilio fel rhan o reoli rhostir blynyddol gydag un gwahaniaeth, bydd y toriadau yn cael eu rhoi mewn bagiau a’u cludo mewn awyren i rai o’r ardaloedd gwaethaf o’r mynydd a ddifrodwyd gan dân sef Moel y Gamelin a Moel y Faen.”

Bydd ychydig dros 1 hectar o docion grug yn cael ei daenu fel tomwellt, gan sefydlogi'r pridd a chreu amodau i blanhigion rhostir fel grug a llus ail-gyfuno. Bydd 68 hectar arall o'r mynydd hefyd yn cael ei hau gyda chymysgedd hadau glaswellt yr ucheldir i greu cnwd meithrinfa i blanhigion rhostir ei ail-gytrefu.

Bydd y gwaith adfer eleni dim ond yn mynd i'r afael a hanner o'r mynydd a ddifrodwyd gwaethaf ac mae gwaith pellach ar y gweill yn y dyfodol. Mae'r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus ar rostiroedd a ddifrodwyd gan dân yn Lloegr a'r gobaith yw y bydd y llystyfiant yn ailsefydlu dros amser er budd bywyd gwyllt, ffermio a chymunedau lleol fel ei gilydd.

Am resymau iechyd a diogelwch, gofynnir yn garedig i aelodau'r cyhoedd beidio â mentro allan i fynydd Llantysilio pan fydd yr hofrennydd yn cludo bagiau grug.

Credyd llun: Airbourne Solutions

Priffyrdd

Goleuni yn y tywyllwch

Erthygl drwy garedigrwydd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a'r Cylch

Faint ohonom sy'n cymryd yn ganiataol y cysur a gawn o'n goleuadau stryd?

Maen nhw yn ein helpu i fyw ein bywydau mor ddiogel â phosibl. Ac yn ystod y dydd, ydym ni wedi edrych a sylwi ar amrywiol gynlluniau’r goleuadau sydd i’w gweld o amgylch y dref?

Gallai fod yn amser da rŵan i gael golwg arnynt. Mae Cyngor Sir Ddinbych ar fin gorffen ei gynllun 10 mlynedd yn cyfnewid goleuadau’r stryd am lusernau LED newydd. Mae rhai enghreifftiau o’r hen fathau i’w gweld o hyd. Yn Rhuthun, daeth goleuadau LED i’r golwg wyth mlynedd yn ôl. Y bwriad oedd newid rhannau o’r dref ar y tro, yn hytrach na chwblhau popeth ar unwaith. Roedd Sir Ddinbych ar flaen y gad yn y chwyldro goleuadau LED, diolch i raglen ‘buddsoddi i arbed’ a alluogodd i’r arbediad ynni LED ad-dalu benthyciad a ddefnyddiwyd i brynu’r caledwedd.

Yr hen olau yn dod i ffwrdd …..
….. a'r golau newydd yn mynd ymlaen.

Dechreuodd y rhaglen gyda’n priffyrdd, ac mae pob un ohonynt bellach wedi eu newid i amrywiol fathau o oleuadau LED. Mae gan briffyrdd a’r ffyrdd dosbarthu ddosbarthiad LED gryn dipyn yn uwch na stadau tai.

Roedd Parc Brynhyfryd yn unigryw o’r blaen gan mai yno yr oedd unig lusernau tiwb fflworoleuol Rhuthun, a’r rheiny’n ffordd newydd a chynnar o arbed arian. Roedden nhw’n wynnach na'r goleuadau eraill yn y dref. Roedden nhw’n rhoi llai o watiau o tua 60 y cant, sef 36W yr un. Newidiodd y Cyngor y tiwbiau fflworoleuol yma fis Hydref. Mae’r pennau LED newydd yn dod â’r raddfa bŵer i 9W a dyma’r rhai mwyaf effeithlon yn Rhuthun (roedd goleuadau LED blaenorol gyda’r un golau yn rhedeg ar 13W. Yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae goleuadau LED, sydd eisoes yn effeithlon, wedi gwella o 25 y cant). Ond yn bennaf, er gwaetha’r gostyngiad i chwarter yr ynni a ddefnyddir, mae’r golau yn well hefyd. Mae golau gwyn LED yn colli llai, mae’n canolbwyntio ar y droedffordd a’r gerbytffordd ac mae popeth yn fwy amlwg oddi tanynt.

Ond does dim croeso i hynny bob amser. Gall yr eglurder o dan olau ‘gwynach’ wneud i rai pobl deimlo’n llai cyfforddus wrth gerdded. Ac nid yw goleuadau LED yn tueddu i dreiddio i ddrysau blaen tai yn yr un ffordd ag y gwnâi llusernau traddodiadol – gall hyn fod yn fantais neu’n anfantais. Ond mae’r eglurder yn gwella ac mae’r gostyngiad yn y carbon yn sylweddol.

Mae’n dal yn bosibl profi golau orengoch, mwll y lampau arogl sodiwm yn Rhuthun. Bydd y llusernau orenaidd 60W yma’n cael eu cyfnewid cyn bo hir yn Nhy’n y Parc, Porth y Dre, Bryn Coch, Bryn Glas, Y Menllis, Bryn Rhydd, Maes Cantaba, The Werns oddi ar Ffordd Greenfield a Castle Park.

Mae Haulfryn hefyd yn unigryw. Dros y 15 mlynedd blaenorol, goleuwyd ei ffyrdd gan lampau halid metal ceramig gan Philips, rhywbeth tebyg o ran siâp i fwlb domestig ac roedd yn arfer cynnig arbediad ynni ond bellach mae’r golau LED yn well.

Mae colofnau traddodiadol eu harddull yn Glasdir yn cynnwys golau LED. Pan gawsant eu gosod, roeddent o’r math sodiwm gwasgedd uchel. Tua blwyddyn yn ôl, pan fabwysiadodd y Cyngor ffyrdd y stad, roedd hynny’n cynnwys trosi i olau LED. Ond ni fabwysiadwyd y meysydd parcio ac maen nhw’n dal i gael eu goleuo gan lusernau sodiwm a dyma un lle y gallwch weld y gwahaniaeth amlwg rhwng y ddau olau.

Ac yna, canol y dref. Ar gychwyn yr 1990au, daeth colofnau a phennau lampau’r dref yn debyg o ran cynllun i lampau nwy yr hen ddyddiau. Mae dod o hyd i olau LED fydd yn ffitio’r cynllun hwn wedi bod yn her ond ni fydd yn hir nes y caiff pob un o’r rhain eu moderneiddio (gobeithio y bydd hynny yn Ionawr neu Chwefror 2021). Ar hyn o bryd, mae’r llusernau sodiwm yn gweithio ar 100-150W a hyd at 250W yn dibynnu ar eu lleoliad, a dyma gyfle gorau i leihau carbon – a gwella’r golau.

Tra bod y mwyafrif yn fodlon gyda’u golau stryd newydd, mae rhai yn credu eu bod yn tarfu arnynt. Mae modd rhoi ‘cysgod’ dros olau LED er mwyn canolbwyntio’r golau tua’r llawr ymhellach, fel y gwelir ar y llusern hon ar Ffordd Dinbych.

Goleuo lampau LED

  • Mae’r gyrwyr mewn llusernau LED yn gallu lleihau disgleirdeb o 30 y cant yn ystod cyfnodau llai prysur, rhwng 10 p.m. a 6 a.m. Mae hyn yn arbed mwy o ynni a CO2. Mae’n annhebygol y byddwch yn sylwi ar y gostyngiad hwn yn nwyster y golau.
  • Mae oes goleuadau LED tua 25 mlynedd. Wrth iddyn nhw fynd yn hyn, gall y golau LED bylu ond gall y gyrwyr o fewn y llusern wneud iawn am hynny drwy gynyddu’r watedd fymryn. Mae hyn, yn amlwg, wedi ei gynnwys yn y cyfrifiadau arbed ynni a'r gostyngiad carbon.
  • Mae Sir Ddinbych yn newid 1,500 o lusernau i olau LED bob blwyddyn. Dechreuon nhw ar 18-22W yr un ac maen nhw bellach yn 9-13W, oherwydd y gwelliant mewn cynllun dros gyfnod o ddim ond pum mlynedd.

Mae tîm peirianwyr goleuadau stryd Sir Ddinbych wedi ennill gwobrau lu, sef gwobr safonau perfformiad y DU bron bob blwyddyn dros ddwsin o flynyddoedd.

Cam-drin Domestig

Cam-drin Domestig

Mae mynd i'r afael â cham-drin domestig yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor.

Dyma ddatganiad gan y Cynghorydd Mark Young, sy'n Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gynllunio, Diogelu'r Cyhoedd, Cymunedau Diogelach a Cham-drin Domestig.

“Mae rhoi terfyn ar gam-drin domestig mor bwysig i ni fel Cyngor, fel ein bod wedi'i wneud yn un o'n blaenoriaethau yn ein Cynllun Corfforaethol.

“Mae trais yn erbyn dynion a menywod yn effeithio ar bob un ohonom ac mae'n bwysicach nag erioed i fynd i'r afael ag ef ac felly mae'r Cyngor yn datblygu dull ar draws y sir o leihau cam-drin domestig yn erbyn menywod a dynion fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol yn ogystal â chefnogi strategaeth Gogledd Cymru i fynd i'r afael â phob agwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

“Mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig gyda staff a defnyddwyr gwasanaeth; darparu hyfforddiant a datblygiad i staff adnabod arwyddion cam-drin domestig a chymorth i blant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.

“Disgwylir i'r prosiect hwn barhau wrth i ni anelu at gyfrannu at leihau cam-drin domestig ar draws y sir. Felly cadwch olwg am ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym hefyd lawer o gyngor defnyddiol ar ein gwefan ynghyd â dolenni i sefydliadau eraill sydd yno i'ch helpu.

“Yn sir Ddinbych, gwyddom fod y ffigurau wedi codi'n sydyn yn ystod y pandemig presennol.

“A allaf orffen drwy ddweud wrth unrhyw un, efallai na fyddwch hyd yn oed yn ymwybodol eich bod yn dioddef cam-drin domestig – nid yw bob amser yn amlygu ei hun mewn cleisiau. Peidiwch â dioddef yn dawel – mae pobl allan yna a all eich helpu. Os oes angen help arnoch, ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chymorth am ddim neu i siarad am eich opsiynau, neu wrth gwrs, os ydych mewn perygl uniongyrchol, gallwch ganu Heddlu Gogledd Cymru ar 999.”

NID CHI YW'R UNIG UN.

GwnewchYrAddewid #DimEsgusDrosGam-drin

Camddefnyddio Alcohol a Thrais Domestig

Pan edrychwch ar gamddefnyddio alcohol a thrais domestig, mae'n hawdd gweld bod cysylltiadau rhwng y ddau ymddygiad. Yn aml, mae'r trais yn y cartref yn cael ei hebrwng gan yfed gormod o alcohol dros gyfnod hir. Er nad yw'r yfed fel arfer yn achosi'r trais, gall wneud y sefyllfa'n fwy cyfnewidiol, gan gynyddu difrifoldeb ac amlder yr episodau cam-drin.

Er y gall yfed wneud y trais yn waeth, gall hefyd fod yn ddihangfa i'r person sy'n cael ei gam-drin, sydd yn ei dro yn dwysáu'r cylch trais domestig ymhellach fyth. Gall y trais hwn effeithio ar unrhyw blant sy'n agored i'r sefyllfa mewn sawl ffordd negyddol.

Mae camddefnyddio alcohol ynghyd â thrais domestig yn aml yn arwain at fwy o anaf i'r partner sy’n cael eu cam-drin, ac yfed bob dydd yw un o'r prif ffactorau risg ar gyfer cam-drin domestig.

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn mynd drwy trais domestig, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800.

Dylai unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol ffonio 999.

#BywHebOfn #Nidchiywrunigun

Gallwch hefyd ymweld â gwefan Alcoholics Anonymous am help a dod o hyd i'ch grŵp agosaf hefyd.

Nodweddion

Cam mawr ymlaen mewn cynllun newydd yn Ninbych

Mae’n siŵr i drigolion Dinbych a’r cyffiniau sylwi ar gam mawr yn natblygiad cynllun gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn y dref, sef diflaniad y craen uchel o’r safle adeiladu! Mae hyn yn arwydd bod pethau yn symud yn eu blaenau ar y safle hwn, a enwyd yn Awel y Dyffryn. Dyma un o ddatblygiadau mwyaf cyffrous yn hanes Grŵp Cynefin, sydd â chynlluniau tebyg llwyddiannus ym Mhorthmadog, Caergybi, Bala a Rhuthun.

Bydd Awel y Dyffryn yn cynnig fflatiau cyfforddus i hyd at 66 o bobl hŷn sy’n chwilio am fywyd annibynnol, ond gyda sicrwydd bod cymorth ar gael os oes angen. Os hoffech wneud cais neu eisiau mwy o wybodaeth am y cynllun a’r gofal a chefnogaeth sydd ar gael i chi, cyfaill neu aelod o’r teulu yn Awel y Dyffryn cysylltwch trwy ffonio 0300 111 2122,  e-bostio post@grwpcynefin.org neu fynd ar y wefan http://www.grwpcynefin.org/.

Mae Awel y Dyffryn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â'r Cyngor a Grŵp Cynefin.

Llun a dynnwyd o’r craen gyda’r datblygiad i’w weld oddi tano

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

Image result for north wales partnership board

Dyma ddolen i rifyn diweddaraf eu cylchlythyr.

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid