llais y sir

Addysg

Estyniad yn Ysgol Penmorfa

Mae gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn Ysgol Penmorfa ym Mhrestatyn i ymestyn y cyfleuster gofal plant ar y safle. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Grant Cyfalaf Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd gwaith ar yr estyniad ym mis Medi 2022 a bydd y cyfleuster yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2023. Bydd yr estyniad yn cynyddu capasiti’r ddarpariaeth gofal plant gan ganiatáu i fwy o deuluoedd lleol gael mynediad i’r gofal plant a ariennir gan Dechrau’n Deg ym Mhrestatyn. Bydd hyn nid yn unig yn rhoi mynediad i ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel i fwy o deuluoedd yn yr ardal ond hefyd yn galluogi rhieni i chwilio am waith a chefnogi llesiant plant gan leihau’r risg o dlodi mewn teuluoedd.

Ymwelodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd â Safle Ysgol Penmorfa i edrych ar y cynnydd a wnaed hyd yma. 

Dywedodd y Cynghorydd Gill German: “Mae ein darpariaeth Dechrau’n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych mor bwysig i gefnogi ein teuluoedd ac i roi dechrau haeddiannol mewn bywyd i'n plant.

"Bydd yr estyniad hwn yn Ysgol Penmorfa yn cynyddu’r capasiti ar gyfer lleoedd gofal plant Dechrau’n Deg yn yr ardal i ymestyn ein cynnig presennol.

"Mae hyn yn newyddion gwych i'r gymuned a bydd yn rhoi cyfle i fwy o blant fynychu addysg blynyddoedd cynnar o safon, a thrwy hynny eu paratoi'n well ar gyfer eu haddysg gynradd yn y dyfodol a thu hwnt.

"Mae'r adeilad yn mynd rhagddo'n dda iawn a bydd yn cynnwys cyfleusterau o ansawdd uchel er budd y plant a fydd yn mynychu.

"Rwy’n falch iawn o weld hyn yn digwydd ac yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y gwaith yn mynd rhagddo.”

Cadeirydd y Cyngor yn ymweld ag enillwyr Cystadleuaeth Celf Ysgolion

Ymwelodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts, ag enillwyr ei gystadleuaeth celf i ysgolion, a gafodd ei lansio mewn partneriaeth ag un o’i elusennau enwebedig, NSPCC Cymru, Hwb Gogledd Cymru, Prestatyn. Ymwelodd y Cadeirydd â’r ysgolion, a chyflwynwyd tystysgrifau, medalau a gwobrau iddyn nhw am eu hymdrechion arbennig.

Nod y gystadleuaeth o’r enw LLES - ‘Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?’, yw codi ymwybyddiaeth o wasanaeth ‘Childline’ NSPCC, ac yr oedd yn gofyn i blant dan 12 oed dynnu llun yr hyn sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus.

Ar ôl cael dros 560 o geisiadau, cafodd yr ysgolion a ddaeth yn fuddugol eu cyhoeddi cychwyn mis Chwefror.

Roedd yr ysgolion llwyddiannus yn cynnwys Ysgol Christchurch, Ysgol y Parc, Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Melyd, Ysgol Uwchradd Dinbych a chafodd Ysgol Gymunedol Bodnant deilyngdod arbennig.

Roedd y gwaith celf a ddaeth i’r brig yn cynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn cynnwys llun o’r traeth, darlun o lyfrgell ysgol a golygfa o daith gerdded i fyny allt yn ystod machlud haul.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Arwel Roberts: “Mae’n wych gallu cyfarfod â rhai o’r artistiaid talentog y tu ôl i rai o’r gweithiau celf anhygoel a gafodd eu cyflwyno ar gyfer y gystadleuaeth hon.

"Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu defnyddio’r gystadleuaeth i godi ymwybyddiaeth am wasanaeth ‘Childline’ NSPCC, oherwydd mae’n llinell gymorth hanfodol i bob plentyn a pherson ifanc allu siarad am eu hiechyd meddwl.”

Mae rhestr o’r holl enillwyr, a’u gwaith celf i’w gweld yma: www.denbighshireenrichment.com

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid