llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cyflwyno Gwobr Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer 2022

Mae gwirfoddolwr o Lanarmon-yn-Iâl sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth wedi cael ei chyflwyno â gwobr cefn gwlad haeddiannol

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cyflwyno gwobr yn flynyddol i gymuned, unigolyn neu fusnes sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r dirwedd.

Eleni mae’r gwobrau yn cydnabod gwaith gwirfoddol Christine Evans.

Cyn iddi ymddeol roedd Christine yn ymgynghorydd wroleg a llawfeddyg trawsblaniad ac yn gyfrifol am roi Ysbyty Glan Clwyd ar y map wroleg.

Derbyniodd wobr ym 1997 fel meddyg ysbyty'r flwyddyn a derbyniodd y wobr uchaf posib gan Wroleg Prydain.

Mae Christine wedi gweithio’n ddiflino yn y trydydd byd hefyd yn cynnwys Errbil a Duhok yng Ngogledd Irac, Zimbabwe, Zambia i enwi dim ond rhai lle mae hi wedi helpu i ddatblygu gwasanaethau wroleg hanfodol.

Mae hi wedi bod yn rhan o bartneriaeth AHNE ers nifer o flynyddoedd a daeth yn rhan o’r Bartneriaeth gyntaf, neu'r Cydbwyllgor Ymgynghori fel yr arferai gael ei adnabod, pan oedd yn Gynghorydd Sir i Lanarmon-yn-Iâl ac wedi hynny yn aelod o Bartneriaeth AHNE.

Hi hefyd yw Cadeirydd y Gweithgor Treftadaeth, Diwylliant a Chymunedau, dyma rôl y mae hi’n ei gymryd o ddifri ac yn anaml iawn y bydd hi’n methu cyfarfod ac weithiau y mae hi’n cyflenwi dod â chacennau o'r siop yn Llanarmon!

Mae Christine yn gwneud ei gorau i fynychu ymweliadau safle ac yn un o’r bobl gyntaf i roi cynnig ar y ‘Tramper’ (sgwter oddi ar y ffordd i bobl anabl - y prynodd Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy).

Hi yw un o aelodau Bwrdd gwreiddiol Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac unwaith eto mae hi wastad ar gael i helpu ym mhob ffordd posib.

Ailddechreuodd Christine y Clwb Ieuenctid rhwng 2009 a 2017 a gynhaliwyd yn yr Hen Dŷ Ysgol, Llanarmon. Rhedodd Chrisine y clwb hefyd yn ystod yr amser hwn.

Meddai Howard Sutcliffe, Swyddog yr AHNE: “Mae’r AHNE wedi elwa dros y blynyddoedd gan bawb sydd wedi rhoi eu hamser ac ymdrech i helpu gwella’r dirwedd a chymunedau’r AHNE ac mae’n bwysig bod yr AHNE yn cydnabod a gwerthfawrogi’r bobl a'r grwpiau arbennig hynny.

“Mae Christine wedi bod yn rhan hanfodol o roi’r ‘galon’ yn ôl yng nghymuned Llanarmon-yn-Iâl gyda’i chefnogaeth i’r Raven sef y dafarn sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned. Mae Christine hefyd yn wirfoddolwr rheolaidd yn y Siop Gymunedol."

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth AHNE, Andrew Worthington, OBE: “Mae Christine yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Mae ei brwdfrydedd, egni a’i gallu i weithio gyda phobl ar bob lefel er lles eraill yn haeddu parch ac edmygedd. Mae’n amlwg i unrhyw un bod gan Christine ymrwymiad gwirioneddol i'r AHNE a bydd yn cynorthwyo ar unrhyw lefel i geisio diogelu ei dyfodol.

“Ar ran y tîm AHNE a’r Bartneriaeth hoffwn ddiolch i Christine am ei gwaith diwyd i’r AHNE ac rydym yn hynod o ddiolchgar iddi.”

Meddai Cadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE a Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Y Cynghorydd David Hughes (Aelod): “Dwi’n hynod o falch fod Christine wedi cael y wobr hon. Mae ei chymorth i’r AHNE wedi bod yn rhagorol dros y blynyddoedd ac mae hi wedi ysbrydoli gymaint o bobl.”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio y Cyngor: “Dwi wrth fy modd fod Christine wedi ennill y wobr hon. Mae ei brwdfrydedd a’i hegni wrth gefnogi’r AHNE wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i gymaint o bobl a hoffwn ddiolch yn fawr iddi yn bersonol am ei holl waith caled.”

Noson ar y carped coch i sêr Ysgol y Gwernant

Cafodd disgyblion Ysgol y Gwernant, Llangollen, a’u teuluoedd droedio’r carped coch yr wythnos diwethaf, wrth i ffilm arbennig a grëwyd gan ddosbarth Blwyddyn 6 yr ysgol, sydd hefyd yn actio ynddi, gael ei dangos am y tro cyntaf yn Neuadd Tref Llangollen.

Mae’r ffilm, sef ‘Antur Teithio mewn Amser: Darganfod Camera Obscura Castell Dinas Brân, 1869 – 1910’, yn ganlyniad prosiect ffilm y bu’r disgyblion yn gweithio arno gyda phrosiect Ein Tirlun Darluniadwy, sef Cynllun Partneriaeth Tirlun a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae dosbarth Blwyddyn 6 wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r gwneuthurwr ffilmiau, Rob Spaull, i ymchwilio, ysgrifennu, cynhyrchu ac actio yn y ffilm fer. Mae hon yn mynd â’r gwylwyr ar daith i’r gorffennol i ddarganfod hanes anhygoel Castell Dinas Brân ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig y Camera Obscura a safai ar frig y bryn yn edrych dros y golygfeydd godidog islaw, ac a oedd yn atyniad mawr i dwristiaid oedd yn ymweld â Dyffryn Dyfrdwy i chwilio am harddwch arbennig.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf i gynulleidfa o dros 100 o bobl, a chafodd y plant gerdded i mewn ar y carped coch, cael hwyl gyda bwth lluniau a mwynhau popcorn, cyn cael gwylio eu creadigaeth ar y sgrin fawr.

Yn yr un digwyddiad, lansiwyd hefyd, Hanes Bywluniedig Dyffryn Dyfrdwy’ sef gwibdaith drwy Ddyffryn Dyfrdwy’r gorffennol a’r presennol, sy’n rhoi profiad i’r gwylwyr o olygfeydd a synau’r dirwedd drwy’r oesau.

Mae’r ddwy ffilm bellach ar gael i’w gwylio ar ein gwefan.

Dywedodd Y Cynghorydd  Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r prosiect yma’n dangos grŵp mor dalentog o bobl ifanc sydd yn Llangollen, a dw i’n siŵr y bydd hwn yn brofiad y bydd y plant yn ei gofio a’i werthfawrogi am amser hir iawn."

Dywedodd Hannah Marubbi, Rheolwr Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy: “Roedd hi’n bleser gweithio gyda phlant Ysgol y Gwernant yn creu’r ffilm anhygoel yma, ac mae’n wych gweld eu mwynhad bod y ffilm yn cael ei arddangos o flaen eu cyfeillion, teulu a’r gymuned ehangach yn Llangollen. Rydym yn falch o allu rhannu’r animeiddiad digidol sydd wedi’i greu gan DextraVisual oedd yn edrych yn drawiadol iawn ar y sgrin fawr.  Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ein galluogi i ddarparu’r profiadau yma sydd yn archwilio ein treftadaeth leol gyfoethog.”

Disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol y Gwernant yn gweithio gyda’r gwneuthurwr
ffilmiau, Rob Spaull i greu eu ffilm.

Y gynulleidfa yn Neuadd y Dref Llangollen yn mwynhau ffilm
Ysgol y Gwernant ar y sgrin fawr

Y Cynghorydd Win Mullen-James yn cyflwyno’r disgyblion gyda phoster o Ddinas Brân
wedi’i fframio fel cydnabyddiaeth o’r gwaith rhyfeddol yn creu’r ffilm.

Digwyddiad Ffeirio Hadau

Ymunwch â ni ym Mhlas Newydd, Llangollen ar 26 o Fawrth ar gyfer ein Digwyddiad Rhannu Hadau blynyddol! Dewch â’ch hadau a’ch toriadau dros ben i’w cyfnewid â garddwyr eraill.

Rhwng 10am a 11am bydd y digwyddiad ar agor i’r rhai sydd â hadau neu doriadau i’w cyfnewid, ac o 11am ymlaen bydd cyfle i unrhyw un sydd eisiau dechrau tyfu i ddod draw!

Rydym yn awgrymu bod y rhai nad ydynt yn dod â hadau i’w cyfnewid yn rhoi rhodd o 50c y pecyn.

Cynhelir raffl ar y thema garddio ar y diwrnod, yn ogystal â sesiwn gyda Natur er Budd Iechyd!

Defaid yn mynd i’r afael â chefnogi bioamrywiaeth ar lechwedd yn Sir Ddinbych

Mae defaid yn arwain prosiect i roi hwb i flodau gwyllt a bywyd gwyllt ar lechwedd yn Sir Ddinbych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi rhoi praidd o ddefaid ar Lechwedd Prestatyn i gynorthwyo â gwaith cynnal a chadw’r blodau gwyllt a’r bywyd gwyllt sy’n rhoi cymeriad arbennig i’r safle.

Mae cyflwyno’r anifeiliaid yn rhan o Brosiect ‘Cyfleoedd Unigryw – Datrysiadau Tirlun ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru’ a chafodd ei gefnogi a’i ariannu drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llechwedd Prestatyn yn un o 40 o safleoedd cadwraeth natur posibl y prosiect, a ddynodwyd am ei Laswelltiroedd Calchfaen sy’n brin yn rhyngwladol.

Nod y prosiect yw dod â phob safle dan gyfundrefnau rheoli cynaliadwy a lleihau’r angen i reoli safleoedd yn fecanyddol gan ddefnyddio offer a pheiriannau trwm, a chanolbwyntio ar ddefnyddio anifeiliaid traddodiadol sy’n pori fel gwartheg, defaid a cheffylau.

Cafodd diwrnodau ymgynghori cymunedol eu cynnal yn Y Sied ym Mhrestatyn i sgwrsio ag aelodau’r gymuned leol am y cynlluniau ar gyfer y llechwedd a chynhaliwyd Arolygon Botanegol ym mis Mehefin 2021 i ddeall yn well yr hyn a oedd ar y safle ar hyn o bryd a gweithredu fel cyfeirnod i roi cyfarwyddyd a monitro rheoli’r safle yn y dyfodol.

Gosodwyd ffensys a dŵr ym mis Ionawr 2022 a chafodd y deunyddiau i gyd eu cario i’r safle â llaw oherwydd hyn a hyn o gerbydau oedd ar gael. Cafodd giatiau mochyn eu gosod i sicrhau nad oedd mynediad wedi’i gyfyngu ar hyd y Llwybr Clawdd Offa.

Dywedodd Jack Parry, Swyddog Prosiect Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Gogledd Ddwyrain Cymru: “Mae'r defaid yn frîd gwydn sydd wedi arfer â phori ar dir uchel ac maen nhw’n gallu goroesi y tu allan mewn tywydd eithafol. Cyn belled eu bod nhw’n cael llonydd maen nhw’n ddigon bodlon yn pori. Mae defnyddio defaid i bori yn ein galluogi ni i reoli’r safle’n fwy cynaliadwy a lleihau’r angen i ddefnyddio peiriannau ar y safle.

“Ein nod ni yw helpu’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Bydd y defaid yn ein helpu ni i gyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf a fydd yn caniatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf gan gynnig hafan i löynnod byw a bywyd gwyllt arall.

“Bydd y defaid ar y safle am ddau fis ac yn pori ar un darn yn unig ar y tro. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn cyfyngu ar fynediad, ond gofynnwn fod cŵn yn cael eu cadw dan reolaeth dynn wrth fynd drwy’r darn â’r defaid ynddo.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae cefnogi a gwella ein bioamrywiaeth leol yn hanfodol bwysig ac yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Rwy’n falch i weld prosiect mor unigryw ar waith ar Lechwedd Prestatyn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y buddion yn ffynnu ar y safle.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid