Diwrnod Agored Baddondy Rhufeinig Prestatyn
Bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad yn cynnal diwrnod agored yn y Baddondy Rhufeinig ym Mhrestatyn, ar Melyd Avenue, Prestatyn LL19 8RN. Bydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 18 Mawrth, 10am-4pm. Mae lleoedd parcio ar gael yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, Princes Avenue, LL19 8RS. Mae Melyd Avenue ar gael ar gyfer parcio i bobl anabl yn unig.
Bydd ymwelwyr yn gallu gweld y gwaith sydd wedi’i wneud ar y gwaith cerrig. Bydd cyfleoedd i weld y gwaith celf sydd wedi’i wneud gan blant ysgolion lleol. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael tro ar wneud eu crefftau Rhufeinig eu hunain, yn ogystal â gweld casgliad o arteffactau hanesyddol.
Cafodd Baddondy Rhufeinig Prestatyn ei ddarganfod yn gyntaf yn ystod gwaith cloddio yn y 1930au. Cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Credir bod y Baddondy wedi’i adeiladu tua 120 OC, yna’i ymestyn yn 150 OC. Mae rhywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir bod cysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau. Gallai hefyd fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol. Mae’r safle bellach yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych.
Bydd y diwrnod agored yn dathlu’r cyfan y mae’r prosiect Baddondy Rhufeinig wedi’i gyflawni, yn cynnwys:
- Gwaith i sefydlogi’r gwaith cerrig a oedd wedi dod yn rhydd dros amser.
- Gwaith ar y llwybr o amgylch y baddondy.
- Paneli gwybodaeth newydd.
- Plannu blodau gwyllt.
- Gweithdai celfyddyd ac ymweliadau safle ag ysgolion lleol.
- Arddangosfa yn Llyfrgell Prestatyn i ddangos gwaith celf yr ysgolion.
Nod Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yw tynnu mwy o sylw at y Baddondy Rhufeinig, a sicrhau bod nifer cynyddol hirdymor o bobl yn ymweld â’r safle.

Baddondy Rhufeinig Prestatyn

Crefftau Rhufeinig

Arteffactau hanesyddol
Cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk i gael rhagor o fanylion.
Un o’r ffefrynnau gwylwyr adar yn profi gwlyptiroedd sy’n cael eu hadfywio
Mae un o’r adar mwyaf poblogaidd wedi cyrraedd gwlyptir sy’n datblygu yn Sir Ddinbych.
Roedd yr 2ail o Chwefror yn Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd sy’n annog adfywio ac adfer gwlyptiroedd sydd wedi dirywio.
Mae'r ymgyrch hefyd yn cefnogi adfywio'r ardaloedd pwysig hyn i annog rhagor o fywyd gwyllt i ddychwelyd ac mae un o’r ardaloedd sy'n cael ei hadfywio wedi'i lleoli ym Mhrestatyn.
Dechreuodd y gwaith ar y Morfa, sy’n 35 erw o wlyptir ger Prestatyn yn 2020 pan gafodd ei brynu gan y Cyngor ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu ei statws yn adnodd gwlyptir naturiol. Cafodd tri phwll eu creu ar y safle i ehangu’r gefnogaeth ar gyfer byd natur y gwlyptir.
Mae manteision hyn yn cynnwys mwy o fioamrywiaeth, fflora ac adar yn ogystal ag atyniad gwlyptir i wylwyr adar ymweld ag ef o dri platfform gwylio. Mae gan bob platfform fwrdd dehongli yn sôn am yr ardal y mae’n edrych allan arni.
Mae’r gwlyptir yn gorwedd wrth ymyl cafn Prestatyn ac mae’n ffurfio ceuffos naturiol ar adegau o law trwm, gan weithredu fel amddiffynfa bwysig rhag llifogydd.
Ac yn awr mae un o’r ffefrynnau ymhlith gwylwyr adar wedi’i weld yn mwynhau rhyfeddodau’r ardal ynghyd â rhywogaethau eraill gan gynnwys y crëyr bach copog a hwyaid gwyllt.
Eglurodd Sasha Taylor, y Ceidwad Cefn Gwlad sy’n gofalu am y safle: “Mae’n gynefin ardderchog i lawer o wahanol rywogaethau o adar ac anifeiliaid eraill hefyd. Rydym ni wedi gweld ambell i gïach yma a gwelodd aelod o’r grŵp amgylcheddol lleol las y dorlan yma a oedd yn anhygoel. Mae’r adar llai hefyd wrth eu bodd â’r coed helyg yn y canol. Mae’n brysur bob amser yno.
“Mae gennym ni fyrddau dehongli hyfryd newydd sy’n egluro’r buddion o gael y system wlyptir hon. Maen nhw’n egluro’r cyfan am storio carbon a pha mor fuddiol ydyw ar gyfer newid hinsawdd”
Mae anifail o’r DU sydd mewn perygl hefyd wedi’i weld ger y gwlyptiroedd a bydd gwaith i’w helpu i ffynnu yn yr ardal yn cynnwys datblygu ffosydd draenio dŵr i ddarparu cynefin gwell ar ei gyfer.
Ychwanegodd Sasha: “Mae llawer o bobl yn ein grŵp gwirfoddoli yn treulio llawer o amser yma ac mae llawer ohonyn nhw wedi tynnu lluniau o lygod pengrwn y dŵr ar hyd y dorlan.”
Mae'r Cyngor yn parhau i ddefnyddio gwartheg Belted Galloway i bori ar dir yr ardal a chefnogi i reoli’r safle a disgwylir i'r rhain fod yn ôl ar y gwlyptiroedd yn ystod yr haf.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld yr ardal hon yn parhau i adfer bioamrywiaeth lleol. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl waith caled y mae gwirfoddolwyr wedi’i wneud ynghyd â’n staff Cefn Gwlad er mwyn gwneud y safle hwn yn lle arbennig ar gyfer cefnogi ein bywyd gwyllt a’n hinsawdd.”
Cydweithio cymunedol yn gweld bioamrywiaeth yn ffynnu yn y gwarchodfeydd natur
Mae partneriaeth gymunedol wedi helpu bioamrywiaeth ffynnu mewn lleoliad poblogaidd yn Rhuddlan.
Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda grŵp cymunedol sydd y tu ôl i Warchodfa Natur Rhuddlan i dyfu amgylchedd sy’n ffynnu o ran bioamrywiaeth ac i ymwelwyr ei fwynhau.

Mae’r staff gwasanaethau cefn gwlad wedi bod yn rheoli’r safle ers ei agor yn 2011 ar ran y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan, i roi bywyd newydd i nifer o fentrau yn y gymuned.
Yn dilyn y gwaith hwn bu i’r warchodfa natur ennill gwobr Cymru yn ei Blodau llynedd yn y wobr ‘Overall It’s Your Neighbourhood’. Cyflwynwyd Tystysgrif Genedlaethol Arbenigrwydd RHS i aelodau’r grŵp a staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad.
Yn eu hadroddiad am y warchodfa, ysgrifennodd Cymru yn ei Blodau, “Ym mhob maes rheoli, cynllunio a threfnu gwirfoddolwyr hyd at ymdrechion ymarferol ar y safle, mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn enghraifft wych o sut i feithrin a chreu cynefin.”
Diolch i weledigaeth werdd y grŵp a sgiliau staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, mae’r safle wedi tyfu dros y blynyddoedd drwy gyflwyno mentrau gan gynnwys dau ddôl blodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 medr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dau fan picnic a llwyfan rhwydo pyllau.
Ychwanegiad unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd sydd wedi cynnwys y Grŵp Dementia lleol a’r grŵp gwarchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad. Gwagle sy’n gyfeillgar i bobl â dementia gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych â gwrychoedd wedi plygu, seddi coed derw Cymreig traddodiadol wedi eu creu ar y safle.

Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan: “Mae’r Pwyllgor wedi bod yn gweithio’n galed ac yn falch o gael y wobr Tystysgrif Genedlaethol o Arbenigrwydd yn y gwobrau “Prydain yn ei Blodau” y llynedd.
“Fel Cadeirydd, gyda bwriad o wella ac amrywio cynefinoedd y warchodfa ar gyfer addysgu a mwynhad ein hymwelwyr, y rhan fwyaf yn breswylwyr lleol ond hefyd yn ymwelwyr ar eu gwyliau, gallaf dynnu ar amryw sgiliau’r pwyllgor. Mae’r rhain yn cynnwys arbenigedd ar fywyd gwyllt a gwybodaeth am yr ardal leol, gan gynnwys cynghorwyr tref a sir, ac wrth gwrs sgiliau bioamrywiaeth Garry Davies, Jim Kilpatrick a Brad Shackleton o Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.
“Ers ei agor yn 2011, mae preswylwyr Rhuddlan wedi mwynhau’r gwagle agored diogel hwn. Mae teuluoedd yn dod â phlant i chwarae a chael picnic, cerdded gyda’u cŵn a thynnu lluniau o fywyd adar. Yn ogystal, rydym yn trefnu helfeydd pryfaid ar gyfer plant meithrinfa leol ac ysgol gynradd leol, cefnogi gwirfoddolwyr i ddysgu am blygu gwrychoedd ac arwain teithiau cerdded i grwpiau oedolion lleol.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd hi’n bleser cael ymweld â Gwarchodfa Rhuddlan yn ddiweddar i weld sut mae brwdfrydedd y grŵp i wella’r tir wedi dod yn fyw drwy reolaeth gan ein staff Gwasanaeth Cefn Gwlad.
“Mae’r cydweithio hyn wedi cynhyrchu ardal wych yn Sir Ddinbych ar gyfer cefnogi a gwella bioamrywiaeth. Mae cyfoethogrwydd gwybodaeth yn gyrru datblygiad y safle gan y grŵp, ynghyd â sgiliau staff Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi creu ardal lle gall Rhuddlan fod yn falch wrth gefnogi ein bywyd gwyllt a natur.”